Amcangyfrifon o'r boblogaeth a chartrefi, Cymru a Lloegr: Cyfrifiad 2021

Amcangyfrifon Cyfrifiad 2021 o'r boblogaeth a chartrefi wedi'u talgrynnu ar gyfer awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr, yn ôl rhyw a grŵp oedran pum mlynedd.

Hwn yw'r datganiad diweddaraf. Gweld datganiadau blaenorol

28 June 2022

Oherwydd materion technegol, dim ond fersiwn Saesneg y bwletin hwn y mae'r PDF yn ei ddangos. Mae'r PDF Cymraeg ar gael i'w lawrlwytho yma.

Census
This is an accredited National Statistic. Click for information about types of official statistics.

Cyswllt:
Email Michael Roskams

Dyddiad y datganiad:
28 June 2022

Cyhoeddiad nesaf:
To be announced

1. Prif bwyntiau

Mae’r dudalen hon hefyd ar gael yn Saesneg (English).

  • Ar Ddiwrnod y Cyfrifiad, 21 Mawrth 2021, maint y boblogaeth breswyl arferol yng Nghymru a Lloegr oedd 59,597,300 (3,107,500 yng Nghymru a 56,489,800 yn Lloegr); dyma'r boblogaeth fwyaf a gofnodwyd erioed drwy gyfrifiad yng Nghymru a Lloegr.

  • Cynyddodd poblogaeth Cymru a Lloegr fwy na 3.5 miliwn (6.3%) ers y cyfrifiad diwethaf yn 2011, pan oedd yn 56,075,912.

  • Cynyddodd y boblogaeth ym mhob un o'r naw rhanbarth yn Lloegr, a chynyddodd yng Nghymru hefyd; y rhanbarth lle cynyddodd y boblogaeth fwyaf oedd Dwyrain Lloegr, sef 8.3% o 2011 (cynnydd o oddeutu 488,000 o breswylwyr).

  • Roedd 30,420,100 o fenywod (51.0% o'r boblogaeth) a 29,177,200 o ddynion (49.0%) yng Nghymru a Lloegr.

  • Roedd mwy o bobl nag erioed o'r blaen yn y grwpiau oedran hŷn; cyfran y boblogaeth a oedd yn 65 oed a throsodd oedd 18.6% (16.4% yn 2011).

  • Roedd 24,782,800 o gartrefi yng Nghymru a Lloegr ar Ddiwrnod y Cyfrifiad; cynyddodd nifer y cartrefi fwy nag 1.4 miliwn ers 2011 (6.1%), pan oedd 23,366,044 o gartrefi.

Nôl i'r tabl cynnwys

2. Twf y boblogaeth yng Nghymru a Lloegr rhwng 2011 a 2021

Roedd poblogaeth breswyl arferol Cymru a Lloegr yn 59,597,300 ar Ddiwrnod y Cyfrifiad, 21 Mawrth 2021.

Dyma'r boblogaeth fwyaf a gofnodwyd erioed drwy gyfrifiad yng Nghymru a Lloegr. Cynyddodd y boblogaeth fwy na 3.5 miliwn (6.3%) o gymharu â Diwrnod y Cyfrifiad yn 2011, pan oedd 56,075,912 o bobl yng Nghymru a Lloegr. Roedd 3,107,500 o bobl yng Nghymru a 56,489,800 o bobl yn Lloegr. Yn Lloegr, cynyddodd y boblogaeth bron 3.5 miliwn (6.6%) o'r amcangyfrif o'r boblogaeth yng Nghyfrifiad 2011, sef 53,012,456 o bobl.

Roedd y gyfradd twf yn sylweddol is yng Nghymru, lle cynyddodd y boblogaeth 44,000 (1.4%) o'r amcangyfrif o'r boblogaeth yng Nghyfrifiad 2011, sef 3,063,456 o bobl.

Mae cyfradd twf y boblogaeth yng Nghymru a Lloegr yn ystod y degawd diwethaf wedi lleihau ychydig o gymharu â'r gyfradd rhwng 2001 a 2011, pan gynyddodd y boblogaeth 7.8% (4.0 miliwn o bobl).

Ers y cyfrifiad cyntaf ym Mhrydain Fawr yn 1801, roedd cyfradd twf y boblogaeth yng Nghymru a Lloegr ar ei huchaf rhwng 1801 a 1911, pan gynyddodd y boblogaeth 13.6% bob degawd ar gyfartaledd. Yn dilyn hyn, mae cyfradd twf y boblogaeth hyd at 2021 wedi bod yn is, gan gynyddu ar gyfradd rhwng 2.8% a 7.8% ym mhob cyfnod o 10 mlynedd heblaw rhwng 1971 ac 1981, pan ostyngodd y boblogaeth 0.5%.

Ffigur 1: Mae'r boblogaeth wedi parhau i gynyddu yng Nghymru a Lloegr

Y boblogaeth rhwng 1801 a 2021, Cymru a Lloegr

Embed code

Nodiadau:
  1. Nid oedd cyfrifiad yn 1941 oherwydd yr Ail Ryfel Byd.
  2. Roedd cyfrifiadau cyn 1981 yn cofnodi'r boblogaeth a oedd yn bresennol, yn hytrach na phreswylwyr arferol.
  3. O 1981, mae'r ystadegau yn ymwneud â phreswylwyr arferol ac, o 2001 ymlaen, maent yn cynnwys amcangyfrifon o'r rheini na chawsant eu cyfrif.
Lawrlwythwch y data

.xlsx

Caiff newidiadau ym maint y boblogaeth eu hachosi gan enedigaethau, marwolaethau, a mudo mewnol a rhyngwladol. Gall defnyddio data ar enedigaethau byw a marwolaethau a gaiff eu cofrestru, yn ogystal ag amcangyfrifon mudo, roi dealltwriaeth fanylach o gydrannau newid yn y boblogaeth ers 2011. Mae'n bosibl na fydd y rhain yn cyd-fynd yn union ag amcangyfrifon y cyfrifiad am sawl rheswm – cyfeiriwch at yr adran Cryfderau a chyfyngiadau am ragor o wybodaeth.

Mae data misol yn dangos o fis Ebrill 2011 tan ddiwedd mis Mawrth 2021 fod 6.8 miliwn o enedigaethau byw (Saesneg yn unig) a 5.3 miliwn o farwolaethau wedi'u cofrestru (Saesneg yn unig) yng Nghymru a Lloegr. Mae hyn yn cynrychioli cynnydd naturiol o oddeutu 1.5 miliwn o breswylwyr arferol (42.5% o'r cynnydd cyffredinol yn y boblogaeth). Mae'r twf yn y boblogaeth sy'n weddill (oddeutu 2.0 miliwn o breswylwyr arferol, 57.5% o'r cynnydd cyffredinol yn y boblogaeth) o ganlyniad i fudo net positif i Gymru a Lloegr.

Nôl i'r tabl cynnwys

3. Meintiau a newidiadau yn y boblogaeth mewn rhanbarthau ac awdurdodau lleol

Cynyddodd y boblogaeth ym mhob un o'r naw rhanbarth yn Lloegr, ac yng Nghymru hefyd, rhwng 2011 a 2021. Y rhanbarth lle cynyddodd y boblogaeth fwyaf oedd Dwyrain Lloegr, sef 8.3% o 2011 (cynnydd o oddeutu 488,000 o bobl). Gwelwyd yr ail gynnydd mwyaf yn Ne-orllewin Lloegr (a gynyddodd 7.8%, sef cynnydd o oddeutu 412,000 o bobl) ac yna Llundain (a gynyddodd 7.7%, sef cynnydd o bron 626,000 o bobl).

Ffigur 2: Roedd y cynnydd mwyaf yn y boblogaeth yn nwyrain Lloegr

Newid yn y boblogaeth rhwng 2011 a 2021, Cymru a rhanbarthau Lloegr

Embed code

Lawrlwythwch y data

.xlsx

Roedd twf y boblogaeth yng Nghymru yn is na holl ranbarthau Lloegr, gan gynyddu 1.4% (cynnydd o oddeutu 44,000 o bobl). Mae hyn ychydig yn is na'r gyfradd twf yng Ngogledd-ddwyrain Lloegr (1.9%, cynnydd o oddeutu 50,000 o bobl), sef y rhanbarth yn Lloegr â'r twf lleiaf yn y boblogaeth.

Gwelwyd cynnydd yn y boblogaeth yn y rhan fwyaf o ardaloedd awdurdod lleol rhwng 2011 a 2021, ond gostyngodd y boblogaeth mewn rhai ardaloedd. Yr ardaloedd â'r gostyngiad mwyaf yn y boblogaeth oedd Kensington a Chelsea (gostyngiad o 9.6%) a Westminster (gostyngiad o 6.9%). Yr ardaloedd â'r cyfraddau uchaf o dwf yn y boblogaeth oedd Tower Hamlets (cynnydd o 22.1%) a Dartford (cynnydd o 20.0%).

Gallwch ddysgu mwy am y ffordd y mae'r boblogaeth wedi newid mewn ardaloedd awdurdod lleol gwahanol a sut maent yn cymharu â rhai eraill ledled Cymru a Lloegr yn ein herthygl ryngweithiol (Saesneg yn unig).

Gall newid yn y boblogaeth mewn rhai ardaloedd adlewyrchu'r ffordd y gwnaeth pandemig y coronafeirws (COVID-19) effeithio ar y breswylfa arferol a ddewiswyd gan bobl ar Ddiwrnod y Cyfrifiad. Gallai'r newidiadau hyn fod wedi bod yn rhai dros dro i rai pobl ac yn fwy hirdymor i bobl eraill.

Mae gan bob cyfrifiad amgylchiadau unigryw ac, i Gyfrifiad 2021, bydd y data yn arbennig o bwysig ar gyfer deall y boblogaeth a'i nodweddion yn ystod pandemig y coronafeirws. Mae ein hadroddiad Gwybodaeth am Ansawdd a Methodoleg yn esbonio beth mae hyn yn ei olygu i'r data. Rydym eisoes wedi gallu defnyddio data cynnar o'r cyfrifiad i lywio ein hymateb i bandemig y coronafeirws (Saesneg yn unig) ac i gefnogi ein hymateb dyngarol i ymosodiad Rwsia ar Wcráin (Saesneg yn unig).

Ffigur 3: Newid yn y boblogaeth rhwng 2011 a 2021, awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr

Embed code

Lawrlwythwch y data

.xlsx

Nôl i'r tabl cynnwys

4. Oedran a rhyw y boblogaeth

Yn gyffredinol, roedd 30,420,100 o fenywod (51.0% o'r boblogaeth gyffredinol) a 29,177,200 o ddynion (49.0%) yng Nghymru a Lloegr yn 2021. Mae hyn yn debyg i 2011, pan oedd 50.8% o'r boblogaeth yn fenywod a 49.2% yn ddynion.

Mae'r duedd bod y boblogaeth yn heneiddio wedi parhau, ac mae mwy o bobl nag erioed o'r blaen yn y grwpiau oedran hŷn. Roedd dros un rhan o chwech (18.6%, 11.1 miliwn) o'r boblogaeth yn 2021 yn 65 oed a throsodd, i fyny o 16.4% (9.2 miliwn) yn 2011. Mae maint y boblogaeth 90 oed a throsodd (527,900, 0.9% o'r boblogaeth) wedi cynyddu ers 2011, pan oedd 429,017, 0.8%, yn 90 oed a throsodd.

Roedd bron dwy ran o dair (64.1%) o'r boblogaeth yn 2021 (38.2 miliwn) rhwng 15 a 64 oed. Mae mwy o bobl yn y grŵp oedran hwn o gymharu â 2011 (pan oedd 37.0 miliwn o bobl rhwng 15 a 64 oed) ond, fel cyfran o'r boblogaeth gyffredinol, mae maint y grŵp hwn wedi lleihau ychydig (65.9% yn 2011).

Roedd yr 17.4% o'r boblogaeth (10.4 miliwn) a oedd yn weddill dan 15 oed. Mae mwy o bobl yn y grŵp oedran hwn o gymharu â 2011 ond, fel cyfran o'r boblogaeth gyffredinol, mae maint y grŵp wedi lleihau (9.9 miliwn, 17.6%, yn 2011).

Ffigur 4: Mae'r duedd bod y boblogaeth yn heneiddio wedi parhau

Oedran a rhyw y boblogaeth rhwng 2011 a 2021, Cymru a Lloegr

Embed code

Lawrlwythwch y data

.xlsx

Roedd canran y boblogaeth a oedd yn 65 oed a throsodd yn uwch yng Nghymru (21.3%) nag yn Lloegr (18.4%) yn 2021. Yr unig ranbarth yn Lloegr lle roedd canran fwy o'r boblogaeth yn 65 oed a throsodd nag yng Nghymru oedd De-orllewin Lloegr (61.8%). Mae hyn yn cyferbynnu â Llundain (11.9%), sef y rhanbarth lle roedd y ganran isaf o'r boblogaeth yn y grŵp oedran hwn.

Ledled Cymru a Lloegr, yr awdurdodau lleol lle roedd y canrannau uchaf o'r boblogaeth yn 65 oed a throsodd oedd Gogledd Norfolk (33.4%) a Rother (32.4%). Dwyrain Dyfnaint oedd â'r ganran uchaf o'r boblogaeth 90 oed a throsodd (1.9%), a Rother yn ail (1.8%).

O gymharu â rhanbarthau eraill Lloegr, Llundain oedd â'r ganran fwyaf o bobl rhwng 15 a 64 oed (70.0%). Roedd hyn hefyd yn fwy na chanran y boblogaeth rhwng 15 a 64 oed yng Nghymru (62.2%).

Roedd maint cymharol y boblogaeth dan 15 oed yn fwy yn Lloegr (17.4%) nag yng Nghymru (16.5%). Ar draws rhanbarthau Lloegr, roedd canran y boblogaeth yn y grŵp oedran hwn yn amrywio o 15.9% yn Ne-orllewin Lloegr i 18.1% yn Llundain a Gorllewin Canolbarth Lloegr. Yr awdurdodau lleol â'r canrannau uchaf o bobl dan 15 oed oedd Barking a Dagenham (24.5%), Slough (23.5%) a Luton (21.9%).

Ffigur 5: Strwythur oedran y boblogaeth, 2021, awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr

Embed code

Lawrlwythwch y data

.xlsx

Nôl i'r tabl cynnwys

5. Y boblogaeth ac arwynebedd tir

Roedd 395 o breswylwyr fesul cilomedr sgwâr yng Nghymru a Lloegr yn 2021. Mae hyn tua'r un faint â 2.8 preswylydd fesul darn o dir maint cae pêl-droed. Mae'n cymharu â 371 o breswylwyr fesul cilomedr sgwâr yn 2011 a 251 o breswylwyr fesul cilomedr sgwâr ganrif yn ôl yn 1921.

Fodd bynnag, roedd dwysedd y boblogaeth yn amrywio yn ôl ardal. Yn Lloegr, dwysedd y boblogaeth oedd 434 o breswylwyr fesul cilomedr sgwâr, o gymharu â 150 o breswylwyr fesul cilomedr sgwâr yng Nghymru (gan gynyddu o 407 a 148 o breswylwyr fesul cilomedr sgwâr, yn y drefn honno, yn 2011).

Mae ystadegau rhanbarthol yn esbonio'r gwahaniaeth hwn. Yn benodol, gellir priodoli llawer o'r gwahaniaethau rhwng y ddwy wlad i'r ffaith bod rhanbarth Llundain yn boblog iawn (5,598 o breswylwyr fesul cilomedr sgwâr), 14 gwaith yn fwy na chyfartaledd Cymru a Lloegr, a dros 37 gwaith yn fwy na chyfartaledd Cymru yn unig. Roedd dwysedd y boblogaeth yn rhanbarth lleiaf poblog Lloegr, De-orllewin Lloegr (239 o breswylwyr fesul cilomedr sgwâr), hefyd yn uwch na Chymru.

Roedd pob un o'r 20 awdurdod lleol mwyaf poblog ar draws y ddwy wlad yn un o fwrdeistrefi Llundain, ac ar frig y rhestr roedd Tower Hamlets (15,695 o breswylwyr fesul cilomedr sgwâr), Islington (14,578 o breswylwyr fesul cilomedr sgwâr) a Hackney (13,611 o breswylwyr fesul cilomedr sgwâr). Yng Nghymru, yr awdurdod lleol mwyaf poblog oedd Caerdydd (2,572 o breswylwyr fesul cilomedr sgwâr).

Yr awdurdodau lleol lleiaf poblog oedd Eden (yng Ngogledd-orllewin Lloegr) a Phowys (yng Nghymru); roedd gan y ddau 26 o breswylwyr fesul cilomedr sgwâr ar gyfartaledd. Roedd awdurdodau lleol eraill lle roedd dwysedd y boblogaeth yn isel yn cynnwys Ryedale (36 o breswylwyr fesul cilomedr sgwâr) a Swydd Richmond (38 o breswylwyr fesul cilomedr sgwâr).

Ffigur 6: Dwysedd y boblogaeth, 2021 a newidiadau ers 2011, awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr

Embed code

Nodiadau:
  1. Mae dwysedd y boblogaeth ar gyfer 2021 wedi'i gyfrifo gan ddefnyddio amcangyfrifon o'r boblogaeth wedi'u talgrynnu i'r cant agosaf.
Lawrlwythwch y data

.xlsx

Nôl i'r tabl cynnwys

6. Nifer y cartrefi

Mae'r cyfrifiad yn ein galluogi i amcangyfrif nifer y cartrefi yng Nghymru a Lloegr. Yn unol â’n diffiniad yn y Rhestr termau, mae’n rhaid i gartref gael o leiaf un preswylydd arferol.

Roedd 24,782,800 o gartrefi yng Nghymru a Lloegr ar Ddiwrnod y Cyfrifiad. Roedd cynnydd o 6.1% (1.4 miliwn yn fwy o gartref) ar y 23,366,044 o gartrefi yn 2011.

Roedd y twf yn nifer y cartrefi yn Lloegr (6.2%) yn uwch nag yng Nghymru (3.4%). Cynyddodd nifer y cartrefi ym mhob rhanbarth yn Lloegr rhwng 2011 a 2021. Y rhanbarthau â'r cynnydd canrannol mwyaf oedd Dwyrain Lloegr (8.5%) a De-orllewin Lloegr (8.1%). Roedd awdurdodau lleol lle gwelwyd cynnydd nodedig yn nifer y cartrefi yn cynnwys Tower Hamlets (19.0%), Uttlesford (18.2%) a Bedford (17.4%).

Dim ond mewn 12 awdurdod lleol y gwelwyd gostyngiad yn nifer y cartrefi rhwng 2011 a 2021. Gan adlewyrchu'r duedd o ran y newidiadau ym maint y boblogaeth, yr awdurdodau lleol â'r gostyngiadau mwyaf yn nifer y cartrefi ers 2011 oedd Kensington a Chelsea (14.8%) a Westminster (10.4%).

Ffigur 7: Newidiadau yn nifer y cartrefi rhwng 2011 a 2021, awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr

Embed code

Lawrlwythwch y data

.xlsx

Nôl i'r tabl cynnwys

7. Cyhoeddiadau yn y dyfodol

Mae'r bwletin hwn wedi adrodd ar amcangyfrifon o'r boblogaeth a chartrefi wedi'u talgrynnu ar gyfer awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr. I edrych yn fanylach ar y canlyniadau yng Nghymru yn unig, darllenwch ein bwletin ar yr amcangyfrifon o'r boblogaeth a chartrefi yng Nghymru wedi'u talgrynnu.

Rydym yn bwriadu cyhoeddi amcangyfrifon o'r boblogaeth a chartrefi heb eu talgrynnu yn hydref 2022. Bydd hyn hefyd yn cynnwys dadansoddiad o'r boblogaeth fesul blwyddyn oedran unigol, yn hytrach na grwpiau oedran wedi'u bandio.

Darllenwch am ddata a dadansoddiadau eraill a fydd ar gael o Gyfrifiad 2021 yn ein cynlluniau ar gyfer rhyddhau.

Nôl i'r tabl cynnwys

8. Amcangyfrifon o'r boblogaeth a chartrefi, Cymru a Lloegr: data

Amcangyfrifon o'r boblogaeth a chartrefi, Cymru a Lloegr: Cyfrifiad 2021
Set ddata | Cyhoeddwyd ar 28 Mehefin 2022
Amcangyfrifon Cyfrifiad 2021 o'r boblogaeth a chartrefi wedi'u talgrynnu ar gyfer awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr, yn ôl rhyw a grŵp oedran pum mlynedd.

Amcangyfrifon o'r boblogaeth a chartrefi, Cymru: Cyfrifiad 2021
Set ddata | Cyhoeddwyd ar 28 Mehefin 2022
Setiau data yn rhoi amcangyfrifon Cyfrifiad 2021 o'r boblogaeth a chartrefi wedi'u talgrynnu ar gyfer awdurdodau lleol yng Nghymru, yn ôl rhyw a grŵp oedran pum mlynedd.

Nôl i'r tabl cynnwys

9. Rhestr termau

Oedran

Oedran person ar Ddiwrnod y Cyfrifiad, 21 Mawrth 2021 yng Nghymru a Lloegr. Caiff babanod o dan flwydd oed eu dosbarthu'n 0 oed.

Cartref

Mae cartref yn golygu:

  • un person sy’n byw ar ei ben ei hun; neu

  • grŵp o bobl (nid oes rhaid iddyn nhw berthyn i’w gilydd) sy’n byw yn yr un cyfeiriad, ac sy’n rhannu cyfleusterau coginio ac ystafell fyw neu lolfa neu le bwyta

Rhaid bod gan gartref o leiaf un preswylydd arferol yn y cyfeiriad. Ni chaiff grŵp o breswylwyr byrdymor sy'n byw gyda'i gilydd na grŵp o ymwelwyr sy'n aros mewn cyfeiriad eu hystyried yn gartref.

Awdurdod lleol

Y term cyffredinol ar gyfer corff sy'n gweinyddu gwasanaethau llywodraeth leol.

Yn Lloegr, caiff llywodraeth leol ei gweinyddu gan naill ai awdurdodau lleol un haen neu awdurdodau lleol dwy haen. Mae'r awdurdodau un haen yn cynnwys awdurdodau unedol, dosbarthau metropolitanaidd, a bwrdeistrefi Llundain, er y caiff rhai gwasanaethau, fel cynllunio trafnidiaeth, eu darparu gan Awdurdod Llundain Fwyaf. Mae'r awdurdodau dwy haen mewn ardaloedd eraill yn cynnwys siroedd a dosbarthau anfetropolitanaidd. Yng Nghymru, mae awdurdodau unedol un haen.

Dwysedd y boblogaeth

Nifer y bobl sy'n byw mewn ardal fesul cilomedr sgwâr yw hyn. Mae un cilomedr sgwâr yn cyfateb i 100 hectar.

Rhyw

Y rhyw a gofnodwyd gan y person a oedd yn cwblhau'r cyfrifiad yw hyn. Yr opsiynau oedd “Benyw” a “Gwryw”.

Yn breswylydd arferol

Ystyr preswylydd arferol yw unrhyw un a oedd, ar Ddiwrnod y Cyfrifiad, sef 21 Mawrth 2021, yn y Deyrnas Unedig ac wedi aros neu’n bwriadu aros yn y Deyrnas Unedig am gyfnod o 12 mis neu fwy, neu a oedd â chyfeiriad parhaol yn y Deyrnas Unedig ac a oedd y tu allan i’r Deyrnas Unedig ac yn bwriadu aros y tu allan i’r Deyrnas Unedig am lai na 12 mis.

Nôl i'r tabl cynnwys

10. Mesur y data

Dyddiad cyfeirio

Mae'r cyfrifiad yn rhoi amcangyfrifon o nodweddion pob unigolyn a chartref yng Nghymru a Lloegr ar Ddiwrnod y Cyfrifiad, 21 Mawrth 2021. Caiff ei gynnal unwaith bob 10 mlynedd ac mae'n rhoi'r amcangyfrif mwyaf cywir o'r holl bobl a chartrefi yng Nghymru a Lloegr i ni.

Rydym yn gyfrifol am gynnal y cyfrifiad yng Nghymru a Lloegr, ond byddwn hefyd yn rhyddhau allbynnau ar gyfer y Deyrnas Unedig mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, Cofnodion Cenedlaethol yr Alban ac Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon. Cafodd y cyfrifiad yng Ngogledd Iwerddon ei gynnal ar 21 Mawrth 2021 hefyd, ond cafodd cyfrifiad yr Alban ei symud i 20 Mawrth 2022. Mae holl swyddfeydd y cyfrifiad yn y Deyrnas Unedig yn gweithio'n agos i ddeall sut y bydd y gwahaniaeth hwn mewn dyddiadau cyfeirio yn effeithio ar ystadegau poblogaeth a thai'r Deyrnas Unedig gyfan, o ran yr amseru a'r cwmpas.

Cyfradd ymateb

Cyfradd ymateb unigolion yw nifer y preswylwyr arferol y cafodd manylion unigol eu darparu ar eu cyfer ar holiadur a ddychwelwyd, wedi'i rannu ag amcangyfrif o'r boblogaeth breswyl arferol.

Y gyfradd ymateb unigolion ar gyfer Cyfrifiad 2021 oedd 97% o boblogaeth breswyl arferol Cymru a Lloegr, a dros 88% ym mhob awdurdod lleol. Cafodd y rhan fwyaf o ffurflenni (89%) eu dychwelyd ar lein. Gwnaeth y gyfradd ymateb ragori ar ein targed, sef 94% yn gyffredinol ac 80% ym mhob awdurdod lleol.

Gofynion seneddol

Cafodd y bwletin hwn ei rannu â Gweinidogion perthnasol Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig ddydd Llun 27 Mehefin, er mwyn bodloni gofynion Adran 4 o Ddeddf y Cyfrifiad 1920 y dylid argraffu ffurflenni'r cyfrifiad a'u cyflwyno gerbron y Senedd. Cytunwyd ar hyn gan yr Ystadegydd Gwladol.

Nôl i'r tabl cynnwys

11. Cryfderau a chyfyngiadau

Cryfderau

Mae'r cyfrifiad yn rhoi'r darlun manylaf posibl o'r boblogaeth gyfan, a gofynnir yr un cwestiynau craidd i bawb ledled Cymru a Lloegr.

Mae'r Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau wedi asesu amcangyfrifon y cyfrifiad yn annibynnol a chadarnhau eu bod yn cydymffurfio â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau (Saesneg yn unig). Cafodd allbynnau Cyfrifiad 2021 eu dynodi'n Ystadegau Gwladol (Saesneg yn unig) gan Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig, gan roi sicrwydd bod yr ystadegau hyn o'r ansawdd a'r gwerth gorau posibl i ddefnyddwyr.

Gwnaethom ymgymryd â phroses sicrhau ansawdd drwyadl a chynhwysfawr, gan gynnwys cymharu â'r ystod ehangaf o ffynonellau data amgen ac ategol erioed. Yn ogystal, am y tro cyntaf, gwnaethom wahodd awdurdodau lleol i fwrw golwg dros amcangyfrifon dros dro o'r cyfrifiad, gan fanteisio ar eu harbenigedd lleol, ar yr un pryd â'n gwiriadau sicrhau ansawdd ein hunain. Ceir gwybodaeth fanwl yn ein hadroddiad Sicrhau bod amcangyfrifon poblogaeth Cyfrifiad 2021 o'r ansawdd gorau posibl (Saesneg yn unig).

Mae amcangyfrifon y cyfrifiad yn bwysig ar gyfer deall cywirdeb amcangyfrifon eraill o'r boblogaeth. Er enghraifft, mae amcangyfrifon poblogaeth canol blwyddyn (MYE) (Saesneg yn unig) yn seiliedig ar y cyfrifiad diweddaraf a chânt eu haddasu ar gyfer genedigaethau byw, marwolaethau, a mudo, ond bydd y posibilrwydd o wall ystadegol yn yr amcangyfrifon hyn yn cynyddu dros amser rhwng cyfrifiadau. Rydym hefyd yn datblygu amcangyfrifon poblogaeth yn seiliedig ar ddata gweinyddol (ABPE) (Saesneg yn unig), sy'n defnyddio ffynonellau data gweinyddol yn hytrach na bod yn seiliedig ar amcangyfrifon y cyfrifiad. Rydym yn bwriadu cyhoeddi adroddiadau yn cymharu amcangyfrifon poblogaeth Cyfrifiad 2021 â'r MYE a'r ABPE diweddaraf, gan gynnwys esboniadau o unrhyw wahaniaethau, yn ddiweddarach eleni.

Mae ein cyfradd ymateb uchel iawn a'n proses casglu ar-lein helaeth wedi sicrhau ein bod wedi casglu data o ansawdd uchel iawn am y boblogaeth a'i nodweddion ar Ddiwrnod y Cyfrifiad. Roedd yn arbennig o bwysig deall sut y gwnaeth pandemig y coronafeirws (COVID-19) effeithio ar ein poblogaeth, a sut mae'n parhau i wneud hynny mewn amrywiaeth o ffyrdd (er enghraifft, effeithiau ar iechyd, gweithio gartref). Bydd data'r cyfrifiad a'n gwaith parhaus i drawsnewid ein system ystadegau cymdeithasol yn ein helpu i ddeall a mesur newidiadau yn y boblogaeth yn fwy effeithiol nag erioed o'r blaen.

Cyfyngiadau a chamau lliniaru

Mae'r canlyniadau cyntaf o Gyfrifiad 2021 yn rhoi amcangyfrifon cynnar o'r boblogaeth a chartrefi wedi'u talgrynnu ar gyfer Cymru a Lloegr; efallai na fydd y ffigurau yn adio'n fanwl gywir am eu bod wedi'u talgrynnu. Caiff ffigurau heb eu talgrynnu eu cyhoeddi yn ystod hydref 2022. Mae'n bosibl y bydd y ffigurau ychydig yn wahanol mewn datganiadau yn y dyfodol oherwydd effaith dileu talgrynnu a chymhwyso prosesau ystadegol pellach. Caiff data cyfrifiad hanesyddol heb eu talgrynnu eu defnyddio ar gyfer pob cymhariaeth â chyfrifiadau blaenorol.

Amcangyfrifon yw ystadegau'r cyfrifiad yn hytrach na chyfrifiadau, ac felly mae rhywfaint o ansicrwydd yn gysylltiedig â nhw. Rydym yn cymryd nifer o gamau i leihau gwallau posibl, a chaiff y rhain eu disgrifio yn ein hadroddiad Gwybodaeth am Ansawdd a Methodoleg.

Mae'n bosibl bod pandemig y coronafeirws (COVID-19) wedi effeithio ar y breswylfa arferol a ddewiswyd gan bobl ar Ddiwrnod y Cyfrifiad, er enghraifft, myfyrwyr ac mewn rhai ardaloedd trefol. Gallai'r newidiadau hyn fod wedi bod yn rhai dros dro i rai pobl ac yn fwy hirdymor i bobl eraill. Rydym yn trafod beth mae hyn yn ei olygu i'r data yn ein hadroddiad Gwybodaeth am Ansawdd a Methodoleg.

Nid yw'r un cyfrifiad yn berffaith – mae'n anochel y bydd rhai pobl yn cael eu colli neu eu cyfrif ddwywaith. Mae Arolwg Cwmpas y Cyfrifiad yn ein galluogi i amcangyfrif faint o bobl sydd wedi cael eu colli neu eu cyfrif ddwywaith. Mae gennym brosesau sy'n chwilio am ymatebion lluosog a'u datrys hefyd, gan ein galluogi i addasu cyfrifiadau'r cyfrifiad yn briodol. Ceir mwy o wybodaeth yn ein hadroddiad Sicrhau bod amcangyfrifon poblogaeth Cyfrifiad 2021 o'r ansawdd gorau posibl (Saesneg yn unig).

Fel gyda phob holiadur hunanlenwi, bydd rhai ffurflenni wedi cynnwys gwybodaeth anghywir, anghyflawn neu wybodaeth sydd ar goll am unigolyn neu gartref. Gwnaethom ddefnyddio strategaethau golygu a phriodoli i gywiro anghysondebau a gwybodaeth a oedd ar goll. Ceir gwybodaeth bellach am hyn mewn adroddiad manylach yn ddiweddarach eleni.

Statws Ystadegau Gwladol i Gyfrifiad 2021

Mae'r Ystadegau Gwladol hyn wedi cael eu hasesu'n annibynnol gan Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig. Maent wedi cael eu cynhyrchu yn unol â'r safonau a nodir yn y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau (Saesneg yn unig) a Deddf Ystadegau a Gwasanaeth Cofrestru 2007 (Saesneg yn unig) sy'n golygu eu bod:

  • yn diwallu anghenion defnyddwyr a nodwyd
  • wedi'u hesbonio'n dda ac ar gael yn hawdd
  • wedi'u cynhyrchu yn seiliedig ar ddata a dulliau priodol
  • yn cael eu rheoli mewn modd diduedd a gwrthrychol er budd y cyhoedd

Dyddiad yr asesiad llawn diweddaraf: Mehefin 2022

Nôl i'r tabl cynnwys

12. Dolenni cysylltiedig

Amcangyfrifon o'r boblogaeth a chartrefi, Cymru: Cyfrifiad 2021
Bwletin | Cyhoeddwyd ar 28 Mehefin 2022
Bwletin yn amlinellu'r canlyniadau cyntaf o Gyfrifiad 2021 ar gyfer Cymru yn unig.

Sut newidiodd y boblogaeth ble rydych chi'n byw: Cyfrifiad 2021 (Saesneg yn unig)
Erthygl cynnwys digidol | Cyhoeddwyd ar 28 Mehefin 2022
Erthygl ryngweithiol sy'n adrodd stori wrth sgrolio, gan ddelweddu'r canlyniadau cyntaf o Gyfrifiad 2021 yng Nghymru a Lloegr ar lefel leol.

Chwaraewch gêm map poblogaeth Cyfrifiad 2021 (Saesneg yn unig)
Gêm ar-lein | Cyhoeddwyd ar 28 Mehefin 2022 (Saesneg yn unig)
Gêm ar-lein yn seiliedig ar ddata Cyfrifiad 2021 sy'n herio chwaraewyr i symud ar draws map o Gymru a Lloegr drwy ddyfalu ffeithiau am awdurdodau lleol cyfagos yn gywir.

Gwybodaeth am Ansawdd a Methodoleg ar gyfer Cyfrifiad 2021
Methodoleg | Cyhoeddwyd ar 28 Mehefin 2022
Yn rhoi manylion am gryfderau, cyfyngiadau, defnyddiau, defnyddwyr a dulliau Cyfrifiad 2021, Cymru a Lloegr.

Sicrhau bod amcangyfrifon poblogaeth Cyfrifiad 2021 o'r ansawdd gorau posibl (Saesneg yn unig)
Methodoleg | Cyhoeddwyd ar 28 Mehefin 2022
Sut y gwnaethom sicrhau bod amcangyfrifon poblogaeth Cyfrifiad 2021 o'r ansawdd gorau posibl wrth brosesu a sicrhau ansawdd yr ystadegau terfynol.

Cymharwch amcangyfrifon oedran-rhyw o Gyfrifiad 2021 ag ardaloedd yn Lloegr a Chymru (Saesneg yn unig)
Methodoleg | Cyhoeddwyd ar 28 Mehefin 2022
Adnodd rhyngweithiol i gymharu awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr gan ddefnyddio amcangyfrifon oedran-rhyw a gwybodaeth sicrhau ansawdd.

Gwybodaeth datganiad cyntaf Cyfrifiad 2021 mewn fformatau hygyrch
Tudalen we
I’ch helpu i gael gwybodaeth am ganlyniadau Cyfrifiad 2021, rydym wedi cynhyrchu gwybodaeth mewn rhai fformatau hygyrch.

Cyfres amser rhyw Cyfrifiadau 1981 i 2021
Data | Cyhoeddwyd ar 28 June 2022
Mae'r tabl hwn yn rhoi amcangyfrifon y Cyfrifiad rhwng 1981 a 2021 (cyfres amser) sy'n dosbarthu pob preswylydd arferol yn ôl rhyw.

Cyfres amser oedran Cyfrifiadau 1981 i 2021
Data | Cyhoeddwyd ar 28 June 2022
Amcangyfrifon y cyfrifiad rhwng 1981 a 2021 (cyfres amser) sy'n dosbarthu pob preswylydd arferol yn ôl oedran.

Cyfres amser rhyw yn ôl oedran Cyfrifiadau 1981 i 2021
Data | Cyhoeddwyd ar 28 June 2022
Amcangyfrifon y cyfrifiad rhwng 1981 a 2021 (cyfres amser) sy'n dosbarthu pob preswylydd arferol yn ôl rhyw ac oedran.

Cyfres amser dwysedd y boblogaeth Cyfrifiadau 1981 i 2021
Data | Cyhoeddwyd ar 28 June 2022
Amcangyfrifon y cyfrifiad rhwng 1981 a 2021 (cyfres amser) sy'n dosbarthu nifer y bobl fesul cilomedr sgwâr (Dwysedd y boblogaeth).

Nôl i'r tabl cynnwys

Manylion cyswllt ar gyfer y Bwletin ystadegol

Michael Roskams
census.customerservices@ons.gov.uk
Ffôn: +44 1329 44 4972