Cofair: transport_to_workplace
Cymhwysedd: Person
Math: Deillio newidyn

Diffiniad

Gweithle person a'i ddull o deithio i'r gwaith. Dull 2001 o gynhyrchu newidynnau teithio i'r gwaith yw hyn.

Mae "Gweithio o’r cartref yn bennaf" yn gymwys i rywun a nododd ei gyfeiriad cartref fel ei weithle a'i fod yn teithio i'r gwaith drwy yrru car neu fan, er enghraifft ymweld â chleientiaid.

Dosbarthiad

Cyfanswm nifer y categorïau: 12

Cod Enw
1 Gweithio gartref neu o’r cartref yn bennaf
2 Trên tanddaearol, metro, tram, neu reilffordd ysgafn
3 Trên
4 Bws neu fws mini
5 Tacsi
6 Beic modur, moped neu sgwter
7 Gyrru car neu fan
8 Teithiwr mewn car neu fan
9 Beic
10 Cerdded
11 Dull arall o deithio i'r gwaith
12 Ddim mewn gwaith neu'n 15 oed neu'n iau

Gweld pob dosbarthiad dull o deithio i'r gweithle.

Ansawdd gwybodaeth

Gan fod Cyfrifiad 2021 yn ystod cyfnod unigryw o newid cyflym, cymerwch ofal wrth ddefnyddio data Teithio i’r gwaith at ddibenion cynllunio.

Oherwydd newidiadau methedolegol, mae gan y categori ‘gweithio gartref o’r cartref yn bennaf: unrhyw fath o weithle’ boblogaeth o sero. Defnyddiwch y dosbarthiad 12 categori ar gyfer y newidyn hwn.

Darllenwch fwy yn ein methodoleg ar wybodaeth am ansawdd data am deithio i'r gwaith o Gyfrifiad 2021 (yn Saesneg).

Cefndir

Darllenwch am sut y gwnaethom ddatblygu a phrofi'r cwestiynau ar gyfer Cyfrifiad 2021 (yn Saesneg).

Cymharedd â Chyfrifiad 2011

Ddim yn gymaradwy

Mae'n anodd cymharu'r newidyn hwn â Chyfrifiad 2011 oherwydd bod Cyfrifiad 2021 wedi'i gynnal yn ystod cyfnod o gyfyngiadau symud cenedlaethol. Cyngor y llywodraeth ar y pryd oedd i bobl weithio gartref (os oedd modd) ac osgoi trafnidiaeth gyhoeddus.

Cafodd pobl a oedd ar ffyrlo (tua 5.6 miliwn) eu cynghori i ateb y cwestiwn am deithio i'r gwaith yn seiliedig ar eu patrymau teithio blaenorol cyn neu yn ystod y pandemig. Mae hyn yn golygu nad yw'r data yn cynrychioli'r hyn roeddent yn ei wneud ar Ddiwrnod y Cyfrifiad yn gywir. Nid oes modd cymharu'r newidyn hwn yn uniongyrchol â'r data am deithio i'r gwaith o Gyfrifiad 2011 am nad yw'n cynnwys pobl a oedd yn teithio i'r gwaith ar y diwrnod hwnnw ond gellir ei gymharu'n rhannol â thablau pwrpasol o 2011.

Beth yw ystyr ddim yn gymaradwy?

Mae newidyn sydd ddim yn gymaradwy yn golygu na ellir ei gymharu â newidyn o Gyfrifiad 2011.

Cymariaethau rhwng Cymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a'r Alban

Cymaradwy yn fras

Mae'r newidyn ar gyfer yr Alban yn cynnwys y rhai sy'n teithio er mwyn astudio yn ogystal â gweithio.

Beth yw ystyr cymaradwy yn fras?

Mae newidyn sy'n gymaradwy yn fras yn golygu y gall allbynnau o Gyfrifiad 2021 yng Nghymru a Lloegr gael eu cymharu'n gyffredinol â'r Alban a Gogledd Iwerddon. Gall gwahaniaethau o ran y ffordd y cafodd y data eu casglu neu eu cyflwyno olygu bod llai o allu i gysoni allbynnau yn llawn, ond byddem yn disgwyl gallu eu cysoni rywfaint o hyd.

Dysgwch fwy am newidynnau a luniwyd ar gyfer Cyfrifiad 2021 yng Ngogledd Iwerddon (yn Saesneg) a Chyfrifiad 2022 yn yr Alban (yn Saesneg).

Data Cyfrifiad 2021 sy’n defnyddio’r newidyn hwn

Rydym yn defnyddio newidynnau o ddata Cyfrifiad 2021 i ddangos canfyddiadau mewn gwahanol ffyrdd.

Gallwch chi:

Fel arall, gallwch hefyd greu set ddata wedi’i deilwra (yn Saesneg).

Setiau data eraill sy’n defnyddio’r newidyn hwn