1. Terfynu'r astudiaeth
Yn dilyn y newid i "Byw gyda COVID-19" ac ar ôl ystyriaeth ofalus, daeth yr Arolwg COVID-19 a Heintiau Anadlol i ben yn ffurfiol ar 28 Mehefin 2023.
Nôl i'r tabl cynnwys2. Ynglŷn â'r astudiaeth
Mae'r coronafeirws (COVID-19) endemig wedi cael effaith fawr ledled y DU.
Ym mis Ebrill 2023, comisiynwyd yr Arolwg COVID-19 a Heintiau Anadlol i'n helpu i ddeall a rheoli COVID-19 a heintiau anadlol eraill tra bod Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU yn adolygu eu hymagwedd at wyliadwriaeth COVID-19.
Roedd y data o'r astudiaeth o'u cyfuno â data o'r Arolwg Heintiadau COVID-19 yn bwysig i'n helpu i ddeall:
effaith COVID-19 hunan-gofnodedig, COVID hir a heintiau anadlol eraill ar fywydau unigolion, y gymuned ac ar wasanaethau iechyd a sut y gwnaethant newid
pwysau posibl i helpu i gefnogi'r GIG a gwasanaethau eraill i baratoi ar gyfer ffactorau a allai beri straen yn y dyfodol, gan weithredu fel system rybuddio gynnar.
3. Sefydliadau sy'n cynnal yr astudiaeth
Cynhaliwyd yr astudiaeth gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG), cynhyrchydd ystadegau annibynnol mwyaf y llywodraeth. Rydym yn casglu gwybodaeth am gymdeithas ac economi'r DU, sy'n rhoi tystiolaeth ar gyfer llunio polisïau a gwneud penderfyniadau, ac ar gyfer cyfeirio adnoddau i'r meysydd lle mae eu hangen fwyaf.
Defnyddiodd yr astudiaeth hon gyfranogwyr o'r Arolwg Heintiadau COVID-19, a gomisiynwyd ac a ariannwyd gan Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU. Mae Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU yn asiantaeth weithredol a noddir gan yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol.
Prosesodd ac anfonodd SYG pob llythyr. GOV.UK Notify, gwasanaeth a gynigir gan Swyddfa'r Cabinet, anfonodd negeseuon e-bost ar ein rhan.
Nôl i'r tabl cynnwys