Cofair: workers_transport
Cymhwysedd: Cartref
Math: Deillio newidyn
Diffiniad
Mae hyn yn grwpio nifer y bobl sy'n gweithio mewn cartref a'r dulliau gwahanol maent yn eu defnyddio i deithio i'r gwaith. Mae'r dosbarthiad hwn hefyd yn cynnwys categorïau ar gyfer pobl sy'n gweithio o'r cartref yn bennaf.
Dosbarthiad
Cyfanswm nifer y categorïau: 18
Cod | Enw |
---|---|
1 | Neb mewn gwaith yn y cartref |
2 | Un person mewn gwaith yn y cartref: Yn gyrru car neu fan i'r gwaith |
3 | Un person mewn gwaith yn y cartref: Yn defnyddio dulliau eraill o deithio i'r gwaith |
4 | Un person mewn gwaith yn y cartref: Yn gweithio o'r cartref |
5 | 2 berson mewn gwaith yn y cartref: Y ddau yn gyrru car neu fan i'r gwaith |
6 | 2 berson mewn gwaith yn y cartref: Y ddau yn defnyddio dulliau eraill o deithio i'r gwaith |
7 | 2 berson mewn gwaith yn y cartref: Y ddau yn gweithio o'r cartref |
8 | 2 berson mewn gwaith yn y cartref: Un yn gyrru car neu fan, un yn defnyddio dull arall o deithio i'r gwaith |
9 | 2 berson mewn gwaith yn y cartref: Un yn gyrru car neu fan, un yn gweithio o'r cartref |
10 | 2 berson mewn gwaith yn y cartref: Un yn defnyddio dull arall o deithio i'r gwaith, un yn gweithio o'r cartref |
11 | 3 neu fwy o bobl mewn gwaith yn y cartref: Pob un yn gyrru car neu fan i'r gwaith |
12 | 3 neu fwy o bobl mewn gwaith yn y cartref: Pob un yn defnyddio dulliau eraill o deithio i'r gwaith |
13 | 3 neu fwy o bobl mewn gwaith yn y cartref: Pob un yn gweithio o'r cartref |
14 | 3 neu fwy o bobl mewn gwaith yn y cartref: Cymysgedd o yrru car neu fan a defnyddio dulliau eraill o deithio i'r gwaith |
15 | 3 neu fwy o bobl mewn gwaith yn y cartref: Cymysgedd o yrru car neu fan a gweithio o'r cartref |
16 | 3 neu fwy o bobl mewn gwaith yn y cartref: Cymysgedd o ddefnyddio dulliau eraill o deithio i'r gwaith a gweithio o'r cartref |
17 | 3 neu fwy o bobl mewn gwaith yn y cartref: Cymysgedd o yrru car neu fan, defnyddio dulliau eraill o deithio i'r gwaith a gweithio o'r cartref |
-8 | Ddim yn gymwys* |
*Cartrefi heb unrhyw breswylwyr arferol.
Ansawdd gwybodaeth
Gan fod Cyfrifiad 2021 yn ystod cyfnod unigryw o newid cyflym, cymerwch ofal wrth ddefnyddio data Teithio i’r gwaith at ddibenion cynllunio.
Cefndir
Darllenwch am sut y gwnaethom ddatblygu a phrofi'r cwestiynau ar gyfer Cyfrifiad 2021 (yn Saesneg).
Cymharedd â Chyfrifiad 2011
Ddim yn gymaradwy
Mae'n anodd cymharu'r newidyn hwn â Chyfrifiad 2011 oherwydd bod Cyfrifiad 2021 wedi'i gynnal yn ystod cyfnod o gyfyngiadau symud cenedlaethol. Cyngor y llywodraeth ar y pryd oedd i bobl weithio gartref (os oedd modd) ac osgoi trafnidiaeth gyhoeddus.
Cafodd pobl a oedd ar ffyrlo (tua 5.6 miliwn) eu cynghori i ateb y cwestiwn am deithio i'r gwaith yn seiliedig ar eu patrymau teithio blaenorol cyn neu yn ystod y pandemig. Mae hyn yn golygu nad yw'r data yn cynrychioli'r hyn roeddent yn ei wneud ar Ddiwrnod y Cyfrifiad yn gywir. Nid oes modd cymharu'r newidyn hwn yn uniongyrchol â'r data am deithio i'r gwaith o Gyfrifiad 2011 am nad yw'n cynnwys pobl a oedd yn teithio i'r gwaith ar y diwrnod hwnnw ond gellir ei gymharu'n rhannol â thablau pwrpasol o 2011.
Beth yw ystyr ddim yn gymaradwy?
Mae newidyn sydd ddim yn gymaradwy yn golygu na ellir ei gymharu â newidyn o Gyfrifiad 2011.
Cymariaethau rhwng Cymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a'r Alban
Gwlad-benodol
Beth yw ystyr gwlad-benodol?
Dim ond ar gyfer Cyfrifiad 2021 yng Nghymru a Lloegr y mae'r newidyn hwn wedi cael ei gynhyrchu.
Dysgwch fwy am newidynnau a luniwyd ar gyfer Cyfrifiad 2021 yng Ngogledd Iwerddon (yn Saesneg) a Chyfrifiad 2022 yn yr Alban (yn Saesneg).