1. Sut mae ein hystadegau ar yr economi a chostau byw o fudd i chi?

Yn y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG), rydym yn cynhyrchu ystadegau swyddogol sy'n ein helpu i ddeall economi, cymdeithas a phoblogaeth y DU. Mae hyn yn cynnwys ystadegau ar:  

  • sut mae busnesau'n perfformio 

  • cyfradd chwyddiant 

  • faint mae pobl yn ei ennill  

  • mathau gwahanol o bensiynau a buddsoddiadau 

Mae'r ystadegau hyn yn helpu i lywio polisïau'r llywodraeth. Gall cwmnïau eu defnyddio i benderfynu ble i agor safleoedd newydd. Gall y wybodaeth ddiweddaraf am yr economi a phrisiau cynhyrchion a gwasanaethau hefyd helpu busnesau i redeg yn fwy effeithlon.

Nôl i'r tabl cynnwys

2. Sut mae ein hystadegau ar yr economi a chostau byw yn gwneud gwahaniaeth?

Archwilio sut mae pobl yn penderfynu a ddylent brynu tŷ neu ymuno â chynllun pensiwn

Cael pensiwn preifat a bod yn berchen ar eich cartref eich hun yw rhai o'r mathau pwysicaf o gyfoeth. Ond gall fod yn anodd penderfynu sut i'w cael a phryd.  

Yn 2020, defnyddiodd ymchwilwyr yr Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion i archwilio a yw pobl yn dewis rhwng cynilo ar gyfer cartref neu wario ar gartref a chynilo mewn pensiwn preifat. Yr Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion yw'r ffynhonnell fwyaf cynhwysfawr o wybodaeth ar strwythur a dosbarthiad enillion yn y DU. 

Canfu'r ymchwil cyn cyflwyno'r broses i gael pobl i ymuno â chynllun pensiwn yn awtomataidd, bod pobl o bob oedran sy'n rhentu yn llai tebygol o gynilo mewn pension preifat na phobl sydd â morgais. 

Mae hyn yn nodi cyfle i'r llywodraeth a'r diwydiant gwasanaethau ariannol annog pobl i gynilo mwy er mwyn paratoi ar gyfer eu hymddeoliad. 

Dywedodd Alex Beer, Pennaeth Rhaglen Lles Sefydliad Nuffield, "Mae'r dadansoddiad pwysig hwn yn dangos sut y gall gallu pobl i gynilo newid wrth iddynt heneiddio, wrth i'w henillion dyfu ac wrth i'w hamgylchiadau teuluol newid. Felly, gallai polisïau i sicrhau'r cynilion pensiwn mwyaf ystyried pryd a sut i fanteisio ar gyfleoedd i newid y gyfradd y mae pobl yn cynilo."

Archwilio tueddiadau cyflogaeth y tu allan i ddinasoedd a threfi

Mae cynhyrchu ystadegau am ardaloedd lleol yn ein helpu i ddeall y materion sy'n effeithio ar gymunedau.

Defnyddiodd prosiect ymchwil yn 2023 ddata o Arolwg y Gofrestr Busnesau a Chyflogaeth. Canfu bod cyfraddau cyflogaeth yng Nghymru a Lloegr wedi cynyddu 20% mewn lleoliadau alldrefol rhwng 2009 a 2021.

Ar gyfartaledd, gwelwyd cyfraddau twf cyflogaeth is mewn trefi o gymharu â dinasoedd a lleoliadau alldrefol ers 2009.

Bydd yr ymchwil hon yn helpu i lywio polisi llywodraeth ganolog a lleol ar bynciau fel dyfodol y stryd fawr a newid patrymau gweithio a theithio.

Deall y gydberthynas rhwng pynciau myfyrwyr a ble maent yn gweithio

Yn 2021, comisiynodd y Gymdeithas Frenhinol y Sefydliad Polisi Addysg (EPI) i ymchwilio i'r gydberthynas rhwng y pynciau a astudiwyd gan bobl ifanc 16 i 19 oed a ble y cawsant waith   

Roedd eu prosiect ymchwil yn cysylltu data o sawl adran o'r llywodraeth  drwy ein Gwasanaeth Ymchwil Diogel (yn Saesneg). Canfu bod y rheini a astudiodd amrywiaeth o bynciau wedi mynd ymlaen i ennill £2,500 yn fwy yng nghanol eu hugeiniau o gymharu â'r rheini â chymwysterau o un grŵp pynciau yn unig. 

O ganlyniad, mae'r prosiect wedi llywio ffordd o feddwl ymchwilwyr ynghylch yr opsiynau ar gyfer pobl ifanc 16-19 oed. 

Dywedodd David Robinson o'r EPI, "Canfu ein hastudiaeth bod manteision i yrfaoedd y myfyrwyr hynny sy'n astudio amrywiaeth ehangach o bynciau, a allai eu helpu i ddeall y farchnad lafur yn y dyfodol." 

Gallwch archwilio enghreifftiau o ymchwil data gweinyddol gan ddefnyddio ystadegau gan y SYG (yn Saesneg) ar wefan ADR UK.

Nôl i'r tabl cynnwys

3. Dysgwch fwy am ein hystadegau ar yr economi a chostau byw gan y SYG

Sut mae ad-daliadau morgais misol yn newid ym Mhrydain Fawr? (yn Saesneg)
Gwelwch effaith prisiau tai diweddaraf a chyfraddau llog ar filiau morgais misol.
Lleisiau myfyrwyr: profiadau o'r costau byw cynyddol (yn Saesneg)
Dysgwch sut mae costau byw cynyddol yn effeithio ar fyfyrwyr yn Lloegr.
Nôl i'r tabl cynnwys