1. Sut y gwnaethom greu “Defnyddio rhifau”

Rydym wedi datblygu rhaglen addysg data ar gyfer myfyrwyr 16 oed a throsodd sydd mewn addysg bellach neu yn y chweched dosbarth. Ei nod yw sicrhau bod y cyhoedd yn fwy ymwybodol o'r hyn rydym yn ei wneud yn y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG).

Mae “Defnyddio rhifau: sut y defnyddir data i greu ystadegau” yn cynnwys cyfres o bum pecyn cymorth ystafell ddosbarth. Mae pob pecyn cymorth yn canolbwyntio ar adnodd neu set ddata'r SYG sy'n ymwneud â rhan o fywyd pob dydd.

Gall athrawon ailddefnyddio’r pecynnau cymorth hyn am ddim, yn amodol ar y Drwydded Llywodraeth Agored. Dylai unrhyw ddefnydd gynnwys cyfeiriad at y SYG fel ffynhonnell y wybodaeth yn yr adnoddau.

Mae'r pecynnau cymorth hyn wedi'u creu gyda chymorth y Gymdeithas Golegau, a byddant yn helpu myfyrwyr i ddeall sut a pham rydym yn defnyddio data'r cyhoedd i gynhyrchu ystadegau.

Sefydliad nid elw yw Cymdeithas y Colegau a sefydlwyd gan golegau addysg bellach i weithredu fel eu llais ar y cyd.

I’ch rhoi ar ben ffordd, rydym wedi creu canllaw defnyddiol i athrawon ar Ddefnyddio rhifau.

Adnoddau

Lawrlwytho sleidiau cyflwyniadau’r canllaw i athrawon

Lawrlwytho pecyn cymorth y canllaw i athrawon

Nôl i'r tabl cynnwys

2. Pecyn cymorth data ar y Bwlch Cyflog rhwng y Rhywiau

Mae'r pecyn cymorth hwn yn archwilio'r cysyniad o fylchau cyflog rhwng y rhywiau, gan ystyried sut a pham y cânt eu mesur. Gall myfyrwyr ddefnyddio adnodd archwilio'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau (yn Saesneg) a data o set ddata'r Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion. Bydd hyn yn eu galluogi i ddeall tueddiadau a phatrymau yn y data.

Gellir defnyddio pecyn cymorth data'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau ar gyfer gwersi:

  • mathemateg

  • cymdeithaseg

  • daearyddiaeth

Adnoddau

Lawrlwytho sleidiau cyflwyniadau'r pecyn cymorth data ar y bwlch cyflog rhwng y rhywiau

Lawrlwytho'r llawlyfr myfyrwyr ar y pecyn cymorth data ar y bwlch cyflog rhwng y rhywiau

Nôl i'r tabl cynnwys

3. Pecyn cymorth data ar chwyddiant

Mae'r pecyn cymorth hwn yn edrych ar y ffordd y caiff chwyddiant ei fesur ac ar gyfer beth y defnyddir y data. Gall myfyrwyr ddefnyddio'r adnodd cymharu prisiau siopa (yn Saesneg) a data o'r Mynegai Prisiau Defnyddwyr gan gynnwys set ddata'r Costau Tai Perchen-feddiannwyr (CPIH). Gallant eu defnyddio i archwilio goblygiadau chwyddiant i ddefnyddwyr, busnesau a gwneuthurwyr polisïau.

Gellir defnyddio'r pecyn cymorth data chwyddiant ar gyfer gwersi:

  • mathemateg

  • cymdeithaseg

  • busnes

Adnoddau

Lawrlwytho sleidiau cyflwyniadau'r pecyn cymorth data ar chwyddiant

Lawrlwytho'r llawlyfr myfyrwyr ar y pecyn cymorth data ar chwyddiant

Nôl i'r tabl cynnwys

4. Pecyn cymorth ar y cyfrifiad

Mae'r pecyn cymorth hwn yn archwilio'r cyfrifiad a'i bwysigrwydd wrth ddeall dynameg y boblogaeth. Gall myfyrwyr ddefnyddio adnodd Map y cyfrifiad (yn Saesneg), adnodd Creu proffil ardal penodol (yn Saesneg) a chael gafael ar ddata crai o'r cyfrifiad. Gallant:

  • ddarganfod sut y caiff tybiaethau ystadegol eu gwneud am boblogaethau

  • cymharu llefydd gwahanol

  • edrych ar newid dros amser yn yr un lle

  • ystyried rôl data'r cyfrifiad wrth wneud penderfyniadau

Gellir defnyddio pecyn cymorth y cyfrifiad ar gyfer gwersi:

  • mathemateg

  • busnes

  • cymdeithaseg

  • daearyddiaeth

Adnoddau

Lawrlwytho sleidiau cyflwyniadau'r pecyn cymorth data ar y cyfrifiad

Lawrlwytho'r llawlyfr myfyrwyr ar y pecyn cymorth data ar y cyfrifiad

Nôl i'r tabl cynnwys

5. Pecyn cymorth data ar iechyd a llesiant

Mae'r pecyn cymorth hwn yn ymchwilio i gymhlethdodau mesur iechyd a llesiant. Gall myfyrwyr ddefnyddio'r adnodd Mynegai Iechyd (yn Saesneg) a chael gafael ar y data crai a ddefnyddir i'w gyfrifo. Bydd hyn yn eu galluogi i ddadansoddi a dehongli tueddiadau a phatrymau iechyd a llesiant mewn ardal leol neu ar draws rhanbarthau gwahanol.

Gellir defnyddio pecyn cymorth y data ar iechyd a llesiant ar gyfer gwersi:

  • daearyddiaeth

  • cymdeithaseg

  • busnes

Adnoddau

Lawrlwytho sleidiau cyflwyniadau'r pecyn cymorth data ar iechyd a llesiant

Lawrlwytho'r llawlyfr i fyfyrwyr ar y pecyn cymorth data ar iechyd a llesiant

Nôl i'r tabl cynnwys

6. Pecyn cymorth data ar fusnes, diwydiant a masnach

Mae'r pecyn cymorth hwn yn archwilio dangosyddion economaidd pwysig a thueddiadau yn economi'r DU. Gall myfyrwyr ddefnyddio archwiliwr masnach y byd (yn Saesneg) a chael gafael ar amrywiaeth o ddata crai am ddangosyddion economaidd gwahanol. Gall y rhain eu helpu i ddadansoddi a dehongli tueddiadau a phatrymau yn economi'r DU. Gallant hefyd archwilio'r cydberthnasau economaidd rhwng y DU a gwledydd eraill.

Gellir defnyddio'r pecyn cymorth data ar fusnes, diwydiant a masnach ar gyfer gwersi:

  • daearyddiaeth

  • cymdeithaseg

  • busnes

Adnoddau

Lawrlwytho sleidiau cyflwyniadau'r pecyn cymorth data ar fusnes, diwydiant a masnach

Lawrlwytho'r llawlyfr i fyfyrwyr ar y pecyn cymorth data ar fusnes, diwydiant a masnach

Nôl i'r tabl cynnwys

7. Adnoddau eraill

Rydym wedi cynhyrchu cyfres o fideos i helpu gyda dysgu am ddata. Mae’r fideos a’r tudalennau gwe yn ateb rhai o’r cwestiynau a allai fod gan eich myfyrwyr am yr hyn rydym yn ei wneud yn y SYG.

Dysgwch fwy am bwy ydym ni a beth rydym yn ei wneud.

Nôl i'r tabl cynnwys