1. Sut mae ein hystadegau ar iechyd a llesiant o fudd i chi?
Yn y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG), rydym yn casglu, yn storio, yn prosesu ac yn defnyddio data i gynhyrchu ystadegau sy'n ein helpu i ddeall economi, cymdeithas a phoblogaeth y DU. Mae hyn yn cynnwys ystadegau ar:
gofal iechyd
disgwyliad oes
anabledd
lles personol pobl
Defnyddir yr ystadegau hyn ym mhob rhan o gymdeithas yn y DU. Maent yn helpu cynghorau lleol i gynllunio gwasanaethau ar gyfer y bobl sydd eu hangen fwyaf. Mae sefydliadau gofal iechyd yn eu defnyddio i gael gafael ar anghydraddoldebau ac i gydnabod lle mae angen help a chymorth ar bobl. Mae elusennau hefyd yn defnyddio ein hystadegau i helpu i dargedu eu cymorth a chael gafael ar y cyllid sydd ei angen arnynt.
Nôl i'r tabl cynnwys2. Sut mae ein hystadegau ar iechyd a llesiant yn gwneud gwahaniaeth?
Trechu'r sgamwyr
Yn ôl Diweddariad Twyll Hanner Blwyddyn 2023 UK Finance (yn Saesneg), yn ystod chwe mis cyntaf 2023, cafodd mwy na hanner biliwn o bunnoedd ei ddwyn gan droseddwyr.
Nid yw'n syndod bod sgamio yn cael effaith enfawr ar ddioddefwyr, ond i ba raddau a beth y gellid ei wneud am y peth?
Mae Arolwg Troseddu Cymru a Lloegr (CSEW) yn holi dioddefwyr amrywiaeth benodol o droseddau am eu profiadau.
Yn 2021, gan ddefnyddio data o'r CSEW, canfu ymchwilwyr bod dioddefwyr sgamiau yn gysylltiedig â:
lefelau sylweddol is o foddhad â'u bywydau
lefelau is o hapusrwydd
lefelau uwch o orbryder
Helpodd y ddealltwriaeth hon sefydliadau fel Which? i dynnu sylw at yr angen am gamau gwell i amddiffyn defnyddwyr rhag sgamiau ar-lein. Dywedodd Matt Gardner, Economegydd yn Which?, "Llwyddodd y prosiect hwn i wella ein dealltwriaeth o faint y niwed emosiynol a brofwyd gan ddioddefwyr twyll. Roedd y dystiolaeth o ansawdd a gafwyd yn rhan bwysig o'n hymdrechion llwyddiannus i ymgyrchu i sicrhau bod hysbysebion twyllodrus yn cael eu cynnwys yn y Bil Diogelwch Ar-lein."
Rheoli lledaeniad COVID-19
Yn ystod pandemig y coronafeirws, roedd lledaeniad COVID-19 mewn lleoliadau sy'n agored i niwed, fel cartrefi gofal, ysbytai, carchardai ac ysgolion, yn bryder penodol.
Roedd dod o hyd i'r strategaeth brofi fwyaf effeithiol a chost-effeithlon yn hanfodol.
Yn 2022, defnyddiodd ymchwilydd o Brifysgol Keele ddata o'n Gwasanaeth Ymchwil Diogel (yn Saesneg) i fodelu lledaeniad COVID-19 mewn lleoliadau sy'n agored i niwed.
Defnyddiwyd data profi ac olrhain, data brechu, data marwolaethau a ffynonellau eraill i fodelu lledaeniad COVID-19 dan strategaethau profi gwahanol.
Helpodd hyn Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU i ddarparu tystiolaeth a chyngor ar y strategaethau profi mwyaf buddiol yn y lleoliadau hyn sy'n agored i niwed. Llywiodd y dystiolaeth y polisi cyhoeddus ar brofi mewn lleoliadau sy'n agored i niwed.
Gallwch archwilio enghreifftiau o ymchwil data gweinyddol gan ddefnyddio ystadegau gan y SYG (yn Saesneg) ar wefan ADR UK.
Nôl i'r tabl cynnwys