1. Gwybodaeth am ansawdd

Asesiad hunangofnodedig

Mae data am y Gymraeg o Gyfrifiad 2021 yn dod o hunanasesiad o allu. Gofynnodd y cwestiwn yng Nghyfrifiad 2021 am i bobl asesu eu gallu i wneud y canlynol:

  • deall Cymraeg llafar

  • siarad Cymraeg

  • darllen Cymraeg

  • ysgrifennu Cymraeg

Bydd pawb yn asesu eu sgiliau iaith eu hunain yn wahanol. Mae hyn yn golygu y bydd dau berson sydd â'r un sgiliau Cymraeg o bosibl yn rhoi atebion gwahanol am eu gallu.

Gallai hefyd fod yn asesiad o allu person arall os bydd rhywun yn ateb ar ran rhywun arall. Er enghraifft, gallai rhiant fod yn ateb ar ran plentyn. Mae'n bosibl na fydd y rhiant yn gwybod i ba raddau y gall y plentyn ddeall, siarad, darllen, neu ysgrifennu Cymraeg. 

Dewiswch bob un sy'n berthnasol

Ar gyfer y cwestiwn "Ydych chi'n gallu deall, siarad, darllen neu ysgrifennu Cymraeg?", gwnaethom ofyn i bobl ddewis pob opsiwn a oedd yn berthnasol o'r rhestr o sgiliau. Ni fydd pawb wedi darllen y cyfarwyddyd hwn ac mae'n bosibl mai dim ond un opsiwn y byddant wedi'i ddewis.

Nôl i'r tabl cynnwys

2. Ymchwil pellach

Mae Llywodraeth Cymru a'r Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) yn gweithio ar y cyd ar gynllun ymchwil i wella dealltwriaeth o'r prif ffynonellau a ffynonellau data gweinyddol a ddefnyddir i gynhyrchu ystadegau ar y Gymraeg. Bydd yr ymchwil hwn yn cynnwys amcangyfrifon Cyfrifiad 2021 ar sgiliau Cymraeg.

Ym mis Hydref 2023, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru yr adroddiad cyntaf yn seiliedig ar ddadansoddiad o ddata gan unigolion yng Nghymru a oedd wedi ymateb i Gyfrifiad 2021 ac un o'n harolygon aelwydydd, yr Arolwg o'r Llafurlu. Mae'r adroddiad hwn yn edrych ar y gwahaniaethau rhwng y ffordd yr adroddir am sgiliau Cymraeg ar draws y ddwy ffynhonnell ddata. Fe'i cynhyrchwyd mewn partneriaeth rhwng dadansoddwyr o Lywodraeth Cymru, Ymchwil Data Gweinyddol Cymru (ADR Cymru) a'r SYG. Cafodd y dadansoddiad ei wneud yn y Gwasanaeth Data Integredig (IDS) a dyma'r allbwn cyhoeddedig cyntaf i ddefnyddio'r IDS.

I gael rhagor o wybodaeth am yr ymchwil hwn, gweler y cynllun gwaith ar gydlyniad sgiliau'r Gymraeg sydd ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.

Nôl i'r tabl cynnwys

3. Dolenni cysylltiedig

Gwahaniaethau rhwng amcangyfrifon o allu yn y Gymraeg yng Nghyfrifiad 2021 ac arolygon aelwydydd
Allanol | Cyhoeddwyd 26 Hydref 2023
Canfyddiadau cychwynnol ymchwil sy'n adolygu'r gwahaniaethau rhwng amcangyfrifon o allu yn y Gymraeg yng Nghyfrifiad 2021 a'r Arolwg o'r Llafurlu. Ffrwyth gwaith cynllun gwaith ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru a'r Swyddfa Ystadegau Gwladol yw'r cyhoeddiad hwn i wella ein dealltwriaeth o ystadegau am y Gymraeg.

Gwybodaeth am Ansawdd a Methodoleg ar gyfer Cyfrifiad 2021
Diweddarwyd ar 28 Tachwedd 2022
Yn rhoi manylion am gryfderau data, cyfyngiadau, defnyddiau, defnyddwyr a'r dulliau a ddefnyddiwyd ar gyfer Cyfrifiad 2021, Cymru a Lloegr. 

Sut y gwnaethom sicrhau ansawdd amcangyfrifon Cyfrifiad 2021
Methodoleg | Rhyddhawyd ar 7 Tachwedd 2022 
Methodoleg ar gyfer dilysu amcangyfrifon Cyfrifiad 2021 o'r boblogaeth yng Nghymru a Lloegr, gan gynnwys sicrwydd prosesau, asesu amcangyfrifon, a chyfranogiad awdurdodau lleol. 

Newidynnau grŵp ethnig, hunaniaeth genedlaethol, iaith a chrefydd Cyfrifiad 2021 
Gwybodaeth ategol | Rhyddhawyd ar 28 Tachwedd 2022 
Newidynnau a dosbarthiadau a ddefnyddir yn nata Cyfrifiad 2021 am grŵp ethnig, hunaniaeth genedlaethol, iaith, gan gynnwys y Gymraeg, a chrefydd.

Cynllun gwaith ar y cyd y Swyddfa Ystaegau Gwladol a Llywodraeth Cymru ar gydlyniad Ystadegau ar y Gymraeg
Allanol | 25 Ebrill 2023
Mae'r ddogfen hon yn amlinellu'r gwaith y mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol a Llywodraeth Cymru yn bwriadu ei wneud yn ystod 2023 i 2024 a thu hwnt i wella ein dealltwriaeth o'r prif ffynonellau data gweinyddol ac arolygon a ddefnyddir i lunio ystadegau ar y Gymraeg.

Nôl i'r tabl cynnwys

Manylion cyswllt ar gyfer y Methodoleg

Gwasanaethau cwsmeriaid y cyfrifiad
Census.customerservices@ons.gov.uk
Ffôn: +44 1392 444972