Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn ymrwymedig i wneud ei gwefan(nau) yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018.
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i Astudiaeth Llywio Yfory SYG sydd yn ei cyfnod beta ar hyn o bryd.
Statws cydymffurfio
Nid yw Astudiaeth Llywio Yfory SYG yn cydymffurfio ar hyn o bryd â Chanllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.2 safon AA. Caiff y diffyg cydymffurfio a'r eithriadau eu rhestru ar y dudalen hon.
Cynnwys hygyrch
Rydym wedi defnyddio iaith syml cymaint â phosibl. Mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws ei defnyddio os oes gennych anabledd neu nam.
Cynnwys nad yw'n hygyrch
Fel rhan o'n gwaith o ddatblygu Astudiaeth Llywio Yfory SYG rydym yn cynnal adolygiad cynhwysfawr o'r wefan hon i sicrhau y gall cymaint o bobl â phosib ei defnyddio. Rydym yn ymwybodol nad yw rhai rhannau o'r wefan hon yn hygyrch nac yn cydymffurfio â rheoliadau hygyrchedd, ac efallai na fyddwch yn gallu:
- defnyddio'r rhan fwyaf o'r wefan gyda rhaglen darllenydd sgrin, gan gynnwys fersiynau diweddaraf JAWS, NVDA a VoiceOver
- defnyddio'r rhan fwyaf o'r wefan â bysellbad yn unig
- newid lliwiau a lefelau cyferbyniad
- chwyddo'r testun hyd at 300% heb broblemau
- defnyddio'r rhan fwyaf o'r wefan gyda meddalwedd adnabod lleferydd
Sut rydym yn mynd i'r afael â materion hygyrchedd
Rydym yn adolygu hygyrchedd yr Astudiaeth Llywio Yfory ac yn archwilio gwelliannau i wneud y wefan yn haws ei defnyddio i bawb. Mae hyn yn cynnwys asesu nodweddion gan gynnwys cydnawsedd darllenydd sgrin, llywio bysellfwrdd, ac addasiadau gweledol. Trwy'r asesiad hwn byddwn yn nodi atebion ymarferol, ac yna’n eu gweithredu yn ystod datblygiad parhaus yr arolwg. Byddwn yn parhau i ddiweddaru'r datganiad hwn wrth i’r gwelliannau hyn fynd rhagddynt.
Paratoi'r datganiad hygyrchedd hwn
Cafodd y datganiad hwn ei baratoi ar 26 Tachwedd 2025.
Adborth a gwybodaeth gyswllt
Os ydych yn dod ar draws unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu os oes gennych unrhyw gwestiynau, e-bostiwch surveyfeedback@ons.gov.uk neu ffoniwch SYG am ddim ar 0800 085 7376.
Gweithdrefn gorfodi
Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol sy'n gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y “rheoliadau hygyrchedd”).
Os nad ydych yn hapus gyda'r ffordd rydym yn ymateb i'ch cwyn, cysylltwch â'r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb os ydych yn byw yng Nghymru neu Loegr, neu Gomisiwn Cydraddoldeb Gogledd Iwerddon os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon.