1. Terfynu’r astudiaeth
Yn dilyn y newid i “Byw gyda COVID-19” ac ar ôl ystyriaeth ofalus, daeth yr Arolwg COVID-19 a Heintiau Anadlol i ben yn ffurfiol ar 28 Mehefin 2023.
Nôl i'r tabl cynnwys2. Sut y defnyddiwyd data cyfranogwyr?
Bydd unrhyw wybodaeth a ddarperir gan gyfranogwyr mewn ymateb i'r astudiaeth hon yn cael ei diogelu'n gyfreithiol a'i thrin yn gyfrinachol yn unol â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Dim ond cyhyd ag y caiff ei defnyddio i gynhyrchu ystadegau y bydd yn cael ei gadw.
Mae ein seiliau cyfreithiol dros brosesu gwybodaeth am gyfranogwyr yn "dasg er budd y cyhoedd" ac at "ddibenion ystadegol". Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) yw rheolydd yr holl ddata a gesglir, a fydd ond yn cael ei ddefnyddio i gynhyrchu ystadegau a chynnal ymchwil er budd y cyhoedd. Mae'r SYG yn gyfrifol am ofalu am wybodaeth cyfranogwyr a'i defnyddio'n briodol. Os hoffech ddysgu mwy am sut mae SYG yn gyfrifol am ddata cyfranogwyr, cysylltwch â'r Swyddog Diogelu Data drwy e-bostio DPO@statistics.gov.uk.
Mae'n bosibl y caiff data o'r astudiaeth eu rhannu â darparwyr gwasanaethau trydydd parti. Gallai data dienw gael eu darparu i ymchwilwyr cymeradwy.
Defnyddir data cyfranogwyr i gynhyrchu ystadegau dienw er budd y cyhoedd. Byddwn yn cysylltu gwybodaeth gan gyfranogwyr yn yr astudiaeth hon â ffynonellau data gweinyddol neu arolygon eraill, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i ddata a gasglwyd fel rhan o Arolwg Heintiadau COVID-19. Mae hyn yn cynnwys cysylltu ymatebion cyfranogwyr yn yr Arolwg COVID-19 a Heintiau Anadlol â'u gwybodaeth ddemograffig a gasglwyd fel rhan o'r Arolwg Heintiadau COVID-19. Bydd SYG hefyd yn cysylltu unrhyw ddata arall y mae cyfranogwyr eisoes wedi cytuno i ni ei gysylltu â'u data o Arolwg Heintiadau COVID-19; fel data yn ymwneud â brechiadau blaenorol neu brofion COVID-19 blaenorol. Er mwyn gwneud hyn, byddwn yn defnyddio eich rhif adnabod cyfranogwr. Y rheswm dros hyn yw gallu deall gwybodaeth gan gyfranogwyr yn yr Arolwg COVID-19 a Heintiau Anadlol, yng nghyd-destun eu hymatebion yn y gorffennol, heintiau neu wrthgyrff, i gynhyrchu ystadegau gwell.
Byddwn yn cysylltu data â data iechyd gan y GIG, Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU a chyrff cenedlaethol cyfatebol yng Nghymru, Gogledd Iwerddon a'r Alban, i wirio statws iechyd cyfranogwyr, p'un a ydynt wedi ymweld ag ysbyty neu feddyg teulu, neu wedi cael prawf am COVID-19. Y rheswm am hyn yw oherwydd nad yw'n glir a allai cael COVID-19 hunan-gofnodedig neu heintiau anadlol eraill, gyda symptomau neu hebddynt, wneud pobl yn fwy tebygol o gael cyflyrau hirdymor eraill fel diabetes, clefyd y galon, neu ddementia yn y dyfodol. Gwneir hyn ar gyfer data o fis Ionawr 2016 ymlaen.
Gan fod SYG wedi gofyn i bobl gwblhau'r holiadur bob mis yn Arolwg COVID-19 a Heintiau Anadlol, gwnaeth hyn yr astudiaeth yn un o'r astudiaethau gorau er mwyn deall mwy am heintiau anadlol. Y rheswm dros gysylltu data yn ôl i fis Ionawr 2016 (pedair blynedd galendr cyn dechrau'r pandemig COVID-19) yw gwneud yn siŵr bod y SYG yn ystyried cyflyrau a oedd gan bobl cyn iddynt ymuno â'r astudiaeth yn briodol, na holwyd fel rhan o'r astudiaeth. Byddai'r cysylltiad hwn yn cael ei wneud yn ystod yr astudiaeth – er enghraifft, i ddarganfod effaith hunan-gofnodi COVID-19 neu gael eich brechu ar ba mor aml y bu'n rhaid i bobl fynd i'r ysbyty neu ymweld â'u meddyg teulu – ac ar ôl i bobl roi'r gorau i gymryd rhan mewn yr astudiaeth.
Gall SYG roi mynediad at wybodaeth i broseswyr achrededig ac ymchwilwyr at ddibenion ymchwil achrededig, lle nad yw data yn nodi cyfranogwyr yn uniongyrchol a lle mae'n gyfreithlon ac yn foesegol gwneud hynny. Wrth ddarparu'r data dienw hyn, gall y SYG gysylltu'r data a gafwyd drwy'r astudiaeth hwn â data arolwg a data gweinyddol eraill sydd gennym. Dim ond i gefnogi mewnwelediadau ymchwil newydd gwerthfawr am gymdeithas y DU a'r economi sydd er budd y cyhoedd y bydd mynediad yn cael ei roi.
Mae gan y SYG yr amcan statudol i hyrwyddo a diogelu gwaith cynhyrchu ystadegau swyddogol sy'n gwasanaethu er budd y cyhoedd. Bydd pob ffordd y byddwn yn defnyddio data yn cydymffurfio â fframwaith moesegol Awdurdod Ystadegau'r DU. Bydd y SYG yn parhau i ddal y data a gaiff eu casglu drwy'r astudiaeth hwn ac yn eu cysylltu â ffynonellau data gweinyddol neu arolygon eraill cyhyd â'u bod yn parhau i fod yn ddefnyddiol ar gyfer gwaith ymchwil ystadegol a chynhyrchu.
Nôl i'r tabl cynnwys3. Rhannu data â'n darparwyr gwasanaethau
Weithiau mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) yn rhannu gwybodaeth a ddewiswyd â'n darparwyr gwasanaethau er mwyn ein helpu i gynnal ein hastudiaethau. Dim ond y manylion personol sydd eu hangen ar gyfer yr astudiaeth y byddwn yn eu rhannu, ac ni chânt eu defnyddio gan ddarparwyr gwasanaethau at unrhyw ddiben arall.
Yn yr astudiaeth hon, buom yn gweithio gyda sefydliad arall sy'n ein helpu i gysylltu. Ein darparwr gwasanaeth ar gyfer hyn oedd GOV.UK Notify. Ar gyfer hysbysiad preifatrwydd GOV.UK Notify [Privacy notice: how we use your data – GOV.UK Notify (notifications.service.gov.uk)], ewch i'w wefan].
Nôl i'r tabl cynnwys4. Beth yw hawliau cyfranogwyr?
Mae rheoleiddio diogelu data yn rhoi rheolaeth i gyfranogwyr dros eu data personol a'r modd y cânt eu defnyddio. Mae gan gyfranogwyr yr hawl i ofyn am fynediad gan unrhyw reolwr sy'n cadw eu data personol, neu i ofyn iddynt ddiwygio unrhyw wybodaeth anghywir sydd ganddynt amdanynt. Mae gan gyfranogwyr yr hawl i wrthwynebu i'w data personol gael ei brosesu.
Mae gan gyfranogwyr yr hawl, o dan rai amgylchiadau, i ofyn i unrhyw reolwr wneud y canlynol:
dileu unrhyw ddata personol y gallant ei gadw amdanynt
rhoi'r gorau i brosesu eu data personol
trosglwyddo unrhyw wybodaeth sydd ganddynt amdanynt i reolwr arall
Ceir rhagor o wybodaeth am yr hawliau sydd gan gyfranogwyr a sut i'w harfer, ar ein tudalen ar ddiogelu data.
Os yw cyfranogwr yn dymuno arfer yr hawliau hyn, yna cysylltwch â'n Swyddog Diogelu Data drwy e-bostio DPO@Statistics.gov.uk neu drwy ffonio 0345 601 3034. Rhowch fanylion eich cais a chyfeiriad e-bost neu gyfeiriad post. Yna bydd yn gallu trosglwyddo eich cais i'r tîm Diogelu Data a fydd yn gweithredu yn ei gylch ac yn ymateb.
Mae'r SYG yn cymryd ein cyfrifoldeb i gadw gwybodaeth bersonol ein cyfranogwyr yn ddiogel o ddifrif. Yn hyn o beth, mae'r SYG yn cymryd pob rhagofal rhesymol i sicrhau bod eu gwybodaeth yn cael ei diogelu rhag colled, ei dwyn neu ei chamddefnyddio. Mae'r rhagofalon hyn yn cynnwys diogelwch ffisegol priodol ar gyfer ein swyddfeydd, mynediad a reolir at ein systemau cyfrifiadurol, a defnyddio cysylltiadau wedi'u hamgryptio â'r rhyngrwyd wrth gasglu gwybodaeth bersonol.
Nôl i'r tabl cynnwys5. Dolenni defnyddiol am ddata cyfranogwyr
Ceir rhagor o wybodaeth am y defnydd a wnawn o ddata ar ein tudalen Strategaeth Ddata.
Ceir rhagor o wybodaeth am y fframwaith moesegol a rhestr lawn o broseswyr achrededig ar wefan Awdurdod Ystadegau'r DU.
Ceir rhagor o wybodaeth am sut rydym yn rhoi mynediad at ddata at ddibenion ymchwil ar wefan Awdurdod Ystadegau'r DU hefyd.
Os bydd gennych gwestiwn am y ffordd y mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) yn prosesu data personol cyfranogwyr neu os hoffech gael gwybod mwy am eu hawliau o dan ddeddfwriaeth diogelu data, gweler ein tudalen ar ddiogelu data.
Nôl i'r tabl cynnwys