Trosolwg
Caiff ystadegau Cyfrifiad 2021 eu cyhoeddi ar gyfer nifer o ardaloedd daearyddol gwahanol. Gall y rhain fod yn fawr, er enghraifft Lloegr gyfan, neu'n fach, er enghraifft Ardal Gynnyrch, sef y lefel isaf o ardal ddaearyddol y caiff ystadegau eu cynhyrchu ar ei chyfer. Ar gyfer lefelau uwch o ardaloedd daearyddol, gellir cynhyrchu ystadegau manylach. Pan gaiff lefel ddaearyddol is ei defnyddio, fel Ardaloedd Cynnyrch (sy'n cynnwys o leiaf 100 o bobl), mae'r ystadegau a gynhyrchir yn llai manwl. Diben hyn yw diogelu cyfrinachedd pobl a sicrhau na ellir adnabod unigolion na'u nodweddion.
Cymru a Lloegr
Data ar gyfer Cymru a Lloegr.
Gwledydd
Data ar gyfer Cymru neu Loegr gyfan.
Rhanbarthau
Data ar gyfer y naw rhanbarth yn Lloegr, ac ar gyfer Cymru gyfan.
Rhanbarthau GIG Lloegr
Mae pob rhanbarth GIG yn gyfrifol am gynllunio gwasanaethau lleol i ddarparu iechyd a gofal.
Byrddau iechyd lleol
Byrddau iechyd lleol yng Nghymru sy’n gyfrifol am gynllunio a darparu gwasanaethau GIG yn eu hardaloedd.
Byrddau gofal integredig
Mae byrddau gofal integredig yn Lloegr yn gyfrifol am ddatblygu cynlluniau i ddiwallu anghenion iechyd y boblogaeth, maen nhw’n rheoli cyllideb y GIG ac yn trefnu darpariaeth gwasanaethau iechyd yn yr ardal.
Lleoliadau byrddau gofal is-integredig
Mae lleoliadau byrddau gofal is-integredig wedi disodli grwpiau comisiynu clinigol ac maent yn sefydliadau’r GIG sy’n cynllunio’r darpariaeth o wasanaethau’r GIG yn Lloegr.
2023 Awdurdodau lleol haen uchaf
Mae awdurdodau lleol haen uchaf yn darparu amrywiaeth o wasanaethau lleol. Yn 2023, roedd 153 o awdurdodau lleol haen uchaf yn Lloegr, a oedd yn cynnwys 63 o awdurdodau unedol, 36 o ddosbarthau metropolitanaidd, 33 o fwrdeistrefi Llundain (gan gynnwys Dinas Llundain) a 21 o siroedd. Yng Nghymru, roedd 22 o awdurdodau lleol haen uchaf, a oedd yn ffurfio o 22 o awdurdodau unedol.
2023 Awdurdodau lleol haen is
Mae awdurdodau lleol haen is yn darparu amrywiaeth o wasanaethau lleol. Yn 2023, roedd 296 o awdurdodau lleol haen is yn Lloegr, a oedd yn cynnwys 164 o ddosbarthau anfetropolitanaidd, 63 o awdurdodau unedol, 36 o ddosbarthau metropolitanaidd a 33 o fwrdeistrefi Llundain (gan gynnwys Dinas Llundain). Yng Nghymru, roedd 22 o awdurdodau lleol a oedd yn ffurfio o 22 o awdurdodau unedol.
Awdurdodau lleol haen uchaf
Mae awdurdodau lleol haen uchaf yn darparu amrywiaeth o wasanaethau lleol. Mae 152 o awdurdodau lleol haen uchaf yn Lloegr, sy'n cynnwys 59 o awdurdodau unedol, 36 o ddosbarthau metropolitanaidd, 33 o fwrdeistrefi Llundain (gan gynnwys Dinas Llundain) a 24 o siroedd. Yng Nghymru, mae 22 o awdurdodau lleol haen uchaf, sydd wedi'u ffurfio o 22 o awdurdodau unedol.
Awdurdodau lleol haen is
Mae awdurdodau lleol haen is yn darparu amrywiaeth o wasanaethau lleol. Mae 309 o awdurdodau lleol haen is yn Lloegr, sy'n cynnwys 181 o ddosbarthau anfetropolitanaidd, 59 o awdurdodau unedol, 36 o ddosbarthau metropolitanaidd a 33 o fwrdeistrefi Llundain (gan gynnwys Dinas Llundain). Yng Nghymru, mae 22 o awdurdodau lleol sydd wedi'u ffurfio o 22 o awdurdodau unedol.
Etholaethau Seneddol San Steffan ar ôl 2019
Ardaloedd fydd yn cael eu defnyddio i ethol aelodau seneddol (ASau) i Dŷ’r Cyffredin ar gyfer yr etholiad cyffredinol nesaf. Mae’r ffiniau ar gyfer yr ardaloedd hyn yn rhai dros dro ac yn amodol ar gadarnhad, a byddant yn disodli’r ffiniau etholaethau sy’n bresennol ar gyfer Etholiad Cyffredinol 2019. Ar ôl eu hethol, bydd pob AS yn cynrychioli ei etholaeth yn Nhŷ’r Cyffredin.
Etholaethau Seneddol San Steffan
Ardaloedd a gaiff eu defnyddio i ethol aelod seneddol (AS) i Dŷ'r Cyffredin. Ar ôl iddo gael ei ethol, bydd yr aelod seneddol yn cynrychioli ei etholaeth yn Nhŷ'r Cyffredin.
Wardiau ac adrannau etholiadol
Ardaloedd a gaiff eu defnyddio i ethol cynghorwyr awdurdodau lleol.
Mae'r data ar gyfer wardiau ym mis Mai 2022, heblaw am ddau achos.
Rydym yn trin awdurdodau lleol Dinas Llundain ac Ynysoedd Scilly fel wardiau unigol, nad ydynt wedi'u ffurfio o sawl ward.
Rydym hefyd wedi rhannu'r data ar gyfer ward Hunmanby a Sherburn yn Hunmanby a Sherburn (rhan Ryedale) a Hunmanby a Sherburn (rhan Scarborough). Mae hyn er mwyn adlewyrchu'r ffaith bod y ward wedi'i rhannu rhwng dau awdurdod lleol, Ryedale a Scarborough.
Plwyfi
Yn Lloegr, math o blwyf gweinyddol a gaiff ei ddefnyddio at ddibenion llywodraeth leol yw plwyf sifil. Mae'r dynodiad daearyddol hwn yn cynrychioli'r haen isaf o lywodraeth leol. Roedd Cymru wedi'i rhannu'n blwyfi sifil tan 1974 hefyd, pan gawsant eu disodli gan gymunedau. Mae'r rhain yn debyg i blwyfi Lloegr o ran y ffordd y maent yn gweithredu.
Rhanbarthau etholiadol y Senedd
Mae pum rhanbarth etholiadol y Senedd, pob un yn cynnwys rhwng saith a naw etholaeth Senedd.
Etholaethau’r Senedd
Ardaloedd a ddefnyddir i ethol aelod o’r Senedd (AS). Y Senedd, a adwaenir fel Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn y gorffennol, yw senedd ddatganoledig Cymru. Mae 40 o etholaethau.
Ardaloedd Cynnyrch Ehangach haen Ganol
Mae Ardaloedd Cynnyrch Ehangach haen Ganol yn cynnwys grwpiau o Ardaloedd Cynnyrch Ehangach haen Is, pedwar neu bump fel arfer. Maent yn cynnwys rhwng 2,000 a 6,000 o gartrefi a rhwng 5,000 a 15,000 o breswylwyr arferol.
Ardaloedd Cynnyrch Ehangach haen Is
Mae Ardaloedd Cynnyrch Ehangach haen Is yn cynnwys grwpiau o Ardaloedd Cynnyrch, pedwar neu bump fel arfer. Maent yn cynnwys rhwng 400 a 1,200 o gartrefi a rhwng 1,000 a 3,000 o breswylwyr arferol.
Ardaloedd Cynnyrch
Y lefel isaf o ardal ddaearyddol ar gyfer ystadegau'r cyfrifiad. Mae pob Ardal Gynnyrch yn cynnwys rhwng 40 a 250 o gartrefi a rhwng 100 a 625 o breswylwyr arferol.
Partneriaethau gwirfoddol
Partneriaethau gwirfoddol rhwng awdurdodau lleol a busnesau yn y sector preifat lleol yw partneriaethau menter lleol gyda'r nod o helpu i bennu blaenoriaethau economaidd lleol, ysgogi twf economaidd a chreu swyddi.
Parciau Cenedlaethol
Mae 10 parc cenedlaethol yn Lloegr a 3 yng Nghymru. Mae pob parc cenedlaethol yn cael ei reoli gan ei awdurdod parc cenedlaethol ei hun, sef awdurdod lleol pwrpas arbennig.
Gwlad mudwr flwyddyn yn ôl
Y wlad lle’r oedd mudwr yn preswylio fel arfer flwyddyn cyn Diwrnod y Cyfrifiad, sef 21 Mawrth 2021.
Rhanbarth mudwr flwyddyn yn ôl
Y rhanbarth lle’r oedd mudwr yn preswylio fel arfer flwyddyn cyn Diwrnod y Cyfrifiad, sef 21 Mawrth 2021.
Awdurdod Lleol Haen Uchaf mudwr flwyddyn yn ôl
Yr ardal awdurdod lleol haen uwch lle’r oedd mudwr yn preswylio fel arfer flwyddyn cyn Diwrnod y Cyfrifiad, sef 21 Mawrth 2021.
Awdurdod Lleol Haen Isaf mudwr flwyddyn yn ôl
Yr ardal awdurdod lleol haen is lle’r oedd mudwr yn preswylio fel arfer flwyddyn cyn Diwrnod y Cyfrifiad, sef 21 Mawrth 2021.
Ardal Gynnyrch Ehangach Haen Ganol mudwr flwyddyn yn ôl
Yr Ardal Gynnyrch Ehangach ganol lle’r oedd mudwr yn preswylio fel arfer flwyddyn cyn Diwrnod y Cyfrifiad, sef 21 Mawrth 2021.
Ardal Gynnyrch Ehangach Haen Is mudwr flwyddyn yn ôl
Yr Ardal Gynnyrch Ehangach is lle’r oedd mudwr yn preswylio fel arfer flwyddyn cyn Diwrnod y Cyfrifiad, sef 21 Mawrth 2021.
Ardal Gynnyrch tarddiad mudwr
Yr Ardal Gynnyrch lle’r oedd mudwr yn preswylio fel arfer flwyddyn cyn Diwrnod y Cyfrifiad, sef 21 Mawrth 2021.
Gwlad mudwr flwyddyn yn ôl (10 categori) (manwl)
Y wlad lle’r oedd mudwr yn preswylio fel arfer flwyddyn cyn Diwrnod y Cyfrifiad, sef 21 Mawrth 2021 (dosbarthiad manwl).
Gwlad mudwr flwyddyn yn ôl (60 categori) (manwl)
Y wlad lle’r oedd mudwr yn preswylio fel arfer flwyddyn cyn Diwrnod y Cyfrifiad, sef 21 Mawrth 2021 (dosbarthiad manwl).
Newidiadau rhwng ardaloedd daearyddol Cyfrifiad 2011 a Chyfrifiad 2021
Dysgwch pa newidiadau a wnaed i'r ardaloedd daearyddol a ddefnyddiwyd yng nghanlyniadau Cyfrifiad 2021 (yn Saesneg).