Cyfeiriadedd rhywiol, Cymru a Lloegr: Cyfrifiad 2021

Cyfeiriadedd rhywiol hunangofnodedig preswylwyr arferol 16 oed a throsodd yng Nghymru a Lloegr, data Cyfrifiad 2021.

Hwn yw'r datganiad diweddaraf. Gweld datganiadau blaenorol

Census
This is an accredited National Statistic. Click for information about types of official statistics.

Cyswllt:
Email Michael Roskams

Dyddiad y datganiad:
6 January 2023

Cyhoeddiad nesaf:
I’w gyhoeddi

1. Prif bwyntiau

  • Roedd cwestiwn y cyfrifiad ar gyfeiriadedd rhywiol yn gwestiwn gwirfoddol a ofynnwyd i bobl 16 oed a throsodd.
  • Atebodd 44.9 miliwn o bobl (92.5% o'r boblogaeth 16 oed a throsodd) y cwestiwn.
  • Nododd tua 43.4% miliwn o bobl (89.4%) eu bod yn strêt neu'n heterorywiol.
  • Nododd tua 1.5 miliwn o bobl (3.2%) gyfeiriadedd LHD+ ("Hoyw neu Lesbiaidd", "Deurywiol" neu "Gyfeiriadedd rhywiol arall").
  • Ni wnaeth y 3.6 miliwn o bobl sy'n weddill (7.5%) ateb y cwestiwn.
Nôl i'r tabl cynnwys

2. Cyfeiriadedd rhywiol

Term cyffredinol yw cyfeiriadedd rhywiol sy'n cwmpasu hunaniaeth, atyniad ac ymddygiad rhywiol. Efallai na fydd y rhain yr un fath ar gyfer ymatebwyr unigol. Er enghraifft, efallai y bydd rhywun mewn perthynas o'r naill ryw hefyd yn profi atyniad i bobl o'r un rhyw, ac i'r gwrthwyneb. Mae hyn yn golygu y dylid dehongli bod yr ystadegau'n dangos sut yr ymatebodd pobl i'r cwestiwn, yn hytrach na'u bod yn dangos pwy y mae ganddynt atyniad iddynt na'u cydberthnasau gwirioneddol.

Roedd y cwestiwn ar gyfeiriadedd rhywiol yn newydd ar gyfer Cyfrifiad 2021. Rydym wedi casglu data ar gyfeiriadedd rhywiol yn y gorffennol drwy'r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth, ond drwy gynnwys y cwestiwn yn holiadur y cyfrifiad, gellir cael dealltwriaeth fanylach o lawer o gyfeiriadedd rhywiol yng Nghymru a Lloegr. Bydd y data'n diwallu'r anghenion ar gyfer gwybodaeth o ansawdd well am y boblogaeth LHD+ ("hoyw neu lesbiaidd", "deurywiol" neu "gyfeiriadedd rhywiol arall") ar gyfer monitro a chefnogi dyletswyddau gwrthwahaniaethu o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010.

Roedd y cwestiwn yn wirfoddol a dim ond i bobl 16 oed a throsodd y gwnaethom ei ofyn. Gofynnwyd i bobl "Pa un o'r canlynol sy'n disgrifio orau eich cyfeiriadedd rhywiol?". Ymysg yr opsiynau cyfeiriadedd rhywiol gwahanol y gallai pobl ddewis ohonynt roedd:

  • strêt neu heterorywiol
  • hoyw neu lesbiaidd
  • deurywiol
  • cyfeiriadedd rhywiol arall

Os gwnaethant ateb "Cyfeiriadedd rhywiol arall", gofynnwyd iddynt ysgrifennu'r cyfeiradedd rhywiol roeddent yn uniaethu ag ef.

Atebodd 44.9 miliwn o bobl y cwestiwn (92.5% o’r boblogaeth 16 oed a throsodd).

Ffigur 1: Cyfeiriadedd rhywiol, 2021 Cymru a Lloegr

Embed code

Lawrlwytho'r data

.xlsx

I gyd:

  • Nododd 43.4 miliwn o bobl (89.4% o'r boblogaeth 16 oed a throsodd) eu bod yn strêt neu'n heterorywiol
  • Disgrifiodd 748,000 (1.5%) eu bod yn hoyw neu'n lesbiaidd
  • Disgrifiodd 624,000 (1.3%) eu bod yn ddeurywiol
  • Dewisodd 165,000 (0.3%) "Gyfeiriadedd rhywiol arall"

Felly, cyfanswm nifer y bobl yng Nghymru a Lloegr a nododd gyfeiriadedd LHD+ oedd 1.5 miliwn (3.2% o'r boblogaeth 16 oed a throsodd).

O'r rheini a ddewisodd "Gyfeiriadedd rhywiol arall", ymysg yr ymatebion mwyaf cyffredin a ysgrifennwyd roedd:

  • panrywiol (112,000, 0.23%)
  • anrhywiol (28,000, 0.06%)
  • cwiar (15,000, 0.03%)

Ysgrifennodd 10,000 (0.02%) arall gyfeiriadedd rhywiol gwahanol.

Ni wnaeth y 3.6 miliwn o bobl 16 oed a throsodd sy'n weddill (7.5%) ateb y cwestiwn ar gyfeiriadedd rhywiol.

Caiff data a dadansoddiadau yn dangos cyfeiriadedd rhywiol yn ôl oedran a rhyw eu cyhoeddi ar 25 Ionawr, a fydd yn galluogi dealltwriaeth fanylach o hunaniaethau gwahanol.

Nôl i'r tabl cynnwys

3. Sut roedd cyfeiriadedd rhywiol yn amrywio ledled Cymru a Lloegr

Mae data Cyfrifiad 2021 yn datgelu'r modd yr oedd cyfeiriadedd rhywiol yn amrywio ledled Cymru a Lloegr. Gan mai cwestiwn gwirfoddol oedd hwn, byddwch yn ymwybodol o'r gwahaniaethau mewn cyfraddau ymateb wrth gymharu ardaloedd gwahanol.

Prin oedd y gwahaniaethau a ddangoswyd rhwng y ddwy wlad mewn perthynas â chyfeiriadedd rhywiol. Roedd gan Gymru a Lloegr gyfrannau tebyg iawn o bobl a nododd eu bod yn:

  • strêt neu'n heterorywiol (89.4% o'r boblogaeth 16 oed a throsodd yng Ngymru a Lloegr)
  • hoyw neu lesbiaidd (1.5% yng Nghymru a Lloegr)
  • deurywiol (1.2% yng Nghymru, 1.3% yn Lloegr)
  • unrhyw gyfeiriadedd rhywiol arall (0.3% yng Nghymru a Lloegr)

Roedd y ganran na wnaethant roi ateb hefyd yn debyg iawn (7.6% yng Nghymru, 7.5% yn Lloegr).

Y rhanbarth yn Lloegr lle nododd y gyfran uchaf o bobl bod ganddynt gyfeiriadedd LHD+ ("hoyw neu lesbiaidd", "deurywiol" neu "gyfeiriadedd rhywiol arall") oedd Llundain (4.3%). Yn Llundain, disgrifiodd 2.2% bod eu cyfeiriadedd rhywiol yn hoyw neu lesbiaid, disgrifiodd 1.5% bod eu cyfeiriadedd rhywiol yn ddeurywiol, ac ysgrifennodd 0.5% gyfeiriadedd gwahanol.

Yr awdurdod lleol oedd â'r boblogaeth LHD+ fwyaf ymysg y rheini oedd yn 16 oed a throsodd oedd Brighton a Hove (10.7%). Roedd saith o'r awdurdodau eraill yn y 10 uchaf yn Llundain, gyda'r poblobaethau LHD+ mwyaf yn Ninas Llundain (10.3%), Lambeth (8.3%), a Southwark (8.1%). Yng Nghymru, yr awdurdodau lleol â'r poblogaethau LHD+ mwyaf oedd Caerdydd (5.3%), Ceredigion (4.9%), ac Abertawe (3.4%).

Ffigur 2: Cyfran y boblogaeth a nododd gategorïau LHD+, 2021, awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr

Embed code

Source: Office for National Statistics – Census 2021
Lawrlwytho'r data

.xlsx

Nôl i'r tabl cynnwys

4. Cyhoeddiadau yn y dyfodol

Caiff data a dadansoddiadau manylach ar gyfeiriadedd rhywiol eu cyhoeddi yn y misoedd i ddod, a chaiff data amlamryweb eu rhyddhau. Caiff ein herthygl dadansoddi gyntaf, a fydd yn archwilio cyfeiriadedd rhywiol yn ôl oedran a rhyw, ei chyhoeddi ar 25 Ionawr.

Darllenwch fwy am ein cynlluniau datganiadau ar gyfer cyfeiriadedd rhywiol a hunaniaeth o ran rhywedd (yn Saesneg) a'n cynlluniau datganiadau ar gyfer Cyfrifiad 2021 yn fwy cyffredinol.

Nôl i'r tabl cynnwys

5. Cyfeiriadedd rhywiol, Cymru a Lloegr: data

Cyfeiriadedd rhywiol (yn Saesneg)
Set ddata | Rhyddhawyd ar 6 Ionawr 2023
Mae’r set ddata hon yn rhoi amcangyfrifon Cyfrifiad 2021 sy’n dosbarthu preswylwyr arferol 16 oed a throsodd yng Nghymru a Lloegr yn ôl cyfeiriadedd rhywiol.

Cyfeiriadedd rhywiol (manwl) (yn Saesneg)
Set ddata | Rhyddhawyd ar 6 Ionawr 2023
Mae’r set ddata hon yn rhoi amcangyfrifon Cyfrifiad 2021 sy’n dosbarthu preswylwyr arferol 16 oed a throsodd yng Nghymru a Lloegr yn ôl cyfeiriadedd rhywiol.

Nôl i'r tabl cynnwys

6. Geirfa

LHD+

Talfyriad a ddefnyddir i gyfeirio at bobl sy'n nodi eu bod yn lesbiaidd, yn hoyw, yn ddeurywiol ac opsiynau cyfeiriadedd rhywiol lleiafrifol eraill (er enghraifft, anrhywiol).

Cyfeiriadedd rhywiol

Term cyffredinol yw cyfeiriadedd rhywiol sy'n cwmpasu hunaniaeth, atyniad ac ymddygiad rhywiol. Efallai na fydd y rhain yr un fath ar gyfer ymatebwyr unigol. Er enghraifft, efallai y bydd rhywun mewn perthynas o'r naill ryw hefyd yn profi atyniad i bobl o'r un rhyw, ac i'r gwrthwyneb. Mae hyn yn golygu y dylid dehongli bod yr ystadegau'n dangos sut yr ymatebodd pobl i'r cwestiwn, yn hytrach na'u bod yn dangos pwy y mae ganddynt atyniad iddynt na'u cydberthnasau gwirioneddol.

Nid ydym wedi cynnwys categorïau cyfeiriadedd rhywiol unigol yn yr eirfa. Mae hyn oherwydd y gall fod gan ymatebwyr unigol safbwyntiau gwahanol ar yr union ystyr.

Preswylydd arferol

Ystyr preswylydd arferol yw unrhyw un a oedd, ar Ddiwrnod y Cyfrifiad, sef 21 Mawrth 2021, yn y Deyrnas Unedig ac wedi aros neu’n bwriadu aros yn y Deyrnas Unedig am gyfnod o 12 mis neu fwy, neu a oedd â chyfeiriad parhaol yn y Deyrnas Unedig ac a oedd y tu allan i’r Deyrnas Unedig ac yn bwriadu aros y tu allan i’r Deyrnas Unedig am lai na 12 mis.

Nôl i'r tabl cynnwys

7. Mesur y data

Dyddiad cyfeirio

Mae'r cyfrifiad yn rhoi amcangyfrifon o nodweddion pob unigolyn a chartref yng Nghymru a Lloegr ar Ddiwrnod y Cyfrifiad, 21 Mawrth 2021. Caiff ei gynnal unwaith bob 10 mlynedd ac mae'n rhoi'r amcangyfrif mwyaf cywir o'r holl bobl a chartrefi yng Nghymru a Lloegr i ni.

Rydym yn gyfrifol am gynnal y cyfrifiad yng Nghymru a Lloegr, ond byddwn hefyd yn rhyddhau allbynnau ar gyfer y Deyrnas Unedig mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, Cofnodion Cenedlaethol yr Alban ac Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon. Cafodd y cyfrifiad yng Ngogledd Iwerddon ei gynnal ar 21 Mawrth 2021 hefyd, ond cafodd cyfrifiad yr Alban ei symud i 20 Mawrth 2022. Mae holl swyddfeydd y cyfrifiad yn y Deyrnas Unedig yn gweithio'n agos i ddeall sut y bydd y gwahaniaeth hwn mewn dyddiadau cyfeirio yn effeithio ar ystadegau poblogaeth a thai'r Deyrnas Unedig gyfan, o ran yr amseru a'r cwmpas.

Cyfradd ymateb

Cyfradd ymateb gyffredinol unigolion (yn Saesneg) ar gyfer y cyfrifiad yw nifer y preswylwyr arferol y cafodd manylion unigol eu darparu ar eu cyfer ar holiadur a ddychwelwyd, wedi'i rannu ag amcangyfrif o'r boblogaeth breswyl arferol.

Y gyfradd ymateb unigolion ar gyfer Cyfrifiad 2021 oedd 97% o boblogaeth breswyl arferol Cymru a Lloegr, a dros 88% ym mhob awdurdod lleol. Cafodd y rhan fwyaf o ffurflenni (89%) eu derbyn ar lein. Gwnaeth y gyfradd ymateb ragori ar ein targed, sef 94% yn gyffredinol ac 80% ym mhob awdurdod lleol.

Darllenwch fwy am gyfraddau ymatebion ar gyfer cwestiynau penodol ar lefel awdurdod lleol yn Adran 4 o'n mesurau sy'n dangos ansawdd amcangyfrifon Cyfrifiad 2021 (yn Saesneg).

Nôl i'r tabl cynnwys

8. Cryfderau a chyfyngiadau

Ceir ystyriaethau o ansawdd ynghyd â chryfderau a chyfyngiadau Cyfrifiad 2021 yn fwy cyffredinol yn ein hadroddiad Gwybodaeth am Ansawdd a Methodoleg ar gyfer Cyfrifiad 2021. Darllenwch fwy am y wybodaeth am ansawdd ar gyfer cyfeiriadedd rhywiol a hunaniaeth o ran rhywedd (yn Saesneg).

Ceir rhagor o wybodaeth am ein prosesau sicrhau ansawdd eraill yn ein hadroddiad Sicrhau bod amcangyfrifon poblogaeth Cyfrifiad 2021 o’r ansawdd gorau posibl (yn Saesneg).

Nôl i'r tabl cynnwys

9. Dolenni cysylltiedig

Map y cyfrifiad (yn Saesneg)
Cynnwys rhyngweithiol | Diweddarwyd ar 6 Ionawr 2023
Adnodd map rhyngweithiol sy'n delweddu data Cyfrifiad 2021 ar bynciau gwahanol i lawr i ardal awdurdod lleol a lefel cymdogaeth.

Gwybodaeth am ansawdd data am gyfeiriadedd rhywiol a hunaniaeth o ran rhywedd o Gyfrifiad 2021 (yn Saesneg)
Methodoleg | Rhyddhawyd ar 6 Ionawr 2023
Gwybodaeth hysbys am ansawdd sy'n effeithio ar ddata am gyfeiriadedd rhywiol a hunaniaeth o ran rhywedd o Gyfrifiad 2021 yng Nghymru a Lloegr.

Newidynnau cyfeiriadedd rhywiol a hunaniaeth o ran rhywedd, Cyfrifiad 2021
Gwybodaeth ategol | Rhyddhawyd ar 4 Ionawr 2023
Newidynnau a dosbarthiadau a ddefnyddir yn nata Cyfrifiad 2021 am gyfeiriadedd rhywiol a hunaniaeth o ran rhywedd.

Cyfeiriadedd rhywiol a hunaniaeth o ran rhywedd yng Nghymru (Cyfrifiad 2021)
Prif ddatganiad | Rhyddhawyd ar 6 Ionawr 2023
Crynodeb gan Lywodraeth Cymru o ddata Cyfrifiad 2021 ar gyfeiriadedd rhywiol a hunaniaeth o ran rhywedd yng Nghymru.

Sexual orientation, UK: 2020 (yn Saesneg)
Bwletin ystadegol | Rhyddhawyd ar 22 Mai 2022
Ystadegau Arbrofol ar gyfeiriadedd rhywiol yn y Deyrnas Unedig yn 2020, gan ddefnyddio data o'r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth.

Nôl i'r tabl cynnwys

10. Cyfeirio at y bwletin ystadegol hwn

Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG), rhyddhawyd ar 6 Ionawr 2023, gwefan SYG, bwletin ystadegol, Cyfeiriadedd rhywiol, Cymru a Lloegr: Cyfrifiad 2021

Nôl i'r tabl cynnwys

Manylion cyswllt ar gyfer y Bwletin ystadegol

Michael Roskams
census.customerservices@ons.gov.uk
Ffôn: +44 1329 444972