Hunaniaeth genedlaethol, Cymru a Lloegr: Cyfrifiad 2021

Hunaniaeth genedlaethol preswylwyr arferol yng Nghymru a Lloegr, data Cyfrifiad 2021.

Hwn yw'r datganiad diweddaraf. Gweld datganiadau blaenorol

Census
This is an accredited National Statistic. Click for information about types of official statistics.

Cyswllt:
Email Michael Roskams

Dyddiad y datganiad:
29 November 2022

Cyhoeddiad nesaf:
I’w gyhoeddi

1. Prif bwyntiau

  • Yn 2021, roedd 90.3% (53.8 miliwn) o breswylwyr arferol yn uniaethu ag o leiaf un o hunaniaethau cenedlaethol y Deyrnas Unedig (Cymreig, Seisnig, Albanaidd, Gwyddelig Gogledd Iwerddon, Prydeinig, a Chernywaidd); roedd hyn yn ostyngiad bach o 92.0% (51.6 miliwn) yn 2011.

  • Roedd pobl a nododd o leiaf un o hunaniaethau'r Deyrnas Unedig ac un hunaniaeth heb fod o'r Deyrnas Unedig yn cyfrif am 2.0% o'r boblogaeth gyffredinol (1.2 miliwn o bobl) yn 2021; mae hyn yn gynnydd o 0.9% (492,000) yn 2011.

  • Roedd y rhai a ddewisodd hunaniaeth heb fod o'r Deyrnas Unedig yn unig yn cyfrif am 9.7% o'r boblogaeth gyffredinol (5.8 miliwn o bobl), sy'n gynnydd o 8.0% o'r boblogaeth (4.5 miliwn o bobl) yn 2011.

  • Ymhlith y rhai a ddisgrifiodd hunaniaeth genedlaethol heb fod o'r Deyrnas Unedig, yr ymateb mwyaf cyffredin oedd y rhai a roddodd Pwylaidd yn unig fel eu hunaniaeth (1.0%, 593,000); Pwylaidd yn unig oedd yr ymateb mwyaf cyffredin yn 2011 hefyd (1.1%, 593,000).

  • Rwmanaidd yn unig oedd yr ail hunaniaeth genedlaethol heb fod o'r Deyrnas Unedig fwyaf cyffredin a nodwyd, gan gynyddu i 0.8% (477,000) yn 2021 o 0.1% (73,000) yn 2011, sef y cynnydd mwyaf ar gyfer unrhyw hunaniaeth genedlaethol heb fod o'r Deyrnas Unedig.

  • Roedd hunaniaethau cyffredin eraill heb fod o'r Deyrnas Unedig yn cynnwys Indiaidd yn unig (0.6%, 380,000), Gwyddelig yn unig (0.5%, 300,000), ac Eidalaidd yn unig (0.5%, 287,000).

Nôl i'r tabl cynnwys

2. Hunaniaethau cenedlaethol yng Nghymru a Lloegr

Cyflwynwyd y cwestiwn am hunaniaeth genedlaethol yn 2011 oherwydd bod mwy o ddiddordeb mewn ymwybyddiaeth "genedlaethol" a galw am i bobl allu cydnabod eu hunaniaeth genedlaethol. Mae'r cwestiwn hwn yn caniatáu i ymatebwyr nodi pob hunaniaeth sy'n gymwys. Defnyddir y term "yn unig" drwy gydol yr erthygl i gyfeirio at ymatebwyr a gaiff eu dosbarthu ag un hunaniaeth genedlaethol.

Yn gyffredinol, nododd 90.3% o'r boblogaeth (53.8 miliwn o bobl) yng Nghymru a Lloegr o leiaf un o hunaniaethau'r Deyrnas Unedig (Cymreig, Seisnig, Albanaidd, Gwyddelig Gogledd Iwerddon, Prydeinig, a Chernywaidd). Mae hyn wedi gostwng ychydig ers 2011, pan nododd 92.0% o'r boblogaeth (51.6 miliwn o bobl) un o'r hunaniaethau hyn.

Roedd y bobl a nododd o leiaf un o hunaniaethau'r Deyrnas Unedig ac un hunaniaeth heb fod o'r Deyrnas Unedig yn cyfrif am 2.0% o'r boblogaeth gyffredinol (1.2 miliwn o bobl); mae hyn yn gynnydd o 0.9% (492,000) yn 2011.

Roedd y rhai a ddewisodd hunaniaeth heb fod o'r Deyrnas Unedig yn unig yn cyfrif am 9.7% o'r boblogaeth gyffredinol (5.8 miliwn o bobl), sy'n gynnydd o 8.0% o'r boblogaeth (4.5 miliwn o bobl) yn 2011.

Hunaniaethau Cymreig, Prydeinig neu Seisnig yn unig

Dewisodd dros hanner y boblogaeth breswyl arferol (54.8%, 32.7 miliwn) "Prydeiniwr/ Prydeinwraig" yn unig fel hunaniaeth genedlaethol yn 2021, sy'n gynnydd o 35.8 pwynt canran o 19.1% (10.7 miliwn) yn 2011. Roedd y gwrthwyneb yn wir i "Sais/ Saesnes" yn unig. Gostyngodd yr opsiwn hwn 42.8 pwynt canran, o 57.7% (32.4 miliwn) yn 2011 i 14.9% (8.9 miliwn) yn 2021.

!

Er y gallai'r cynnydd yn nifer y preswylwyr arferol a ddisgrifiodd eu hunaniaeth genedlaethol fel "Prydeiniwr/Prydeinwraig" a'r gostyngiad yn y nifer a ddisgrifiodd eu hunaniaeth genedlaethol fel "Sais/Saesnes" fod yn adlewyrchu newid gwirioneddol, mae'n fwyaf tebygol o fod o ganlyniad i'r newidiadau i strwythur y cwestiwn lle rhoddwyd "British" fel yr opsiwn ymateb cyntaf yn 2021 ar gyfer Lloegr yn unig.

Wrth eu hadio at ei gilydd, dim ond o 76.8% (43.0 miliwn) yn 2011 i 69.7% (41.6 miliwn) yn 2021 y gostyngodd nifer y bobl a ddewisodd naill ai "Sais/ Saesnes" yn unig neu "Prydeiniwr/ Prydeinwraig" yn unig fel eu hunaniaeth genedlaethol.

Yng Nghymru, "Cymro/Cymraes" oedd yr opsiwn ymateb cyntaf o hyd yn y cwestiwn am hunaniaeth genedlaethol, fel yn 2011. Cynyddodd nifer y bobl a ddewisodd "Prydeiniwr/ Prydeinwraig" yn unig fel eu hunaniaeth genedlaethol yng Nghymru hefyd, o 16.9% (519,000) yn 2011 i 18.5% (574,000) yn 2021. Cyd-darodd hyn â gostyngiad yn nifer y bobl a ddewisodd "Cymro/Cymraes" yn unig i ddisgrifio eu hunaniaeth genedlaethol (55.2%, neu 1.7 miliwn, sydd i lawr o 57.5%, neu 1.8 miliwn, yn 2011).

Ffigur 1: Yr opsiwn ymateb fwyaf cyffredin oedd dewis "Prydeiniwr/ Prydeinwraig" yn unig fel hunaniaeth genedlaethol

Hunaniaethau cenedlaethol, 2011 a 2021, Cymru a Lloegr

Embed code

Nodiadau:
  1. Er y gallai'r cynnydd yn nifer y preswylwyr arferol a ddisgrifiodd eu hunaniaeth genedlaethol fel "Prydeiniwr/Prydeinwraig" a'r gostyngiad yn y nifer a ddisgrifiodd eu hunaniaeth genedlaethol fel "Sais/Saesnes" fod yn adlewyrchu newid gwirioneddol, mae'n fwyaf tebygol o fod o ganlyniad i'r newidiadau i strwythur y cwestiwn lle rhoddwyd "British" fel yr opsiwn ymateb cyntaf yn 2021 ar gyfer Lloegr yn unig.
Lawrlwytho'r data

.xlsx

Newidiadau yn hunaniaethau eraill y Deyrnas Unedig

Roedd hunaniaethau eraill y Deyrnas Unedig yn fwy sefydlog o ran preswylwyr arferol yng Nghymru a Lloegr, er bod rhai newidiadau rhwng 2011 a 2021 o hyd, gan gynnwys y canlynol:

  • cynyddodd y ganran a ddewisodd "Sais/Saesnes" a "Prydeiniwr/Prydeinwraig" fel hunaniaeth genedlaethol i 13.6% (8.1 miliwn) o 8.7% (4.9 miliwn)
  • gostyngodd y ganran a ddewisodd "Cymro/Cymraes" yn unig fel hunaniaeth i 3.2% (1.9 miliwn) o 3.7% (2.1 miliwn)
  • gostyngodd y ganran a ddewisodd "Albanwr/Albanes" yn unig fel hunaniaeth i 0.4% (244,000) o 0.8% (435,000)
Nôl i'r tabl cynnwys

3. Hunaniaeth Seisnig yn Lloegr, hunaniaeth Gymreig yng Nghymru, a hunaniaeth Gernywaidd yng Nghernyw

Hunaniaeth Seisnig yn Lloegr

Yn Lloegr:

  • dewisodd 15.3% o bobl Sais/Saesnes yn unig fel hunaniaeth (gostyngiad o 60.4% yn 2011)
  • dewisodd 56.8% o bobl Prydeiniwr/Prydeinwraig yn unig fel hunaniaeth (gostyngiad o 19.2% yn 2011)
  • dewisodd 72.1% o bobl (40.7 miliwn) naill ai Sais/Saesnes yn unig neu Brydeiniwr/ Prydeinwraig yn unig fel hunaniaeth (gostyngiad o 79.6%, neu 42.2 miliwn, yn 2011)
  • dewisodd 14.3% o bobl Sais/Saesnes a Phrydeiniwr/Prydeinwraig fel hunaniaeth (gostyngiad o 9.1% yn 2011)

!

Er y gallai'r cynnydd yn nifer y preswylwyr arferol a ddisgrifiodd eu hunaniaeth genedlaethol fel Prydeiniwr/Prydeinwraig a'r gostyngiad yn y nifer a ddisgrifiodd eu hunaniaeth genedlaethol fel Sais/Saesnes fod yn adlewyrchu newid gwirioneddol, mae'n fwyaf tebygol o fod o ganlyniad i'r newidiadau i strwythur y cwestiwn lle rhoddwyd "British" fel yr opsiwn ymateb cyntaf yn 2021 ar gyfer Lloegr yn unig.

Hunaniaeth Gymreig yng Nghymru

Yng Nghymru:

  • dewisodd 55.2% o bobl "Cymro/Cymraes" yn unig fel hunaniaeth (gostyngiad o 57.5% yn 2011)
  • dewisodd 18.5% o bobl "Prydeiniwr/Prydeinwraig" yn unig fel hunaniaeth (gostyngiad o 16.9% yn 2011)
  • dewisodd 8.1% o bobl yr hunaniaethau "Cymro/Cymraes" a "Prydeiniwr/Prydeinwraig", heb unrhyw hunaniaethau eraill (cynnydd o 7.1% yn 2011)

Hunaniaeth Gernywaidd yng Nghernyw

Gallai pobl a oedd am gofnodi hunaniaeth heblaw am genhedloedd y Deyrnas Unedig a oedd wedi'u rhestru fel opsiynau ymateb â blwch ticio ysgrifennu hunaniaethau eraill. Cafodd y rhai a oedd am nodi hunaniaeth genedlaethol Gernywaidd eu cefnogi i wneud hynny drwy'r cyfleuster chwilio-wrth-deipio (yn Saesneg), a oedd yn cynnwys sillafiadau o'r hunaniaeth yn Gernyweg yn ogystal â Chymraeg a Saesneg.

Yng Nghymru a Lloegr:

  • Dewisodd 0.2% o'r boblogaeth (100,000) naill ai hunaniaeth Gernywaidd yn unig neu hunaniaeth Gernywaidd ar y cyd â Phrydeiniwr/Prydeinwraig (cynnydd o 0.1%, neu 66,000, yn 2011)

Yng Nghernyw:

  • dewisodd 14.0% (80,000) o bobl hunaniaeth Gernywaidd yn unig (cynnydd o 9.9%, neu 53,000 yn 2011)
  • dewisodd 1.6% (9,000) o bobl hunaniaeth Gernywaidd yn unig ar y cyd â Phrydeiniwr/ Prydeinwraig (cynnydd o 1.0%, neu 5,000 yn 2011)

Y tu allan i Gernyw:

  • dewisodd 11,000 o bobl (0.02% o'r preswylwyr arferol) naill ai hunaniaeth Gernywaidd yn unig neu hunaniaeth Gernywaidd ar y cyd â Phrydeiniwr/Prydeinwraig (cynnydd o 8,000 o bobl, neu 0.01%, yn 2011
Nôl i'r tabl cynnwys

4. Hunaniaethau heb fod o’r Deyrnas Unedig

Roedd modd i bobl gofnodi hunaniaeth genedlaethol heb fod o'r Deyrnas Unedig drwy ddefnyddio'r opsiwn i ysgrifennu ymateb. Defnyddiwyd cyfleuster chwilio-wrth-deipio (yn Saesneg) ar yr holiadur ar-lein er mwyn ei gwneud hi'n haws i ymatebwyr hunanddiffinio eu hunaniaeth genedlaethol.

Pob hunaniaeth heb fod o’r Deyrnas Unedig

Ar y cyfan, dewisodd 11.7% o'r boblogaeth yng Nghymru a Lloegr (7.0 miliwn o bobl) roi "Arall" fel hunaniaeth genedlaethol (naill ai ar ei ben ei hun neu gydag o leiaf un o hunaniaethau'r Deyrnas Unedig), sy'n gynnydd o 8.8% (5.0 miliwn) yn 2011. Roedd canran y boblogaeth a nododd eu hunaniaeth genedlaethol y ffordd hon yn uwch yn Lloegr (12.0%) nag yng Nghymru (5.4%).

O blith y 7.0 miliwn o bobl a nododd eu hunaniaeth genedlaethol drwy'r opsiwn "Arall", gwnaeth 1.1 miliwn o bobl (1.9% o'r boblogaeth gyffredinol) nodi o leiaf un o hunaniaethau'r Deyrnas Unedig hefyd. Mae hyn yn gynnydd o 2011 lle nododd 452,000 o bobl (0.8% o'r boblogaeth) hunaniaeth heb fod o'r Deyrnas Unedig ac o leiaf un o hunaniaethau'r Deyrnas Unedig.

Hunaniaethau penodol heb fod o’r Deyrnas Unedig

Gwelwyd cynnydd yng nghanran y boblogaeth a nododd hunaniaeth heb fod o'r Deyrnas Unedig yn unig. Cynyddodd hyn i 9.7% (5.8 miliwn) yng Nghymru a Lloegr, i fyny o 8.0% (4.5 miliwn) yn 2011. Eto, roedd hyn yn uwch yn Lloegr (10.0%) nag yng Nghymru (4.2%).

Dim ond cynnydd a welir yn y data ar gyfer y rhan fwyaf o hunaniaethau heb fod o'r Deyrnas Unedig a nodwyd gan bobl rhwng 2011 a 2021.

Ffigur 2: Pwylaidd oedd yr hunaniaeth genedlaethol heb fod o'r Deyrnas Unedig a nodwyd amlaf o hyd yn 2021

Y 10 hunaniaeth genedlaethol heb fod o'r Deyrnas Unedig yn unig a nodwyd amlaf gan breswylwyr arferol, 2011 a 2021, Cymru a Lloegr

Embed code

Nodiadau:
  1. Nid yw hunaniaethau cenedlaethol wedi'u cyfuno wedi cael eu cynnwys yma gan mai cyfuniadau o hunaniaethau cenedlaethol yw'r rhain a nodwyd gan lai o bobl.
Lawrlwytho'r data

.xlsx

O blith yr holl ymatebwyr a ddewisodd hunaniaeth genedlaethol heb fod o'r Deyrnas Unedig, Pwylaidd yn unig oedd yr ymateb mwyaf cyffredin (1.0%, 593,000). Hwn oedd yr ymateb mwyaf cyffredin yn 2011 hefyd (pan ddewisodd 1.1%, neu 593,000, hunaniaeth Bwylaidd yn unig).

Gwelwyd y cynnydd mwyaf yn y rhai a ddewisodd hunaniaeth Rwmanaidd yn unig, a gododd 0.8% (477,000) yn 2021 o 0.1% (73,000) yn 2011. Rwmanaidd oedd yr ail hunaniaeth fwyaf cyffredin heb fod o'r Deyrnas Unedig felly, gan godi o'r 16eg safle yn 2011. Mae data Cyfrifiad 2021 ar fudo rhyngwladol (yn Saesneg) ac iaith yn dangos cynnydd tebyg rhwng cyfrifiadau o ran y boblogaeth Rwmanaidd a'r rhai sy'n siarad Rwmaneg fel prif iaith. Mae'n debyg bod y cynnydd o ganlyniad i'r ffaith bod cyfyngiadau gweithio ar gyfer dinasyddion Rwmanaidd wedi cael eu codi yn 2014.

Yn 2011, Gwyddelig oedd yr ail hunaniaeth fwyaf cyffredin heb fod o'r Deyrnas Unedig, gyda 0.6% (349,000). Mae data 2021 yn dangos gostyngiad i 0.5% (300,000), gan olygu mai hon yw'r pedwerydd hunaniaeth fwyaf cyffredin. Y gostyngiad hwn o bron 50,000 oedd y gostyngiad mwyaf a welwyd i unrhyw hunaniaeth heb fod o'r Deyrnas Unedig.

Mae'r datganiad hwn yn rhoi data ar hunaniaethau penodol heb fod o'r Deyrnas Unedig yn unig. Yn y datganiad hwn, dangosir y canlyniadau ar gyfer y rhai a nododd hunaniaethau heb fod o'r Deyrnas Unedig yn unig. Bydd dadansoddiadau yn y dyfodol yn rhoi sylw manylach i'r rhai a ddewisodd hunaniaethau cenedlaethol penodol heb fod o'r Deyrnas Unedig ar y cyd ag o leiaf un o hunaniaethau'r Deyrnas Unedig. I gael rhagor o wybodaeth, gweler ein cynlluniau dadansoddi ar gyfer grŵp ethnig, hunaniaeth genedlaethol, iaith a chrefydd (yn Saesneg).

Nôl i'r tabl cynnwys

5. Sut roedd hunaniaeth genedlaethol yn amrywio ledled Cymru a Lloegr

Yn 2021, yn Lloegr:

  • nododd 88.0% o breswylwyr arferol (49.7 miliwn) un neu fwy o hunaniaethau'r Deyrnas Unedig yn unig
  • nododd 2.0% (1.2 miliwn) o leiaf un o hunaniaethau'r Deyrnas Unedig ac un hunaniaeth heb fod o'r Deyrnas Unedig
  • nododd 10.0% (5.6 miliwn) hunaniaeth heb fod o'r Deyrnas Unedig yn unig

Yn 2021, yng Nghymru:

  • nododd 94.6% o breswylwyr arferol (2.9 miliwn) un neu fwy o hunaniaethau'r Deyrnas Unedig yn unig
  • nododd 1.2% (37,000) o leiaf un o hunaniaethau'r Deyrnas Unedig ac un hunaniaeth heb fod o'r Deyrnas Unedig
  • nododd 4.2% (132,000) hunaniaeth heb fod o'r Deyrnas Unedig yn unig

Mae'r map rhyngweithiol yn archwilio sut mae hunaniaeth genedlaethol yn amrywio ledled y Deyrnas Unedig hyd at lefel awdurdod lleol.

Ffigur 3: Hunaniaeth genedlaethol, 2021, Cymru a Lloegr

Embed code

Source: Office for National Statistics – Census 2021
Lawrlwytho'r data

.xlsx

Nôl i'r tabl cynnwys

6. Cyhoeddiadau yn y dyfodol

Byddwn yn cyhoeddi data a dadansoddiadau manylach ar hunaniaeth genedlaethol yn y misoedd i ddod, a chaiff data amlamryweb eu rhyddhau. Darllenwch fwy am ein cynlluniau dadansoddi ynghylch grŵp ethnig, hunaniaeth genedlaethol, iaith a chrefydd (yn Saesneg) a'r cynlluniau datganiadau ar gyfer Cyfrifiad 2021 yn fwy cyffredinol.

Nôl i'r tabl cynnwys

7. Data ar hunaniaeth genedlaethol, Cymru a Lloegr

Hunaniaeth genedlaethol - y Deyrnas Unedig (yn Saesneg)
Set ddata | Rhyddhawyd ar 29 Tachwedd 2022
Mae'r set ddata hon yn rhoi amcangyfrifon Cyfrifiad 2021 sy'n dosbarthu preswylwyr arferol yng Nghymru a Lloegr yn ôl eu hunaniaeth genedlaethol.

Hunaniaeth genedlaethol (manwl) (yn Saesneg)
Set ddata | Rhyddhawyd ar 29 Tachwedd 2022
Mae'r set ddata hon yn rhoi amcangyfrifon Cyfrifiad 2021 sy'n dosbarthu preswylwyr arferol yng Nghymru a Lloegr yn ôl eu hunaniaeth genedlaethol.

Nôl i'r tabl cynnwys

8. Rhestr termau

Hunaniaeth genedlaethol

Hunaniaeth genedlaethol unigolyn yw'r ffordd y mae'r unigolyn hwnnw yn asesu ei hunaniaeth ei hun; gallai olygu'r wlad neu'r gwledydd lle maent yn teimlo eu bod yn perthyn, neu sy'n teimlo fel cartref iddynt. Nid yw'n dibynnu ar grŵp ethnig na dinasyddiaeth.

Gallai ymatebwyr ddewis mwy nag un hunaniaeth genedlaethol.

Preswylydd arferol

Ystyr preswylydd arferol yw unrhyw un a oedd, ar Ddiwrnod y Cyfrifiad, sef 21 Mawrth 2021, yn y Deyrnas Unedig ac wedi aros neu'n bwriadu aros yn y Deyrnas Unedig am gyfnod o 12 mis neu fwy, neu a oedd â chyfeiriad parhaol yn y Deyrnas Unedig ac a oedd y tu allan i'r Deyrnas Unedig ac yn bwriadu aros y tu allan i'r Deyrnas Unedig am lai na 12 mis.

Nôl i'r tabl cynnwys

9. Mesur y data

Dyddiad cyfeirio

Mae'r cyfrifiad yn rhoi amcangyfrifon o nodweddion pob unigolyn a chartref yng Nghymru a Lloegr ar Ddiwrnod y Cyfrifiad, 21 Mawrth 2021. Caiff ei gynnal unwaith bob 10 mlynedd ac mae'n rhoi'r amcangyfrif mwyaf cywir o'r holl bobl a chartrefi yng Nghymru a Lloegr i ni.

Rydym yn gyfrifol am gynnal y cyfrifiad yng Nghymru a Lloegr, ond byddwn hefyd yn rhyddhau allbynnau ar gyfer y Deyrnas Unedig mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, Cofnodion Cenedlaethol yr Alban ac Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon. Cafodd y cyfrifiad yng Ngogledd Iwerddon ei gynnal ar 21 Mawrth 2021 hefyd, ond cafodd cyfrifiad yr Alban ei symud i 20 Mawrth 2022. Mae holl swyddfeydd y cyfrifiad yn Deyrnas Unedig yn gweithio'n agos i ddeall sut y bydd y gwahaniaeth hwn mewn dyddiadau cyfeirio yn effeithio ar ystadegau poblogaeth a thai'r Deyrnas Unedig gyfan, o ran yr amseru a'r cwmpas.

Cyfradd ymateb

Cyfradd ymateb gyffredinol unigolion yw nifer y preswylwyr arferol y cafodd manylion unigol eu darparu ar eu cyfer ar holiadur a ddychwelwyd, wedi'i rannu ag amcangyfrif o'r boblogaeth breswyl arferol.

Y gyfradd ymateb unigolion ar gyfer Cyfrifiad 2021 oedd 97% o boblogaeth breswyl arferol Cymru a Lloegr, a dros 88% ym mhob awdurdod lleol. Cafodd y rhan fwyaf o ffurflenni (89%) eu derbyn ar lein. Gwnaeth y gyfradd ymateb ragori ar ein targed, sef 94% yn gyffredinol ac 80% ym mhob awdurdod lleol.

Caiff rhagor o wybodaeth am gyfraddau ymateb ar gyfer cwestiynau penodol ei chyhoeddi mewn adroddiad ar wahân yn ddiweddarach eleni.

Nôl i'r tabl cynnwys

10. Cryfderau a chyfyngiadau

Er y gallai'r cynnydd yn nifer y preswylwyr arferol a ddisgrifiodd eu hunaniaeth genedlaethol fel "Prydeiniwr/Prydeinwraig" a'r gostyngiad yn y nifer a ddisgrifiodd eu hunaniaeth genedlaethol fel "Sais/Saesnes" fod yn adlewyrchu newid gwirioneddol, mae'n fwyaf tebygol o fod o ganlyniad i'r newidiadau i strwythur y cwestiwn lle rhoddwyd "British" fel yr opsiwn ymateb cyntaf yn 2021 ar gyfer Lloegr yn unig. Darllenwch fwy am yr ystyriaethau o ansawdd penodol ar gyfer grŵp ethnig, hunaniaeth genedlaethol, iaith a chrefydd.

Ceir ystyriaethau o ansawdd ynghyd â chryfderau a chyfyngiadau Cyfrifiad 2021 yn fwy cyffredinol yn yr adroddiad Gwybodaeth am Ansawdd a Methodoleg ar gyfer Cyfrifiad 2021.

Ceir rhagor o wybodaeth am ein prosesau sicrhau ansawdd eraill yn ein hadroddiad Sicrhau bod amcangyfrifon poblogaeth Cyfrifiad 2021 o'r ansawdd gorau posibl (yn Saesneg).

Nôl i'r tabl cynnwys

11. Dolenni cysylltiedig

Map y cyfrifiad (yn Saesneg)
Cynnwys rhyngweithiol | Diweddarwyd ar 29 Tachwedd 2022
Adnodd map rhyngweithiol sy'n delweddu data Cyfrifiad 2021 ar bynciau gwahanol i lawr i ardal awdurdod lleol a lefel cymdogaeth.

Gwybodaeth am ansawdd grŵp ethnig, hunaniaeth genedlaethol, iaith, a chrefydd ar gyfer Cyfrifiad 2021 (yn Saesneg)
Methodoleg | Rhyddhawyd ar 29 Tachwedd 2022
Gwybodaeth hysbys am ansawdd sy'n effeithio ar ddata grŵp ethnig, hunaniaeth genedlaethol, iaith a chrefydd o Gyfrifiad 2021 yng Nghymru a Lloegr.

Newidynnau grŵp ethnig, hunaniaeth genedlaethol, iaith a chrefydd: Cyfrifiad 2021
Gwybodaeth ategol | Rhyddhawyd ar 29 Tachwedd 2022
Newidynnau a dosbarthiadau a ddefnyddir yn nata Cyfrifiad 2021 am grŵp ethnig, hunaniaeth genedlaethol, iaith a chrefydd.

Grŵp ethnig, hunaniaeth genedlaethol, iaith, a chrefydd yng Nghymru (Cyfrifiad 2021)
Bwletin ystadegol | Rhyddhawyd ar 29 Tachwedd 2022
Crynodeb gan Lywodraeth Cymru o ddata Cyfrifiad 2021 am grŵp ethnig, hunaniaeth genedlaethol, iaith a chrefydd yng Nghymru.

Nôl i'r tabl cynnwys

12. Cyfeirio at y bwletin ystadegol hwn

Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG), rhyddhawyd ar 29 Tachwedd 2022, gwefan SYG, bwletin ystadegol, Hunaniaeth genedlaethol, Cymru a Lloegr: Cyfrifiad 2021

Nôl i'r tabl cynnwys

Manylion cyswllt ar gyfer y Bwletin ystadegol

Michael Roskams
census.customerservices@ons.gov.uk
Ffôn: +44 1329 444972