Cynnwys
- Prif bwyntiau
- Twf y boblogaeth yng Nghymru rhwng 2011 a 2021
- Poblogaethau awdurdodau lleol yng Nghymru
- Oedran a rhyw y boblogaeth
- Y boblogaeth ac arwynebedd tir
- Nifer y cartrefi
- Cyhoeddiadau yn y dyfodol
- Amcangyfrifon o'r boblogaeth a chartrefi , Cymru: data
- Rhestr termau
- Mesur y data
- Cryfderau a chyfyngiadau
- Dolenni cysylltiedig
1. Prif bwyntiau
Mae’r dudalen hon hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Ar Ddiwrnod y Cyfrifiad, 21 Mawrth 2021, maint y boblogaeth breswyl arferol yng Nghymru oedd 3,107,500; dyma'r boblogaeth fwyaf a gofnodwyd erioed drwy gyfrifiad yng Nghymru.
Mae'r boblogaeth wedi cynyddu 44,000 (1.4%) ers y cyfrifiad diwethaf yn 2011, pan oedd yn 3,063,456.
Roedd 1,586,600 o fenywod (51.1% o'r boblogaeth) a 1,521,000 o ddynion (48.9%) yng Nghymru.
Roedd mwy o bobl nag erioed o'r blaen yn y grwpiau oedran hŷn; cyfran y boblogaeth a oedd yn 65 oed a throsodd oedd 21.3% (i fyny o 18.4% yn 2011).
Roedd 1,347,100 o gartrefi ag o leiaf un preswylydd arferol yng Nghymru ar Ddiwrnod y Cyfrifiad; mae hyn yn gynnydd o 44,400 (3.4%) ers 2011, pan oedd 1,302,676 o gartrefi.
2. Twf y boblogaeth yng Nghymru rhwng 2011 a 2021
Roedd poblogaeth breswyl arferol Cymru yn 3,107,500 yn 2021 (5.2% o gyfanswm poblogaeth Cymru a Lloegr).
Dyma'r boblogaeth fwyaf a gofnodwyd erioed drwy gyfrifiad yng Nghymru. Cynyddodd y boblogaeth 44,000 (1.4%) o gymharu â Diwrnod y Cyfrifiad yn 2011, pan oedd 3,063,456 o bobl yng Nghymru.
Roedd cyfradd twf y boblogaeth yng Nghymru yn sylweddol is nag yn Lloegr, lle cynyddodd y boblogaeth 6.6%. Roedd twf y boblogaeth hefyd yn is yng Nghymru nag yn holl ranbarthau Lloegr. Roedd y gyfradd twf yng Nghymru bron chwe gwaith yn is nag yn Nwyrain Lloegr, sef y rhanbarth yn Lloegr â'r newid canrannol mwyaf ym maint y boblogaeth (8.3%). Roedd hefyd yn is na'r rhanbarth yn Lloegr â'r twf lleiaf yn y boblogaeth, sef Gogledd-ddwyrain Lloegr (1.9%).
Mae cyfradd twf y boblogaeth yng Nghymru yn ystod y degawd diwethaf (1.4%) yn is na'r gyfradd rhwng 2001 a 2011, pan gynyddodd y boblogaeth 5.5%. Arafodd cyfradd twf y boblogaeth yn Lloegr hefyd, ond nid i'r fath raddau (o 7.9% rhwng 2001 a 2011, i 6.6% rhwng 2011 a 2021).
Ers y cyfrifiad cyntaf ym Mhrydain Fawr yn 1801, roedd cyfradd twf y boblogaeth yng Nghymru ar ei huchaf rhwng 1801 a 1921. Yn ystod y cyfnod hwn, cynyddodd y boblogaeth fwy na 13% fesul degawd ar gyfartaledd. Yna gostyngodd y boblogaeth 2.4% rhwng 1921 ac 1931 ac roedd ond wedi cynyddu ychydig bach (0.2%) pan gafodd y cyfrifiad nesaf ei gynnal yn 1951. Mae'r boblogaeth wedi parhau i gynyddu ym mhob cyfnod o 10 mlynedd ar ôl hyn, ond ar gyfradd llawer arafach (rhwng 0.7% a 5.5% ym mhob degawd).
Ffigur 1: Mae'r boblogaeth yn parhau i gynyddu yng Nghymru
Y boblogaeth rhwng 1801 a 2021, Cymru
Embed code
Nodiadau:
- Nid oedd cyfrifiad yn 1941 oherwydd yr Ail Ryfel Byd.
- Roedd cyfrifiadau cyn 1981 yn cofnodi'r boblogaeth a oedd yn bresennol, yn hytrach na phreswylwyr arferol.
- O 1981, mae'r ystadegau yn ymwneud â phreswylwyr arferol ac, o 2001 ymlaen, maent yn cynnwys amcangyfrifon o'r rheini na chawsant eu cyfrif.
Lawrlwythwch y data
Caiff newidiadau ym maint y boblogaeth eu hachosi gan enedigaethau, marwolaethau, a mudo mewnol a rhyngwladol. Gall defnyddio data ar enedigaethau byw a marwolaethau a gaiff eu cofrestru, yn ogystal ag amcangyfrifon mudo, roi dealltwriaeth fanylach o gydrannau newid yn y boblogaeth ers 2011. Mae'n bosibl na fydd y rhain yn cyd-fynd yn union ag amcangyfrifon y cyfrifiad am sawl rheswm – cyfeiriwch at yr adran Cryfderau a chyfyngiadau am ragor o wybodaeth.
Mae data misol yn dangos o fis Ebrill 2011 tan ddiwedd mis Mawrth 2021 fod 321,000 o enedigaethau byw (Saesneg yn unig) a 332,000 o farwolaethau wedi'u cofrestru (Saesneg yn unig) yng Nghymru. Mae hyn yn ostyngiad naturiol o oddeutu 11,000 o breswylwyr arferol. Mae'r twf yn y boblogaeth ers 2011 oherwydd mudo net positif (oddeutu 55,000 o breswylwyr arferol) i mewn i Gymru.
Nôl i'r tabl cynnwys3. Poblogaethau awdurdodau lleol yng Nghymru
Yr awdurdod lleol â'r boblogaeth fwyaf yn 2021 oedd Caerdydd, oedd â 362,400 o breswylwyr arferol. Yr awdurdod lleol â'r boblogaeth leiaf oedd Merthyr Tudful, oedd â 58,800 o breswylwyr arferol.
Casnewydd oedd â'r gyfradd uchaf o dwf yn y boblogaeth ers 2011 (sef 9.5%). Mae hyn yn uwch na chyfraddau twf y boblogaeth ar gyfer Cymru (1.4%) a Lloegr (6.6%). Caerdydd (4.7%) oedd â'r ail gyfradd uchaf o dwf yn y boblogaeth, ac yna Pen-y-bont ar Ogwr (4.5%).
Roedd gan sawl awdurdod lleol boblogaethau is yn 2021 nag yn 2011. Roedd y cyfraddau mwyaf o leihad yn y boblogaeth ers 2011 yng Ngheredigion (5.8%), Blaenau Gwent (4.2%) a Gwynedd (3.7%).
Gallwch ddysgu mwy am y ffordd y mae'r boblogaeth wedi newid mewn ardaloedd awdurdod lleol gwahanol a sut maent yn cymharu â rhai eraill ledled Cymru a Lloegr yn ein herthygl ryngweithiol (Saesneg yn unig).
Gall newid yn y boblogaeth mewn rhai ardaloedd adlewyrchu'r ffordd y gwnaeth pandemig y coronafeirws (COVID-19) effeithio ar y breswylfa arferol a ddewiswyd gan bobl ar Ddiwrnod y Cyfrifiad. Gallai'r newidiadau hyn fod wedi bod yn rhai dros dro i rai pobl ac yn fwy hirdymor i bobl eraill.
Mae gan bob cyfrifiad amgylchiadau unigryw ac, i Gyfrifiad 2021, bydd y data yn arbennig o bwysig ar gyfer deall y boblogaeth a'i nodweddion yn ystod pandemig y coronafeirws. Mae ein hadroddiad Gwybodaeth am Ansawdd a Methodoleg yn esbonio beth mae hyn yn ei olygu i'r data. Rydym eisoes wedi gallu defnyddio data cynnar o'r cyfrifiad i lywio ein hymateb i bandemig y coronafeirws (Saesneg yn unig) ac i gefnogi ein hymateb dyngarol i ymosodiad Rwsia ar Wcráin (Saesneg yn unig).
Ffigur 2: Newid yn y boblogaeth rhwng 2011 a 2021, awdurdodau lleol yng Nghymru
Embed code
Lawrlwythwch y data
Nôl i'r tabl cynnwys4. Oedran a rhyw y boblogaeth
Yn gyffredinol, roedd 1,586,600 o fenywod (51.1% o'r boblogaeth gyffredinol) a 1,521,000 o ddynion (48.9%) yng Nghymru yn 2021. Mae hyn yn debyg iawn i'r gymhareb rhwng menywod (51.0%) a dynion (49.0%) yn Lloegr. Mae hefyd yn debyg i'r gymhareb yng Nghymru yn 2011, pan oedd 50.9% (1,559,228) o'r boblogaeth yn fenywod a 49.1% (1,504,228) yn ddynion.
Mae'r duedd bod y boblogaeth yn heneiddio wedi parhau, ac mae mwy o bobl nag erioed o'r blaen yn y grwpiau oedran hŷn. Roedd dros un rhan o bump (21.3%) o boblogaeth Cymru yn 2021 (662,000) yn 65 oed a throsodd, i fyny o 18.4% (562,544) yn 2011. Mae maint y boblogaeth 90 oed a throsodd (29,700, 1.0%) wedi cynyddu ers 2011, pan oedd 25,200, 0.8%, yn 90 oed a throsodd
Gwelwyd yr un patrymau yn Lloegr, lle cynyddodd canran y boblogaeth 65 oed a throsodd o 16.3% yn 2011 i 18.4% yn 2021. Cynyddodd canran y bobl 90 oed a throsodd hefyd o 0.8% yn 2011 i 0.9% yn 2021.
Roedd bron dwy ran o dair (62.2%) o boblogaeth Cymru (1,931,800) rhwng 15 a 64 oed. Mae maint y grŵp oedran hwn wedi lleihau ychydig ers 2011, pan oedd 64.7% o'r boblogaeth gyffredinol (1,981,784) rhwng 15 a 64 oed.
Roedd yr 16.5% o'r boblogaeth (513,800) a oedd yn weddill yng Nghymru dan 15 oed. Mae maint y grŵp oedran hwn wedi lleihau ers 2011 hefyd, pan oedd 16.9% (519,128) dan 15 oed.
Ffigur 3: Mae'r duedd bod y boblogaeth yn heneiddio wedi parhau
Oedran a rhyw y boblogaeth rhwng 2011 a 2021, Cymru
Embed code
Lawrlwythwch y data
Roedd canran fwy o'r boblogaeth yn 65 oed a throsodd yng Nghymru nag yn holl ranbarthau Lloegr, heblaw am Dde-orllewin Lloegr, lle roedd 22.3% o'r boblogaeth yn y grŵp oedran hwn. Yr ardaloedd yng Nghymru â'r canrannau uchaf o bobl 65 oed a throsodd oedd Powys (27.8%), Conwy (27.4%) ac Ynys Môn (26.4%), a'r ardal â'r ganran uchaf o bobl 90 oed a throsodd oedd Conwy (1.5%).
Roedd canran y boblogaeth rhwng 15 a 64 oed yn fwy yn Lloegr (64.2%) nag yng Nghymru (62.2%). Yr unig ranbarth yn Lloegr â chanran is o bobl yn y grŵp oedran hwn na Chymru oedd De-orllewin Lloegr (61.8%). Yr ardaloedd yng Nghymru â'r canrannau uchaf o bobl rhwng 15 a 64 oed oedd Caerdydd (68.4%) a Chasnewydd (64.2%).
Yn olaf, roedd canran y boblogaeth dan 15 oed hefyd yn fwy yn Lloegr (17.4%) nag yng Nghymru (16.5%). Unwaith eto, De-orllewin Lloegr (15.9%) oedd yr unig ranbarth yn Lloegr â chanran is o bobl yn y grŵp oedran hwn na Chymru. Yr awdurdodau lleol yng Nghymru â'r canrannau uchaf o'r boblogaeth dan 15 oed oedd Casnewydd (19.0%) a Merthyr Tudful (18.0%), ac awdurdodau lleol Ceredigion (13.1%) a Phowys (14.4%) oedd â'r canrannau isaf.
Ffigur 4: Strwythur oedran y boblogaeth, 2021, awdurdodau lleol yng Nghymru
Embed code
Lawrlwythwch y data
Nôl i'r tabl cynnwys5. Y boblogaeth ac arwynebedd tir
Roedd 150 o breswylwyr fesul cilomedr sgwâr yng Nghymru yn 2021. Mae hyn tua'r un faint â 1.1 preswylydd fesul darn o dir maint cae pêl-droed. Mae ychydig yn uwch na'r 148 o breswylwyr fesul cilomedr sgwâr yn 2011 ac yn cymharu â 106 o breswylwyr fesul cilomedr sgwâr ganrif yn ôl yn 1921.
Mae dwysedd y boblogaeth yng Nghymru yn sylweddol is na dwysedd y boblogaeth yn Lloegr, lle roedd 434 o breswylwyr fesul cilomedr sgwâr. Roedd dwysedd y boblogaeth yng Nghymru hefyd yn is na'r rhanbarth lleiaf poblog yn Lloegr, sef De-orllewin Lloegr (239 o breswylwyr fesul cilomedr sgwâr). Roedd dwysedd y boblogaeth yn Llundain, sef y rhanbarth fwyaf poblog yn Lloegr (5,598 o breswylwyr fesul cilomedr sgwâr), fwy na 37 o weithiau'n fwy na dwysedd y boblogaeth yng Nghymru.
Yr awdurdod lleol mwyaf poblog yng Nghymru oedd Caerdydd (2,572 o breswylwyr fesul cilomedr sgwâr), a oedd fwy na thair gwaith yn fwy poblog na'r ail ardal uchaf, sef Casnewydd (838 o breswylwyr fesul cilomedr sgwâr). Yr awdurdod lleol lleiaf poblog oedd Powys (26 o breswylwyr fesul cilomedr sgwâr). Roedd ardaloedd eraill lle roedd dwysedd y boblogaeth yn isel yn cynnwys Ceredigion (40 o breswylwyr fesul cilomedr sgwâr) a Gwynedd (46 o breswylwyr fesul cilomedr sgwâr).
Ffigur 5: Dwysedd y boblogaeth, 2021 a newidiadau ers 2011, awdurdodau lleol yng Nghymru
Embed code
Nodiadau:
- Mae dwysedd y boblogaeth ar gyfer 2021 wedi'i gyfrifo gan ddefnyddio amcangyfrifon o'r boblogaeth wedi'u talgrynnu i'r cant agosaf.
Lawrlwythwch y data
Nôl i'r tabl cynnwys6. Nifer y cartrefi
Mae'r cyfrifiad yn ein galluogi i amcangyfrif nifer y cartrefi yng Nghymru a Lloegr. Yn unol â’n diffiniad yn y Rhestr termau, mae’n rhaid i gartref gael o leiaf un preswylydd arferol.
Roedd 1,347,100 o gartrefi yng Nghymru ar Ddiwrnod y Cyfrifiad, sy'n gynnydd o 3.4% (44,400 yn fwy o gartrefi) ar y 1,302,676 o gartrefi yn 2011. Mae'r gyfradd twf hon yn is na'r gyfradd rhwng 2001 a 2011 yng Nghymru, lle cynyddodd nifer y cartrefi 7.7%.
Roedd y cynnydd yn nifer y cartrefi yng Nghymru yn is nag yn Lloegr, lle roedd 6.2% yn fwy o gartrefi o gymharu â 2011. Roedd cyfradd y cynnydd yng Nghymru hefyd yn is na phob rhanbarth yn Lloegr, a oedd yn amrywio rhwng 4.1% yng Ngogledd-ddwyrain Lloegr ac 8.5% yn Nwyrain Lloegr.
Cynyddodd nifer y cartrefi ym mhob awdurdod lleol ond tri yng Nghymru o gymharu â 2011. Yn awdurdodau lleol Casnewydd (cynnydd o 8.1%), Bro Morgannwg (cynnydd o 7.5%) a Sir Fynwy (cynnydd o 7.0%) y gwelwyd y cynnydd mwyaf. Yr ardaloedd lle gwelwyd gostyngiad yn nifer y cartrefi oedd Gwynedd (gostyngiad o 2.6%), Ceredigion (gostyngiad o 2.1%) a Blaenau Gwent (gostyngiad o 0.4%).
Ffigur 6: Newidiadau yn nifer y cartrefi rhwng 2011 a 2021, awdurdodau lleol yng Nghymru
Embed code
Lawrlwythwch y data
Nôl i'r tabl cynnwys7. Cyhoeddiadau yn y dyfodol
Mae'r bwletin hwn wedi adrodd ar amcangyfrifon o'r boblogaeth a chartrefi wedi'u talgrynnu ar gyfer awdurdodau lleol yng Nghymru. Rydym hefyd wedi cyhoeddi bwletin ar gyfer amcangyfrifon o'r boblogaeth a chartrefi wedi'u talgrynnu yng Nghymru a Lloegr.
Rydym yn bwriadu cyhoeddi amcangyfrifon o'r boblogaeth a chartrefi heb eu talgrynnu yn hydref 2022. Bydd hyn hefyd yn cynnwys dadansoddiad o'r boblogaeth fesul blwyddyn oedran unigol, yn hytrach na grwpiau oedran eang.
Darllenwch am ddata a dadansoddiadau eraill a fydd ar gael o Gyfrifiad 2021 yn ein cynlluniau ar gyfer rhyddhau.
Nôl i'r tabl cynnwys8. Amcangyfrifon o'r boblogaeth a chartrefi , Cymru: data
Amcangyfrifon o'r boblogaeth a chartrefi, Cymru: Cyfrifiad 2021
Set ddata | Cyhoeddwyd ar 28 Mehefin 2022
Amcangyfrifon Cyfrifiad 2021 o'r boblogaeth a chartrefi wedi'u talgrynnu ar gyfer awdurdodau lleol yng Nghymru, yn ôl rhyw a grŵp oedran pum mlynedd.
Amcangyfrifon o'r boblogaeth a chartrefi, Cymru a Lloegr: Cyfrifiad 2021
Set ddata | Cyhoeddwyd ar 28 Mehefin 2022
Amcangyfrifon Cyfrifiad 2021 o'r boblogaeth a chartrefi wedi'u talgrynnu ar gyfer awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr, yn ôl rhyw a grŵp oedran pum mlynedd.
9. Rhestr termau
Oedran
Oedran person ar Ddiwrnod y Cyfrifiad, 21 Mawrth 2021 yng Nghymru. Caiff babanod o dan flwydd oed eu dosbarthu'n 0 oed.
Cartref
Mae cartref yn golygu:
- un person sy’n byw ar ei ben ei hun; neu
- grŵp o bobl (nid oes rhaid iddyn nhw berthyn i’w gilydd) sy’n byw yn yr un cyfeiriad, ac sy’n rhannu cyfleusterau coginio ac ystafell fyw neu lolfa neu le bwyta
Mae hyn yn cynnwys:
- pob uned llety gwarchod mewn sefydliad (ni waeth a oes cyfleusterau cymunedol eraill), a
- phawb sy’n byw mewn carafanau ar unrhyw fath o safle sy’n gartref arferol iddynt; bydd hyn yn cynnwys unrhyw un sydd heb gartref arferol arall yn y Deyrnas Unedig
Rhaid bod gan gartref o leiaf un preswylydd arferol yn y cyfeiriad. Ni chaiff grŵp o breswylwyr byrdymor sy'n byw gyda'i gilydd na grŵp o ymwelwyr sy'n aros mewn cyfeiriad eu hystyried yn gartref.
Awdurdod lleol
Y term cyffredinol ar gyfer corff sy'n gweinyddu gwasanaethau llywodraeth leol.
Yng Nghymru, mae awdurdodau unedol un haen. Yn Lloegr, caiff llywodraeth leol ei gweinyddu gan naill ai awdurdodau lleol un haen neu awdurdodau lleol dwy haen. Mae'r awdurdodau un haen yn cynnwys awdurdodau unedol, dosbarthau metropolitanaidd, a bwrdeistrefi Llundain, er y caiff rhai gwasanaethau, fel cynllunio trafnidiaeth, eu darparu gan Awdurdod Llundain Fwyaf. Mae'r awdurdodau dwy haen mewn ardaloedd eraill yn cynnwys siroedd a dosbarthau anfetropolitanaidd.
Dwysedd y boblogaeth
Nifer y bobl sy'n byw mewn ardal fesul cilomedr sgwâr yw hyn. Mae un cilomedr sgwâr yn cyfateb i 100 hectar.
Rhyw
Y rhyw a gofnodwyd gan y person a oedd yn cwblhau'r cyfrifiad yw hyn. Yr opsiynau oedd “Benyw” a “Gwryw”
Preswylydd arferol
Ystyr preswylydd arferol yng Nghymru yw unrhyw un a oedd yn byw neu'n aros yng Nghymru am 12 mis neu fwy ar Ddiwrnod y Cyfrifiad, 21 Mawrth 2021, neu oedd â chyfeiriad parhaol yng Nghymru ac a oedd yn aros y tu allan i Gymru am lai na 12 mis.
Nôl i'r tabl cynnwys10. Mesur y data
Dyddiad cyfeirio
Mae'r cyfrifiad yn rhoi amcangyfrifon o nodweddion pob unigolyn a chartref yng Nghymru a Lloegr ar Ddiwrnod y Cyfrifiad, 21 Mawrth 2021. Caiff ei gynnal unwaith bob 10 mlynedd ac mae'n rhoi'r amcangyfrif mwyaf cywir o'r holl bobl a chartrefi yng Nghymru a Lloegr i ni.
Rydym yn gyfrifol am gynnal y cyfrifiad yng Nghymru a Lloegr, ond byddwn hefyd yn rhyddhau allbynnau ar gyfer y Deyrnas Unedig mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, Cofnodion Cenedlaethol yr Alban ac Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon.
Cafodd y cyfrifiad yng Ngogledd Iwerddon ei gynnal ar 21 Mawrth 2021 hefyd, ond cafodd cyfrifiad yr Alban ei symud i 20 Mawrth 2022. Mae holl swyddfeydd y cyfrifiad yn y Deyrnas Unedig yn gweithio'n agos i ddeall sut y bydd y gwahaniaeth hwn mewn dyddiadau cyfeirio yn effeithio ar ystadegau poblogaeth a thai'r Deyrnas Unedig gyfan, o ran yr amseru a'r cwmpas.
Cyfradd ymateb
Cyfradd ymateb unigolion yw nifer y preswylwyr arferol y cafodd manylion unigol eu darparu ar eu cyfer ar holiadur a ddychwelwyd, wedi'i rannu ag amcangyfrif o'r boblogaeth breswyl arferol.
Y gyfradd ymateb unigolion ar gyfer Cyfrifiad 2021 yng Nghymru oedd 96.4% o'r boblogaeth breswyl arferol, a dros 94% ym mhob awdurdod lleol.
Roedd cyfran y ffurflenni a ddychwelwyd ar lein yn is yng Nghymru (68%) nag yn Lloegr (90%). Mae'n debyg bod hyn oherwydd bod canran uwch o gartrefi yng Nghymru nag yn Lloegr lle cafodd holiadur papur ei ddefnyddio fel cyswllt cychwynnol yn hytrach na chod mynediad ar-lein (50% yng Nghymru o gymharu â 9% yn Lloegr (Saesneg yn unig)), gan eu bod mewn ardaloedd lle disgwyliwyd mai nifer bach o bobl fyddai'n dewis defnyddio'r opsiwn ar-lein.
Y gyfradd ymateb unigolion ar gyfer Cymru a Lloegr gyda'i gilydd oedd 97% o'r boblogaeth breswyl arferol, a dros 88% ym mhob awdurdod lleol. Gwnaeth hyn ragori ar ein targed ar gyfer y gyfradd ymateb, sef 94% yn gyffredinol ac 80% ym mhob awdurdod lleol.
Gofynion seneddol
Cafodd y bwletin hwn ei rannu â Gweinidogion perthnasol Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig ddydd Llun 27 Mehefin, er mwyn bodloni gofynion Adran 4 o Ddeddf y Cyfrifiad 1920 y dylid argraffu ffurflenni'r cyfrifiad a'u cyflwyno gerbron y Senedd. Cytunwyd ar hyn gan yr Ystadegydd Gwladol.
Nôl i'r tabl cynnwys11. Cryfderau a chyfyngiadau
Cryfderau
Mae'r cyfrifiad yn rhoi'r darlun manylaf posibl o'r boblogaeth gyfan, a gofynnir yr un cwestiynau craidd i bawb ledled Cymru a Lloegr.
Mae'r Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau wedi asesu amcangyfrifon y cyfrifiad yn annibynnol a chadarnhau eu bod yn cydymffurfio â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau (Saesneg yn unig). Cafodd allbynnau Cyfrifiad 2021 eu dynodi'n Ystadegau Gwladol (Saesneg yn unig) gan Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig, gan roi sicrwydd bod yr ystadegau hyn o'r ansawdd a'r gwerth gorau posibl i ddefnyddwyr.
Gwnaethom ymgymryd â phroses sicrhau ansawdd drwyadl a chynhwysfawr, gan gynnwys cymharu â'r ystod ehangaf o ffynonellau data amgen ac ategol erioed. Yn ogystal, am y tro cyntaf, gwnaethom wahodd awdurdodau lleol i fwrw golwg dros amcangyfrifon dros dro o'r cyfrifiad, gan fanteisio ar eu harbenigedd lleol, ar yr un pryd â'n gwiriadau sicrhau ansawdd ein hunain. Ceir gwybodaeth fanwl yn ein hadroddiad Sicrhau bod amcangyfrifon poblogaeth Cyfrifiad 2021 o'r ansawdd gorau posibl (Saesneg yn unig).
Mae amcangyfrifon y cyfrifiad yn bwysig ar gyfer deall cywirdeb amcangyfrifon eraill o'r boblogaeth. Er enghraifft, mae amcangyfrifon poblogaeth canol blwyddyn (MYE) (Saesneg yn unig) yn seiliedig ar y cyfrifiad diweddaraf a chânt eu haddasu ar gyfer genedigaethau byw, marwolaethau a mudo, ond bydd y posibilrwydd o wall ystadegol yn yr amcangyfrifon hyn yn cynyddu dros amser rhwng cyfrifiadau. Rydym hefyd yn datblygu amcangyfrifon poblogaeth yn seiliedig ar ddata gweinyddol (ABPE) (Saesneg yn unig), sy'n defnyddio ffynonellau data gweinyddol yn hytrach na bod yn seiliedig ar amcangyfrifon y cyfrifiad. Rydym yn bwriadu cyhoeddi adroddiadau yn cymharu amcangyfrifon poblogaeth Cyfrifiad 2021 â'r MYE a'r ABPE diweddaraf, gan gynnwys esboniadau o unrhyw wahaniaethau, yn ddiweddarach eleni.
Mae ein cyfradd ymateb uchel iawn a'n proses casglu ar-lein helaeth wedi sicrhau ein bod wedi casglu data o ansawdd uchel iawn am y boblogaeth a'i nodweddion ar Ddiwrnod y Cyfrifiad. Roedd yn arbennig o bwysig deall sut y gwnaeth pandemig y coronafeirws (COVID19) effeithio ar ein poblogaeth, a sut mae'n parhau i wneud hynny mewn amrywiaeth o ffyrdd (er enghraifft, effeithiau ar iechyd, gweithio gartref). Bydd data'r cyfrifiad a'n gwaith parhaus i drawsnewid ein system ystadegau cymdeithasol yn ein helpu i ddeall a mesur newidiadau yn y boblogaeth yn fwy effeithiol nag erioed o'r blaen.
Cyfyngiadau a chamau lliniaru
Mae'r canlyniadau cyntaf o Gyfrifiad 2021 yn rhoi amcangyfrifon cynnar o'r boblogaeth a chartrefi wedi'u talgrynnu ar gyfer Cymru a Lloegr. Gan eu bod wedi'u talgrynnu, mae'n bosibl felly na fydd ffigurau yn adio'n fanwl gywir. Caiff ffigurau heb eu talgrynnu eu cyhoeddi yn ystod hydref 2022. Mae'n bosibl y bydd y ffigurau ychydig yn wahanol mewn datganiadau yn y dyfodol oherwydd effaith dileu talgrynnu a chymhwyso prosesau ystadegol pellach. Caiff data cyfrifiad hanesyddol heb eu talgrynnu eu defnyddio ar gyfer pob cymhariaeth â chyfrifiadau blaenorol
Amcangyfrifon yw ystadegau'r cyfrifiad yn hytrach na chyfrifiadau, ac felly mae rhywfaint o ansicrwydd yn gysylltiedig â nhw. Rydym yn cymryd nifer o gamau i leihau gwallau posibl, a chaiff y rhain eu disgrifio yn ein hadroddiad Gwybodaeth am Ansawdd a Methodoleg.
Mae'n bosibl bod pandemig y coronafeirws (COVID-19) wedi effeithio ar y breswylfa arferol a ddewiswyd gan bobl ar Ddiwrnod y Cyfrifiad, er enghraifft, myfyrwyr ac mewn rhai ardaloedd trefol. Gallai'r newidiadau hyn fod wedi bod yn rhai dros dro i rai pobl ac yn fwy hirdymor i bobl eraill. Rydym yn trafod beth mae hyn yn ei olygu i'r data yn ein hadroddiad Gwybodaeth am Ansawdd a Methodoleg.
Nid yw'r un cyfrifiad yn berffaith – mae'n anochel y bydd rhai pobl yn cael eu colli neu eu cyfrif ddwywaith. Mae Arolwg Cwmpas y Cyfrifiad yn ein galluogi i amcangyfrif faint o bobl sydd wedi cael eu colli neu eu cyfrif ddwywaith. Mae gennym brosesau sy'n chwilio am ymatebion lluosog a'u datrys hefyd, gan ein galluogi i addasu cyfrifiadau'r cyfrifiad yn briodol. Ceir mwy o wybodaeth yn ein hadroddiad Sicrhau bod amcangyfrifon poblogaeth Cyfrifiad 2021 o'r ansawdd gorau posibl (Saesneg yn unig).
Fel gyda phob holiadur hunanlenwi, bydd rhai ffurflenni wedi cynnwys gwybodaeth anghywir, anghyflawn neu wybodaeth sydd ar goll am unigolyn neu gartref. Gwnaethom ddefnyddio strategaethau golygu a phriodoli i gywiro anghysondebau a gwybodaeth a oedd ar goll. Ceir gwybodaeth bellach am hyn mewn adroddiad manylach yn ddiweddarach eleni.
Statws Ystadegau Gwladol i Gyfrifi ad 2021
Mae'r Ystadegau Gwladol hyn wedi cael eu hasesu'n annibynnol gan Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig. Maent wedi cael eu cynhyrchu yn unol â'r safonau a nodir yn y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau (Saesneg yn unig) a Deddf Ystadegau a Gwasanaeth Cofrestru 2007 (Saesneg yn unig) sy'n golygu eu bod:
yn diwallu anghenion defnyddwyr a nodwyd
wedi'u hesbonio'n dda ac ar gael yn hawdd
wedi'u cynhyrchu yn seiliedig ar ddata a dulliau priodol
yn cael eu rheoli mewn modd diduedd a gwrthrychol er budd y cyhoedd.
Dyddiad yr asesiad llawn diweddaraf: Mehefin 2022
Nôl i'r tabl cynnwys12. Dolenni cysylltiedig
Amcangyfrifon o'r boblogaeth a chartrefi, Cymru a Lloegr: Cyfrifiad 2021
Bwletin | Cyhoeddwyd ar 28 Mehefin 2022
Bwletin yn amlinellu'r canlyniadau cyntaf o Gyfrifiad 2021 ar gyfer Cymru a Lloegr.
Sut newidiodd y boblogaeth ble rydych chi'n byw: Cyfrifiad 2021 (Saesneg yn unig)
Erthygl cynnwys digidol | Cyhoeddwyd ar 28 Mehefin 2022
Erthygl ryngweithiol sy'n adrodd stori wrth sgrolio, gan ddelweddu'r canlyniadau cyntaf o Gyfrifiad 2021 yng Nghymru a Lloegr ar lefel leol.
Chwaraewch gêm map poblogaeth Cyfrifiad 2021 (Saesneg yn unig)
Gêm ar-lein | Cyhoeddwyd ar 28 Mehefin 2022
Gêm ar-lein yn seiliedig ar ddata Cyfrifiad 2021 sy'n herio chwaraewyr i symud ar draws map o Gymru a Lloegr drwy ddyfalu ffeithiau am awdurdodau lleol cyfagos yn gywir.
Gwybodaeth am Ansawdd a Methodoleg ar gyfer Cyfrifiad 2021
Methodoleg | Cyhoeddwyd ar 28 Mehefin 2022
Yn rhoi manylion am gryfderau, cyfyngiadau, defnyddiau, defnyddwyr a dulliau Cyfrifiad 2021, Cymru a Lloegr.
Sicrhau bod amcangyfrifon poblogaeth Cyfrifiad 2021 o'r ansawdd gorau posibl (Saesneg yn unig)
Methodoleg | Cyhoeddwyd ar 28 Mehefin 2022
Sut y gwnaethom sicrhau bod amcangyfrifon poblogaeth Cyfrifiad 2021 o'r ansawdd gorau posibl wrth brosesu a sicrhau ansawdd yr ystadegau terfynol.
Cymharwch amcangyfrifon oedran-rhyw o Gyfrifiad 2021 ag ardaloedd yn Lloegr a Chymru (Saesneg yn unig)
Methodoleg | Cyhoeddwyd ar 28 Mehefin 2022
Adnodd rhyngweithiol i gymharu awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr gan ddefnyddio amcangyfrifon oedran-rhyw a gwybodaeth sicrhau ansawdd.
Gwybodaeth datganiad cyntaf Cyfrifiad 2021 mewn fformatau hygyrch
Tudalen we I’ch helpu i gael gwybodaeth am ganlyniadau Cyfrifiad 2021, rydym wedi cynhyrchu gwybodaeth mewn rhai fformatau hygyrch.
Cyfres amser rhyw Cyfrifiadau 1981 i 2021
Data | Cyhoeddwyd ar 28 June 2022
Mae'r tabl hwn yn rhoi amcangyfrifon y Cyfrifiad rhwng 1981 a 2021 (cyfres amser) sy'n dosbarthu pob preswylydd arferol yn ôl rhyw.
Cyfres amser oedran Cyfrifiadau 1981 i 2021
Data | Cyhoeddwyd ar 28 June 2022
Amcangyfrifon y cyfrifiad rhwng 1981 a 2021 (cyfres amser) sy'n dosbarthu pob preswylydd arferol yn ôl oedran.
Cyfres amser rhyw yn ôl oedran Cyfrifiadau 1981 i 2021
Data | Cyhoeddwyd ar 28 June 2022
Amcangyfrifon y cyfrifiad rhwng 1981 a 2021 (cyfres amser) sy'n dosbarthu pob preswylydd arferol yn ôl rhyw ac oedran.
Cyfres amser dwysedd y boblogaeth Cyfrifiadau 1981 i 2021
Data | Cyhoeddwyd ar 28 June 2022
Amcangyfrifon y cyfrifiad rhwng 1981 a 2021 (cyfres amser) sy'n dosbarthu nifer y bobl fesul cilomedr sgwâr (Dwysedd y boblogaeth).