Yr ymgynghoriad a'r argymhelliad
Ar 17 Mehefin 2025, gwnaeth Awdurdod Ystadegau'r DU (y cyfeirir ato fel “yr Awdurdod” ar ôl hyn), ar gyngor yr Ystadegydd Gwladol, argymhelliad i lywodraeth y DU ar ddyfodol ystadegau am y boblogaeth a mudo yng Nghymru a Lloegr. Gallwch ddarllen yr argymhelliad, ynghyd â llythyrau am yr argymhelliad gan Gadeirydd yr Awdurdod, Syr Robert Chote, i Weinidog Swyddfa'r Cabinet a gweinidogion Llywodraeth Cymru, ar wefan yr Awdurdod.
I gyd-fynd â'r argymhelliad, rydym wedi cyhoeddi Adroddiad ar ganlyniadau'r ymgynghoriad sy'n nodi'r dadansoddiad thematig o'r ymgynghoriad a'r dystiolaeth sy'n cefnogi'r argymhelliad. Mae'r adroddiad yn cynnwys dadansoddiad a chanfyddiadau o'r ymatebion a'r adborth a gafwyd yn ystod yr ymgynghoriad.
Cyhoeddwyd Y wybodaeth ddiweddaraf am yr ymgynghoriad (PDF, 150.6KB) ym mis Rhagfyr 2023 ac mae'n nodi:
- nifer yr ymatebion i'r ymgynghoriad yn ôl sector
- sut y gwnaethom ymgysylltu â defnyddwyr ystadegau am y boblogaeth a mudo cyn ac yn ystod yr ymgynghoriad
- sut y gwnaethom ddadansoddi'r ymatebion
Adroddiad ar yr Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb
Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol (y SYG) yn ymrwymedig i sicrhau bod egwyddorion cydraddoldeb ac amrywiaeth wrth wraidd yr holl benderfyniadau a wneir ganddi. Er mwyn helpu i gyflawni'r nod hwn, mae'r SYG wedi comisiynu asesiad o'r effaith ar gydraddoldeb dros dro Dyfodol ystadegau am y boblogaeth a mudo yng Nghymru a Lloegr: asesiad o'r effaith ar gydraddoldeb (yn Saesneg) mewn perthynas â'i chynigion ar gyfer dyfodol ystadegau am y boblogaeth a mudo yng Nghymru a Lloegr.
Rydym bellach wedi cyhoeddi adroddiad diwygiedig i gyd-fynd ag argymhelliad yr Awdurdod ar ddyfodol ystadegau am y boblogaeth a mudo Argymhelliad ar ddyfodol ystadegau am y boblogaeth a mudo: asesiad o'r effaith ar gydraddoldeb.
Os hoffech gysylltu am ein cynllun ymchwil ar gyfer y dyfodol, e-bostiwch fpmsenquiries@ons.gov.uk.