Hunaniaeth o ran rhywedd, Cymru a Lloegr: Cyfrifiad 2021

Hunaniaeth o ran rhywedd preswylwyr arferol 16 oed a throsodd yng Nghymru a Lloegr, data Cyfrifiad 2021.

Hwn yw'r datganiad diweddaraf. Gweld datganiadau blaenorol

Census
This is an accredited National Statistic. Click for information about types of official statistics.

Cyswllt:
Email Michael Roskams

Dyddiad y datganiad:
6 January 2023

Cyhoeddiad nesaf:
I’w gyhoeddi

1. Prif bwyntiau

  • Roedd cwestiwn y cyfrifiad ar hunaniaeth o ran rhywedd yn gwestiwn gwirfoddol a ofynnwyd i bobl 16 oed a throsodd. Roedd y cwestiwn yn gofyn “Ydy’r rhywedd rydych chi’n uniaethu ag ef yr un peth â’r rhyw a gofrestrwyd pan gawsoch chi eich geni?”.
  • Atebodd 45.7 miliwn (94.0% o’r boblogaeth 16 oed a throsodd) y cwestiwn.
  • Atebodd 45.4 miliwn (93.5%) “Ydy” ac atebodd 262,000 (0.5%) “Nac ydy”.
  • Ni wnaeth y 2.9 miliwn sy’n weddill (6.0%) ateb y cwestiwn.
Nôl i'r tabl cynnwys

2. Hunaniaeth o ran rhywedd

Mae hunaniaeth o ran rhywedd yn cyfeirio at ymdeimlad unigolyn o’i rywedd ei hun, boed yn wrywaidd, benywaidd neu gategori arall fel anneuaidd. Gall hwn fod yr un peth â’r rhyw a gofrestrwyd pan y’i ganwyd neu ddim.

Roedd y cwestiwn ar hunaniaeth o ran rhywedd yn gwestiwn newydd ar gyfer Cyfrifiad 2021. Cafodd ei ychwanegu i ddarparu’r data swyddogol cyntaf ar faint y boblogaeth drawsryweddol yng Nghymru a Lloegr. Bydd y data yn helpu i wneud y canlynol:

  • darparu gwybodaeth o ansawdd gwell at ddibenion monitro
  • cefnogi dyletswyddau gwrthwahaniaethu o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010
  • helpu i ddyrannu adnoddau a datblygu polisïau

Roedd y cwestiwn hwn yn wirfoddol a dim ond i bobl 16 oed a throsodd y gwnaethom ei ofyn. Gofynnwyd i bobl “Ydy’r rhywedd rydych chi’n uniaethu ag ef yr un peth â’r rhyw a gofrestrwyd pan gawsoch chi eich geni?”, ac roedd yn cynnwys yr opsiwn o ddewis “Ydy”, neu ddewis “Nac ydy” ac ysgrifennu eu hunaniaeth o ran rhywedd.

Ledled Cymru a Lloegr, cafwyd ymatebion gan 45.7 miliwn o bobl (94.0% o’r boblogaeth 16 oed a throsodd).

Atebodd cyfanswm o 45.4 miliwn (93.5%) “Ydy”, gan nodi bod eu hunaniaeth o ran rhywedd yr un peth â’r rhyw a gofrestrwyd pan gawsant eu geni.

Atebodd cyfanswm o 262,000 o bobl (0.5%) “Nac ydy”, gan nodi bod eu hunaniaeth o ran rhywedd yn wahanol i’r rhyw a gofrestrwyd pan gawsant eu geni. O fewn y grŵp hwn:

  • atebodd 118,000 (0.24%) “Nac ydy” ond heb ysgrifennu ymateb
  • nododd 48,000 (0.10%) ddyn traws
  • nododd 48,000 (0.10%) fenyw draws
  • nododd 30,000 (0.06%) anneuaidd
  • ysgrifennodd 18,000 (0.04%) hunaniaeth o ran rhywedd gwahanol

Ni wnaeth y 2.9 miliwn sy’n weddill (6.0%) ateb y cwestiwn ar hunaniaeth o ran rhywedd.

Ffigur 1: Hunaniaeth o ran rhywedd, 2021, Cymru a Lloegr

Embed code

Lawrlwytho'r data

.xlsx

Nôl i'r tabl cynnwys

3. Sut roedd hunaniaeth o ran rhywedd yn amrywio ledled Cymru a Lloegr

Mae data Cyfrifiad 2021 yn datgelu sut roedd hunaniaeth o ran rhywedd yn amrywio ledled Cymru a Lloegr. Gan mai cwestiwn gwirfoddol oedd hwn, byddwch yn ymwybodol o'r gwahaniaethau mewn cyfraddau ymateb wrth gymharu ardaloedd gwahanol.

Roedd canran y boblogaeth 16 oed a throsodd a nododd fod eu hunaniaeth o ran rhywedd yn wahanol i'w rhyw pan gawsant eu geni ychydig yn uwch yn Lloegr (0.55%) nag yng Nghymru (0.40%).

Yn Lloegr, y rhanbarth â'r ganran uchaf a nododd bod eu hunaniaeth o ran rhywedd yn wahanol i'w rhyw pan gawsant eu geni oedd Llundain (0.91%), a'r rhanbarth â'r ganran isaf oedd De-orllewin Lloegr (0.42%).

O gymharu â Chymru a Lloegr gyfan, roedd gan Lundain ganrannau uwch o bobl a nododd ddyn traws (0.16%), a nododd fenyw draws (0.16%), ac a atebodd "Nac ydy" ond na wnaethant ysgrifennu ymateb (0.46%).

O'r 10 awdurdod lleol â'r gyfran uchaf o'r boblogaeth 16 oed a throsodd yr oedd eu hunaniaeth o ran rhywedd yn wahanol i'w rhyw pan gawsant eu geni, roedd 8 yn Llundain, gyda Newham (1.51%) a Brent (1.31%) ar frig y rhestr. Y ddau awdurdod lleol y tu allan i Lundain a oedd yn y 10 uchaf oedd Rhydychen (1.25%), a oedd yn drydydd, a Norwich (1.07%), a oedd yn nawfed. Yng Nghymru, yr awdurdodau lleol oedd â'r canrannau uchaf oedd Caerdydd (0.71%) a Cheredigion (0.70%).

O ran hunaniaethau penodol o ran rhywedd, Brent a Newham oedd â'r canrannau uchaf a nododd ddyn traws (0.28% a 0.25%, yn y drefn honno), a Barking a Dagenham oedd â'r ganran uchaf a nododd fenyw draws (0.25%). Newham oedd â'r ganran uchaf o bobl a atebodd "Nac ydy" ond na wnaethant ysgrifennu ymateb (0.91%). Yng Nghymru, Caerdydd oedd â'r ganran uchaf a nododd ddyn traws (0.12%) a'r ganran uchaf a nododd fenyw draws (0.13%).

Roedd y pum awdurdod lleol â'r gyfran uchaf o'r boblogaeth 16 oed a throsodd a nododd anneuaidd i gyd y tu allan i Lundain. Brighton a Hove oedd â'r ganran uchaf (0.35%), yna Norwich (0.33%) a Chaergrawnt (0.26%). Ceredigion oedd yn y pumed safle (0.23%), a dyma'r awdurdod lleol oedd â'r ganran uchaf a nododd anneuaidd yng Nghymru.

Ffigur 2: Hunaniaeth o ran rhywedd, 2021, awdurdodau lleol yng Nghymru a

Lloegr

Embed code

Source: Office for National Statistics – Census 2021
Lawrlwytho'r data

.xlsx

Nôl i'r tabl cynnwys

4. Cyhoeddiadau yn y dyfodol

Caiff data a dadansoddiadau manylach ar hunaniaeth o ran rhywedd eu cyhoeddi yn y misoedd i ddod, a chaiff data amlamryweb eu rhyddhau. Darllenwch fwy am ein cynlluniau dadansoddi ynghylch cyfeiriadedd rhywiol a hunaniaeth o ran rhywedd (yn Saesneg) a’r cynlluniau datganiadau ar gyfer Cyfrifiad 2021 yn fwy cyffredinol.

Nôl i'r tabl cynnwys

5. Hunaniaeth o ran rhywedd, Cymru a Lloegr: data

Hunaniaeth o ran rhywedd (yn Saesneg)
Set ddata | Rhyddhawyd ar 6 Ionawr 2023
Mae'r set ddata hon yn rhoi amcangyfrifon Cyfrifiad 2021 sy'n dosbarthu preswylwyr arferol 16 oed a throsodd yng Nghymru a Lloegr yn ôl hunaniaeth o ran rhywedd.

Hunaniaeth o ran rhywedd (manwl) (yn Saesneg)
Set ddata | Rhyddhawyd ar 6 Ionawr 2023
Mae'r set ddata hon yn rhoi amcangyfrifon Cyfrifiad 2021 sy'n dosbarthu preswylwyr arferol 16 oed a throsodd yng Nghymru a Lloegr yn ôl hunaniaeth o ran rhywedd.

Nôl i'r tabl cynnwys

6. Geirfa

Hunaniaeth o ran rhywedd

Mae hunaniaeth o ran rhywedd yn cyfeirio at ymdeimlad unigolyn o’i rywedd ei hun, boed yn wrywaidd, benywaidd neu gategori arall fel anneuaidd. Gall hwn fod yr un peth â’r rhyw a gofrestrwyd pan y’i ganwyd neu ddim.

Hunaniaeth o ran rhywedd yn wahanol i’r rhyw a gofrestrwyd pan gawsant eu geni ond ni nodwyd hunaniaeth benodol

Dyma’r bobl a atebodd “Nac ydy” i’r cwestiwn “Ydy’r rhywedd rydych chi’n uniaethu ag ef yr un peth â’r rhyw a gofrestrwyd pan gawsoch chi eich geni?” ond nid oeddent wedi ysgrifennu hunaniaeth o ran rhywedd.

Anneuaidd

Nid yw rhywun sy’n anneuaidd yn uniaethu â chategorïau deuaidd dyn a menyw. Yn y canlyniadau hyn, mae’r categori’n cynnwys pobl a nododd y term penodol “anneuaidd” neu amrywiolion eraill. Fodd bynnag, mae’r rheini a ddefnyddiodd dermau eraill i ddisgrifio hunaniaeth nad oedd yn benodol yn ddyn nac yn fenyw wedi’u dosbarthu yn “Pob hunaniaeth o ran rhywedd arall”.

Dyn traws

Dyn traws yw rhywun a gofrestrwyd yn fenywaidd pan gafodd ei eni, ond sydd bellach yn uniaethu fel dyn.

Menyw draws

Menyw draws yw rhywun a gofrestrwyd yn wrywaidd pan gafodd ei geni, ond sydd bellach yn uniaethu fel menyw.

Preswylydd arferol

Ystyr preswylydd arferol yw unrhyw un a oedd, ar Ddiwrnod y Cyfrifiad, sef 21 Mawrth 2021, yn y Deyrnas Unedig ac wedi aros neu’n bwriadu aros yn y Deyrnas Unedig am gyfnod o 12 mis neu fwy, neu a oedd â chyfeiriad parhaol yn y Deyrnas Unedig ac a oedd y tu allan i’r Deyrnas Unedig ac yn bwriadu aros y tu allan i’r Deyrnas Unedig am lai na 12 mis.

Nôl i'r tabl cynnwys

7. Mesur y data

Dyddiad cyfeirio

Mae’r cyfrifiad yn rhoi amcangyfrifon o nodweddion pob unigolyn a chartref yng Nghymru a Lloegr ar Ddiwrnod y Cyfrifiad, 21 Mawrth 2021. Caiff ei gynnal unwaith bob 10 mlynedd ac mae’n rhoi’r amcangyfrif mwyaf cywir o’r holl bobl a chartrefi yng Nghymru a Lloegr i ni.

Cyfradd ymateb

Cyfradd ymateb gyffredinol unigolion (yn Saesneg) ar gyfer y cyfrifiad yw nifer y preswylwyr arferol y cafodd manylion unigol eu darparu ar eu cyfer ar holiadur a ddychwelwyd, wedi’i rannu ag amcangyfrif o’r boblogaeth breswyl arferol.

Y gyfradd ymateb unigolion ar gyfer Cyfrifiad 2021 oedd 97% o boblogaeth breswyl arferol Cymru a Lloegr, a dros 88% ym mhob awdurdod lleol. Cafodd y rhan fwyaf o ffurflenni (89%) eu derbyn ar lein. Gwnaeth y gyfradd ymateb ragori ar ein targed, sef 94% yn gyffredinol ac 80% ym mhob awdurdod lleol.

Darllenwch fwy am gyfraddau ymatebion ar gyfer cwestiynau penodol ar lefel awdurdod lleol yn Adran 4 o’n mesurau sy’n dangos ansawdd amcangyfrifon Cyfrifiad 2021 (yn Saesneg).

Nôl i'r tabl cynnwys

8. Cryfderau a chyfyngiadau

Ceir ystyriaethau o ansawdd ynghyd â chryfderau a chyfyngiadau Cyfrifiad 2021 yn fwy cyffredinol yn yr adroddiad Gwybodaeth am Ansawdd a Methodoleg ar gyfer Cyfrifiad 2021. Darllenwch fwy am y wybodaeth am ansawdd ar gyfer cyfeiriadedd rhywiol a hunaniaeth o ran rhywedd (yn Saesneg).

Ceir rhagor o wybodaeth am ein prosesau sicrhau ansawdd eraill yn ein methodoleg Sicrhau bod amcangyfrifon poblogaeth Cyfrifiad 2021 o'r ansawdd gorau posibl (yn Saesneg).

Nôl i'r tabl cynnwys

9. Dolenni cysylltiedig

Map y Cyfrifiad (yn Saesneg)
Cynnwys rhyngweithiol | Diweddarwyd ar 6 Ionawr 2023
Adnodd map rhyngweithiol sy'n delweddu data Cyfrifiad 2021 ar bynciau gwahanol i lawr i ardal awdurdod lleol a lefel cymdogaeth.

Gwybodaeth am ansawdd data am gyfeiriadedd rhywiol a hunaniaeth o ran rhywedd o Gyfrifiad 2021 (yn Saesneg)
Methodoleg | Rhyddhawyd ar 6 Ionawr 2023
Gwybodaeth hysbys am ansawdd sy'n effeithio ar ddata am gyfeiriadedd rhywiol a hunaniaeth o ran rhywedd o Gyfrifiad 2021 yng Nghymru a Lloegr.

Newidynnau cyfeiriadedd rhywiol a hunaniaeth o ran rhywedd, Cyfrifiad 2021
Gwybodaeth ategol | Rhyddhawyd ar 4 Ionawr 2023
Newidynnau a dosbarthiadau a ddefnyddir yn nata Cyfrifiad 2021 am gyfeiriadedd rhywiol a hunaniaeth o ran rhywedd.

Cyfeiriadedd rhywiol a hunaniaeth o ran rhywedd yng Nghymru (Cyfrifiad 2021)
Bwletin ystadegol | Rhyddhawyd ar 6 Ionawr 2023
Crynodeb gan Lywodraeth Cymru o ddata Cyfrifiad 2021 ar gyfeiriadedd rhywiol a hunaniaeth o ran rhywedd yng Nghymru.

Nôl i'r tabl cynnwys

10. Cyfeirio at y bwletin ystadegol hwn

Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG), rhyddhawyd ar 6 Ionawr 2023, gwefan SYG, bwletin ystadegol, Cyfeiriadedd rhywiol a hunaniaeth o ran rhywedd, Cymru a Lloegr: Cyfrifiad 2021

Nôl i'r tabl cynnwys

Manylion cyswllt ar gyfer y Bwletin ystadegol

Michael Roskams
census.customerservices@ons.gov.uk
Ffôn: +44 1329 444972