1. Sut mae ein hystadegau ar dlodi a chydraddoldeb o fudd i chi?

Ni yw'r Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG), cynhyrchydd ystadegau annibynnol mwyaf y DU. Rydym yn cynhyrchu ystadegau sy'n ein helpu i ddeall economi, cymdeithas a phoblogaeth y DU, gan gynnwys: 

  • anghydraddoldeb cymdeithasol 

  • troseddau 

  • addysg  

  • sut mae tlodi yn effeithio ar bobl 

Mae'r ystadegau hyn yn helpu cynghorau lleol i gynllunio gwasanaethau ar gyfer y bobl sydd eu hangen fwyaf. Gall sefydliadau eu defnyddio i dynnu sylw at ble mae anghydraddoldebau'n bodoli a chynnig help a chefnogaeth. Mae elusennau'n defnyddio ein hystadegau i helpu i dargedu eu cymorth a helpu i greu achos ar gyfer y cyllid sydd ei angen arnynt.

Nôl i'r tabl cynnwys

2. Sut mae ein hystadegau ar dlodi a chydraddoldeb yn gwneud gwahaniaeth?

Tynnu sylw at drais sy'n gysylltiedig ag alcohol mewn grwpiau difreintiedig

Mae trais sy'n gysylltiedig ag alcohol ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yn rhoi baich mawr ar y cyhoedd ac ar y gwasanaethau brys. Rhwng 2017 a 2018, cyflawnwyd bron i ddwy o bob pum (39%) trosedd dreisgar dan ddylanwad alcohol. Yn anffodus, ar yr aelodau tlotaf o gymdeithas yr effeithir arnynt fwyaf.

Mae Arolwg Troseddu Cymru a Lloegr wedi bod yn mesur troseddau ers 1981. Ynghyd â data'r heddlu ar droseddau a gofnodwyd, mae'r arolwg yn ffynhonnell werthfawr o wybodaeth i'r llywodraeth am raddau a natur troseddau.

Canfu ymchwil a gynhaliwyd rhwng 2019 a 2021 a oedd yn defnyddio Arolwg Troseddu Cymru a Lloegr fod y grwpiau mwyaf difreintiedig yn wynebu cyfraddau uwch o drais sy'n gysylltiedig ag alcohol. Maent hefyd yn fwy tebygol o brofi ymddygiad gwrthgymdeithasol sy'n gysylltiedig ag alcohol o leiaf unwaith yr wythnos neu'n amlach.

Mae'r grwpiau tlotaf mewn cymdeithas yn wynebu cymaint â 14 yn fwy o ddigwyddiadau o drais domestig sy'n gysylltiedig ag alcohol bob blwyddyn, o gymharu â'r grwpiau lleiaf difreintiedig.

Codwyd y gwaith hwn yn Nhŷ'r Arglwyddi a helpodd i lywio Bil Cam-drin Domestig 2020, gan awgrymu y dylid ailystyried gwasanaethau a ariennir drwy arian cyhoeddus er mwyn chwalu'r rhwystrau sy'n wynebu'r grwpiau hyn yr effeithir arnynt.

Roedd y canfyddiadau hyn hefyd wedi'u cynnwys yn yr adroddiad ‘An Inquiry into the Effects of Alcohol on Society’ gan y Comisiwn ar y Niwed sy'n Gysylltiedig ag Alcohol.

Dywedodd Lucy Bryant, Swyddog Ymchwil a Pholisi yn y Sefydliad Astudiaethau Alcohol, “Mae trais sy'n gysylltiedig ag alcohol yn cyfrif am ddwy ran o bump o'r holl drais yng Nghymru a Lloegr heddiw, a'r grwpiau mwyaf difreintiedig sy'n wynebu'r baich mwyaf. Mae'n hollbwysig bod gwneuthurwyr polisi pwysig yn gweithredu i fynd i'r afael â'r gwahaniaeth hwn mewn erledigaeth, ynghyd â'r ffactorau strwythurol sy'n sail iddo.”

Dangos pam y mae'r rhai sy'n cael prydau ysgol am ddim yn ennill llai na'u cyfoedion

Fel arfer, mae myfyrwyr o'r cefndiroedd tlotaf yn ennill llai nag eraill fel oedolion. Roedd astudiaeth ymchwil a ddechreuodd yn 2021 ac a gyhoeddwyd yn 2022 am archwilio'r ffactorau sy'n sail i'r bwlch hwn mewn enillion. 

Roedd y prosiect yn defnyddio data o set ddata Canlyniadau Addysg Hydredol yr Adran Addysg drwy ein Gwasanaeth Ymchwil Diogel (yn Saesneg). Dangosodd, ar bob lefel o gymhwyster, bod y rheini sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim yn ennill llai pan oeddent yn 30 oed o gymharu â'u cyfoedion oedd â'r un lefel cymhwyster uchaf. Roedd y bwlch hwn mewn enillion yn tua 20% ar ôl addasu. 

Rhannwyd y canlyniadau o'r ymchwil hon â'r Adran Addysg a sefydliadau fel Teach First. Bydd y canfyddiadau hyn yn helpu i lywio penderfyniadau polisi ac argymhellion i fynd i'r afael â'r ffactorau y tu ôl i'r bwlch enillion. 

Darllenwch fwy am pam y mae'r rheini sy'n cael prydau ysgol am ddim yn ennill llai na'u cyfoedion (yn Saesneg).

Datgelu'r gwahaniaethau mewn cyflog rhwng grwpiau ethnig leiafrifol

Yn aml, mae ble y mae cyflogeion yn gweithio yn gwneud gwahaniaeth mawr mewn cyflog rhwng grwpiau ethnig leiafrifol gwahanol. 

Yn 2022, defnyddiodd ymchwilwyr ddata cysylltiol newydd o arolygon swyddogol a setiau data gweinyddol amrywiol i archwilio rôl y cyflogwr mewn bylchau cyflog sy'n seiliedig ar rywedd ac ethnigrwydd. 

Roedd hyn yn cynnwys data o Gyfrifiad 2011 a'r Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion. Yr Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion yw'r ffynhonnell fwyaf cynhwysfawr o wybodaeth ar strwythur a dosbarthiad enillion yn y DU. 

Canfu'r ymchwil bod graddau'r bylchau cyflog i ddynion neu fenywod yn dibynnu ar y grŵp lleiafrifol sy'n cael ei gymharu â gweithwyr gwyn. Mae hefyd yn dibynnu ar b'un a gaiff cyflogeion sy'n ennill cyflog isel neu uchel eu hastudio. Dangosodd yr ymchwil fod cyflogwyr y gweithwyr yn hanfodol er mwyn deall y bylchau hyn. Heb wneud hynny, byddai dylanwad ffactorau fel oedran, addysg, galwedigaeth a rhanbarth yn cael ei oramcangyfrif. 

Mae'r ymchwil hon yn rhan o brosiect Wage and Employment Dynamics (yn Saesneg), a ariennir gan ADR UK. Fe'i cyflwynwyd mewn sawl seminar ledled y DU ac mae wedi ennyn cryn ddiddordeb o blith y cymunedau academaidd a pholisi. 

Dywedodd Tim Butcher, Prif Economegydd y Comisiwn Cyflogau Isel, "Mae prosiect Wage and Employment Dynamics yn gwella ac yn ehangu ein sail dystiolaeth, a ddylai alluogi ymchwilwyr i roi cipolwg newydd ac arloesol ar ddynameg cyflogau a chyflogaeth y rheini sydd ar y cyflog isaf." 

Gallwch archwilio enghreifftiau o ymchwil data gweinyddol gan ddefnyddio ystadegau gan y SYG (yn Saesneg) ar wefan ADR UK.

Nôl i'r tabl cynnwys

3. Dysgwch fwy am ystadegau ar dlodi a chydraddoldeb gan y SYG

Beth yw gwerth eich cyflog? (yn Saesneg)
Defnyddiwch ein cyfrifiannell i ganfod a yw eich cyflog yn dal i fyny â chwyddiant.
Sut mae chwyddiant yn effeithio ar gostau eich cartref? (yn Saesneg)
Dysgwch sut mae cynnydd mewn costau byw wedi effeithio arnoch chi.
Olrhain effaith pwysau'r gaeaf ym Mhrydain Fawr (yn Saesneg)
Effaith ar gostau byw a chael gafael ar wasanaethau iechyd yn ystod misoedd y gaeaf.
Nôl i'r tabl cynnwys