Nodweddion cartrefi a phreswylwyr, Cymru a Lloegr: Cyfrifiad 2021

Data Cyfrifiad 2021 ar faint cartrefi, cyfansoddiad cartrefi, statws amddifadedd cartrefi, a statws priodasol a phartneriaeth sifil pobl.

Hwn yw'r datganiad diweddaraf. Gweld datganiadau blaenorol

14 December 2022 09:30

Rydym wedi cywiro gwall yn Adran 3 o dan y pennawd 'Amddifadedd cartrefi'. Darllenodd y fersiwn flaenorol "cyflogaeth: lle mae unrhyw aelod o gartref, nad yw'n fyfyriwr amser llawn, naill ai'n ddi-waith neu'n neu'n anabl". Dylai fod wedi darllen "cyflogaeth: lle mae unrhyw aelod o gartref, nad yw'n fyfyriwr amser llawn, naill ai'n ddi-waith neu'n anweithgar yn economiadd oherwydd salwch hirdymor neu anabledd".

Digwyddodd hyn oherwydd camgymeriad dynol. Rydym yn ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra.

Gweld y fersiwn wedi'i disodli
Census
This is an accredited National Statistic. Click for information about types of official statistics.

Cyswllt:
Email Michael Roskams

Dyddiad y datganiad:
2 November 2022

Cyhoeddiad nesaf:
I’w gyhoeddi

1. Prif bwyntiau

  • Yn 2021, roedd 24.8 miliwn o gartrefi yng Nghymru a Lloegr, i fyny 6.1% o 23.4 miliwn yn 2011.
  • O'r 59.6 miliwn o breswylwyr arferol yng Nghymru a Lloegr yn 2021, roedd 58.6 miliwn (98.3%) yn byw mewn cartrefi a 1.0 miliwn (1.7%) yn byw mewn sefydliadau cymunedol.
  • Maint cartref ar gyfartaledd yng Nghymru a Lloegr yn 2021 oedd 2.4 o bobl fesul cartref, yr un fath ag yr oedd yn 2011; yr ardaloedd â'r maint cartref mwyaf ar gyfartaledd oedd Newham, Slough a Redbridge (pob un â 3.0 o breswylwyr fesul cartref).
  • Roedd mwy na hanner y cartrefi yng Nghymru a Lloegr (51.7%, 12.8 miliwn) yn ddifreintiedig mewn o leiaf un dimensiwn neu fesur o amddifadedd cartrefi; mae'r ffigur hwn wedi gostwng ers 2011, pan oedd yn 57.6% (13.5 miliwn).
  • Ar y cyfan, roedd 63.0% o gartrefi (15.6 miliwn o gartrefi) yn gartrefi un teulu, roedd 30.2% (7.5 miliwn) yn gartrefi un person ac roedd 6.8% (1.7 miliwn) yn gartrefi â sawl teulu neu'n fathau eraill o gartrefi.
  • Ers 2011, mae canran y preswylwyr arferol sy'n 16 oed a throsodd sy'n briod neu mewn partneriaeth sifil wedi gostwng, o 46.8% yn 2011 i 44.6% yn 2021.
  • Mae canran y bobl nad ydynt erioed wedi priodi na bod mewn partneriaeth sifil wedi cynyddu, o 34.6% yn 2011 i 37.9% yn 2021.
Nôl i'r tabl cynnwys

2. Maint cartrefi

Roedd 24,783,199 o gartrefi ag o leiaf un preswylydd arferol yng Nghymru a Lloegr ar 21 Mawrth 2021. Roedd hyn yn gynnydd o fwy nag 1.4 miliwn (6.1%) o 2011 pan oedd 23,366,044 o gartrefi.

Roedd 58,555,851 o breswylwyr arferol (98.3%) a oedd yn byw mewn cartrefi. Roedd y 1,041,691 o breswylwyr arferol a oedd yn weddill (1.7%) yn byw mewn sefydliadau cymunedol. Mae hyn yn debyg i 2011, pan oedd 98.2% yn byw mewn cartrefi ac 1.8% yn byw mewn sefydliadau cymunedol. Caiff rhagor o fanylion am sefydliadau cymunedol eu cyhoeddi yn ddiweddarach, fel rhan o'r crynodeb pwnc Tai.

Gellir canfod maint cartref ar gyfartaledd drwy rannu nifer cyffredinol y preswylwyr arferol mewn cartrefi â nifer cyffredinol y cartrefi. Yn 2021, roedd hyn yn 2.4 o breswylwyr fesul cartref (2.4 o breswylwyr fesul cartref yn Lloegr a 2.3 o breswylwyr fesul cartref yng Nghymru). Nid yw hyn wedi newid ers 2011, pan oedd 2.4 o breswylwyr fesul cartref ar gyfartaledd hefyd.

Ar gyfer y rhanbarthau yn Lloegr, roedd y cartrefi mwyaf ar gyfartaledd yn Llundain (2.5 o breswylwyr fesul cartref) ac roedd y cartrefi lleiaf yng Ngogledd-ddwyrain Lloegr (2.2 o breswylwyr fesul cartref).

Yr awdurdodau lleol yn Lloegr â'r maint cartref mwyaf ar gyfartaledd oedd Newham, Slough a Redbridge (pob un â 3.0 o breswylwyr fesul cartref). Yng Nghymru, gwelwyd y maint cartref mwyaf ar gyfartaledd yng Nghaerdydd a Chasnewydd (pob un â 2.4 o breswylwyr fesul cartref).

Yr awdurdodau lleol yn Lloegr â'r maint cartref lleiaf ar gyfartaledd oedd Dinas Llundain (1.7 o breswylwyr fesul cartref) a Gogledd Norfolk (2.1 o breswylwyr fesul cartref).

Yng Nghymru, yng Nghonwy y gwelwyd y maint cartref lleiaf ar gyfartaledd (2.2 o breswylwyr fesul cartref).

Mae'r dosbarthiad maint cartrefi mewn ardal yn rhoi dealltwriaeth fanylach hyd yn oed, y tu hwnt i faint cartref ar gyfartaledd.

Ffigur 1: Roedd y mwyafrif o’r cartrefi yn cynnwys llai na thri pherson

Maint cartrefi, 2021, awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr

Embed code

Lawrlwytho'r data

.xlsx

Nôl i'r tabl cynnwys

3. Amddifadedd cartref

Cafodd cartrefi yng Nghymru a Lloegr hefyd eu dosbarthu o ran dimensiynau amddifadedd, yn seiliedig ar nodweddion cartrefi dethol. Yn benodol, ystyriwyd bod cartrefi yn ddifreintiedig os oeddent yn bodloni un neu fwy o'r pedwar dimensiwn amddifadedd canlynol:

  • cyflogaeth: lle mae unrhyw aelod o gartref, nad yw'n fyfyriwr amser llawn, naill ai'n ddi-waith neu'n anweithgar yn economiadd oherwydd salwch hirdymor neu anabledd
  • addysg: lle nad oes gan unrhyw berson yn y cartref o leiaf bump neu fwy o gymwysterau TGAU (gradd A* i C neu radd 4 ac uwch) neu gymwysterau cyfatebol, ac nad yw unrhyw berson 16 i 18 oed yn fyfyriwr amser llawn
  • iechyd ac anabledd: lle mae iechyd cyffredinol unrhyw berson yn y cartref yn "wael" neu'n "wael iawn" neu lle mae'n cael ei ystyried yn berson anabl
  • tai: mae llety'r cartref yn orlawn, gyda chyfradd defnydd o negatif 1 neu lai (sy'n awgrymu bod un ystafell neu ystafell wely yn llai na'r hyn sy'n ofynnol ar gyfer nifer y deiliaid), neu ei fod mewn annedd wedi'i rhannu, neu nad oes ganddo wres canolog

Ar y cyfan, roedd 51.7% o'r cartrefi yng Nghymru a Lloegr yn 2021 (12.8 miliwn) yn ddifreintiedig yn o leiaf un o'r dimensiynau hyn (54.1% o'r cartrefi yng Nghymru a 51.6% o'r cartrefi yn Lloegr). Mae nifer y cartrefi sy'n ddifreintiedig mewn o leiaf un dimensiwn wedi gostwng ers 2011, pan oedd yn 13.5 miliwn (57.6%).

Yn 2021, roedd 33.5% (8.3 miliwn) o'r cartrefi yng Nghymru a Lloegr yn ddifreintiedig mewn un dimensiwn, roedd 14.3% (3.5 miliwn) yn ddifreintiedig mewn dau ddimensiwn, roedd 3.7% (929,000) yn ddifreintiedig mewn tri dimensiwn ac roedd 0.2% (57,000) yn ddifreintiedig yn y pedwar dimensiwn. Nid oedd y 48.3% (12.0 miliwn) sy'n weddill yn ddifreintiedig mewn unrhyw ddimensiwn.

Gogledd-ddwyrain Lloegr oedd y rhanbarth o Loegr lle gwelwyd y gyfran uchaf o gartrefi a oedd yn ddifreintiedig mewn o leiaf un dimensiwn (54.6%, 641,000). I'r gwrthwyneb, y rhanbarth â'r gyfran uchaf o gartrefi nad oeddent yn ddifreintiedig mewn unrhyw ddimensiwn oedd De-ddwyrain Lloegr (52%, 2.0 miliwn).

Roedd yr awdurdodau lleol â'r gyfran uchaf o gartrefi a oedd yn ddifreintiedig mewn o leiaf un dimensiwn yn cynnwys Blaenau Gwent (61.7%) a Merthyr Tudful (59.8%) yng Nghymru, a Barking a Dagenham (62.4%) a Sandwell (62.1%) yn Lloegr. Roedd y rheini oedd â'r gyfran uchaf o gartrefi a oedd yn ddifreintiedig yn y pedwar dimensiwn yn cynnwys Caerdydd, Casnewydd a Merthyr Tudful (pob un yn 0.3%) yng Nghymru, a Camden a Westminster (y ddau yn 0.7%) yn Lloegr.

I'r gwrthwyneb, roedd yr awdurdodau lleol yn Lloegr â'r gyfran uchaf o gartrefi nad oeddent yn ddifreintiedig mewn unrhyw ddimensiwn yn cynnwys Elmbridge (61.9%), Wokingham (61.5%) a Richmond upon Thames (61.0%). Yng Nghymru, yr awdurdodau lleol â'r gyfran uchaf o gartrefi nad oeddent yn ddifreintiedig mewn unrhyw ddimensiwn oedd Sir Fynwy (51.7%) a Bro Morgannwg (51.0%).

Ffigur 2: Roedd amddifadedd cartrefi ar ei uchaf yng Ngogledd-ddwyrain Lloegr ac ar ei isaf yn Ne-ddwyrain Lloegr

Cartrefi a oedd yn ddifreintiedig mewn o leiaf un dimensiwn, 2011 a 2021, Cymru, Lloegr a rhanbarthau o Loegr

Embed code

Lawrlwytho'r data

.xlsx

Mae amddifadedd cartrefi yn bwnc cymhleth, ac mae'r data yma yn dangos sawl cartref a oedd yn ddifreintiedig yn unrhyw un o'r pedwar dimensiwn a nodwyd a oedd ar gael o'r cyfrifiad. Mae hwn yn ailadrodd datganiad cyfatebol o Gyfrifiad 2011. Caiff gwybodaeth fanwl am y dimensiynau a nodwyd ei chyhoeddi mewn datganiadau pwnc sydd i ddod a phan gaiff data amlamryweb eu rhyddhau.

Nôl i'r tabl cynnwys

4. Cyfansoddiad cartrefi

Defnyddir ymatebion i'r cyfrifiad i gyfrifo cyfansoddiad cartrefi, sy'n cyfeirio at y gydberthynas rhwng aelodau o'r cartref. Er enghraifft, efallai fod cartref yn cynnwys teulu, oedolion nad ydynt yn perthyn sy'n byw gyda'i gilydd, neu un person sy'n byw ar ei ben ei hun.

Ledled Cymru a Lloegr, mae'r data yn dangos bod 63.0% o'r cartrefi (15.6 miliwn) yn gartrefi un teulu, 30.2% (7.5 miliwn) yn gartrefi un person a 6.8% (1.7 miliwn) yn fathau eraill o gartrefi, gan gynnwys cartrefi lle mae sawl teulu yn byw gyda'i gilydd a chartrefi lle mae oedolion nad ydynt yn perthyn yn byw gyda'i gilydd. Mae hyn yn debyg i 2011, pan oedd 62.6% yn gartrefi un teulu, 30.2% yn gartrefi un person a 7.1% yn fathau eraill o gartrefi.

Roedd y mathau mwyaf cyffredin o gartrefi un teulu yn cynnwys y rheini â phâr priod neu gwpwl partneriaeth sifil â phlant dibynnol (3.5 miliwn, 14.3% o'r holl gartrefi) a'r rheini â phâr priod neu gwpwl partneriaeth sifil heb unrhyw blant (2.6 miliwn, 10.4%). Gwelwyd y cynnydd mwyaf yn nifer y cartrefi un teulu â chwpwl sy'n cyd-fyw â phlant nad ydynt yn ddibynnol, math o gartref lle gwelwyd cynnydd o 56.1% dros y degawd diwethaf, o 115,000 (0.5%) yn 2011 i 180,000 (0.7%) yn 2021.

Roedd 3.2 miliwn o gartrefi un person â phreswylwyr 66 oed neu drosodd (12.9% o'r holl gartrefi). Roedd y 4.3 miliwn (17.3%) o gartrefi un person a oedd yn weddill yn 2021 ar gyfer pobl iau.

Yn olaf, ar gyfer mathau eraill o gartrefi, roedd 656,000 o gartrefi (2.6%) lle'r oedd sawl teulu yn byw gyda'i gilydd â phlant dibynnol, cyfran sydd wedi aros yr un fath ers 2011, pan oedd 602,000 o gartrefi o'r fath (2.6%). Roedd 1.0 miliwn (4.2%) o fathau eraill o gartrefi yn 2021, er enghraifft, myfyrwyr amser llawn.

Ffigur 3: Cyfansoddiad cartrefi, 2021, awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr

Embed code

Lawrlwytho'r data

.xlsx

Nôl i'r tabl cynnwys

5. Statws partneriaeth gyfreithiol

Cafodd priodas rhwng pobl o'r un rhyw ei chyfreithloni yn 2014 a chafodd partneriaethau sifil rhwng pobl o'r naill ryw eu cyfreithloni yn 2019. Diweddarwyd y cwestiynau ar briodas a phartneriaethau sifil ar gyfer 2021 i adlewyrchu hyn.

Mae'r canlyniadau ar gyfer 2021 yn dangos, fel yn 2011, mai'r grŵp mwyaf oedd y bobl hynny a nododd eu bod wedi priodi neu mewn partneriaeth sifil, sef 21.7 miliwn (44.6% o'rholl breswylwyr arferol 16 oed a throsodd). Er bod nifer y bobl sydd wedi priodi neu mewn bartneriaeth sifil wedi codi tua 380,000 ers 2011 (o 21.3 miliwn), roedd hyn yn ostyngiad fel cyfran o'r holl breswylwyr arferol 16 oed a throsodd (o 46.8%).

O'r 21.6 miliwn o bobl a oedd yn briod (44.4% o'r holl breswylwyr arferol 16 oed a throsodd), roedd 0.6% o unigolion (134,000) mewn cyplau o'r un rhyw, o gymharu â 99.4% (21.4 miliwn) mewn cyplau o'r naill ryw. Nododd cyfanswm o 103,000 o bobl (0.2%) eu bod mewn partneriaeth sifil, yr oedd 65% ohonynt (67,000) mewn cyplau o'r un rhyw, o gymharu â 35% (36,000) a oedd mewn cyplau o'r naill ryw.

Cynyddodd canran y bobl nad oeddent erioed wedi priodi na chofrestru partneriaeth sifil 3.3 pwynt canrannol o 34.6% (15.7 miliwn) yn 2011 i 37.9% (18.4 miliwn) yn 2021. Gwelwyd cynnydd yn nifer y bobl a oedd wedi ysgaru neu roedd eu partneriaeth sifil wedi'i diddymu hefyd, o 4.1 miliwn (9.0%) yn 2011 i 4.4 miliwn (9.1%) yn 2021.

Yn olaf, gwelwyd gostyngiad yng nghyfran y bobl a oedd yn weddw neu wedi colli partner sifil cofrestredig drwy farwolaeth, o 3.2 miliwn (7.0%) yn 2011 i 3.0 miliwn (6.1%) yn 2021, ac yn y rheini a oedd wedi gwahanu ond yn dal i fod yn briod neu mewn partneriaeth sifil yn gyfreithiol, o 1.2 miliwn (2.6%) yn 2011 i 1.1 miliwn (2.2%) yn 2021.

Ffigur 4: Mae canran y boblogaeth sydd erioed wedi ffurfio partneriaeth gyfreithiol wedi cynyddu ers 2011

Statws partneriaeth gyfreithiol, preswylwyr arferol 16 oed a throsodd, 2011 a 2022, Cymru a Lloegr

Embed code

Nodiadau:

  1. Mae priodasau rhwng cyplau o’r un rhyw wedi bod yn bosibl yng Nghymru a Lloegr ers 29 Mawrth 2014.
  2. Cynhaliwyd y partneriaethau sifil cyntaf rhwng cyplau o’r naill ryw yng Nghymru a Lloegr ar 31 Rhagfyr 2019.
Lawrlwytho'r data

.xlsx

Nôl i'r tabl cynnwys

6. Cyhoeddiadau yn y dyfodol

Caiff data a dadansoddiadau manylach ar gartrefi eu cyhoeddi yn y misoedd i ddod, a chaiff data amlamryweb eu rhyddhau. Darllenwch fwy am ein cynlluniau dadansoddi demograffeg (yn Saesneg) a'r cynlluniau datganiadau ar gyfer Cyfrifiad 2021 yn fwy cyffredinol.

Nôl i'r tabl cynnwys

7. Nodweddion cartrefi a phreswylwyr, Cymru a Lloegr: data

Demograffeg a mudo: Cyfrifiad 2021 yng Nghymru a Lloegr (yn Saesneg)
Set ddata | Rhyddhadwyd ar 2 Tachwedd 2022

Nifer y preswylwyr arferol sy'n byw mewn cartrefi a sefydliadau cymunedol (yn Saesneg)
Set ddata | Rhyddhawyd ar 2 Tachwedd 2022
Mae'r set ddata hon yn rhoi amcangyfrifon Cyfrifiad 2021 sy'n dosbarthu preswylwyr arferol yng Nghymru a Lloegr yn ôl a ydynt yn byw mewn sefydliadau cymunedol ac mewn cartrefi. Amcangyfrifon ar ddiwrnod y cyfrifiad yw'r rhain, sef 21 Mawrth 2021.  

Statws partneriaeth gyfreithiol (yn Saesneg)
Set ddata | Rhyddhawyd ar 2 Tachwedd 2022
Mae'r set ddata hon yn rhoi amcangyfrifon Cyfrifiad 2021 sy'n dosbarthu preswylwyr arferol yng Nghymru a Lloegr yn ôl eu statws partneriaeth gyfreithiol. Amcangyfrifon ar ddiwrnod y cyfrifiad yw'r rhain, sef 21 Mawrth 2021.  

Maint y cartref (yn Saesneg)
Set ddata | Rhyddhawyd ar 2 Tachwedd 2022
Mae'r set ddata hon yn rhoi amcangyfrifon Cyfrifiad 2021 sy'n dosbarthu'r holl ofodau cartref yng Nghymru a Lloegr yn ôl maint y cartref. Amcangyfrifon ar ddiwrnod y cyfrifiad yw'r rhain, sef 21 Mawrth 2021.  

Cyfansoddiad y cartref (yn Saesneg)
Set ddata | Rhyddhawyd ar 2 Tachwedd 2022
Mae'r set ddata hon yn rhoi amcangyfrifon Cyfrifiad 2021 sy'n dosbarthu cartrefi yng Nghymru a Lloegr yn ôl y cydberthnasau rhwng aelodau'r cartref. Amcangyfrifon ar ddiwrnod y cyfrifiad yw'r rhain, sef 21 Mawrth 2021.  

Trefniadau byw (yn Saesneg)
Set ddata | Rhyddhawyd ar 2 Tachwedd 2022
Mae'r set ddata hon yn rhoi amcangyfrifon Cyfrifiad 2021 sy'n dosbarthu preswylwyr arferol 16 oed a throsodd mewn cartrefi yng Nghymru a Lloegr yn ôl eu trefniadau byw. Amcangyfrifon ar ddiwrnod y cyfrifiad yw'r rhain, sef 21 Mawrth 2021.  

Cartrefi yn ôl dimensiynau amddifadedd (yn Saesneg)
Set ddata | Rhyddhawyd ar 2 Tachwedd 2022
Mae'r set ddata hon yn rhoi amcangyfrifon Cyfrifiad 2021 sy'n dosbarthu cartrefi yng Nghymru a Lloegr yn ôl y pedwar dimensiwn amddifadedd cyflogaeth, addysg, iechyd ac anabledd a chartrefi orlawn. Amcangyfrifon ar ddiwrnod y cyfrifiad yw'r rhain, sef 21 Mawrth 2021.

Nôl i'r tabl cynnwys

8. Rhestr termau

Plentyn dibynnol

Ystyr plentyn dibynnol yw person rhwng 0 a 15 oed mewn cartref neu berson rhwng 16 a 18 oed sydd mewn addysg amser llawn ac sy'n byw mewn teulu gyda'i riant neu ei rieni neu daid/tad-cu/nain/mam-gu. Nid yw'n cynnwys unrhyw un rhwng 16 a 18 oed sydd â phriod, partner neu blentyn sy'n byw yn y cartref.

Teulu

Grŵp o bobl yw teulu sydd naill ai:

  • yn bâr priod, yn gwpwl mewn partneriaeth sifil neu'n gwpwl sy'n cyd-fyw â phlant neu heb blant (nid oes rhaid i'r plant berthyn i'r ddau aelod o'r cwpwl)
  • yn un rhiant â phlant
  • yn bâr priod, yn gwpwl mewn partneriaeth sifil neu'n gwpwl sy'n cyd-fyw ag wyrion/wyresau ond lle nad yw rhieni'r wyrion/wyresau hynny yn bresennol
  • yn daid/tad-cu neu'n nain/mam-gu sengl neu mewn cwpwl ag wyrion/wyresau ond lle nad yw rhieni'r wyrion/wyresau hynny yn bresennol

Cartref

Diffinnir cartref fel:

  • un person sy'n byw ar ei ben ei hun, neu
  • grŵp o bobl (nad ydynt o reidrwydd yn perthyn i'w gilydd) sy'n byw yn yr un cyfeiriad sy'n rhannu cyfleusterau coginio ac yn rhannu ystafell fyw neu lolfa neu le bwyta

Mae hyn yn cynnwys:

  • unedau llety gwarchod mewn sefydliad lle mae gan 50% neu fwy eu ceginau eu hunain (ni waeth p'un a oes cyfleusterau cymunedol eraill ai peidio),
  • pob person sy'n byw mewn carafán ar unrhyw fath o safle sy'n breswylfa arferol iddo; bydd hyn yn cynnwys unrhyw un nad oes ganddo breswylfa arferol rywle arall yn y Deyrnas Unedig
  • rhaid i gartref gynnwys o leiaf un person y mae ei breswylfa arferol yn y cyfeiriad hwnnw. Ni chaiff grŵp o breswylwyr byrdymor sy'n byw gyda'i gilydd eu cyfrif yn gartref, nac ychwaith grŵp o bobl mewn cyfeiriad sy'n cynnwys ymwelwyr yn unig.

Cyfansoddiad cartrefi

Cartrefi yn ôl y cydberthnasau rhwng aelodau.

Caiff cartrefi un teulu eu dosbarthu yn ôl:

  • nifer y plant dibynnol
  • y math o deulu (teulu pâr priod, cwpwl partneriaeth sifil neu gwpwl sy'n cyd-fyw, neu deulu un rhiant)

Caiff cartrefi eraill eu dosbarthu yn ôl:

  • nifer y bobl
  • nifer y plant dibynnol
  • p'un a yw'r cartref yn cynnwys myfyrwyr yn unig neu bobl 66 oed a throsodd yn unig

Statws partneriaeth gyfreithiol

Yn dosbarthu person yn ôl ei statws priodasol cyfreithiol neu statws partneriaeth sifil gofrestredig ar Ddiwrnod y Cyfrifiad, 21 Mawrth 2021.

Mae'r un peth â'r newidyn "Statws priodasol" yng Nghyfrifiad 2011 ond mae wedi cael ei ddiweddaru ar gyfer Cyfrifiad 2021 er mwyn adlewyrchu'r Ddeddf Partneriaeth Sifil ddiwygiedig a ddaeth i rym yn 2019.

Yng nghanlyniadau Cyfrifiad 2021, mae "sengl" yn cyfeirio at rywun nad yw erioed wedi bod yn briod nac mewn partneriaeth sifil gofrestredig.

Preswylydd arferol

Ystyr preswylydd arferol yw unrhyw un a oedd, ar Ddiwrnod y Cyfrifiad, sef 21 Mawrth 2021, yn y Deyrnas Unedig ac wedi aros neu'n bwriadu aros yn y Deyrnas Unedig am gyfnod o 12 mis neu fwy, neu a oedd â chyfeiriad parhaol yn y Deyrnas Unedig ac a oedd y tu allan i'r Deyrnas Unedig ac yn bwriadu aros y tu allan i'r Deyrnas Unedig am lai na 12 mis.

Nôl i'r tabl cynnwys

9. Mesur y data

Dyddiad cyfeirio

Mae'r cyfrifiad yn rhoi amcangyfrifon o nodweddion pob unigolyn a chartref yng Nghymru a Lloegr ar Ddiwrnod y Cyfrifiad, 21 Mawrth 2021. Caiff ei gynnal unwaith bob 10 mlynedd ac mae'n rhoi'r amcangyfrif mwyaf cywir o'r holl bobl a chartrefi yng Nghymru a Lloegr i ni.

Rydym yn gyfrifol am gynnal y cyfrifiad yng Nghymru a Lloegr, ond byddwn hefyd yn rhyddhau allbynnau ar gyfer y Deyrnas Unedig mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, Cofnodion Cenedlaethol yr Alban ac Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon. Cafodd y cyfrifiad yng Ngogledd Iwerddon ei gynnal ar 21 Mawrth 2021 hefyd, ond cafodd cyfrifiad yr Alban ei symud i 20 Mawrth 2022. Mae holl swyddfeydd y cyfrifiad yn y Deyrnas Unedig yn gweithio'n agos i ddeall sut y bydd y gwahaniaeth hwn mewn dyddiadau cyfeirio yn effeithio ar ystadegau poblogaeth a thai'r Deyrnas Unedig gyfan, o ran yr amseru a'r cwmpas.

Cyfradd ymateb

Cyfradd ymateb unigolion yw nifer y preswylwyr arferol y cafodd manylion unigol eu darparu ar eu cyfer ar holiadur a ddychwelwyd, wedi'i rannu ag amcangyfrif o'r boblogaeth breswyl arferol.

Y gyfradd ymateb unigolion ar gyfer Cyfrifiad 2021 oedd 97% o boblogaeth breswyl arferol Cymru a Lloegr, a dros 88% ym mhob awdurdod lleol. Cafodd y rhan fwyaf o ffurflenni (89%) eu derbyn ar lein. Gwnaeth y gyfradd ymateb ragori ar ein targed, sef 94% yn gyffredinol ac 80% ym mhob awdurdod lleol.

Caiff rhagor o wybodaeth am gyfraddau ymateb ar gyfer cwestiynau penodol ei chyhoeddi mewn adroddiad ar wahân yn ddiweddarach eleni.

Nôl i'r tabl cynnwys

10. Cryfderau a chyfyngiadau

Ceir ystyriaethau o ansawdd ynghyd â chryfderau a chyfyngiadau Cyfrifiad 2021 yn fwy cyffredinol yn ein hadroddiad Gwybodaeth am Ansawdd a Methodoleg ar gyfer Cyfrifiad 2021. Darllenwch fwy am yr ystyriaethau o ansawdd penodol ar gyfer y pwnc demograffeg a mudo (yn Saesneg).

Ceir rhagor o wybodaeth am ein prosesau sicrhau ansawdd eraill yn ein hadroddiad Sicrhau bod amcangyfrifon poblogaeth Cyfrifiad 2021 o'r ansawdd gorau posibl (yn Saesneg).

Nôl i'r tabl cynnwys

11. Dolenni cysylltiedig

Mudo rhyngwladol, Cymru a Lloegr: Cyfrifiad 2021 (yn Saesneg)
Bwletin | Rhyddhawyd ar 2 Tachwedd 2022
Data Cyfrifiad 2021 ar fudo rhyngwladol yng Nghymru a Lloegr.

Map y Cyfrifiad (yn Saesneg)
Cynnwys rhyngweithiol | Rhyddhawyd ar 2 Tachwedd 2022
Adnodd map rhyngweithiol sy'n delweddu data Cyfrifiad 2021 ar bynciau gwahanol i lawr i ardal awdurdod lleol a lefel cymdogaeth.

Tudalen we ansawdd pwnc demograffeg a mudo (yn Saesneg)
Methodoleg | Rhyddhawyd ar 2 Tachwedd 2022
Crynodeb o'r prosesau sicrhau ansawdd a ddefnyddir i lunio amcangyfrifon y cyfrifiad, ynghyd ag ystyriaethau o ansawdd y dylid bod yn ymwybodol ohonynt wrth ddehongli'r data.

Geiriadur Cyfrifiad 2021 (yn Saesneg)
Methodoleg | Rhyddhawyd ar 2 Tachwedd 2022
Diffiniadau o newidynnau, dosbarthiadau allbwn, rhestr termau a metadata daearyddiaeth.

Demograffeg a mudo yng Nghymru (Cyfrifiad 2021)
Prif ddatganiad | Rhyddhawyd ar 2 Tachwedd 2022
Crynodeb gan Lywodraeth Cymru ar ddemograffeg a mudo yng Nghymru.

Nôl i'r tabl cynnwys

12. Cyfeirio at y bwletin ystadegol hwn

Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG), rhyddhawyd ar 2 Tachwedd 2022, gwefan SYG, bwletin ystadegol, Nodweddion cartrefi a phreswylwyr, Cymru a Lloegr: Cyfrifiad 2021

Nôl i'r tabl cynnwys

Manylion cyswllt ar gyfer y Bwletin ystadegol

Michael Roskams
census.customerservices@ons.gov.uk
Ffôn: +44 1329 44 4972