Cofair: hh_veterans
Cymhwysedd: Cartref
Math: Deillio newidyn

Diffiniad

Nifer y bobl yn y cartref sydd wedi gwasanaethu yn lluoedd arfog y Deyrnas Unedig yn y gorffennol. Mae hyn yn cynnwys y rhai sydd wedi gwasanaethu am o leiaf ddiwrnod yn lluoedd arfog, naill ai'r lluoedd arfog rheolaidd, wrth gefn neu Fasnachlongwyr, sydd wedi bod ar ddyletswydd ar ymgyrchoedd milwrol a ddiffiniwyd yn gyfreithiol.

Dosbarthiad

Cyfanswm nifer y categorïau: 5

Cod Enw
0 Neb yn y cartref wedi gwasanaethu yn lluoedd arfog y Deyrnas Unedig yn y gorffennol
1 1 person yn y cartref wedi gwasanaethu yn lluoedd arfog y Deyrnas Unedig yn y gorffennol
2 2 berson yn y cartref wedi gwasanaethu yn lluoedd arfog y Deyrnas Unedig yn y gorffennol
3 3 neu fwy o bobl yn y cartref wedi gwasanaethu yn lluoedd arfog y Deyrnas Unedig yn y gorffennol
-8 Ddim yn gymwys

Gweld pob dosbarthiad nifer y bobl yn y cartref sydd wedi gwasanaethu yn lluoedd arfog y Deyrnas Unedig yn y gorffennol.

Ansawdd gwybodaeth

Cymerwch ofal wrth gymharu nodweddion cyn-filwyr lluoedd arfog y Deyrnas Unedig a’r rhai nad ydynt yn gyn-filwyr, gan fod cyn-filwyr yn ddynion ac yn hŷn yn bennaf. Gall peidio ag addasu ar gyfer y ffaith hon arwain at gamddehongli, gan fod newidynnau fel iechyd yn ymwneud yn gryf ag oedran a rhyw.

Darllenwch fwy yn ein methodoleg ar wybodaeth am ansawdd data am gyn-filwyr lluoedd arfog y Deyrnas Unedig o Gyfrifiad 2021 (yn Saesneg).

Cefndir

Darllenwch am sut y gwnaethom ddatblygu a phrofi'r cwestiynau ar gyfer Cyfrifiad 2021 (yn Saesneg).

Cymharedd â Chyfrifiad 2011

Ddim yn gymaradwy

Mae'r newidyn hwn yn newydd ar gyfer Cyfrifiad 2021 ac felly ni ellir cymharu â Chyfrifiad 2011.

Beth yw ystyr ddim yn gymaradwy?

Mae newidyn sydd ddim yn gymaradwy yn golygu na ellir ei gymharu â newidyn o Gyfrifiad 2011.

Cymariaethau rhwng Cymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a'r Alban

Nid yw'r wybodaeth hon ar gael eto. Dysgwch fwy am ddata cyfrifiad y Deyrnas Unedig.

Data Cyfrifiad 2021 sy’n defnyddio’r newidyn hwn

Rydym yn defnyddio newidynnau o ddata Cyfrifiad 2021 i ddangos canfyddiadau mewn gwahanol ffyrdd.

Gallwch chi:

Fel arall, gallwch hefyd greu set ddata wedi’i deilwra (yn Saesneg).

Setiau data eraill sy’n defnyddio’r newidyn hwn