Cofair: workplace_travel
Cymhwysedd: Person
Math: Deillio newidyn

Diffiniad

Y pellter, mewn cilomedrau, rhwng cod post preswyl person a chod post ei weithle, wedi'i fesur mewn llinell syth. Mae pellter teithio o 0.1km yn nodi bod cod post y gweithle yr un peth â'r cod post preswyl. Caiff pellteroedd dros 1200km eu trin fel rhai annilys, a chaiff gwerth wedi'i briodoli neu ei amcangyfrif ei ychwanegu.

Mae “Gweithio gartref neu o’r cartref yn bennaf” yn cynnwys y sawl a diciodd naill ai'r blwch "Gartref neu o’r cartref" ar gyfer y cwestiwn am gyfeiriad y gweithle neu'r blwch "Gweithio gartref neu o’r cartref yn bennaf" ar gyfer y cwestiwn am y dull o deithio i'r gwaith.

Caiff pellter ei gyfrifo ar sail llinell syth rhwng cod post y cyfrifiad a chod post y gweithle.

Cyfunwch y newidyn hwn gyda “Statws gweithgarwch economaidd” i nodi’r rhai a oedd mewn cyflogaeth ar adeg y cyfrifiad.

Dosbarthiad

Cyfanswm nifer y categorïau: 11

Cod Enw
1 Llai na 2km
2 2km i lai na 5km
3 5km i lai na 10km
4 10km i lai na 20km
5 20km i lai na 30km
6 30km i lai na 40km
7 40km i lai na 60km
8 60km a throsodd
9 Gweithio o’r cartref yn bennaf
10 Gweithio ar safle ar y môr, dim man penodol, neu y tu allan i'r Deyrnas Unedig yn bennaf
-8 Ddim yn gymwys*

*Myfyrwyr a phlant ysgol sy’n byw i ffwrdd o'r cartref yn ystod y tymor, pobl 15 oed neu'n iau, a phobl nad oeddent yn gweithio yn ystod yr wythnos cyn 21 Mawrth 2021.

Gweld pob dosbarthiad pellter teithio i'r gwaith.

Ansawdd gwybodaeth

Gan fod Cyfrifiad 2021 yn ystod cyfnod unigryw o newid cyflym, cymerwch ofal wrth ddefnyddio data Teithio i’r gwaith at ddibenion cynllunio.

Darllenwch fwy yn ein methodoleg ar wybodaeth am ansawdd data am deithio i'r gwaith o Gyfrifiad 2021 (yn Saesneg).

Cefndir

Darllenwch am sut y gwnaethom ddatblygu a phrofi'r cwestiynau ar gyfer Cyfrifiad 2021 (yn Saesneg).

Cymharedd â Chyfrifiad 2011

Ddim yn gymaradwy

Mae'n anodd cymharu'r newidyn hwn â Chyfrifiad 2011 oherwydd bod Cyfrifiad 2021 wedi'i gynnal yn ystod cyfnod o gyfyngiadau symud cenedlaethol. Cyngor y llywodraeth ar y pryd oedd i bobl weithio gartref (os oedd modd) ac osgoi trafnidiaeth gyhoeddus.

Dim ond y rhai a oedd yn gweithio mewn gweithle neu ddepo a roddodd gyfeiriad eu gweithle. Mae hyn yn golygu bod nifer y bobl a atebodd y cwestiwn hwn yn gyfran sylweddol lai o'r boblogaeth na'r arfer.

Gallai pobl a oedd ar ffyrlo (tua 5.6 miliwn), fod wedi rhoi manylion yn seiliedig ar eu patrymau cyn neu yn ystod y pandemig, neu'r hyn roeddent yn ei wneud pan oedd y cyfrifiad yn cael ei gynnal, gan gynnwys Diwrnod y Cyfrifiad.

Beth yw ystyr ddim yn gymaradwy?

Mae newidyn sydd ddim yn gymaradwy yn golygu na ellir ei gymharu â newidyn o Gyfrifiad 2011.

Cymariaethau rhwng Cymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a'r Alban

Cymaradwy yn fras

Mae'r newidyn ar gyfer yr Alban yn cynnwys y rhai sy'n teithio er mwyn astudio yn ogystal â gweithio.

Beth yw ystyr cymaradwy yn fras?

Mae newidyn sy'n gymaradwy yn fras yn golygu y gall allbynnau o Gyfrifiad 2021 yng Nghymru a Lloegr gael eu cymharu'n gyffredinol â'r Alban a Gogledd Iwerddon. Gall gwahaniaethau o ran y ffordd y cafodd y data eu casglu neu eu cyflwyno olygu bod llai o allu i gysoni allbynnau yn llawn, ond byddem yn disgwyl gallu eu cysoni rywfaint o hyd.

Dysgwch fwy am newidynnau a luniwyd ar gyfer Cyfrifiad 2021 yng Ngogledd Iwerddon (yn Saesneg) a Chyfrifiad 2022 yn yr Alban (yn Saesneg).

Data Cyfrifiad 2021 sy’n defnyddio’r newidyn hwn

Rydym yn defnyddio newidynnau o ddata Cyfrifiad 2021 i ddangos canfyddiadau mewn gwahanol ffyrdd.

Gallwch chi:

Fel arall, gallwch hefyd greu set ddata wedi’i deilwra (yn Saesneg).

Setiau data eraill sy’n defnyddio’r newidyn hwn