Cofair: place_of_work_ind
Cymhwysedd: Person
Math: Deillio newidyn

Diffiniad

Mae'r dangosydd gweithle yn dosbarthu pobl i gyfeiriad eu prif swydd.

Dosbarthiad

Cyfanswm nifer y categorïau: 6

Cod Enw
1 Gweithio gartref neu o'r cartref yn bennaf
2 Ar safle ar y môr
3 Dim man penodol
4 Gweithio y tu allan i'r Deyrnas Unedig
5 Gweithio yn y Deyrnas Unedig ond ddim yn gweithio gartref nac o'r cartref
-8 Ddim yn gymwys*

*Myfyrwyr a phlant ysgol sy’n byw i ffwrdd o'r cartref yn ystod y tymor, plant 15 oed neu'n iau, a phobl nad oeddent mewn gwaith yn ystod yr wythnos cyn 21 Mawrth 2021.

Gweld pob dosbarthiad dangosydd gweithle.

Ansawdd gwybodaeth

Gan fod Cyfrifiad 2021 yn ystod cyfnod unigryw o newid cyflym, cymerwch ofal wrth ddefnyddio data’r Farchnad Lafur at ddibenion cynllunio.

Darllenwch fwy yn ein methodoleg ar wybodaeth am ansawdd data’r farchnad lafur o Gyfrifiad 2021 (yn Saesneg).

Cefndir

Darllenwch am sut y gwnaethom ddatblygu a phrofi'r cwestiynau ar gyfer Cyfrifiad 2021 (yn Saesneg).

Cymharedd â Chyfrifiad 2011

Ddim yn gymaradwy

Mae'n anodd cymharu'r newidyn hwn â Chyfrifiad 2011 oherwydd bod Cyfrifiad 2021 wedi'i gynnal yn ystod cyfnod o gyfyngiadau symud cenedlaethol. Cyngor y llywodraeth ar y pryd oedd i bobl weithio gartref (os oedd modd) ac osgoi trafnidiaeth gyhoeddus.

Cafodd pobl a oedd ar ffyrlo (tua 5.6 miliwn) eu cynghori i ateb y cwestiwn am deithio i'r gwaith yn seiliedig ar eu patrymau teithio blaenorol cyn neu yn ystod y pandemig. Mae hyn yn golygu nad yw'r data yn cynrychioli'r hyn roeddent yn ei wneud ar Ddiwrnod y Cyfrifiad yn gywir. Nid oes modd cymharu'r newidyn hwn yn uniongyrchol â'r data am deithio i'r gwaith o Gyfrifiad 2011 am nad yw'n cynnwys pobl a oedd yn teithio i'r gwaith ar y diwrnod hwnnw ond gellir ei gymharu'n rhannol â thablau pwrpasol o 2011.

Beth yw ystyr ddim yn gymaradwy?

Mae newidyn sydd ddim yn gymaradwy yn golygu na ellir ei gymharu â newidyn o Gyfrifiad 2011.

Cymariaethau rhwng Cymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a'r Alban

Ddim yn gymaradwy

Mae'r newidyn ar gyfer yr Alban yn cynnwys y rhai sy'n astudio yn ogystal â gweithio.

Beth yw ystyr ddim yn gymaradwy?

Mae newidyn nad yw'n gymaradwy (neu sydd ‘ddim yn gymaradwy’) yn golygu na ellir ei gymharu ar gyfer Cymru, Lloegr, yr Alban na Gogledd Iwerddon.

Dysgwch fwy am newidynnau a luniwyd ar gyfer Cyfrifiad 2021 yng Ngogledd Iwerddon (yn Saesneg) a Chyfrifiad 2022 yn yr Alban (yn Saesneg).

Data Cyfrifiad 2021 sy’n defnyddio’r newidyn hwn

Gallwch greu set ddata wedi’i deilwra (yn Saesneg).

Setiau data eraill sy’n defnyddio’r newidyn hwn