Cynnwys
- Prif bwyntiau
- Gradd Gymdeithasol Fras yng Nghymru a Lloegr
- Cymharu Gradd Gymdeithasol Fras â Dosbarthiad Economaidd-gymdeithasol Ystadegau Gwladol (NS-SEC)
- Data Gradd Gymdeithasol Fras
- Geirfa
- Mesur y data
- Cryfderau a chyfyngiadau
- Datblygiadau yn y dyfodol
- Dolenni cysylltiedig
- Cyfeirio at y bwletin ystadegol hwn
1. Prif bwyntiau
Dyrannwyd Gradd Gymdeithasol Fras i bob preswylydd arferol mewn cartref â Pherson Cyswllt y Cartref rhwng 16 a 64 oed (46.7 miliwn, 79.8% o'r holl breswylwyr arferol mewn cartrefi).
Mae'r graddau a gyfrifwyd o ddata'r cyfrifiad yn cynnwys galwedigaethau rheoli, gweinyddol a phroffesiynol uwch a chanolradd (AB), galwedigaethau rheoli, gweinyddol a phroffesiynol ar lefel goruchwylio, clercol ac iau a (C1), galwedigaethau llaw medrus (C2), a galwedigaethau llaw rhannol fedrus a heb sgiliau a galwedigaethau ar y radd isaf (DE).
Dangosodd data Cyfrifiad 2021 mai "C1", galwedigaethau ar lefel goruchwylio, clercol ac iau, oedd y Radd Gymdeithasol Fras fwyaf cyffredin yng Nghymru a Lloegr, sef 32.8% o'r holl breswylwyr arferol mewn cartrefi â Phersonau Cyswllt y Cartref rhwng 16 a 64 oed (15.3 miliwn o bobl).
Yng Nghymru, cafodd 19.6% eu dosbarthu i'r radd gymdeithasol uchaf, "AB", o gymharu â'r ffigur yn Lloegr, sef 23.5%.
Llundain (28.4%) a De-ddwyrain Lloegr (28.2%) oedd y rhanbarthau â'r canrannau mwyaf o bobl a ddosbarthwyd i'r radd gymdeithasol uchaf, "AB", a Gogledd-ddwyrain Lloegr (18.3%) a Swydd Efrog a Humber (19.4%) oedd â'r cyfrannau isaf.
Y grwpiau oedran yng Nghymru a Lloegr oedd â'r cyfrannau mwyaf o'r radd gymdeithasol uchaf, "AB", oedd 35 i 44 oed (27.5% i fenywod, 28.2% i ddynion) a 45 i 55 oed (24.4% i fenywod, 25.8% i ddynion).
Ledled Cymru a Lloegr, pobl a nododd y categori grŵp ethnig "Gwyn: Gwyddelig" oedd â'r cyfrannau mwyaf o'r radd gymdeithasol uchaf, "AB", (36.9%) a'r gyfran leiaf o'r radd gymdeithasol isaf, "DE", (13.7%) o blith yr holl grwpiau ethnig.
2. Gradd Gymdeithasol Fras yng Nghymru a Lloegr
Dosbarthiad economaidd-gymdeithasol yw Gradd Gymdeithasol. Ffordd o grwpio pobl yn ôl math yw hyn, sy'n seiliedig yn bennaf ar eu sefyllfa gymdeithasol ac ariannol. Model yw Gradd Gymdeithasol Fras a grëwyd gan y Gymdeithas Ymchwil i'r Farchnad ar gyfer data'r cyfrifiad er mwyn amcangyfrif Gradd Gymdeithasol. Mae'r model Gradd Gymdeithasol Fras ar gyfer Cyfrifiad 2021 yn seiliedig ar nodweddion Person Cyswllt y Cartref, gan gynnwys:
galwedigaeth bresennol neu fwyaf diweddar gan ddefnyddio Cod Galwedigaethol Safonol 2020
rhyw
statws gweithgarwch economaidd
statws cyflogaeth ac a yw'n goruchwylio neu'n cyflogi pobl eraill
lefel uchaf o gymhwyster
deiliadaeth y cartref
nifer y bobl a nifer y bobl 16 oed a throsodd yn ei gartref
nifer y ceir neu'r faniau yn ei gartref
Mae'r newidynnau cyfunol hyn yn rhoi mesur da o Radd Gymdeithasol gan ddefnyddio Cyfrifiad 2021. Mae Gradd Gymdeithasol yn ddefnyddiol i sefydliadau sy'n casglu gwybodaeth am ymddygiadau pleidleisio, agweddau defnyddwyr ac ymchwil i'r farchnad.
Dyrannodd data Cyfrifiad 2021 ar gyfer Gradd Gymdeithasol Fras radd Person Cyswllt y Cartref i bob preswylydd arferol mewn cartref os oedd Person Cyswllt y Cartref rhwng 16 a 64 oed. Person Cyswllt y Cartref yw'r person mewn cartref a gaiff ei ddefnyddio fel pwynt cyfeirio i nodweddu cartref cyfan, yn seiliedig ar weithgarwch economaidd yn bennaf. Rhoddodd data'r cyfrifiad amcangyfrif mwy dibynadwy o radd gymdeithasol ar gyfer Personau Cyswllt y Cartref o oedran gweithio, sy'n golygu na chafodd 28.9% o Bersonau Cyswllt y Cartref (7.2 miliwn) ac 20.2% o breswylwyr arferol mewn cartrefi (11.8 miliwn) Radd Gymdeithasol Fras. Roedd amcangyfrifon yn seiliedig ar alwedigaeth bresennol neu fwyaf diweddar Person Cyswllt y Cartref. Ar gyfer Personau Cyswllt y Cartref a oedd wedi ymddeol ac yn 65 oed a throsodd, mae'n bosibl na fyddai hyn yn adlewyrchu eu gyrfa neu eu swydd statws uchaf yn y ffordd orau; felly, ni chawsant eu cynnwys. I gael rhagor o wybodaeth, gweler Adran 7: Cryfderau a chyfyngiadau.
Mae chwe dosbarth posibl o Radd Gymdeithasol: A, B, C1, C2, D ac E. Gradd A (rolau rheoli uwch, galwedigaethau gweinyddol neu broffesiynol) a Gradd E (ddim yn gweithio) sydd leiaf cyffredin. Mae hyn yn golygu ei bod yn anodd bod mor sicr wrth eu dyrannu gan ddefnyddio model y cyfrifiad, felly mae data'r cyfrifiad yn defnyddio system gyfunol â phedwar dosbarth (AB, C1, C2, DE). Mae hyn yn cynhyrchu amcangyfrif da ar gyfer y 46.7 miliwn o breswylwyr arferol mewn cartrefi â Phersonau Cyswllt y Cartref rhwng 16 a 64 oed. Caiff ffigurau yn y bwletin hwn eu mynegi fel cyfrannau o'r boblogaeth hon. Mae'r diffiniadau a'r niferoedd llawn ar gyfer y graddau hyn yn cynnwys:
AB: galwedigaethau rheoli, gweinyddol a phroffesiynol uwch a chanolradd (23.3%, 10.9 miliwn o bobl)
C1: galwedigaethau rheoli, gweinyddol a phroffesiynol ar lefel goruchwylio, clercol ac iau a (32.8%, 15.3 miliwn o bobl)
C2: galwedigaethau llaw medrus (21.3%, 10.0 miliwn o bobl)
DE: galwedigaethau llaw rhannol fedrus a heb sgiliau, di-waith a galwedigaethau ar y radd isaf (22.6%, 10.6 miliwn o bobl)
Mae'r Radd Gymdeithasol Fras yn 2011 a 2021 yn gymaradwy yn fras. Fodd bynnag, defnyddiwyd dulliau gwahanol i bennu'r Radd Gymdeithasol Fras yn 2021 o gymharu â 2011, felly ni fyddwn yn eu cymharu yn y bwletin hwn. Mae'n bosibl y bydd gradd wahanol yn cael ei neilltuo i rai ymatebwyr oherwydd y dull methodolegol gwell yn 2021. Bydd unrhyw newid o ran dosbarthiad y Radd Gymdeithasol Fras ers 2011 o ganlyniad yn rhannol i welliannau i'r fethodoleg ac yn rhannol o ganlyniad i newid gwirioneddol. Dylid cymryd gofal wrth ddefnyddio'r data hyn i asesu tueddiadau dros y degawd diwethaf at ddibenion polisi neu gynllunio. I gael rhagor o wybodaeth, gweler Adran 7: Cryfderau a chyfyngiadau.
Ffigur 1: Roedd pobl yn Lloegr yn fwy tebygol o gael eu dosbarthu'n ddosbarth AB nag yng Nghymru
Gradd Gymdeithasol Fras, preswylwyr arferol mewn cartrefi â Phersonau Cyswllt y Cartref rhwng 16 a 64 oed, 2021, Cymru, Lloegr
Embed code
Download the data
Yn Lloegr, yn y categori AB, mewn “galwedigaethau uwch a chanolradd”, y gwelwyd y gwahaniaethau rhanbarthol mwyaf. Roedd hyn yn amrywio o 18.3% yng Ngogledd-ddwyrain Lloegr i 28.4% yn Llundain. Categori galwedigaeth C1 oedd fwyaf cyffredin ac oedd yn amrywio leiaf ledled rhanbarthau Lloegr. Roedd cyfrannau gradd C1 yn amrywio o 30.9% yn Llundain i 34.1% yn Ne-ddwyrain Lloegr. Roedd cyfran y bobl a ddosbarthwyd yn C2, mewn “galwedigaethau llaw medrus”, yn amrywio o 17.5% yn Llundain i 23.6% yn Ne-orllewin Lloegr. Roedd cyfran uchaf y bobl a ddosbarthwyd yn DE, mewn “galwedigaethau gradd is” neu yn ddi-waith am gyfnod hir, yn amrywio o 17.4% yn Ne-ddwyrain Lloegr i 27.3% yng Ngogledd-ddwyrain Lloegr.
Yng Nghymru, roedd pobl fwyaf tebygol o gael eu rhoi yng nghategori C1 (32.9%), ac yna DE (24.6%). Cafodd cyfran uwch o bobl eu dosbarthu'n radd C2 yng Nghymru (23.0%) nag yn Lloegr (21.3%). Fodd bynnag, roedd gan Gymru gyfrannau is o radd AB (19.6%) na Lloegr (23.5%).
Ffigur 2: Roedd Gradd Gymdeithasol Fras yn amrywio ar draws awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr
Gradd Gymdeithasol Fras, preswylwyr arferol mewn cartrefi â Phersonau Cyswllt y Cartref rhwng 16 a 64 oed, 2021, awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr
Embed code
Download the data
Notes:
- Roedd AB yn grwpio pobl a oedd â galwedigaethau rheoli, gweinyddol a phroffesiynol uwch a chanolradd. Roedd C1 yn grwpio pobl a oedd â galwedigaethau goruchwylio, clerigol, a swyddi rheoli iau, gweinyddol a phroffesiynol neu a oedd yn fyfyrwyr amser llawn. Roedd C2 yn grwpio pobl a oedd â galwedigaethau llaw grefftus. Roedd DE yn grwpio pobl a oedd â galwedigaethau llaw lled-grefftus a di-grefft; di-waith a galwedigaethau gradd isaf.
Roedd yr awdurdodau lleol yn Lloegr â'r ganran uchaf o bobl â gradd AB yn Llundain a'r cyffiniau:
Dinas Llundain (52.9%)
Richmond-upon-Thames (49.1%)
St Albans (48.5%)
Yr awdurdodau lleol â'r ganran uchaf o bobl â gradd DE oedd:
Caerlŷr (38.2%)
Sandwell (35.8%)
Middlesbrough (35.6%)
Yr awdurdodau lleol yng Nghymru â'r ganran uchaf o bobl a ddosbarthwyd yn AB oedd:
Sir Fynwy (30.1%)
Bro Morgannwg (27.7%)
Caerdydd (26.3%)
Y lleoedd yng Nghymru â'r ganran uchaf o bobl â gradd DE oedd:
Blaenau Gwent (33.5%)
Merthyr Tudful (30.7%)
Castell-nedd Port Talbot (28.7%)
Rhyw ac oedran yn ôl Gradd Gymdeithasol Fras
Roedd y gyfran fwyaf o oedolion yng Nghymru a Lloegr â gradd AB hanner ffordd drwy eu bywyd gwaith, 35 i 44 oed (27.5% i fenywod, 28.2% i ddynion) a 45 i 55 oed (24.4% i fenywod, 25.8% i ddynion). I'r gwrthwyneb, dynion a menywod ar ddechrau eu bywyd gwaith, 16 i 24 oed, oedd â'r canrannau isaf o radd AB (16.9% i fenywod, 17.4% i ddynion).
C1 oedd y radd fwyaf cyffredin ym mhob grŵp oedran i ddynion a menywod. Y rheini rhwng 16 a 24 oed (37.7%) oedd y gyfran uchaf i fenywod. Ond yr ystod oedran hon oedd yr ail uchaf i ddynion (36.8%). Mae'r canfyddiad hwn yn adlewyrchu'r nifer uchel o fyfyrwyr amser llawn yn y grŵp oedran hwn. Gwelwyd y gyfran uchaf o radd C1 i ddynion (42.0%) ymhlith y rhai sy'n 65 oed a throsodd, â Pherson Cyswllt y Cartref rhwng 16 a 64 oed.
Menywod 65 oed a throsodd (â Pherson Cyswllt y Cartref rhwng 16 a 64 oed), oedd â'r gyfran uchaf o radd C2, sef 26.2%. Fel cymhariaeth, dynion yn yr un grŵp oedran oedd â'r gyfran isaf, sef 16.6%. Dynion 55 i 64 oed oedd â'r gyfran uchaf o radd C2, sef 26.3%, o gymharu â menywod yn yr un grŵp oedran, sef 18.7%.
Ymhlith y rhai rhwng 55 a 64 oed, menywod oedd â'r gyfran uchaf o radd DE, sef 26.7%, o gymharu â 23.5% o ddynion yn yr un grŵp oedran. Rhai rhwng 16 a 24 oed oedd y grŵp oedran â'r cyfrannau uchaf o radd DE ymhlith dynion (24.5%). Ar draws y ddau ryw, ymhlith y rhai rhwng 35 a 44 oed y gwelwyd y gyfran isaf a ddosbarthwyd yn DE (20.2% i fenywod, 17.6% i ddynion). Y grŵp oedran hwn oedd â'r cyfrannau uchaf o radd AB.
Ffigur 3: Dynion a menywod 35 i 44 oed oedd â'r gyfran uchaf o radd AB a'r gyfran isaf o radd DE
Rhyw yn ôl grŵp oedran yn ôl Gradd Gymdeithasol Fras, preswylwyr arferol mewn cartrefi â Phersonau Cyswllt y Cartref rhwng 16 a 64 oed, 2021, Cymru a Lloegr
Embed code
Download the data
Notes:
- Roedd AB yn grwpio pobl a oedd â galwedigaethau rheoli, gweinyddol a phroffesiynol uwch a chanolradd. Roedd C1 yn grwpio pobl a oedd â galwedigaethau goruchwylio, clerigol, a swyddi rheoli iau, gweinyddol a phroffesiynol neu a oedd yn fyfyrwyr amser llawn. Roedd C2 yn grwpio pobl a oedd â galwedigaethau llaw grefftus. Roedd DE yn grwpio pobl a oedd â galwedigaethau llaw lled-grefftus a di-grefft; di-waith a galwedigaethau gradd isaf.
Grŵp ethnig yn ôl Gradd Gymdeithasol Fras
Ar y lefel genedlaethol, mae data Cyfrifiad 2021 yn dangos bod Gradd Gymdeithasol Fras yn amrywio yn ôl pa grwpiau ethnig a nodwyd gan bobl. Yn 2021, roedd dau gam i'r cwestiwn grŵp ethnig. Yn gyntaf, roedd person yn dewis un o blith y pum grŵp ethnig lefel uchel. Yn ail, roedd person yn dewis un o'r 19 o opsiynau ymateb a oedd ar gael, a oedd yn cynnwys categorïau ag opsiynau i ysgrifennu ymateb.
Yng Nghymru a Lloegr, cafodd dros un rhan o dair o'r bobl a nododd y categori "Gwyn: Gwyddelig" eu dosbarthu'n radd AB (36.9%). Y rhain oedd â'r gyfran isaf o radd DE (13.7%) o blith yr holl grwpiau ethnig hefyd. Roedd y canrannau uchaf nesaf o radd AB ar gyfer pobl a nododd y categori "Grwpiau Cymysg neu Amlethnig: Gwyn ac Asiaidd" (35.7%), ac yna'r rhai a nododd y categori "Asiaidd, Asiaidd Cymreig neu Asiaidd Prydeinig: Indiaidd" (33.6%).
Y rhai a nododd y categori "Asiaidd, Asiaidd Cymreig neu Asiaidd Prydeinig: Tsieineaidd" oedd â'r cyfrannau uchaf o radd C1 (36.6%) ac roedd ganddynt gyfrannau cymharol uchel o radd AB hefyd (30.5%). Yn debyg, roedd cyfran uchel o radd C1 ymhlith y rhai a nododd y categori "Asiaidd, Asiaidd Cymreig neu Asiaidd Prydeinig: Indiaidd" (34.7%), ac yna'r rhai a nododd y categori "Du, Du Cymreig, Du Prydeinig, Caribïaidd neu Affricanaidd: Caribïaidd" (35.6%).
O blith yr holl gategorïau grŵp ethnig, ymhlith pobl a nododd y categori "Gwyn: Roma" y gwelwyd y gyfran uchaf o radd C2, sef 27.7%. Roedd gan y grŵp hwn ganrannau uchel o radd DE hefyd (38.0%). Roedd grwpiau ethnig eraill â chyfrannau uchel o radd C2 yn cynnwys y rheini a nododd y categorïau "Gwyn: Gwyn arall" (24.8%) a "Gwyn: Cymreig, Seisnig, Albanaidd, Gwyddelig Gogledd Iwerddon neu Brydeinig" (22.3%).
Pobl a nododd y categori "Gwyn: Sipsi neu Deithiwr Gwyddelig" oedd â'r gyfran uchaf o radd DE (61.3%) a'r gyfran isaf o radd AB (3.5%). Nododd y grwpiau â'r cyfrannau uchaf nesaf o radd DE y categorïau "Asiaidd, Asiaidd Cymreig neu Asiaidd Prydeinig: Bangladeshaidd" (43.9%) ac "Asiaidd, Asiaidd Cymreig neu Asiaidd Prydeinig: Pacistanaidd" (41.5%).
Ffigur 4: Pobl a nododd y categori grŵp ethnig “Gwyn: Gwyddelig” oedd fwyaf tebygol o gael eu dosbarthu'n radd AB
Grŵp ethnig yn ôl Gradd Gymdeithasol Fras, preswylwyr arferol mewn cartrefi â Phersonau Cyswllt y Cartref rhwng 16 a 64 oed, 2021, Cymru a Lloegr
Embed code
Download the data
Notes:
- Roedd AB yn grwpio pobl a oedd â galwedigaethau rheoli, gweinyddol a phroffesiynol uwch a chanolradd. Roedd C1 yn grwpio pobl a oedd â galwedigaethau goruchwylio, clerigol, a swyddi rheoli iau, gweinyddol a phroffesiynol neu a oedd yn fyfyrwyr amser llawn. Roedd C2 yn grwpio pobl a oedd â galwedigaethau llaw grefftus. Roedd DE yn grwpio pobl a oedd â galwedigaethau llaw lled-grefftus a di-grefft; di-waith a galwedigaethau gradd isaf.
3. Cymharu Gradd Gymdeithasol Fras â Dosbarthiad Economaidd-gymdeithasol Ystadegau Gwladol (NS-SEC)
Caiff Gradd Gymdeithasol ac NS-SEC eu defnyddio i ddosbarthu sefyllfaoedd cymdeithasol ac ariannol cartrefi yn seiliedig ar nodweddion Person Cyswllt y Cartref. Fodd bynnag, mae ganddynt ddibenion gwahanol, ac felly mae angen dulliau dosbarthu gwahanol. Ar gyfer data Cyfrifiad 2021, mae Gradd Gymdeithasol Fras yn dosbarthu preswylwyr arferol mewn cartrefi lle mae Person Cyswllt y Cartref rhwng 16 a 64 oed (71.1% o holl Bersonau Cyswllt y Cartref), ond caiff NS-SEC ei ddefnyddio ar gyfer preswylwyr arferol mewn cartrefi lle mae Person Cyswllt y Cartref yn 16 oed a throsodd (99.9% o holl Bersonau Cyswllt y Cartref). Yn ogystal, mae NS-SEC yn seiliedig ar alwedigaeth Person Cyswllt y Cartref yn unig, ond mae Gradd Gymdeithasol Fras yn defnyddio dangosyddion cyfoeth ychwanegol fel lefel uchaf o gymhwyster Person Cyswllt y Cartref, perchnogaeth ceir a deiliadaeth. Fel y cyfryw, gall gwahaniaethau rhwng y ddau newidyn fod oherwydd y gwahaniaethau yn y boblogaeth neu wahaniaeth yn y fethodoleg. I gael rhagor o wybodaeth am y gwahaniaethau rhwng Gradd Gymdeithasol Fras ac NS-SEC, gweler Adran 6: Mesur y data.
Serch hynny, mae'n ddefnyddiol cymharu Gradd Gymdeithasol Fras ac NS-SEC yn fras oherwydd bod y ddau yn grwpio Personau Cyswllt y Cartref yn seiliedig ar eu galwedigaeth a dylent ddosbarthu Personau Cyswllt y Cartref o raddau "dosbarth gweithiol" a "dosbarth canol ac uwch" ar gyfrannau tebyg. Yn yr achos hwn, mae "dosbarth gweithiol" yn ymwneud â galwedigaethau gwaith ailadroddus a galwedigaethau llaw a phobl sy'n ddi-waith am gyfnod hir. O ran Gradd Gymdeithasol Fras, gellid ystyried bod 44.1% o Bersonau Cyswllt y Cartref yn y "dosbarth gweithiol" gan berthyn i gategorïau C2 neu DE. O ran NS-SEC, roedd y ffigur hwn yn is, gan y gellid ystyried bod 38.0% o Bersonau Cyswllt y Cartref yn y "dosbarth gweithiol" drwy gyfuno'r holl gategorïau o "L10: Galwedigaethau goruchwylio is" i "L14: Erioed wedi gweithio ac yn ddi-waith am gyfnod hir".
Mae'r grŵp cymdeithasol "dosbarth canol ac uwch" yn cynnwys galwedigaethau gweinyddol, rheoli a phroffesiynol a myfyrwyr amser llawn. Drwy gyfuno categorïau AB ac C1, gellid ystyried bod 55.9% o Bersonau Cyswllt y Cartref yn y "dosbarth canol neu uwch" gan ddefnyddio Gradd Gymdeithasol Fras. Fodd bynnag, wrth ddefnyddio NS-SEC, gellid ystyried bod 62.0% o Bersonau Cyswllt y Cartref yn y "dosbarth canol neu uwch" pan gaiff categorïau o "L1: Galwedigaethau rheoli, gweinyddol a phroffesiynol uwch" i "L9: Gweithwyr ar eu liwt eu hunain" ac "L15: Myfyrwyr amser llawn" eu cyfuno.
Nôl i'r tabl cynnwys4. Data Gradd Gymdeithasol Fras
Gradd Gymdeithasol Fras
Setiau data | Rhyddhawyd ar 17 Awst 2023
yn ôl Gradd Gymdeithasol Fras person cyswllt y cartref rhwng 16 a 64 oed. Amcangyfrifon ar Ddiwrnod y Cyfrifiad yw'r rhain, sef 21 Mawrth 2021.
Manylebau'r setiau data Gradd Gymdeithasol Fras
Gwybodaeth ategol | Rhyddhawyd ar 17 Awst 2023
Newidynnau, dosbarthiadau ac ardaloedd daearyddol Cyfrifiad 2021 sydd wedi'u cynnwys yn y data am Radd Gymdeithasol Fras.
Dosbarthiad Economaidd-gymdeithasol Ystadegau Gwladol (NS-SEC)
Set ddata | Rhyddhawyd ar 8 Rhagfyr 2022
Amcangyfrifon Cyfrifiad 2021 sy'n dosbarthu preswylwyr arferol 16 oed a throsodd yng Nghymru a Lloegr yn ôl Dosbarthiad Economaidd-gymdeithasol Ystadegau Gwladol (NS-SEC). Amcangyfrifon ar Ddiwrnod y Cyfrifiad yw'r rhain, sef 21 Mawrth 2021.
5. Geirfa
Oedran
Oedran person ar Ddiwrnod y Cyfrifiad, 21 Mawrth 2021, yng Nghymru a Lloegr. Caiff babanod o dan flwydd oed eu dosbarthu'n 0 oed.
Gradd Gymdeithasol Fras
Dosbarthiad economaidd-gymdeithasol yw hwn a gaiff ei ddefnyddio gan ddiwydiannau ymchwil i'r farchnad a marchnata i ddadansoddi arferion gwario ac agweddau defnyddwyr. Nid oes modd neilltuo gradd gymdeithasol yn fanwl gywir o Gyfrifiad 2021, er bod dull y Gymdeithas Ymchwil i'r Farchnad yn rhoi bras amcan da.
Grŵp ethnig
Y grŵp ethnig y mae'r person sy'n cwblhau'r cyfrifiad yn teimlo y mae'n perthyn iddo. Gallai hyn fod yn seiliedig ar ddiwylliant, cefndir teuluol, hunaniaeth neu ymddangosiad corfforol.
Gallai ymatebwyr ddewis un o 19 o gategorïau ymateb ar ffurf blwch ticio, gan gynnwys opsiynau i ysgrifennu ymateb.
Gweithgarwch economaidd
Mae pobl 16 oed a throsodd yn weithgar yn economaidd os, rhwng 15 Mawrth a 21 Mawrth 2021, roeddent:
mewn gwaith (gweithiwr cyflogedig neu'n hunangyflogedig)
yn ddi-waith, ond yn chwilio am waith ac yn gallu dechrau o fewn pythefnos
yn ddi-waith, ond yn aros i ddechrau swydd a oedd wedi'i chynnig a'i derbyn
Mae'n mesur a oedd unigolyn yn rhan weithredol o'r farchnad lafur yn ystod y cyfnod hwn. Pobl anweithgar yn economaidd yw'r bobl 16 oed a throsodd nad oedd ganddynt swydd rhwng 15 Mawrth a 21 Mawrth 2021 ac nad oeddent wedi chwilio am waith rhwng 22 Chwefror a 21 Mawrth 2021 neu na allent ddechrau gweithio o fewn pythefnos.
Mae diffiniad y cyfrifiad yn wahanol i ddiffiniad y Sefydliad Llafur Rhyngwladol a ddefnyddir yn yr Arolwg o'r Llafurlu, felly nid oes modd cymharu'r amcangyfrifon yn uniongyrchol.
Mae'r dosbarthiad hwn yn rhannu myfyrwyr amser llawn a'r rheini nad ydynt yn fyfyrwyr amser llawn pan fyddant mewn gwaith neu'n ddi-waith. Rydym yn argymell eich bod yn adio'r rhain at ei gilydd er mwyn ystyried yr holl bobl a oedd mewn gwaith neu'n ddi-waith, neu'n defnyddio dosbarthiad pedwar categori'r farchnad lafur, os ydych am edrych ar bob un o'r rhai sydd â statws marchnad lafur penodol.
Lefel uchaf o gymhwyster
Daw'r lefel uchaf o gymhwyster o'r cwestiwn sy'n gofyn i bobl nodi pob cymhwyster sydd ganddynt, neu eu cymwysterau mwyaf cyfatebol. Gall hyn gynnwys cymwysterau tramor lle cawsant eu paru â'r cymwysterau cyfatebol agosaf yn y Deyrnas Unedig.
Cartref
Diffinnir cartref fel:
un person sy'n byw ar ei ben ei hun
grŵp o bobl (nad ydynt o reidrwydd yn perthyn i'w gilydd) sy'n byw yn yr un cyfeiriad sy'n rhannu cyfleusterau coginio ac yn rhannu ystafell fyw, lolfa neu le bwyta
Mae hyn yn cynnwys:
unedau llety gwarchod mewn sefydliad (ni waeth p'un a oes cyfleusterau cymunedol eraill ai peidio)
pob person sy'n byw mewn carafán ar unrhyw fath o safle sy'n breswylfa arferol iddo; bydd hyn yn cynnwys unrhyw un nad oes ganddo breswylfa arferol rywle arall yn y Deyrnas Unedig
Rhaid i gartref gynnwys o leiaf un person y mae ei breswylfa arferol yn y cyfeiriad hwnnw. Ni chaiff grŵp o breswylwyr byrdymor sy'n byw gyda'i gilydd eu cyfrif yn gartref, nac ychwaith grŵp o bobl mewn cyfeiriad sy'n cynnwys ymwelwyr yn unig.
Person Cyswllt y Cartref
Person sy'n gweithredu fel pwynt cyfeirio, yn seiliedig yn bennaf ar weithgarwch economaidd, er mwyn nodweddu cartref cyfan.
Dosbarthiad Economaidd-gymdeithasol Ystadegau Gwladol (NS-SEC)
Mae'r NS-SEC yn nodi sefyllfa economaidd-gymdeithasol unigolyn yn seiliedig ar ei alwedigaeth a nodweddion eraill sy'n ymwneud â swydd.
Mae'n ddosbarthiad safonol gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol. Caiff categorïau'r NS-SEC eu neilltuo yn seiliedig ar alwedigaeth unigolyn, p'un a yw'n weithiwr cyflogedig, yn hunangyflogedig, neu'n goruchwylio gweithwyr eraill.
Caiff myfyrwyr amser llawn eu cofnodi yn y categori "myfyrwyr amser llawn" ni waeth p'un a ydynt yn weithgar yn economaidd ai peidio.
Galwedigaeth
Mae'n dosbarthu'r hyn y mae pobl 16 oed a throsodd yn ei wneud fel eu prif swydd. Mae teitl eu swydd neu fanylion gweithgareddau maent yn eu gwneud yn eu swydd ac unrhyw gyfrifoldebau goruchwylio neu reoli yn ffurfio'r dosbarthiad hwn. Caiff y wybodaeth hon ei defnyddio i godio ymatebion i alwedigaeth gan ddefnyddio Dosbarthiad Galwedigaethol Safonol 2020.
Mae'n dosbarthu pobl a oedd mewn gwaith rhwng 15 Mawrth a 21 Mawrth 2021 yn ôl y cod Dosbarthiad Galwedigaethol Safonol sy'n cynrychioli eu galwedigaeth bresennol. Y lefel isaf o fanylder sydd ar gael yw'r cod Dosbarthiad Galwedigaethol Safonol 4 digid sy'n cynnwys pob cod ar ffurf lefelau cod Dosbarthiad Galwedigaethol Safonol 1 digid, 2 ddigid a 3 digid.
Math o ddeiliadaeth
P'un a yw aelodau cartref yn berchen ar y cartref y maent yn byw ynddo neu'n ei rentu.
Gall cartref sy'n eiddo i berchen-feddiannydd gynnwys y canlynol:
yn berchen arno'n gyfan gwbl, lle mae aelodau o'r cartref yn berchen ar y cartref cyfan
yn berchen arno gyda morgais neu fenthyciad
yn berchen arno'n rhannol â chynllun rhanberchnogaeth
Gall cartref sy'n cael ei rentu gynnwys y canlynol:
wedi'i rentu'n breifat, er enghraifft, drwy landlord preifat neu asiant gosod eiddo
wedi'i rentu'n gymdeithasol drwy gyngor lleol neu gymdeithas dai
Nid yw'r wybodaeth hon ar gael ar gyfer lleoedd cartref lle nad oes unrhyw breswylwyr arferol.
Preswylydd arferol
Ystyr preswylydd arferol yw unrhyw un a oedd, ar Ddiwrnod y Cyfrifiad, sef 21 Mawrth 2021, yn y Deyrnas Unedig ac wedi aros neu'n bwriadu aros yn y Deyrnas Unedig am gyfnod o 12 mis neu fwy, neu a oedd â chyfeiriad parhaol yn y Deyrnas Unedig ac a oedd y tu allan i'r Deyrnas Unedig ac yn bwriadu aros y tu allan i'r Deyrnas Unedig am lai na 12 mis.
Nôl i'r tabl cynnwys6. Mesur y data
Dyddiad cyfeirio
Mae'r cyfrifiad yn rhoi amcangyfrifon o nodweddion pob unigolyn a chartref yng Nghymru a Lloegr ar Ddiwrnod y Cyfrifiad, 21 Mawrth 2021. Caiff ei gynnal unwaith bob 10 mlynedd ac mae'n rhoi'r amcangyfrif mwyaf cywir o'r holl bobl a chartrefi yng Nghymru a Lloegr i ni.
Mae data'r farchnad lafur yn cyfeirio'n bennaf at weithgarwch ymatebwyr yn ystod y saith diwrnod diwethaf; mae hyn yn cyfeirio at 15 i 21 Mawrth 2021. Yn y grwpiau di-waith ac anweithgar yn economaidd, mae'r pedair wythnos y mae person wedi bod yn chwilio am waith o 21 Chwefror i 21 Mawrth 2021, ac mae'n rhaid iddynt allu dechrau swydd o fewn y pythefnos nesaf, sef 21 Mawrth i 4 Ebrill 2021.
Rydym yn gyfrifol am gynnal y cyfrifiad yng Nghymru a Lloegr, ond byddwn hefyd yn rhyddhau allbynnau ar gyfer y Deyrnas Unedig mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, Cofnodion Cenedlaethol yr Alban ac Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon. Cafodd y cyfrifiad yng Ngogledd Iwerddon ei gynnal ar 21 Mawrth 2021 hefyd, ond cafodd cyfrifiad yr Alban ei symud i 20 Mawrth 2022. Mae holl swyddfeydd y cyfrifiad yn y Deyrnas Unedig yn gweithio'n agos i ddeall sut y bydd y gwahaniaeth hwn mewn dyddiadau cyfeirio yn effeithio ar ystadegau poblogaeth a thai'r Deyrnas Unedig gyfan, o ran yr amseru a'r cwmpas.
Cyfradd ymateb
Cyfradd ymateb unigolion yw nifer y preswylwyr arferol y cafodd manylion unigol eu darparu ar eu cyfer ar holiadur a ddychwelwyd, wedi'i rannu ag amcangyfrif o'r boblogaeth breswyl arferol.
Y gyfradd ymateb unigolion ar gyfer Cyfrifiad 2021 oedd 97% o boblogaeth breswyl arferol Cymru a Lloegr, a dros 88% ym mhob awdurdod lleol. Cafodd y rhan fwyaf o ffurflenni (89%) eu dychwelyd ar lein. Gwnaeth y gyfradd ymateb ragori ar ein targed, sef 94% yn gyffredinol ac 80% ym mhob awdurdod lleol.
Darllenwch fwy am gyfraddau ymateb unigolion ac ar gyfer cwestiynau penodol ar lefel awdurdod lleol yn ein methodoleg Mesurau sy'n dangos ansawdd amcangyfrifon Cyfrifiad 2021.
Cymharu Gradd Gymdeithasol Fras a Dosbarthiad Economaidd-gymdeithasol Ystadegau Gwladol (NS-SEC)
Caiff rhai gwahaniaethau o ran dosbarthiad statws economaidd-gymdeithasol ar gyfer Gradd Gymdeithasol Fras ac NS-SEC eu priodoli i'r gwahaniaeth yn y boblogaeth, am nad yw'r mesur Gradd Gymdeithasol Fras yn neilltuo gradd gymdeithasol i Bersonau Cyswllt y Cartref sy'n 65 oed a throsodd. Yn ogystal, mae NS-SEC yn seiliedig ar alwedigaeth Person Cyswllt y Cartref yn unig, ond mae Gradd Gymdeithasol Fras yn defnyddio dangosyddion cyfoeth ychwanegol fel lefel uchaf o gymhwyster Person Cyswllt y Cartref, perchnogaeth ceir a deiliadaeth.
Mae gan NS-SEC ddull wedi'i safoni yn seiliedig ar gwestiynau Cyfrifiad 2021 mewn perthynas â galwedigaeth, gweithgarwch economaidd a chysylltiadau gweithwyr cyflogedig (p'un a yw'r ymatebydd wedi'i ddosbarthu'n weithiwr cyflogedig, yn gyflogwr neu'n hunangyflogedig). Mae'r mesur Gradd Gymdeithasol Fras yn defnyddio technegau dadansoddi uwch i nodi pa rai o newidynnau'r cyfrifiad, gan gynnwys rhai NS-SEC, fydd orau am ragfynegi Gradd Gymdeithasol y boblogaeth sy'n gweithio a'r boblogaeth nad yw'n gweithio yn 2021.
I gael rhagor o wybodaeth am y ffordd y caiff NS-SEC ei ddosbarthu, gweler ein methodoleg berthnasol.
Nôl i'r tabl cynnwys7. Cryfderau a chyfyngiadau
Cymharu â model Cyfrifiad 2011
Mae modd cymharu Gradd Gymdeithasol Fras rhwng 2011 a 2021 yn fras. Mae categorïau'r dosbarthiadau yr un peth â'r rhai yn 2011; ond cafodd model 2021 ei greu gan ddefnyddio algorithmau a newidynnau gwahanol. Yn 2011, adeiladwyd model y cyfrifiad gan ddefnyddio dull dadansoddi coeden benderfynu Canfod Rhyngweithio Awtomatig Chi-sgwâr (CHAID). Cafodd dull methodolegol gwell ei fabwysiadu yn 2021 gan ddefnyddio algorithm perfformiad uchel mwy newydd, Hybu Graddiant Eithafol (XGBoost). Mae XGBoost hefyd yn seiliedig ar goeden benderfynu, ond gall ymdopi yn well â phenderfyniadau mwy cymhleth ar gyfer is-grwpiau llai o ymatebwyr y cyfrifiad.
Cafodd technegau dadansoddi uwch eraill eu defnyddio gyntaf i ddewis y rhagfynegyddion Gradd Gymdeithasol gorau ac yna cafodd y newidynnau pwysicaf eu cynnwys yn y model XGBoost. Gellir cael rhagor o wybodaeth am fodelau 2011 a 2021 ar dudalen we MRS am radd gymdeithasol.
Cyfyngiadau ar ddefnyddio data'r cyfrifiad i amcangyfrif Gradd Gymdeithasol
Ni chafodd Cyfrifiad 2021 ei gynllunio i fesur gradd gymdeithasol yn uniongyrchol, gan fod angen cwestiynau arolwg mwy cynhwysfawr i wneud hyn, a gaiff eu holi fel arfer gan gyfwelydd ymchwil i'r farchnad. Ni all data'r cyfrifiad ddefnyddio'r dull manylach chwe ffordd o ddosbarthu gradd gymdeithasol (A, B, C1, D, E), am nad yw'n gallu gwahaniaethu rhwng dosbarthiadau cymdeithasol A a B, neu D ac E yn ddigon sicr. Felly, mae'r data hyn yn fwy defnyddiol i wahaniaethu rhwng unigolion dosbarth canol a dosbarth gweithiol ledled Cymru a Lloegr, yn hytrach na nodi is-grwpiau, er enghraifft, y rheini sydd neu a oedd mewn galwedigaethau proffesiynol (sy'n perthyn i gategori A) neu'n ddi-waith (sy'n perthyn i gategori E).
Ni ellir dosbarthu pobl sydd wedi ymddeol â chymaint o sicrwydd gan ddefnyddio data Cyfrifiad 2021 o gymharu â dulliau graddio cymdeithasol ffynonellau data eraill. Gall y dull Gradd Gymdeithasol Fras danamcangyfrif gradd pobl sydd wedi'i ymddeol, am ei fod yn seiliedig ar eu galwedigaeth ddiweddaraf y maent yn cael pensiwn ohoni, yn hytrach na'u galwedigaeth flaenorol â'r radd uchaf. Mae Gradd Gymdeithasol Fras yn defnyddio model gwahanol ar gyfer pobl sydd wedi ymddeol er mwyn goresgyn hyn, ond nid oedd hwn yn ddigon cywir ar gyfer Personau Cyswllt y Cartref 65 oed a throsodd. Felly, ni ddyrannwyd gradd gymdeithasol i Bersonau Cyswllt y Cartref o oedran ymddeol (65 oed a throsodd) a bydd preswylwyr arferol mewn cartrefi ond yn cael gradd gymdeithasol os yw Personau Cyswllt y Cartref rhwng 16 a 64 oed.
Mae cyfyngiadau yn gysylltiedig â neilltuo gradd gymdeithasol Person Cyswllt y Cartref i bob aelod o'r cartref. Mae'n annhebygol y bydd gan bob preswylydd arferol mewn cartrefi â sawl teulu neu sawl cenhedlaeth union yr un radd gymdeithasol. Er enghraifft, myfyrwyr sy'n byw gyda gweithwyr proffesiynol ifanc neu oedolion sy'n gweithio sy'n byw gyda phobl sydd wedi ymddeol. Felly, amcangyfrif i gartref yw Gradd Gymdeithasol Fras nad yw'n rhagfynegi amgylchiadau cymdeithasol neu ariannol unigolyn.
Gwybodaeth am ansawdd y data am y farchnad lafur
Cafodd Cyfrifiad 2021 ei gynnal yn ystod cyfnod o newid cyflym. Gwnaethom roi canllawiau ychwanegol i helpu pobl a oedd ar ffyrlo i ateb cwestiynau'r cyfrifiad am waith. Fodd bynnag, ni allwn gadarnhau sut y dilynodd pobl a oedd ar ffyrlo y canllawiau. Cymerwch ofal wrth ddefnyddio'r data hyn at ddibenion cynllunio. Darllenwch fwy am ein hystyriaethau ansawdd penodol yn ein methodoleg Gwybodaeth am ansawdd y farchnad lafur ar gyfer Cyfrifiad 2021.
Dosbarthiad Galwedigaethol Safonol
Cafodd data Cyfrifiad 2021 eu dosbarthu gan ddefnyddio diweddariad 2020 o'r Dosbarthiad Galwedigaethol Safonol, ond fersiwn 2010 a ddefnyddiwyd yng Nghyfrifiad 2011. Nid oes modd cymharu'r ddau ddosbarthiad hyn yn uniongyrchol oherwydd newidiadau i'r ffordd y dosbarthwyd llawer o alwedigaethau. Ceir rhagor y wybodaeth yn ein canllaw i ddefnyddwyr ar Ddosbarthiad Galwedigaethol Safonol 2020.
Cyffredinol
Ceir ystyriaethau o ansawdd ynghyd â chryfderau a chyfyngiadau Cyfrifiad 2021 yn fwy cyffredinol yn ein hadroddiad Gwybodaeth am Ansawdd a Methodoleg ar gyfer Cyfrifiad 2021.
Ceir rhagor o wybodaeth am ein prosesau sicrhau ansawdd eraill yn ein methodoleg Gwneud y gorau o ansawdd amcangyfrifon poblogaeth Cyfrifiad 2021.
Nôl i'r tabl cynnwys8. Datblygiadau yn y dyfodol
Rydym wrthi'n trawsnewid ystadegau poblogaeth ar hyn o bryd. Fel rhan o'r gwaith hwn, rydym yn ystyried sut y gallem ddefnyddio data gweinyddol a ffynonellau data eraill i amcangyfrif nodweddion y boblogaeth yn y dyfodol, fel gradd gymdeithasol. Dysgwch fwy am ein cynnig i drawsnewid ystadegau am y boblogaeth a mudo a sut y gallwch gymryd rhan yn yr ymgynghoriad ar ein cynnig ar ein tudalen we Cymryd rhan tudalen.
Un o brif amcanion yr ymgynghoriad hwn yw deall anghenion defnyddwyr a'u pwysigrwydd fel y gallwn flaenoriaethu ein cynlluniau ymchwil yn y dyfodol. Rydym yn awyddus i glywed barn pobl am ein cynigion uchelgeisiol ar gyfer trawsnewid ein hystadegau poblogaeth a mudo. Mae'r ymgynghoriad ar agor i unrhyw un sy'n defnyddio data'r Swyddfa Ystadegau Gwladol (y SYG). Gallai hyn gynnwys defnyddwyr profiadol neu'r rhai sydd am ddefnyddio ein data am y tro cyntaf.
Nôl i'r tabl cynnwys9. Dolenni cysylltiedig
Gwybodaeth am ansawdd y farchnad lafur ar gyfer Cyfrifiad 2021
Methodoleg | Diwygiwyd ar 27 Gorffennaf 2023
Gwybodaeth hysbys am ansawdd sy'n effeithio ar ddata am y farchnad lafur o Gyfrifiad 2021 yng Nghymru a Lloegr.
Gwybodaeth am ansawdd addysg ar gyfer Cyfrifiad 2021
Methodoleg | Diwygiwyd ar 10 Ionawr 2023
Gwybodaeth hysbys am ansawdd sy'n effeithio ar ddata am addysg o Gyfrifiad 2021 yng Nghymru a Lloegr
Diwydiant a galwedigaeth, Cymru a Lloegr: Cyfrifiad 2021
Bwletin | Rhyddhawyd ar 8 Rhagfyr 2022
Crynodeb o ddata Cyfrifiad 2021 am ddiwydiannau y mae pobl wedi'u cyflogi ynddynt, y mathau o waith y mae pobl yn ei wneud fel eu prif swydd a graddau cymdeithasol yng Nghymru a Lloegr.
Gradd Gymdeithasol Fras ar Gyfrifiad 2021, y Gymdeithas Ymchwil i'r Farchnad
Tudalen we | Diweddarwyd ddiwethaf 31 Gorffennaf 2023
I gael gwybodaeth y Gymdeithas Ymchwil i'r Farchnad am Radd Gymdeithasol a datblygiad y model ar gyfer Cyfrifiad 2021, pan fydd y wybodaeth hon ar gael.
10. Cyfeirio at y bwletin ystadegol hwn
Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (y SYG), rhyddhawyd ar 17 Awst 2023, gwefan y SYG, bwletin ystadegol, Gradd Gymdeithasol Fras, Cymru a Lloegr: Cyfrifiad 2021