Cynnwys
- Prif bwyntiau
- Prif ieithoedd yng Nghymru a Lloegr
- Roedd prif ieithoedd yn amrywio ledled Cymru a Lloegr
- Hyfedredd Saesneg
- Prif ieithoedd mewn cartrefi
- Cyhoeddiadau yn y dyfodol
- Iaith, data Cymru a Lloegr
- Rhestr termau
- Mesur y data
- Cryfderau a chyfyngiadau
- Dolenni cysylltiedig
- Cyfeirio at y bwletin ystadegol hwn
1. Prif bwyntiau
- Yn 2021, Saesneg (Cymraeg neu Saesneg yng Nghymru) oedd prif iaith 91.1% (52.6 miliwn) o breswylwyr arferol, 3 oed a throsodd (i lawr o 92.3%, neu 49.8 miliwn, yn 2011).
- Yn 2021, roedd 7.1% (4.1 miliwn) pellach o'r boblogaeth gyffredinol yn hyfedr yn Saesneg (Cymraeg neu Saesneg yng Nghymru) ond nid oeddent yn ei siarad fel eu prif iaith.
- Y prif ieithoedd mwyaf cyffredin, heblaw am Saesneg (Cymraeg neu Saesneg yng Nghymru) oedd: Pwyleg (1.1%, 612,000), Rwmaneg (0.8%, 472,000), Pwnjabeg (0.5%, 291,000), ac Wrdw (0.5%, 270,000).
- Yn nifer y bobl a nododd Rwmaneg fel prif iaith, a oedd yn cyfrif am dros 0.8% o'r preswylwyr arferol yn 2021 (472,000 o bobl), i fyny o 0.1% (68,000) yn 2011, y gwelwyd y cynnydd mwyaf.
- Yn 2021, roedd 63.8% (15.8 miliwn) o gartrefi yn cynnwys aelodau lle roedd gan bob un ohonynt yr un brif iaith; roedd gan 6.0% (1.5 miliwn) brif ieithoedd gwahanol o fewn y cartref.
2. Prif ieithoedd yng Nghymru a Lloegr
Saesneg (Cymraeg neu Saesneg yng Nghymru) fel prif iaith
Yng Nghymru a Lloegr, Saesneg (Cymraeg neu Saesneg yng Nghymru) oedd prif iaith 91.1% o'r preswylwyr arferol 3 oed a throsodd (52.6 miliwn allan o 57.7 miliwn). Mae hyn yn ostyngiad canrannol o gymharu â 2011, pan nododd 92.3% (49.8 miliwn) Saesneg (Cymraeg neu Saesneg yng Nghymru) fel prif iaith.
Yn 2021, roedd 7.1% (4.1 miliwn) pellach o'r boblogaeth gyffredinol yn hyfedr yn Saesneg, felly roeddent yn ei siarad yn "dda" neu'n "dda iawn" ond nid oeddent yn ei siarad fel eu prif iaith. Yn ogystal, ni allai 1.5% (880,000) siarad Saesneg yn dda, ac ni allai canran fach (0.3%, 161,000) o'r boblogaeth gyffredinol siarad Saesneg o gwbl.
Prif ieithoedd, heblaw am Saesneg (Cymraeg neu Saesneg yng Nghymru)
Pwyleg oedd y brif iaith fwyaf cyffredin o hyd, gan gyfrif am 1.1% (612,000) o breswylwyr arferol, i'r rheini nad Saesneg (Cymraeg neu Saesneg yng Nghymru) yw eu prif iaith.
Yn 2021, symudodd Rwmaneg i'r 10 prif iaith uchaf, heblaw am Saesneg (Cymraeg neu Saesneg yng Nghymru). Hwn oedd y cynnydd mwyaf yn ystod y degawd. Nododd cyfanswm o 0.8% o bobl (472,000) Rwmaneg fel eu prif iaith, i fyny o 0.1% (68,000) yn 2011. Mae hyn yn adlewyrchu cynnydd tebyg yn nifer y bobl a nododd Rwmania fel eu gwlad enedigol rhwng 2011 a 2021 (cynnydd rhwng cyfrifiadau o 459,000, neu newid o 0.8 pwynt canran). Mae hefyd yn adlewyrchu'r cynnydd yn nifer y bobl a ddewisodd hunaniaeth genedlaethol Rwmanaidd yn unig (cynnydd rhwng cyfrifiadau o 405,000, neu newid o 0.7 pwynt canran).
Ffigur 1: Y 10 prif iaith uchaf a gaiff eu siarad yng Nghymru a Lloegr, heblaw am Saesneg (Cymraeg neu Saesneg yng Nghymru)
Cyfanswm y boblogaeth breswyl arferol, 3 oed a throsodd, sy’n siarad pob iaith fel eu prif iaith, 2011 a 2021, Cymru a Lloegr
Embed code
Lawrlwytho'r data
Nôl i'r tabl cynnwys3. Roedd prif ieithoedd yn amrywio ledled Cymru a Lloegr
Saesneg (Cymraeg neu Saesneg yng Nghymru) fel prif iaith
Roedd canran y bobl a oedd yn siarad Saesneg (Cymraeg neu Saesneg yng Nghymru) fel eu prif iaith yn uwch yng Nghymru (96.7%, 2.9 miliwn allan o 3.0 million) nag yn Lloegr (90.8%, 49.7 miliwn allan o 54.7 miliwn).
Yng Nghymru, gofynnwyd i bobl a oedd eu prif iaith yn rhywbeth heblaw am Gymraeg neu Saesneg. Felly, nid oes modd pennu faint o bobl yng Nghymru sy'n ystyried mai Cymraeg yw eu prif iaith. Roedd cwestiwn ar wahân i bobl yng Nghymru yn holi am eu sgiliau Cymraeg. Ar 6 Rhagfyr 2022, bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi gwybodaeth am sgiliau Cymraeg yng Nghymru.
Y rhanbarth yn Lloegr lle nododd y ganran uchaf o bobl Saesneg fel eu prif iaith oedd Gogledd-ddwyrain Lloegr (96.5%, 2.5 miliwn), a Llundain oedd â'r ganran isaf (78.4%, 6.7 miliwn).
Ffigur 2: Roedd canran y bobl a nododd Saesneg (Cymraeg neu Saesneg yng Nghymru) fel prif iaith yn amrywio rhwng awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr
Canran y boblogaeth breswyl arferol, 3 oed a throsodd, a nododd Saesneg (Cymraeg neu Saesneg yng Nghymru) fel prif iaith, 2021, awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr
Embed code
Source: Office for National Statistics – Census 2021
Lawrlwytho'r data
Pwyleg fel prif iaith ledled Lloegr
Yn Lloegr, Pwyleg (1.1%, 591,000) oedd y brif iaith fwyaf cyffredin i'r rhai nad oeddent yn siarad Saesneg fel prif iaith. Ar lefel ranbarthol, yn Nwyrain Canolbarth Lloegr (1.5%, 71,000) roedd y ganran uchaf o bobl a nododd Pwyleg fel prif iaith. Roedd canran y bobl a nododd Pwyleg fel prif iaith yn amrywio ar draws awdurdodau lleol o 0.1% (100) yn Castle Point i 5.7% (4,000) yn Boston.
Rwmaneg fel prif iaith ledled Lloegr
Y brif iaith fwyaf cyffredin nesaf yn Lloegr oedd Rwmaneg (0.9%, 466,000). Y rhanbarth â'r ganran uchaf o bobl a nododd Rwmaneg fel prif iaith oedd Llundain (1.9%, 159,000). Yn benodol, Harrow oedd yr awdurdod lleol lle nododd y ganran uchaf o'i boblogaeth Rwmaneg fel prif iaith (7.5%, 19,000).
Pwnjabeg ac Wrdw fel prif ieithoedd ledled Lloegr
Mae'r drydedd a'r bedwaredd brif iaith fwyaf cyffredin, heblaw am Saesneg, yn dod o Dde Asia: Pwnjabeg ac Wrdw. Mae'r ddwy yn ieithoedd a gaiff eu siarad yn gyffredin yn India a Phacistan, yn ogystal â rhannau eraill o Dde Asia. Yn Lloegr, yng Ngorllewin Canolbarth Lloegr (1.4%, 83,000) roedd y ganran uchaf o bobl a nododd Pwnjabeg fel prif iaith. Wolverhampton oedd yr awdurdod lleol lle nododd y ganran fwyaf o'r bobl Pwnjabeg fel prif iaith (6.5%, 17,000). Y rhanbarth yn Lloegr â'r gyfran fwyaf o bobl ar y cyfan a nododd Wrdw fel prif iaith oedd Gogledd-orllewin Lloegr (0.8%, 59,000). Fodd bynnag, Slough yn Ne-ddwyrain Lloegr oedd yr awdurdod lleol â'r gyfran fwyaf (4.3%, 7,000).
Y prif ieithoedd mwyaf cyffredin, heblaw am Gymraeg neu Saesneg, yng Nghymru
Fel yn 2011, Pwyleg oedd yr ail iaith fwyaf cyffredin ar ôl Cymraeg neu Saesneg yng Nghymru (0.7%, 21,000). Wrecsam oedd yr awdurdod lleol yng Nghymru â'r gyfran fwyaf o bobl a nododd Pwyleg fel prif iaith o hyd (2.5%, 3,000).
Arabeg oedd y brif iaith fwyaf cyffredin nesaf yng Nghymru (0.3%, 9,000). Caerdydd oedd yr awdurdod lleol yng Nghymru â'r gyfran fwyaf o bobl a nododd Arabeg fel prif iaith (1.4%, 5,000).
Ffigur 3: Y prif ieithoedd a gaiff eu siarad, heblaw am Saesneg (Cymraeg neu Saesneg yng Nghymru)
Canran o gyfanswm y boblogaeth breswyl arferol, 3 oed a throsodd, sy'n siarad pob iaith fel eu prif iaith, 2021, awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr
Embed code
Lawrlwytho'r data
Iaith Arwyddion Prydain yng Nghymru a Lloegr
Yn ogystal ag ieithoedd a gaiff eu siarad, Iaith Arwyddion Prydain oedd prif iaith 22,000 (0.04%) o breswylwyr arferol 3 oed a throsodd ledled Cymru a Lloegr. Mae hyn yn gynnydd o 6,000 (2011%) ers 2011 (15,000, 0.03%).
Yn Lloegr, Iaith Arwyddion Prydain yw prif iaith ychydig dros 21,000 o bobl (0.04%). Mae'r ganran hon ychydig yn uwch nag yng Nghymru, lle nododd ychydig dros 900 o bobl (0.03%) mai Iaith Arwyddion Prydain yw eu prif iaith. Ledled y ddwy wlad, yr ardal â'r ganran uchaf o bobl a nododd Iaith Arwyddion Prydain fel eu prif iaith oedd Derby (400, 0.2%), yr un peth ag yn 2011 (300, 0.1%). Un rheswm posibl am hyn yw bod yr Ysgol Frenhinol i Bobl Fyddar yn Derby, felly mae Iaith Arwyddion Prydain a Saesneg ar gael i blant. I'r rhai sy'n symud at ddibenion addysgol, efallai eu bod yn aros yn Derby oherwydd bod cymuned fywiog o bobl fyddar.
Nôl i'r tabl cynnwys4. Hyfedredd Saesneg
Gofynnwyd i bobl na wnaethant nodi Saesneg (Cymraeg neu Saesneg yng Nghymru) fel prif iaith roi gwybod pa mor dda y gallent siarad Saesneg (8.9%, 5.1 miliwn). O blith y 5.1 miliwn o bobl hynny, gallai 43.9% (2.3 miliwn) siarad Saesneg yn dda iawn, gallai 35.8% (1.8 miliwn) siarad Saesneg yn dda, ni allai 17.1% (880,000) siarad Saesneg yn dda, ac ni allai 3.1% (161,000) siarad Saesneg o gwbl.
I gartrefi na wnaethant nodi Cymraeg neu Saesneg fel prif iaith, rhoddwyd cymorth i gwblhau holiadur y cyfrifiad drwy wasanaethau dehongli, ac roedd taflenni ar gael mewn dros 50 o ieithoedd.
Ffigur 4: Gall y rhan fwyaf o bobl nad ydynt yn siarad Saesneg (Cymraeg neu Saesneg yng Nghymru) fel prif iaith siarad Saesneg yn "dda" neu'n "dda iawn"
Canran y boblogaeth breswyl arferol, 3 oed a throsodd, nad ydynt yn siarad Saesneg (Cymraeg neu Saesneg yng Nghymru) fel eu prif iaith, 2011 a 2021, Cymru a Lloegr
Embed code
Lawrlwytho'r data
Gellir defnyddio'r adnodd rhyngweithiol canlynol i ystyried sut mae hyfedredd Saesneg, i'r rhai nad ydynt yn siarad Saesneg (Cymraeg neu Saesneg yng Nghymru) fel prif iaith, yn amrywio ledled Cymru a Lloegr.
Ffigur 5: Mae hyfedredd Saesneg yn amrywio ledled awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr
Canran y boblogaeth breswyl arferol, 3 oed a throsodd, nad ydynt yn siarad Saesneg (Cymraeg neu Saesneg yng Nghymru) fel eu prif iaith, 2021, awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr
Embed code
Lawrlwytho'r data
Nôl i'r tabl cynnwys5. Prif ieithoedd mewn cartrefi
Roedd 24.8 miliwn o gartrefi ledled Cymru a Lloegr yn 2021, cynnydd o 6.1% o 23.4 miliwn yn 2011.
Am y tro cyntaf, gwnaethom gasglu gwybodaeth am b'un a oedd gan aelodau o gartrefi yr un brif iaith ai peidio. Ar gyfer y 24.8 miliwn o gartrefi, roedd 69.8% yn gartrefi â mwy nag un person. O blith y cartrefi hyn:
- roedd gan yr holl aelodau yr un brif iaith (15.8 miliwn) mewn 63.8% o gartrefi
- roedd y brif iaith yn amrywio rhwng y cenedlaethau, ond nid o fewn partneriaethau (480,000) mewn 1.9% o gartrefi
- roedd y brif iaith yn amrywio o fewn partneriaethau (534,000) mewn 2.2% o gartrefi
- roedd prif ieithoedd yn amrywio rhwng cydberthnasau eraill mewn cartrefi, fel rhwng ffrindiau (465,000), mewn 1.9% o gartrefegr yn 2021, cynnydd o 6.1% o 23.4 miliwn yn 2011
Ffigur 6: Cyfran y cartrefi lle mae'r brif iaith yn amrywio, yn ôl math o gartref, 2021, awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr
Embed code
Nodiadau:
- Mae'r categorïau canlynol wedi cael eu cyfuno i "Sawl prif iaith yn y cartref": "Mae'r brif iaith yn amrywio rhwng y cenedlaethau, ond nid o fewn partneriaethau", "Mae'r brif iaith yn amrywio o fewn partneriaethau", ac "Unrhyw gyfuniad arall o brif ieithoedd lluosog".
Lawrlwytho'r data
Nôl i'r tabl cynnwys6. Cyhoeddiadau yn y dyfodol
Ar 6 Rhagfyr 2022, bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi gwybodaeth am sgiliau Cymraeg yng Nghymru, gan gynnwys dadansoddiad fesul oedran.
Caiff data a dadansoddiadau manylach ar iaith eu cyhoeddi yn y misoedd i ddod, a chaiff data amlamryweb eu rhyddhau. Darllenwch fwy am ein cynlluniau dadansoddi ynghylch grŵp ethnig, hunaniaeth genedlaethol, iaith a chrefydd (yn Saesneg) a'r cynlluniau datganiadau ar gyfer Cyfrifiad 2021 yn fwy cyffredinol.
Nôl i'r tabl cynnwys7. Iaith, data Cymru a Lloegr
Prif iaith (manwl) (yn Saesneg)
Set ddata | Rhyddhawyd ar 29 Tachwedd 2022
Mae'r set ddata hon yn rhoi amcangyfrifon Cyfrifiad 2021 sy'n dosbarthu preswylwyr arferol yng Nghymru a Lloegr yn ôl eu prif iaith. Amcangyfrifon ar ddiwrnod y cyfrifiad yw'r rhain, sef 21 Mawrth 2021.
Iaith y cartref (yn Saesneg)
Set ddata | Rhyddhawyd ar 29 Tachwedd 2022
Mae'r set ddata hon yn rhoi amcangyfrifon Cyfrifiad 2021 sy'n dosbarthu cartrefi yng Nghymru a Lloegr yn ôl y cyfuniad o oedolion a phlant mewn cartref sy'n siarad Saesneg (Cymraeg neu Saesneg yng Nghymru) fel prif iaith. Amcangyfrifon ar ddiwrnod y cyfrifiad yw'r rhain, sef 21 Mawrth 2021.
Sawl prif iaith yn y cartref (yn Saesneg)
Set ddata | Rhyddhawyd ar 29 Tachwedd 2022
Mae'r set ddata hon yn rhoi amcangyfrifon Cyfrifiad 2021 sy'n dosbarthu cartrefi yng Nghymru a Lloegr yn ôl y cyfuniad o aelodau'r cartref sy'n siarad yr un brif iaith neu brif ieithoedd gwahanol. Amcangyfrifon ar ddiwrnod y cyfrifiad yw'r rhain, sef 21 Mawrth 2021.
Hyfedredd Saesneg (yn Saesneg)
Set ddata | Rhyddhawyd ar 29 Tachwedd 2022
Mae'r set ddata hon yn rhoi amcangyfrifon Cyfrifiad 2021 sy'n dosbarthu preswylwyr arferol yng Nghymru a Lloegr yn ôl eu hyfedredd Saesneg. Amcangyfrifon ar ddiwrnod y cyfrifiad yw'r rhain, sef 21 Mawrth 2021.
8. Rhestr termau
Hyfedredd Saesneg
Pa mor dda y mae pobl nad Saesneg (Cymraeg neu Saesneg yng Nghymru) yw eu prif iaith yn siarad Saesneg.
Prif iaith
Iaith gyntaf neu ddewis iaith person.
Sawl prif iaith yn y cartref
Mae'n dosbarthu cartrefi yn ôl p'un a yw'r aelodau yn siarad yr un brif iaith neu brif iaith wahanol. Os caiff sawl prif iaith ei siarad, mae hyn yn nodi p'un a yw'n amrywio rhwng cenedlaethau neu rhwng partneriaethau yn y cartref.
Preswylydd arferol
Ystyr preswylydd arferol yw unrhyw un a oedd, ar Ddiwrnod y Cyfrifiad, sef 21 Mawrth 2021, yn y Deyrnas Unedig ac wedi aros neu'n bwriadu aros yn y Deyrnas Unedig am gyfnod o 12 mis neu fwy, neu a oedd â chyfeiriad parhaol yn y Deyrnas Unedig ac a oedd y tu allan i'r Deyrnas Unedig ac yn bwriadu aros y tu allan i'r Deyrnas Unedig am lai na 12 mis.
Nôl i'r tabl cynnwys9. Mesur y data
Dyddiad cyfeirio
Mae'r cyfrifiad yn rhoi amcangyfrifon o nodweddion pob unigolyn a chartref yng Nghymru a Lloegr ar Ddiwrnod y Cyfrifiad, 21 Mawrth 2021. Caiff ei gynnal unwaith bob 10 mlynedd ac mae'n rhoi'r amcangyfrif mwyaf cywir o'r holl bobl a chartrefi yng Nghymru a Lloegr i ni.
Rydym yn gyfrifol am gynnal y cyfrifiad yng Nghymru a Lloegr, ond byddwn hefyd yn rhyddhau allbynnau ar gyfer y Deyrnas Unedig mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, Cofnodion Cenedlaethol yr Alban ac Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon. Cafodd y cyfrifiad yng Ngogledd Iwerddon ei gynnal ar 21 Mawrth 2021 hefyd, ond cafodd cyfrifiad yr Alban ei symud i 20 Mawrth 2022. Mae holl swyddfeydd y cyfrifiad yn y Deyrnas Unedig yn gweithio'n agos i ddeall sut y bydd y gwahaniaeth hwn mewn dyddiadau cyfeirio yn effeithio ar ystadegau poblogaeth a thai'r Deyrnas Unedig gyfan, o ran yr amseru a'r cwmpas.
Cyfradd ymateb
Cyfradd ymateb unigolion yw nifer y preswylwyr arferol y cafodd manylion unigol eu darparu ar eu cyfer ar holiadur a ddychwelwyd, wedi'i rannu ag amcangyfrif o'r boblogaeth breswyl arferol.
Y gyfradd ymateb unigolion ar gyfer Cyfrifiad 2021 oedd 97% o boblogaeth breswyl arferol Cymru a Lloegr, a dros 88% ym mhob awdurdod lleol. Cafodd y rhan fwyaf o ffurflenni (89%) eu derbyn ar lein. Gwnaeth y gyfradd ymateb ragori ar ein targed, sef 94% yn gyffredinol ac 80% ym mhob awdurdod lleol.
Caiff rhagor o wybodaeth am gyfraddau ymateb ar gyfer cwestiynau penodol ei chyhoeddi mewn adroddiad ar wahân yn ddiweddarach eleni.
Nôl i'r tabl cynnwys10. Cryfderau a chyfyngiadau
Ceir ystyriaethau o ansawdd ynghyd â chryfderau a chyfyngiadau Cyfrifiad 2021 yn fwy cyffredinol yn yr adroddiad Gwybodaeth am Ansawdd a Methodoleg ar gyfer Cyfrifiad 2021. Darllenwch fwy am yr ystyriaethau o ansawdd penodol ar gyfer grŵp ethnig, hunaniaeth genedlaethol, iaith a chrefydd.
Ceir rhagor o wybodaeth am ein prosesau sicrhau ansawdd eraill yn ein hadroddiad Sicrhau bod amcangyfrifon poblogaeth Cyfrifiad 2021 o'r ansawdd gorau posibl (yn Saesneg).
Nôl i'r tabl cynnwys11. Dolenni cysylltiedig
Map y cyfrifiad (yn Saesneg)
Cynnwys rhyngweithiol | Diweddarwyd ar 29 Tachwedd 2022
Adnodd map rhyngweithiol sy'n delweddu data Cyfrifiad 2021 ar bynciau gwahanol i lawr i ardal awdurdod lleol a lefel cymdogaeth.
Gwybodaeth am ansawdd grŵp ethnig, hunaniaeth genedlaethol, iaith, a chrefydd ar gyfer Cyfrifiad 2021 (yn Saesneg)
Methodoleg | Rhyddhawyd ar 29 Tachwedd 2022
Gwybodaeth hysbys am ansawdd sy'n effeithio ar ddata grŵp ethnig, hunaniaeth genedlaethol, iaith a chrefydd o Gyfrifiad 2021 yng Nghymru a Lloegr.
Newidynnau grŵp ethnig, hunaniaeth genedlaethol, iaith a chrefydd: Cyfrifiad 2021
Gwybodaeth ategol | Rhyddhawyd ar 29 Tachwedd 2022
Newidynnau a dosbarthiadau a ddefnyddir yn nata Cyfrifiad 2021 am grŵp ethnig, hunaniaeth genedlaethol, iaith a chrefydd.
Grŵp ethnig, hunaniaeth genedlaethol, iaith, a chrefydd yng Nghymru (Cyfrifiad 2021)
Prif ddatganiad | Rhyddhawyd ar 29 Tachwedd 2022
Crynodeb gan Lywodraeth Cymru o ddata Cyfrifiad 2021 am grŵp ethnig, hunaniaeth genedlaethol, iaith a chrefydd yng Nghymru.
12. Cyfeirio at y bwletin ystadegol hwn
Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG), rhyddhawyd ar 29 Tachwedd 2022, gwefan SYG, bwletin ystadegol, Iaith, Cymru a Lloegr: Cyfrifiad 2021