1. Trosolwg

Bydd y canllaw defnyddiwr hwn yn eich helpu i ddefnyddio, dadansoddi a dehongli samplau microdata Cyfrifiad 2021 ar gyfer Cymru a Lloegr.

Ynglŷn â microdata

Samplau bach o gofnodion unigolion o un cyfrifiad yw microdata lle rydym wedi dileu unrhyw wybodaeth y gellir ei defnyddio i adnabod pobl. Maent yn cynnwys amrywiaeth o nodweddion unigolion a chartrefi. Mae hyn yn golygu y gallwch eu defnyddio i wneud gwaith dadansoddi nad yw'n bosibl gan ddefnyddio allbynnau safonol y cyfrifiad, fel:

  • creu tablau gan ddefnyddio cyfuniadau arbennig o newidynnau

  • ymchwilio i gyfuniadau penodol o newidynnau neu gategorïau gyda lefel uchel o fanylder

  • cynnal dadansoddiadau ystadegol heb fod yn dablaidd ar ddata lefel cofnodion

Pwy sy'n defnyddio microdata

Mae sawl math gwahanol o bobl a sefydliadau yn defnyddio microdata'r cyfrifiad, er enghraifft:

  • y llywodraeth

  • academyddion

  • awdurdodau lleol

  • sefydliadau ymchwil

  • sefydliadau ymchwil i'r farchnad

  • grwpiau budd y cyhoedd annibynnol

  • ymchwilwyr masnachol

Gallant ddefnyddio samplau microdata at ystod eang o ddibenion.

Gwybodaeth am ansawdd

Casglodd Cyfrifiad 2021 ymatebion yn ystod pandemig y coronafeirws (COVID-19), cyfnod o newid cyflym heb ei debyg. Cafodd cyfyngiadau teithio rhyngwladol a chenedlaethol, ochr yn ochr â mesurau cadw pellter cymdeithasol eraill yn ystod y pandemig, effaith ar y wybodaeth a gasglwyd ar gyfer sawl pwnc. Dylech ystyried y ffactorau hyn wrth ddefnyddio samplau microdata Cyfrifiad 2021. Mae'r adroddiad Gwybodaeth am Ansawdd a Methodoleg ar gyfer Cyfrifiad 2021 yn esbonio beth mae hyn yn ei olygu i'r data.

Cynhyrchion i ddiwallu anghenion gwahanol

Er mwyn sicrhau bod data ar gael mor eang â phosibl, ac er mwyn sicrhau bod y cyfrifiad mor fuddiol â phosibl, mae gennym sawl cynnyrch microdata gwahanol ar gyfer Cyfrifiad 2021. Mae'r cynhyrchion hyn yn taro cydbwysedd rhwng manylder a diogelwch, ac yn sicrhau bod microdata ar gael i bawb, o ddinasyddion chwilfrydig i ddadansoddwyr arbenigol. O ganlyniad, caiff samplau microdata Cyfrifiad 2021 eu rhyddhau mewn pedair ffordd.

Mae ein sampl microdata gyhoeddus ar gyfer addysgu ar gael i'w lawrlwytho o'n gwefan gydag ychydig o amodau defnydd wedi'u gosod fel y nodir yn y Drwydded Llywodraeth Agored. Mae'n darparu adnodd addysgol i helpu i addysgu ystadegau a gwyddorau cymdeithasol. .

Darllenwch fwy am Sampl microdata gyhoeddus ar gyfer addysgu.

Dim ond i ddadansoddwyr data drwy Wasanaeth Data'r DU y mae ein samplau microdata wedi'u diogelu ar gael, yn unol â chyfrifiadau blaenorol. Mae'n rhaid i ddadansoddwyr data gofrestru â Gwasanaeth Data'r DU a chytuno i delerau ac amodau Trwydded Defnyddiwr Gwasanaeth Data'r DU.

Darllenwch fwy am ein Samplau microdata wedi'u diogelu.

Dim ond i ymchwilwyr achrededig drwy'r Gwasanaeth Data Integredig y mae ein samplau microdata diogel ar gael..

Darllenwch fwy am ein Samplau microdata diogel.

Mae ein sampl microdata Cyfres Microdata Defnydd Cyhoeddus Integredig (IPUMS) ar gael i ddadansoddwyr ar wefan IPUMS International. Mae angen i ddadansoddwyr gofrestru, darparu gwybodaeth am eu prosiect a chytuno i'r telerau ac amodau mynediad. 

Mae sampl wreiddiol IPUMS heb ei chysoni ar gael ar wefan Gwasanaeth Data'r DU i ddadansoddwyr sydd wedi cofrestru a chytuno i delerau ac amodau Trwydded Defnyddiwr Gwasanaeth Data'r DU. Mae defnydd masnachol o'r data yn amodol ar ofynion trwyddedu a chodir ffioedd gweinyddol ar bob prosiect.

Darllenwch fwy am ein Sampl microdata Cyfres Microdata Defnydd Cyhoeddus Integredig.

Rhyddhawyd ein sampl microdata gyhoeddus ar 7 Medi 2023; rhyddhawyd ein samplau wedi'u diogelu ar 18 Hydref 2023. Bydd modd cael gafael ar samplau microdata diogel Cyfrifiad 2021 a sampl microdata IPUMS heb ei chysoni ar ddechrau 2024.

Mae samplau microdata Cyfrifiad 2021 yn amrywio mewn maint o 10% i 1% o gartrefi neu unigolion. Y samplau microdata diogel sy'n cynnig y lefel uchaf o fanylder ac sydd â'r samplau mwyaf o ran maint.

Mae samplau ar gyfer unigolion a chartrefi ar gael ac maent yn cynnwys newidynnau sy'n ymwneud â nodweddion unigolion a chartrefi. Mae samplau unigolion yn cynnwys data ar lefel person ar gyfer preswylwyr a samplwyd o fewn cartref neu sefydliad cymunedol. Mae samplau cartrefi yn cynnwys data ar lefel person a chartref ar gyfer pob preswylydd mewn cartrefi a samplwyd; data ar lefel cartref yn unig a gaiff eu cynnwys ar gyfer cartrefi gwag yn y sampl.

Mae samplau cartrefi yn caniatáu i gysylltiadau gael eu gwneud rhwng unigolion yn yr un cartref. Nid yw hyn yn bosibl gan ddefnyddio'r sampl unigolion. Mae ein samplau cartrefi yn galluogi ymchwilwyr i ddeall unigolion o fewn cyd-destun eu cartref. Mae'r samplau cartref ac unigolion yn cynnwys pobl wahanol er mwyn diogelu cyfrinachedd unigolion mewn samplau cyhoeddus ac wedi'u diogelu.

Crynodeb o samplau microdata Cyfrifiad 2021

Sampl microdata gyhoeddus ar gyfer addysgu:

  • maint y sampl: 1% o unigolion
  • uned ystadegol: pobl
  • ardal ddaearyddol isaf: Cymru, rhanbarthau o fewn Lloegr, Llundain Fewnol ac Allanol
  • nifer y newidynnau: 19, manylder isel

Sampl microdata unigolion wedi'i diogelu ar lefel rhanbarth:

  • maint y sampl: 5% o unigolion
  • uned ystadegol: pobl
  • ardal ddaearyddol isaf: Cymru, rhanbarthau o fewn Lloegr, Llundain Fewnol ac Allanol
  • nifer y newidynnau: 89, manylder canolig

Sampl microdata unigolion wedi’i diogelu ar lefel awdurdodau lleol wedi’u grwpio:

  • maint y sampl: 5% o unigolion
  • uned ystadegol: pobl
  • ardal ddaearyddol isaf: awdurdodau lleol wedi'u grwpio
  • nifer y newidynnau: 87, manylder isel

Sampl microdata unigolion ddiogel:

  • maint y sampl: 10% o unigolion
  • uned ystadegol: pobl
  • ardal ddaearyddol isaf: awdurdod lleol
  • nifer y newidynnau: 189, manylder mwyaf

Sampl microdata cartrefi wedi'i diogelu:

  • maint y sampl: 1% o gartrefi, yn cynnwys y rheini lle mae maint y cartref yn llai na naw person yn unig
  • uned ystadegol: cartrefi a phob unigolyn o fewn y cartrefi a samplwyd
  • ardal ddaearyddol isaf: Cymru; rhanbarthau o fewn Lloegr; Llundain Fewnol ac Allanol
  • nifer y newidynnau: 56, manylder isel

Sampl microdata cartrefi ddiogel:

  • maint y sampl: 10% o gartrefi
  • cartrefi a phob unigolyn o fewn y cartrefi a samplwyd
  • ardal ddaearyddol isaf: awdurdod lleol
  • nifer y newidynnau: 194, manylder mwyaf

Sampl Microdata Cyfres Microdata Defnydd Cyhoeddus Integredig (IPUMS)

  • maint y sampl: 1% o gartrefi, yn cynnwys y rheini lle mae maint y cartref yn llai na naw person yn unig 

  • uned ystadegol: cartrefi a phob unigolyn o fewn y cartrefi a samplwyd 

  • ardal ddaearyddol isaf: Cymru; rhanbarthau o fewn Lloegr; Llundain Fewnol ac Allanol 

  • nifer y newidynnau: 33, manylder isel

Microdata'r Deyrnas Unedig

Mae samplau microdata Cyfrifiad 2021 yn cwmpasu Cymru a Lloegr. Mae Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon a Chofnodion Cenedlaethol yr Alban yn creu cynhyrchion tebyg ar gyfer Gogledd Iwerddon a'r Alban.

Yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, cafodd y cyfrifiad ei gynnal ym mis Mawrth 2021. Yn yr Alban, penderfynwyd symud y cyfrifiad i fis Mawrth 2022 oherwydd effaith pandemig y coronafeirws. Mae angen ystyried y gwahaniaeth hwn wrth wneud unrhyw waith dadansoddi mewn perthynas â'r Deyrnas Unedig gyfan gan ddefnyddio microdata'r cyfrifiad.

Cymharedd â Chyfrifiad 2011 

Gwnaed pob ymdrech i gynnal lefelau uchel o gymharedd rhwng Cyfrifiad 2021 a Chyfrifiad 2011. Lle y bo modd, mae newidynnau a chategorïau allbynnau o fewn ein samplau microdata wedi cael eu cysoni er mwyn gallu cymharu.

Cymorth arbenigol o fewn y SYG ac o'r tu allan iddi

Gwnaeth amrywiaeth o randdeiliaid mewnol ac allanol helpu i ddylunio, creu a dosbarthu samplau microdata Cyfrifiad 2021 fel y gallem ddiwallu anghenion ein defnyddwyr yn y ffordd orau.

Roedd aelodau mewnol o'n gweithgor yn cynnwys arbenigwyr pwnc ar y canlynol:

  • mudo

  • teithio i'r gwaith

  • demograffeg a thrawsnewid y cyfrifiad

  • amcangyfrifon o'r boblogaeth

  • rheoli datgelu ystadegol

Roedd aelodau allanol o'n gweithgor yn cynnwys:

  • Cofnodion Cenedlaethol yr Alban

  • Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon

  • Llywodraeth Cymru

  • Gwasanaeth Data'r DU

  • awdurdodau lleol

  • sefydliadau academaidd

  • ymchwilwyr i'r farchnad

  • ymchwilwyr masnachol

Nôl i'r tabl cynnwys

2. Diogelu cyfrinachedd o fewn samplau microdata

Mae ein samplau microdata wedi'u dylunio i ddiogelu cyfrinachedd unigolion a chartrefi. Rydym yn gwneud hyn drwy gymhwyso mesurau rheoli mynediad a dileu gwybodaeth a allai gael ei defnyddio i adnabod unigolyn yn uniongyrchol, fel enwau, cyfeiriadau a dyddiad geni.

Cymhwyswyd techneg cyfnewid cofnodion i ddata'r cyfrifiad a ddefnyddiwyd i greu'r samplau microdata. Dull rheoli datgelu ystadegol yw hyn, neu newidiadau a wnaed i'r data er mwyn atal unigolion rhag cael eu hadnabod. Mae'r samplau microdata yn defnyddio dulliau rheoli datgelu ystadegol pellach, fel cyfuno newidynnau a chyfyngu ar fanylion.

Mae'r samplau hefyd yn cynnwys cofnodion sydd wedi cael eu golygu er mwyn atal data anghyson yn ogystal â phobl, cartrefi a gwerthoedd data wedi’u priodoli. Er mwyn diogelu cyfrinachedd, nid yw baneri priodoli wedi cael eu cynnwys o fewn unrhyw rai o samplau microdata Cyfrifiad 2021. Roedd hyn yn wir o ran microdata Cyfrifiad 2011 hefyd.

Cafodd nifer y cofnodion sydd o fewn y sampl ac yn unigryw yng nghronfa ddata'r cyfrifiad ei fesur fel cyfran o nifer y cofnodion sy'n unigryw o fewn y sampl. Gosodwyd lefel y gyfran hon er mwyn pennu ansicrwydd digonol.

Dysgwch fwy am ddiogelu data personol yng nghanlyniadau Cyfrifiad 2021. Mae llawer o wybodaeth am ddulliau rheoli ystadegol ar gyfer amrywiaeth o ystadegau ar ein tudalen rheoli datgelu hefyd.

Nôl i'r tabl cynnwys

3. Cymharu samplau microdata â'r cyfrifiad

Mae ein holl samplau microdata wedi bod drwy brosesau sicrhau ansawdd. Er mwyn cymharu samplau microdata Cyfrifiad 2021 â Chyfrifiad llawn 2021, agorwch ein taenlen Comparing microdata samples with Census 2021 set ddata.

Yn y ddogfen, rydym yn cymharu cyfrannau categorïau ar gyfer setiau data samplau microdata dethol â'r setiau data cyfatebol o'r cyfrifiad llawn i ddangos bod y samplau yn gynrychioliadol. Mae gan rai o'r setiau data un newidyn (unamryweb) ac mae gan rai newidynnau cyfunol lluosog (amlamryweb). Byddwch yn ofalus wrth gyffredinoli canfyddiadau i boblogaeth ehangach, oherwydd gallai hyn effeithio ar ddibynadwyedd canlyniadau.

Nôl i'r tabl cynnwys

4. Rhaid i chi ddewis sail boblogaeth

Cyn i chi wneud unrhyw waith dadansoddi gan ddefnyddio samplau microdata Cyfrifiad 2021, dewiswch y sail boblogaeth ar gyfer y dadansoddiadau a hidlwch y sampl microdata yn briodol gan ddefnyddio'r newidyn “USUAL_SHORT_STUDENT”.

Mae samplau microdata Cyfrifiad 2021 yn cynnwys data o gyfanswm poblogaeth Cymru a Lloegr, sy'n cynnwys:

  • preswylwyr arferol

  • preswylwyr byrdymor na chawsant eu geni yn y Deyrnas Unedig sy'n aros am 3 i 12 mis

  • myfyrwyr sy'n byw mewn cyfeiriad arall yn ystod y tymor

Y brif sail boblogaeth ar gyfer llawer o'r setiau data sydd wedi'u cyhoeddi yw'r boblogaeth breswyl arferol. Ystyr preswylydd arferol yw unrhyw un a oedd, ar Ddiwrnod y Cyfrifiad, sef 21 Mawrth 2021, yn y Deyrnas Unedig ac wedi aros neu’n bwriadu aros yn y Deyrnas Unedig am gyfnod o 12 mis neu fwy, neu a oedd â chyfeiriad parhaol yn y Deyrnas Unedig ac a oedd y tu allan i’r Deyrnas Unedig ac yn bwriadu aros y tu allan i’r Deyrnas Unedig am lai na 12 mis.

I ddadansoddi preswylwyr arferol o fewn ein samplau microdata, hidlwch y newidyn “USUAL_SHORT_STUDENT” fel ei fod yn cynnwys ymatebion “is a usual resident” yn unig.

Caiff myfyrwyr a phlant ysgol mewn addysg amser llawn sy'n astudio i ffwrdd o'r cartref yn ystod y tymor eu cyfrif fel pe baent yn byw fel arfer yn eu cyfeiriad yn ystod y tymor.

Gofynnwyd i fyfyrwyr ddarparu gwybodaeth ddemograffig sylfaenol yn unig (enw, rhyw, oedran a statws priodasol) ar gyfer eu cyfeiriad y tu allan i'r tymor (cyfeiriad cartref neu wyliau). Mae data ar gyfer myfyrwyr yn eu cyfeiriad y tu allan i'r tymor ar gael drwy hidlo'r newidyn “USUAL_SHORT_STUDENT” fel ei fod ond yn cynnwys “Is a student living at an alternative address in term time”.

Os na ddefnyddir hidlyddion ar y samplau microdata gan ddefnyddio'r newidyn “USUAL_SHORT_STUDENT”, yna gall newidynnau demograffig sylfaenol gael eu dyblygu ar gyfer rhai unigolion. Mae hyn oherwydd y gall unigolion fod yn bresennol yn y sampl fel “usual resident” ac fel “student living at an alternative address in term-time”.

Mae Cyfrifiad 2021 yn ffynhonnell bwysig o ddata o ansawdd uchel am y boblogaeth yn ystod pandemig y coronafeirws (COVID-19), ond mae'n bosibl y bydd yr amgylchiadau wedi effeithio ar breswylfa arferol rhai pobl. Dysgwch fwy am beth mae hyn yn ei olygu i'r data yn cynnal cyfrifiad yn ystod pandemig y coronafeirws.

Nôl i'r tabl cynnwys

5. Newidynnau a chategorïau

Gallwch ddod o hyd i'r holl newidynnau sydd yn ein samplau microdata a'r categorïau sydd wedi'u cynnwys yn ein taenlen Microdata sample codes: Census 2021 set ddata. Mae'r ffeil hon wedi cael ei dylunio ar ffurf y gall peiriant ei darllen; gellir defnyddio hidlyddion i ddangos y wybodaeth ar gyfer pob sampl ar wahân.

Nôl i'r tabl cynnwys

6. Newidynnau Diwydiant a Galwedigaeth

Mae'r newidynnau Diwydiant a Galwedigaeth ar gael yn holl samplau microdata Cyfrifiad 2021 ar gyfer pobl 16 oed a throsodd sydd wedi gweithio erioed. I ddadansoddi'r rheini a oedd mewn gwaith yn yr wythnos cyn y cyfrifiad yn unig, bydd angen gosod un o'r hidlyddion canlynol:

  • gosodwch “ACTIVITY_LAST_WEEK” i gynnwys y rheini a oedd yn gweithio'n unig

  • gosodwch “ECONOMIC_ACTIVITY” i gynnwys y rheini a oedd yn weithgar yn economaidd ac mewn gwaith yn unig

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y newidynnau sydd wedi'u cynnwys yn allbynnau safonol y cyfrifiad, y caiff rhai ohonynt eu defnyddio yn samplau microdata'r cyfrifiad, yng ngeiriadur Cyfrifiad 2021.

Nôl i'r tabl cynnwys

7. Dull samplu

Wrth ystyried casgliadau i ymchwilio iddynt, dylai dadansoddwyr ystyried dyluniad y sampl.

Mae cynhyrchion microdata Cyfrifiad 2021 yn dilyn egwyddorion dylunio tebyg i'r rhai a ddefnyddiwyd ar gyfer 2011. Mae'r egwyddorion fel a ganlyn:

  • caiff microdata llai ac sy'n datgelu llai eu samplu o ficrodata ar y lefel nesaf i fyny'r hierarchaeth diogelwch; yn gyntaf, rydym yn samplu'r microdata unigolion diogel, yna rydym yn samplu'r microdata unigolion wedi'u diogelu o'r sampl unigolion ddiogel – mae hyn hefyd yn gymwys i'r microdata cartrefi

  • nid yw ein samplau microdata cartrefi yn cynnwys unrhyw un o'r bobl sydd wedi'u cynnwys yn ein samplau microdata unigolion

  • nid yw ein samplau unigolion wedi'u diogelu ar lefel rhanbarth ac ar lefel awdurdodau lleol wedi'u grwpio yn gorgyffwrdd – nid ydynt yn cynnwys unrhyw rai o'r un bobl

  • mae meintiau'r samplau yn gyson â Chyfrifiad 2011 ac yn seiliedig ar asesiadau risg datgelu ystadegol

Wrth samplu, cafodd y set ddata wreiddiol ei threfnu gyntaf yn ôl awdurdodau lleol, ac yna Ardaloedd Cynnyrch o fewn awdurdodau lleol. Mae hyn yn cyd-fynd â'r dull gweithredu yn 2011 ac yn sicrhau bod y samplau wedi'u gwasgaru'n wastad ar draws Cymru a Lloegr. Mae mân welliannau ychwanegol i ddull gweithredu 2011 wedi cael eu rhoi ar waith; ystyrir mai effaith fach iawn a gaiff y rhain ar gymharedd â samplau microdata Cyfrifiad 2011.

Ar gyfer samplau microdata unigolion, cafodd y data gwreiddiol eu trefnu ymhellach yn ôl oedran a rhyw o fewn pob Ardal Gynnyrch er mwyn gwneud y samplau hyn mor gynrychioliadol â phosibl mewn perthynas ag oedran a rhyw.

Ar gyfer samplau microdata cartrefi, cafodd y data gwreiddiol eu trefnu ymhellach yn ôl maint y cartref er mwyn gwneud y samplau hyn mor gynrychioliadol â phosibl mewn perthynas â maint cartrefi. Ar gyfer y sampl cartrefi wedi'i diogelu, er mwyn diogelu cyfrinachedd, cafodd cartrefi â mwy nag wyth person eu tynnu o'r ffrâm samplu oherwydd gwelwyd bod y rhain yn cynyddu'r risg o ddatgelu y tu hwnt i'r hyn sy'n dderbyniol ar gyfer data wedi'u diogelu. Ar gyfer y samplau microdata unigolion, defnyddiwyd dull hapsamplu systematig i ddewis pobl ar gyfyngau rheolaidd. Ar gyfer y samplau cartrefi, cafodd cartrefi eu dewis ar gyfyngau rheolaidd. Pennwyd y cyfyngau hyn gan faint y samplau a'r ffrâm samplu.

Fel yn 2011, mae'r dull samplu yn arwain at debygolrwydd cyfartal y caiff pob unigolyn a chartref ei gynnwys, ac eithrio ar gyfer cofnodion risg uchel, a gaiff eu tynnu er mwyn diogelu cyfrinachedd. Mae pwysoliadau sampl ar gyfer cartrefi ac unigolion ym mhob sampl yn gyfartal ac yn ymwneud â maint y sampl felly. O ganlyniad, ni ddarperir pwysoliadau sampl.

Mae amcangyfrifon newidynnau o'r samplau microdata yn destun gwallau samplu, sy'n deillio o'r ffath eu bod yn seiliedig ar sampl yn hytrach chyfrifiad llawn o'r boblogaeth. Gwall samplu yw'r gwahaniaeth rhwng yr amcangyfrifon sy'n deillio o sampl a gwerthoedd gwirioneddol y boblogaeth. Cymerwch ofal wrth gyffredinoli canfyddiadau o unrhyw sampl i boblogaeth ehangach, ac ystyried dibynadwyedd canlyniadau yn briodol.

Nôl i'r tabl cynnwys

8. Sampl microdata gyhoeddus ar gyfer addysgu

Mae ein sampl microdata gyhoeddus ar gyfer addysgu yn cynnwys hapsampl o 1% o gofnodion pobl o Gyfrifiad 2021 ar gyfer Cymru a Lloegr; mae'n cynnwys cofnodion 604,351 o bobl. Lawrlwythwch ein Public microdata teaching sample, England and Wales: Census 2021 set ddata.

Prif ddiben ein sampl microdata gyhoeddus ar gyfer addysgu yw ei defnyddio fel adnodd addysgol er mwyn:

  • annog defnydd ehangach o ddata'r cyfrifiad drwy gynnig ffordd o archwilio data'r cyfrifiad y tu hwnt i'r tablau safonol

  • cyflwyno'r manylder, y metadata a'r fformatau data sydd wedi'u cynnwys mewn cynhyrchion microdata er mwyn rhoi'r sgiliau a'r wybodaeth i ddefnyddwyr sydd eu hangen arnynt i ddefnyddio'r cynhyrchion manylach sydd ar gael

  • helpu i addysgu ystadegau a daearyddiaeth ar lefel TGAU a lefelau uwch

Mae gan ddata sydd ar gael i'r cyhoedd y nodweddion canlynol. Gellir lawrlwytho data o wefan y SYG at unrhyw ddiben gydag ychydig o amodau defnydd wedi'u gosod, fel y nodir yn y Drwydded Llywodraeth Agored. Caiff y risg o ddatgelu ei rheoli'n bennaf drwy ddyluniad y set ddata, gydag amodau'r Drwydded Llywodraeth Agored yn sicrhau na wneir ymgais i ailadnabod y data.

O ystyried maint cymharol fach y sampl a'r manylder cyfyngedig am bob nodwedd, mae'n bosibl nad ein sampl addysgu gyhoeddus fydd y set ddata fwyaf priodol ar gyfer dadansoddi bob tro. Ystyriwch a fyddai creu set ddata arbennig, defnyddio crynodebau pwnc neu allbynnau eraill y cyfrifiad sy'n cwmpasu'r boblogaeth gyfan yn bodloni eich gofynion yn well.

Mae'r Drwydded Llywodraeth Agored, sy'n gymwys i'n sampl microdata gyhoeddus ar gyfer addysgu, yn caniatáu i bobl ddefnyddio data'r llywodraeth heb unrhyw gyfyngiadau ar yr amod y caiff y ffynhonnell ei chydnabod ac na chaiff y data eu camgyfleu.

Dylai defnyddwyr sy'n atgynhyrchu cynnwys y SYG heb ei addasu gydnabod y ffynhonnell drwy gynnwys: “Y SYG: Ffynhonnell: Y Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi'i thrwyddedu o dan y Drwydded Llywodraeth Agored, fersiwn 3.0”.

Dylai defnyddwyr sy'n atgynhyrchu cynnwys y SYG sydd wedi'i addasu gydnabod y ffynhonnell drwy gynnwys: “Y SYG: Addaswyd o ddata gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi'i thrwyddedu o dan y Drwydded Llywodraeth Agored, fersiwn 3.0”.

Nôl i'r tabl cynnwys

9. Samplau microdata wedi'u diogelu

Mae ein samplau microdata unigolion wedi'u diogelu yn cynnwys hapsampl o 5% o gofnodion pobl o Gyfrifiad 2021 ar gyfer Cymru a Lloegr. Mae ein sampl microdata cartrefi wedi'i diogelu yn cynnwys hapsampl o 1% o gartrefi ac yn cynnwys cofnodion ar gyfer pob unigolyn o fewn y cartrefi hyn a samplwyd. Mae ein holl samplau wedi'u diogelu yn cynnwys set wahanol o bobl yn fwriadol.

Mae samplau microdata wedi'u diogelu Cyfrifiad 2021 yn cynnwys y niferoedd canlynol o gofnodion:

  • sampl unigolion ar lefel rhanbarth: 3,021,455 o bobl

  • sampl unigolion ar lefel awdurdodau lleol wedi'u grwpio: 3,021,611 o bobl

  • sampl cartrefi ar lefel rhanbarth: 263,729 o gartrefi, 606,210 o bobl; ar gyfer cartrefi lle na chafodd unrhyw bobl eu cyfrif, dim ond data ar lefel cartref a gaiff eu cynnwys yng nghofnodion y sampl

Dim ond defnyddwyr sydd wedi cofrestru â Gwasanaeth Data'r DU ac sydd wedi cytuno i delerau ac amodau Trwydded Defnyddiwr Gwasanaeth Data'r DU all gael gafael ar samplau microdata wedi'u diogelu Cyfrifiad 2021. Mae defnydd masnachol o'r data wedi'u diogelu yn amodol ar ofynion trwyddedu a chodir ffioedd gweinyddol ar bob prosiect.

Mae gan ddata sydd ar gael drwy'r dull wedi'i ddiogelu y nodweddion canlynol:

  • gellir lawrlwytho data o Wasanaeth Data'r DU i amgylchedd lleol yr ymchwilydd

  • dim ond ar gyfer ymchwil ystadegol ac yn unol â chyfres o amodau sy'n cyfyngu ar ddiben ac ymddygiad a'u rheoli y caiff ymchwilwyr ddefnyddio data; nodir yr amodau yn y Drwydded Defnyddiwr

  • caiff y risg o ddatgelu ei rheoli drwy gyfuniad o'r cytundeb defnyddiwr gyda'r ymchwilydd a'r mesurau rheoli datgelu a gymhwysir o fewn dyluniad y set ddata 

Ceir rhagor o wybodaeth am ddibenion posibl data wedi'u diogelu yn adran 5.2.1 o'r canllaw Research data handling and security guide.

Mae'r cyfeiriad y dylid ei ddefnyddio wrth gyhoeddi ymchwil yn seiliedig ar ein samplau microdata wedi'u diogelu wedi'i nodi yn y metadata cysylltiedig ar wefan Gwasanaeth Data'r DU.

Samplau microdata unigolion wedi'u diogelu

Mae gennym ddwy sampl microdata unigolion wedi'i diogelu, y mae'r ddwy ohonynt ar lefel ddaearyddol wahanol. Mae'r sampl ar lefel rhanbarth yn darparu llai o fanylder o ran daearyddiaeth ond mwy o fanylder yn y newidynnau eraill. Mae'r sampl ar lefel awdurdodau lleol wedi'u grwpio yn darparu mwy o fanylder o ran daearyddiaeth ond, o ganlyniad, mae'n darparu categorïau allbwn ychydig llai manwl ar gyfer newidynnau.

Daearyddiaeth a grëwyd yn benodol ar gyfer ein samplau microdata yw awdurdodau lleol wedi'u grwpio. Mae'n cynnwys grwpiau o awdurdodau lleol, neu awdurdodau lleol unigol lle mae'r boblogaeth yn cynnwys o leiaf 120,000 o bobl. Mae rhestr o awdurdodau lleol wedi'u grwpio ar gael ar borth Open Geography. Sicrhawyd bod y grwpiau o awdurdodau lleol a ddefnyddiwyd ar gyfer 2021 mor debyg â phosibl i'r rhai a ddefnyddiwyd ar gyfer 2011. Mae ffiniau rhai awdurdodau lleol wedi cael eu newid rhwng 2011 a 2021 ac mae'r cod daearyddol naw digid wedi newid o ganlyniad. Mae manylion newidiadau ar gael o'r porth Open Geography.

Sampl microdata cartrefi wedi'i diogelu

Mae ein sampl microdata cartrefi wedi'i diogelu yn cynnwys cofnodion ar gyfer pob unigolyn o fewn y cartrefi a samplwyd. Mae'n golygu y gellir gwneud cysylltiadau rhwng unigolion yn yr un cartref. Yn dilyn Cyfrifiad 2011, dim ond drwy'r sampl cartrefi ddiogel y gellid gwneud hyn. Crëwyd y cynnyrch newydd hwn ar gyfer Cyfrifiad 2021 yn dilyn adborth gan ddefnyddwyr ar Gyfrifiad 2011.

Mae maint ein sampl cartrefi wedi'i diogelu yn llai na'r samplau unigolion wedi'u diogelu ac mae'n cynnwys llai o newidynnau a llai o fanylder o ran y dosbarthiadau o newidynnau. Mae hyn oherwydd bod manylion yn cael eu darparu am gartrefi cyfan, sydd â risg uwch o ddatgelu pan gaiff nodweddion eu hunigolion eu cyfuno, o gymharu ag unigolion yn unig.

Yn ein sampl cartrefi wedi'i diogelu, mae newidynnau unigolion a all ddatgelu pwy yw pobl wedi cael eu newid am newidynnau cartrefi cyfatebol, gan ddarparu manylion ymarferol ond cyfyngedig am gartrefi llawn o gymharu â'r samplau unigolion wedi'u diogelu. Er enghraifft, mae grŵp ethnig unigolion wedi cael ei newid am b'un a oes gan aelodau'r cartref yr un grŵp ethnig neu a oes cyfuniadau o sawl grŵp ethnig yn y cartref. Er mwyn diogelu cyfrinachedd, nid yw'r sampl yn cynnwys cartrefi sydd â mwy nag wyth person.

Mae ein samplau microdata unigolion wedi'u diogelu yn cynnwys llawer mwy o newidynnau na ellir eu cynnwys yn y sampl microdata cartrefi wedi'i diogelu oherwydd bod y ffeil cartrefi yn peri mwy o risg o ddatgelu. Defnyddiwch y samplau unigolion os nad oes angen gwneud cysylltiadau rhwng unigolion yn yr un cartref. Mae'r ffeil cartrefi ddiogel ar gael mewn achosion pan na fydd y ffeil cartrefi wedi'i diogelu yn diwallu anghenion defnyddwyr. Dylai defnyddwyr ystyried eu hanghenion a dewis y sampl fwyaf priodol ar gyfer eu hymchwil.

Nôl i'r tabl cynnwys

10. Samplau microdata diogel

Mae ein sampl microdata ddiogel yn cynnwys hapsampl o 10% o gofnodion pobl o Gyfrifiad 2021. Mae ein sampl microdata cartrefi ddiogel yn cynnwys hapsampl o 10% o gartrefi. Mae'r ffeil cartrefi yn golygu y gellir gwneud cysylltiadau rhwng unigolion yn yr un teulu a'r un cartref. Mae ein samplau cartrefi ac unigolion yn cynnwys pobl wahanol. 

Mae samplau microdata diogel Cyfrifiad 2021 yn cynnwys y niferoedd canlynol o gofnodion:

  • sampl unigolion:  6,204,787 o bobl a lleoedd gwag yn y cartref

  • sampl cartrefi: 2,641,775 o gartrefi, 6,097,307 787 o bobl a lleoedd gwag yn y cartref; ar gyfer cartrefi lle na chafodd unrhyw bobl eu cyfrif, dim ond data ar lefel cartref a gaiff eu cynnwys yng nghofnodion y sampl.

Ein samplau microdata diogel sydd â'r lefel uchaf o fanylder ac sydd â'r sampl fwyaf o ran maint. O ganlyniad, dim ond drwy'r dull diogel y gellir cael gafael arnynt ac mae ganddynt y nodweddion canlynol:  

  • mae'r data wedi'u diogelu gan y gyfraith 

  • ni ellir dosbarthu'r data y tu hwnt i'r amgylchedd a reolir; dim ond ymchwilwyr achrededig sy'n gweithio ar brosiectau achrededig fydd yn cael mynediad at y data  

  • yn ogystal â'r ffaith bod y data wedi'u diogelu gan y gyfraith, dim ond ar gyfer ymchwil ystadegol ac yn unol â chyfres o amodau sy'n cyfyngu ar ddiben ac ymddygiad a'u rheoli y caiff ymchwilwyr ddefnyddio'r data

  • dim ond ymchwilwyr sydd â hyfforddiant cyfredol ar sut i weithio mewn amgylchedd diogel a reolir all gael gafael ar y data 

  • caiff yr holl allbynnau o'r amgylchedd a reolir eu gwirio ar gyfer risg o ddatgelu cyn y cânt eu darparu i'r ymchwilydd  

  • caiff mesurau i reoli'r risg o ddatgelu eu cynnwys yn y dulliau mynediad yn bennaf ac nid y set ddata 

Oherwydd y risg o ddatgelu, dim ond ymchwilwyr achrededig all gael gafael ar ficrodata diogel. Dim ond drwy'r Gwasanaeth Data Integredig y gellir cael gafael ar y data, sef amgylchedd hynod ddiogel na ellir allgludo unrhyw ddata ohono heb gymeradwyaeth benodol.

Mae mynediad at ein samplau microdata diogel yn y Gwasanaeth Data Integredig yn bosibl drwy'r Rhwydwaith SafePod. Mae SafePods mewn prifysgolion a sefydliadau ymchwil ledled y Deyrnas Unedig yn bennaf. Caiff y Rhwydwaith SafePod Network ei ariannu gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol ac mae'n rhan o raglen Ymchwil Data Gweinyddol y DU.

Mae hefyd yn bosibl cael mynediad at ein samplau microdata diogel drwy Gysylltedd Sefydliadol Sicr. Cytundeb yw hyn rhwng eich sefydliad a'r SYG i ganiatáu mynediad uniongyrchol i'r Gwasanaeth Data Integredig o'ch sefydliad neu eich swyddfa gartref. Mae'n rhaid i'r SYG gymeradwyo pob cytundeb Cysylltedd Sefydliadol Sicr, a bydd cais llwyddiannus yn darparu'r dystiolaeth y gofynnir amdani mewn perthynas â sut mae eich sefydliad yn cyrraedd y safon ddiogelwch o ran elfennau ffisegol a systemau.

Mae ein samplau microdata diogel yn cynnwys mynegeion amddifadedd lluosog ynghyd â mynegeion amddifadedd, a ddiweddarwyd yn 2019. Mae mynegeion ar wahân ar gyfer:

Mae mynegeion amddifadedd lluosog yn defnyddio cyfuniad o ddata gweinyddol a data'r cyfrifiad am nad yw'r cyfrifiad yn cwmpasu pob maes.

Nôl i'r tabl cynnwys

11. Sampl microdata Cyfres Microdata Defnydd Cyhoeddus Integredig

Mae sampl microdata cartrefi Cyfres Microdata Defnydd Cyhoeddus Integredig (IPUMS) Cyfrifiad 2021 yn cynnwys hapsampl o 1% o gartrefi ac yn cynnwys cofnodion ar gyfer pob unigolyn o fewn y cartrefi hyn a samplwyd. Mae maint y sampl IPUMS yr un peth â'n sampl microdata cartrefi wedi'i diogelu ac mae'r ddwy sampl hyn yn eithrio cartrefi sy'n cynnwys mwy nag wyth person.  

Mae ein sampl microdata IPUMS yn cynnwys ychydig llai o newidynnau na'n sampl microdata cartrefi wedi'i diogelu. Cafodd ei dylunio fel ei bod yn bodloni gofynion IPUMS gymaint â phosibl wrth sicrhau cyfrinachedd unigolion.  Mae'r sampl yn caniatáu i gysylltiadau gael eu gwneud rhwng unigolion yn yr un cartref. Mae wedi'i dylunio i gynnwys set wahanol o bobl i'n holl samplau microdata wedi'u diogelu. 

Mae'r sampl hon yn cyfrannu at nodau a storfa ddata prosiect IPUMS International a gaiff ei redeg gan Brifysgol Minnesota, sy'n casglu data o gyfrifiadau dros 95 o wledydd ac yn cadw data gan dros 1 biliwn o bobl. Drwy ddarparu'r set ddata IPUMS hon ar gyfer Cyfrifiad 2021, rydym yn parhau i ddarparu microdata o gyfrifiad Cymru a Lloegr i'r prosiect hwn, rhywbeth yr ydym wedi'i wneud ar gyfer sawl blwyddyn cyfrifiad yn y gorffennol. 

Adran 9: Mae samplau microdata wedi'u diogelu yn rhoi gwybodaeth am ein sampl microdata cartrefi wedi'i diogelu ac yn esbonio pam newidynnau unigolion sy'n datgelu mwy wedi cael eu newid am newidynnau cartrefi cyfatebol; mae hyn hefyd yn berthnasol i'n sampl microdata IPUMS. 

Mae sampl microdata IPUMS Cyfrifiad 2021 yn cynnwys cofnodion ar gyfer 263,730 o gartrefi a 605,103 o bobl. Ar gyfer cartrefi lle na chafodd unrhyw bobl eu cyfrif, dim ond data ar lefel cartref a gaiff eu cynnwys yng nghofnodion y sampl. 

Mae ein sampl microdata IPUMS ar gael i ddadansoddwyr ar wefan IPUMS International. Mae angen i ddadansoddwyr gofrestru, darparu gwybodaeth am eu prosiect a chytuno i'r telerau ac amodau mynediad. Mae'r sampl sydd ar gael ar IPUMS wedi cael ei chysoni gan IPUMS er mwyn gallu cymharu â gwledydd eraill. Mae'r data a ddarperir i IPUMS ar gael mewn fformatau wedi'u cysoni a heb eu cysoni. Wrth ddefnyddio'r sampl IPUMS, dylech gadw Ystyriaethau o ansawdd mewn perthynas â samplau microdata Cyfrifiad 2021 mewn cof. 

Mae ein sampl IPUMS hefyd ar gael o dan y dull wedi'i ddiogelu (a amlinellir yn Adran 9: Samplau microdata wedi'u diogelu) ar wefan Gwasanaeth Data'r DU i ddadansoddwyr sydd wedi cofrestru a chytuno i delerau ac amodau Trwydded Defnyddiwr Gwasanaeth Data'r DU. Mae defnydd masnachol o'r data yn amodol ar ofynion trwyddedu a chodir ffioedd gweinyddol ar bob prosiect.

Nôl i'r tabl cynnwys

12. Ystyriaethau o ansawdd mewn perthynas â samplau microdata Cyfrifiad 2021

Mae'r adran hon yn cynnwys dolenni i fanylion pwysig am wybodaeth hysbys am ansawdd sy'n effeithio ar bynciau a gaiff eu cwmpasu gan Gyfrifiad 2021 yng Nghymru a Lloegr. Dylai'r wybodaeth hon lywio eich defnydd o samplau microdata Cyfrifiad 2021m gan sicrhau bod y data yn addas at y diben ac yn cael eu dehongli'n gywir, ac mae'n cwmpasu:

  • effeithiau sy'n ymwneud â phandemig y coronafeirws(COVID-19)
  • newidiadau i eiriad cwestiynau sy'n effeithio ar gymharedd â Chyfrifiad 2011
  • newidiadau mewn diffiniadau, dosbarthiadau neu ddeilliad newidynnau penodol sy'n effeithio ar gymharedd dros amser

Adroddiadau ar ansawdd pynciau yng Nghyfrifiad 2021:

Nôl i'r tabl cynnwys

13. Cyfrifiad 2021: Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg

Y cyfrifiad yw'r ffynhonnell fwyaf cyflawn o wybodaeth sydd ar gael am y boblogaeth. Fodd bynnag, er gwaethaf ymdrechion i gyrraedd pawb a chael y wybodaeth fwyaf cywir bosibl, nid yw'r un cyfrifiad yn berffaith, ac mae'n anochel y caiff rhai pobl eu colli.

Mae gwybodaeth bellach am gynnal Cyfrifiad 2021, y ffordd y caiff data coll eu trin, y broses sicrhau ansawdd ac arolwg ansawdd y cyfrifiad ar gael:

Nôl i'r tabl cynnwys

14. Parthau gweithleoedd

Mae adran Daearyddiaeth y SYG yn ystyried a ddylid diweddaru parthau gweithleoedd 2011 gan ddefnyddio Cyfrifiad 2021 a/neu ffynonellau data eraill.

O ystyried yr effaith a gafodd pandemig y coronafeirws (COVID-19) ar sut yr atebodd ymatebwyr gwestiynau am eu gweithle, rydym yn ystyried a ddylid diweddaru parthau gweithleoedd 2011 a sut y gellid gwneud hyn. Mae Campws Gwyddor Data y SYG wedi cynhyrchu rhai matricsau arbrofol wedi'u modelu ar gyfer teithio i'r gwaith, sy'n ymgorffori:

  • data teithio i'r gwaith o Gyfrifiad 2011
  • data cyflogaeth o Gyfrifiad 2021
  • data o'r Arolwg Teithio Cenedlaethol
  • Model Cenedlaethol Pen y Daith yr Adran Drafnidiaeth

Y gobaith yw y gall y gwaith hwn arwain at barthau gweithleoedd wedi'u diweddaru ar gyfer y Deyrnas Unedig yn y dyfodol.

Nid ydym wedi gallu cynnwys unrhyw newidynnau sy'n ymwneud â pharthau gweithleoedd yn y samplau microdata. Nid oedd parthau gweithleoedd ar gyfer Cyfrifiad 2021 ar gael pan grëwyd ein samplau microdata. Roedd y risg o ddatgelu o ganlyniad i newidiadau mewn gweithleoedd dros amser yn golygu nad oedd yn bosibl cynnwys parthau gweithleoedd 2011 chwaith.

Nôl i'r tabl cynnwys

15. Microdata'r cyfrifiad ar gyfer prosiectau cysylltu data mawr

Gan nad yw samplau microdata'r cyfrifiad yn cynnwys gwybodaeth y gellid ei defnyddio i adnabod unigolion, ni fydd ymchwilwyr yn gallu eu defnyddio i gysylltu data.

Os gall ymchwilwyr achrededig brofi nad yw'r samplau yn ddigon defnyddiol ar gyfer prosiectau cysylltu data mawr neu brosiectau sy'n dangos effaith fawr ar bolisi cyhoeddus, mae microdata Cyfrifiad 2021 100% yn bodoli o fewn y Gwasanaeth Data Integredig. Mae'r set ddata hon yn cynnwys dynodwyr personol ac mae ar gael at ddibenion cysylltu data ar draws data gweinyddol a data eraill o arolygon. Caiff mynediad at y data hyn a'r defnydd ohonynt eu rheoli'n llym am eu bod yn cynnwys gwybodaeth adnabyddadwy.

Gall ymchwilwyr ofyn am i setiau data gael eu cysylltu gan y SYG os gallant ddangos bod budd ymchwil ehangach y tu hwnt i'w prosiect unigol. Os cytunir ar gais, caiff y set ddata ei chysylltu'n fewnol ac yna byddai'r fersiwn ddad-adnabyddedig yn cael ei throsglwyddo i'r Gwasanaeth Data Integredig fel y gall pob ymchwilydd achrededig wneud cais prosiect i'w defnyddio. Dylai ymchwilwyr a hoffai wneud cais am set ddata wedi'i chysylltu e-bostio adrcuration@ons.gov.uk.

Nôl i'r tabl cynnwys

16. Ffyrdd blaenorol o ddefnyddio microdata'r cyfrifiad

Mapping 2011 Microdata using R

P. Troncoso and J. Wathan (2017) Guide to mapping 2011 Census Microdata using R (PDF, 3.49MB). Gwasanaeth Data'r DU, Prifysgol Manceinion. Mae hyn yn dangos sut y gall defnyddwyr greu eu newidynnau arbennig eu hunain a dadansoddi'r rhain gan dybio bod samplau microdata'r cyfrifiad yn cynrychioli cronfa ddata gyfan y cyfrifiad.

The prevalence and characteristics of children growing up with relatives in the UK

D. Wijedasa (2018) The prevalence and characteristics of children growing up with relatives in the UK (PDF, 686KB). Y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol, Prifysgol Bryste. Cafodd microdata o Gyfrifiad 2011 eu dadansoddi er mwyn darparu mapiau ac ystadegau dibynadwy a oedd yn gynrychioliadol yn genedlaethol ar ddosbarthiad a nodweddion cartrefi gofal gan berthynas ym mhedair gwlad y Deyrnas Unedig.

The impact of limiting long term illness on internal migration in England and Wales

S. Wilding, D. Martin and G. Moon (2016) The impact of limiting long term illness on internal migration in England and Wales: New evidence from census microdata. Mae'r prosiect hwn yn rhoi enghraifft lle mae microdata'r cyfrifiad wedi cael eu defnyddio ar gyfer modelu aml-lefel.

Self‐Employment amongst Migrant Groups in England and Wales

K. Clark, S. Drinkwater, and C. Robinson (2015). Self-Employment amongst migrant groups in England and Wales: New evidence from census microdata (PDF, 311KB).

Nôl i'r tabl cynnwys

17. Dolenni cysylltiedig

Samplau microdata
Tudalen we | Diweddarwyd ddiwethaf 7 Medi 2023
Pa samplau microdata Cyfrifiad 2021 sydd ar gael a sut i gael gafael arnynt.

Cynhyrchion y cyfrifiad
Tudalen we
Dysgwch am y cynhyrchion gwahanol y byddwn yn eu cynhyrchu o ddata Cyfrifiad 2021 a phryd rydym yn bwriadu eu rhyddhau.

Creu set ddata arbennig
Adnodd

Adnodd i greu set ddata arbennig gan ddefnyddio data Cyfrifiad 2021.

Gwasanaethau cwsmeriaid y cyfrifiad
Tudalen we | Diweddarwyd ddiwethaf 12 Awst 2022
Cymorth a chyngor mewn perthynas â Chyfrifiad 2021 a'r holl gyfrifiadau blaenorol yn ôl i 1801.

Nôl i'r tabl cynnwys

18. Cyfeirio at y fethodoleg hon

Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (y SYG), rhyddhawyd ar 7 Medi 2023, gwefan y SYG, erthygl methodoleg, Canllaw defnyddiwr i samplau microdata Cyfrifiad 2021, Cymru a Lloegr

Nôl i'r tabl cynnwys

Manylion cyswllt ar gyfer y Methodoleg

Harriet Berner
census.customerservices@ons.gov.uk
Ffôn: +44 1329 444972

Efallai y bydd hefyd gennych ddiddordeb yn: