1. Cyflwyniad i ymgysylltu â'r cyhoedd ynglŷn â data

Yn y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG), rydym yn cynhyrchu ystadegau i helpu pobl a sefydliadau i wneud penderfyniadau gwell sy'n seiliedig ar wybodaeth. Er mwyn cadw i fyny ag anghenion newidiol cymdeithas, a chynhyrchu ystadegau amserol y gallwch ddibynnu arnynt, rydym yn ymchwilio i ffyrdd newydd ac arloesol i gasglu a phrosesu data. Mae hyn yn cynnwys defnyddio data gweinyddol, y mae sefydliadau yn eu casglu at ddibenion gweithredol.

Fodd bynnag, gwyddom o ymgysylltu â'r cyhoedd ar ddata fod agweddau pobl at rannu gwybodaeth bersonol yn gymhleth.

Drwy ein hymchwil, gwnaethom ganfod y canlynol:

  • er bod pobl yn deall bod rhannu data yn "agwedd ar fywyd modern na ellir ei hosgoi", ychydig o ymwybyddiaeth sydd gan bobl o bwy sy'n casglu data ac at ba ddiben y cânt eu defnyddio

  • mae pa mor hyderus y mae pobl yn teimlo am allu'r sefydliad i gadw eu data'n ddiogel ac yn ddienw yn effeithio ar eu parodrwydd i rannu

  • roedd agweddau at rannu data yn dibynnu ar y math o ddata y mae sefydliadau yn eu casglu, at ba ddiben y bydd sefydliadau yn defnyddio'r data a phwy arall fydd yn gallu cael gafael ar y data

  • mae enw da'r sefydliad sy'n gofyn am y data a'r ffordd y bydd yn eu defnyddio yn cael effaith sylweddol ar barodrwydd pobl i rannu data

  • mae'r wybodaeth y mae pobl yn ei rhannu a sut y caiff ei defnyddio yn cael effaith sylweddol ar eu parodrwydd i rannu data

Drwy raglen benodol o weithgarwch cyfathrebu, rydym am ymdrin â phryderon pobl am rannu data a meithrin ymddiriedaeth o ran y ffordd rydym yn defnyddio eu gwybodaeth bersonol i gynhyrchu ystadegau.

Mae angen eich help arnom i gysylltu â chynulleidfaoedd newydd ac ysgogi sgyrsiau am rannu data a'r effaith y gall ystadegau ei chael.

Mae'r pecyn cymorth hwn yn cynnwys deunyddiau y gallwch eu rhannu â'r cyhoedd ar eich sianeli cyfathrebu eich hun. Maent wedi cael eu cynllunio i gynyddu dealltwriaeth ac ymddiriedaeth y cyhoedd o ran sut y caiff data eu defnyddio i greu ystadegau. Ystadegau y gall sefydliadau fel eich un chi ddibynnu arnynt.

Nôl i'r tabl cynnwys

2. Pam mae'n bwysig ymgysylltu â'r cyhoedd ynglŷn â data

Mae gallu cael gafael ar ystadegau dibynadwy a chyfredol yn bwysig i bawb.

Fodd bynnag, mae ein hymchwil yn dangos ei bod yn bwysicach nag erioed i bobl gael sicrwydd bod data yn cael eu defnyddio mewn ffordd sy'n:

  • ddibynadwy

  • agored a gonest

  • moesegol

  • amodol ar brosesau craffu annibynnol

Rydym am i'r cyhoedd fod yn hyderus bod eu data personol yn ddiogel ac y byddant ond yn cael eu defnyddio i greu ystadegau swyddogol.

Mae'r ystadegau hyn yn helpu i lywio polisi, darparu gwasanaethau newydd a chlustnodi cyllid cyhoeddus mewn llywodraeth leol a chenedlaethol. Mae elusennau a grwpiau cymunedol yn eu defnyddio i helpu i dargedu eu cymorth a chreu achos ar gyfer y cyllid sydd ei angen arnynt. A gall y cyhoedd eu defnyddio i gymharu prisiau rhent neu fesur eu cyfradd chwyddiant bersonol.

Gwyddom o'n hymchwil fod gweld enghreifftiau o'r effaith y gall ystadegau ei chael yn helpu pobl i fod yn fwy parod i dderbyn i'w data gael eu defnyddio. Rydym yn eich annog i rannu eich enghreifftiau eich hun o'r ffordd y mae eich sefydliad wedi defnyddio ystadegau i wneud penderfyniadau pwysig sydd o fudd i gymdeithas. Mae'r pecyn cymorth hwn yn esbonio sut y gallwch ymgysylltu â ni ar y cyfryngau cymdeithasol.

Gyda'ch cymorth, rydym am feithrin ymddiriedaeth yn y ffordd rydym yn casglu ac yn dadansoddi data. Rydym am i bobl ddeall yr effaith y gall ystadegau ei chael fel eu bod yn parhau i gymryd rhan yn ein harolygon pan fyddant yn cael eu gwahodd i wneud hynny. Bydd hyn yn ein galluogi i barhau i gyhoeddi ystadegau swyddogol y gall pawb ddibynnu arnynt.

Nôl i'r tabl cynnwys

3. Sut y gallwn gydweithio i ymgysylltu â'r cyhoedd ynglŷn â data

Rydym wedi creu amrywiaeth o gynhyrchion cyfathrebu y gallwch eu rhannu â'ch cynulleidfaoedd, gan gynnwys fideos, adnoddau addysg a gweminarau.

Nod yr adnoddau hyn yw gwella dealltwriaeth pobl o ddata a'r effaith y gall ystadegau ei chael ar helpu sefydliadau i wneud penderfyniadau mwy hyddysg.

Drwy rannu'r adnoddau hyn, byddwch yn helpu i:

  • rannu pynciau cymhleth, fel data ac ystadegau, yn gysyniadau cryno sy'n hawdd eu deall

  • tynnu sylw at y buddion y gall rhannu data eu creu i gymdeithas

  • annog dadl, fel y gallwn barhau i fonitro barn y cyhoedd am rannu data

  • rhoi sicrwydd o ran y ffordd y mae sefydliadau yn defnyddio gwybodaeth bersonol

Gallwch rannu adnoddau yn y pecyn cymorth hwn â'ch cynulleidfaoedd cyhoeddus eich hun mewn cylchlythyrau e-bost, ar eich gwefan ac mewn cyflwyniadau.

Gallwch hefyd eu rhannu ar eich sianeli cyfryngau cymdeithasol, gan dynnu sylw at y ffordd y mae eich sefydliad yn defnyddio ystadegau i wneud penderfyniadau mwy hyddysg er budd y cyhoedd.

Gallwch ymgysylltu â ni ar y cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio ein hashnod, #YstadegauErBuddYCyhoedd. Gallwch ddod o hyd i ni ar:

Gyda phob ased, rydym wedi cynnwys copi awgrymedig ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol y gallwch ei addasu a'i ddefnyddio.

Byddwn yn diweddaru'r dudalen hon pan gaiff rhagor o gynnwys ei ddatblygu, felly dewch yn ôl i chwilio am ddeunyddiau ac adnoddau ychwanegol.

Nôl i'r tabl cynnwys

4. Fideos yn dangos agweddau pobl ifanc at rannu data

Drwy ddeall barn y cyhoedd am rannu data, gallwn ymdrin â'u pryderon a gwneud yn siŵr eu bod yn teimlo'n hyderus o ran sut rydym yn casglu ac yn prosesu eu data.

Ym mis Mawrth 2023, gwnaethom wahodd grŵp o bobl rhwng 18 a 24 oed i drafodaeth fywiog am rannu data. Roedd yn gyfle gwych i ddeall eu barn am ddata a gallwch wylio a rhannu ein fideo llawn ar y Drafodaeth Ddata (yn Saesneg) [yn agor chwaraewr fideo YouTube].

Gallwch hefyd rannu'r fideos byrrach hyn ar eich sianeli eich hun a dechrau trafodaeth am rannu data â'ch cynulleidfaoedd eich hun:

Enghraifft o bostiad ar y cyfryngau cymdeithasol


Rydym yn defnyddio ystadegau @ONS i'n helpu ni i [enghraifft o wasanaeth rydych yn ei gynnig a gaiff ei lywio gan ystadegau].
Siaradodd @ONS â grŵp o bobl ifanc am y ffordd y maent yn teimlo am rannu data er mwyn creu #YstadegauErBuddYCyhoedd. Gwyliwch y fideo a rhannwch eich barn â ni.

Nôl i'r tabl cynnwys

5. Fideos addysgol er mwyn helpu i esbonio data ac ystadegau

Gall gwybodaeth am ddata ac ystadegau fod yn gymhleth weithiau. Yn y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG), rydym wedi cynhyrchu cyfres o fideos sy'n ceisio addysgu'r cyhoedd ar bynciau sy'n ymwneud â data ac ystadegau. Rydym yn ateb rhai o'r cwestiynau a all fod gan eich cynulleidfaoedd yn ein cyfres o fideos byr, hawdd eu deall.

Enghraifft o bostiad ar y cyfryngau cymdeithasol


Gwnaethom ddefnyddio ystadegau gan @ONS i'n helpu i [enghraifft o sut mae eich sefydliad yn defnyddio ystadegau i wneud penderfyniadau sydd o fudd i'ch cynulleidfa].
Yma, mae Cerys o'r SYG yn esbonio'r data a gaiff eu defnyddio, o ble maent yn dod a sut y cânt eu defnyddio i greu #YstadegauErBuddYCyhoedd.

Enghraifft o bostiad ar y cyfryngau cymdeithasol


Gwnaethom ddefnyddio ystadegau gan @ONS i'n helpu i [enghraifft o sut mae eich sefydliad yn defnyddio ystadegau i wneud penderfyniadau sydd o fudd i'ch cynulleidfa]. Mae Cerys o'r SYG yn esbonio pam mae ystadegau mor bwysig i sefydliadau fel ein un ni #YstadegauErBuddYCyhoedd.

Enghraifft o bostiad ar y cyfryngau cymdeithasol


Gwnaethom ddefnyddio ystadegau gan @ONS i'n helpu i [enghraifft o sut mae eich sefydliad yn defnyddio ystadegau i wneud penderfyniadau sydd o fudd i'ch cynulleidfa]. Mae Lewis o'r SYG yn esbonio sut y caiff data eu dad-adnabod a pham mae mor bwysig #YstadegauErBuddYCyhoedd

Enghraifft o bostiad ar y cyfryngau cymdeithasol


Gwnaethom ddefnyddio ystadegau gan @ONS i'n helpu i [enghraifft o sut mae eich sefydliad yn defnyddio ystadegau i wneud penderfyniadau sydd o fudd i'ch cynulleidfa]. Mae Lewis o'r SYG yn esbonio'r gwahanol fathau o ddata a gaiff eu defnyddio i gynhyrchu #YstadegauErBuddYCyhoedd.

Nôl i'r tabl cynnwys

6. Astudiaethau achos sy'n dod â data ac ystadegau yn fyw

Mae gennym rai astudiaethau achos ardderchog er mwyn dangos i'ch cynulleidfaoedd y buddion y gall data ac ystadegau eu cynnig i gymdeithas.

Hoffem i chi rannu eich enghreifftiau eich hunain o sut rydych yn defnyddio data ac ystadegau er budd eich cynulleidfaoedd eich hunain hefyd, a'n tagio ynddynt. Cofiwch ddefnyddio ein hashnod, #YstadegauErBuddYCyhoedd.

Ac os oes diddordeb gennych mewn ymddangos fel astudiaeth achos ar ein gwefan, cysylltwch â ni yn campaigns@ons.gov.uk.

Enghraifft o bostiad ar y cyfryngau cymdeithasol


Rydym yn defnyddio ystadegau gan @ONS i'n helpu i [enghraifft o sut mae eich sefydliad yn defnyddio ystadegau i wneud penderfyniadau sydd o fudd i'ch cynulleidfa]. Darllenwch fwy o enghreifftiau o'r ffordd y mae sefydliadau eraill yn defnyddio #YstadegauErBuddYCyhoedd.

Nôl i'r tabl cynnwys

7. Adnoddau addysg y SYG ar gyfer addysg bellach 16

Rhaglen addysg i fyfyrwyr 16 oed a throsodd yw "Defnyddio rhifau: sut y defnyddir data i greu ystadegau".

Rydym wedi creu pum cynllun gwers gyda chymorth Cymdeithas y Colegau. Mae pob cynllun gwers yn cyd-fynd â'r cwricwlwm a gellir defnyddio'r cynlluniau mewn pynciau fel mathemateg, busnes, daearyddiaeth a chymdeithaseg.

Mae'r pynciau'n cynnwys:

  • busnes, diwydiant a masnach

  • chwyddiant

  • cynnyrch domestig gros

  • iechyd a llesiant

  • bwlch cyflog rhwng y rhywiau

Bydd y cynlluniau gwersi yn helpu myfyrwyr i ddeall sut a pham rydym yn defnyddio data'r cyhoedd i gynhyrchu ystadegau. 

Defnyddio Rhifau: sut y defnyddir data i greu ystadegau

Enghraifft o bostiad ar y cyfryngau cymdeithasol


Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn helpu myfyrwyr i ymddiddori mewn data gyda'i rhaglen “Defnyddio Rhifau” i bobl ifanc dros 16 oed. Drwy bynciau fel mathemateg, daearyddiaeth a chymdeithaseg, gall myfyrwyr ddysgu am y ffordd y mae @ONS yn defnyddio data i gynhyrchu ystadegau. Lawrlwythwch yr adnoddau:

Nôl i'r tabl cynnwys

8. Cyfres gweminarau addysgol: Dod â data'n fyw

Rydym wedi creu cyfres gweminarau misol, "Dod â data'n fyw", ar gyfer sefydliadau, elusennau, busnesau ac aelodau o'r cyhoedd sydd â diddordeb. Bydd y gweminarau yn rhoi gwell dealltwriaeth i bobl o bynciau ystadegol a all gael eu hystyried yn gymhleth. Drwy wneud hyn, gallwn helpu pobl i ddefnyddio data yn well a helpu pawb i wneud y mwyaf o'n hystadegau.

Gallwch ymuno â'r digwyddiad, a gwahodd eraill i ymuno hefyd, drwy gofrestru ar Eventbrite (yn Saesneg). Caiff y gweminarau eu recordio a'u rhestru ar YouTube hefyd i chi eu gwylio ar ôl y digwyddiad. Rhagor o wybodaeth i ddilyn. Mae pynciau wedi cael eu dewis yn seiliedig ar adborth gan randdeiliaid, ond rydym yn croesawu eich awgrymiadau ar gyfer gweminarau yn y dyfodol.

Enghraifft o bostiad ar y cyfryngau cymdeithasol


Rydym yn defnyddio ystadegau gan @ONS i'n helpu i [enghraifft o sut rydych yn defnyddio ystadegau i wneud penderfyniadau sydd o fudd i'ch cynulleidfa]. Cyfres newydd o weminarau yw 'Dod â data'n fyw' a gall eich helpu i feithrin gwell dealltwriaeth o bynciau ystadegol a all gael eu hystyried yn gymhleth. Cofrestrwch ar gyfer gweminarau diweddaraf y SYG neu gwyliwch gasgliad "Dod â data'n fyw" i ddeall sut y gallwch ddefnyddio #YstadegauErBuddYCyhoedd.

Nôl i'r tabl cynnwys

9. Ymgysylltu â'r Swyddfa Ystadegau Gwladol

Hoffem glywed enghreifftiau o'r ffordd y mae eich sefydliad yn defnyddio ystadegau i wneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth sydd o fudd i gymdeithas.

Rhannwch eich straeon ar y cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio'r hashnod #YstadegauErBuddYCyhoedd a chofiwch ein tagio hefyd. Gallwch ddod o hyd i ni ar:

Cysylltwch â ni


Os hoffech ymddangos fel astudiaeth achos ar ein gwefan, cysylltwch â ni yn campaigns@ons.gov.uk

Os hoffech roi adborth i ni, trafod sut y gallwch ddefnyddio ein hystadegau yn well neu awgrymu pynciau ar gyfer gweminarau yn y dyfodol, cysylltwch â ni yn engagement.hub@ons.gov.uk.

Nôl i'r tabl cynnwys