Cofair: occupation_current
Cymhwysedd: Person
Math: Deillio newidyn

Diffiniad

Mae'n dosbarthu beth mae pobl 16 oed a throsodd yn ei wneud fel eu prif swydd. Mae teitl eu swydd neu fanylion gweithgareddau maent yn eu gwneud yn eu swydd ac unrhyw gyfrifoldebau goruchwylio neu reoli yn ffurfio'r dosbarthiad hwn. Caiff y wybodaeth hon ei defnyddio i godio ymatebion i alwedigaeth gan ddefnyddio Dosbarthiad Galwedigaethol Safonol 2020.

Mae'n dosbarthu pobl a oedd mewn gwaith rhwng 15 Mawrth a 21 Mawrth 2021 yn ôl y cod Dosbarthiad Galwedigaethol Safonol sy'n cynrychioli eu galwedigaeth bresennol. Y lefel isaf o fanylder sydd ar gael yw'r cod Dosbarthiad Galwedigaethol Safonol 4 digid sy'n cynnwys pob cod ar ffurf lefelau cod Dosbarthiad Galwedigaethol Safonol 1 digid, 2 ddigid a 3 digid.

Dosbarthiad

Cyfanswm nifer y categorïau: 105

Cod Enw
1 111 Prif weithredwyr ac uwch-swyddogion
2 112 Rheolwyr a chyfarwyddwyr cynhyrchu
3 113 Rheolwyr a chyfarwyddwyr swyddogaethol
4 114 Cyfarwyddwyr logisteg, warysau a chludiant
5 115 Rheolwyr a chyfarwyddwyr manwerthu a chyfanwerthu
6 116 Uwch-swyddogion mewn gwasanaethau amddiffynnol
7 117 Rheolwyr a chyfarwyddwyr iechyd a gwasanaethau cymdeithasol
8 121 Rheolwyr a pherchenogion gwasanaethau cysylltiedig ag amaethyddiaeth
9 122 Rheolwyr a pherchenogion gwasanaethau lletygarwch a hamdden
10 123 Rheolwyr a pherchenogion gwasanaethau iechyd a gofal
11 124 Rheolwyr logisteg, warysau a chludiant
12 125 Rheolwyr a pherchenogion gwasanaethau eraill
13 211 Gweithwyr gwyddorau cymdeithasol a naturiol proffesiynol
14 212 Gweithwyr peirianneg proffesiynol
15 213 Gweithwyr technoleg gwybodaeth proffesiynol
16 214 Gweithwyr dylunio gwe ac amlgyfrwng proffesiynol
17 215 Gweithwyr cadwraeth ac amgylcheddol proffesiynol
18 216 Gweithwyr ymchwil a datblygu proffesiynol a gweithwyr ymchwil proffesiynol eraill
19 221 Ymarferwyr meddygol
20 222 Gweithwyr therapi proffesiynol
21 223 Gweithwyr nyrsio a bydwreigiaeth proffesiynol
22 224 Milfeddygon
23 225 Gweithwyr iechyd proffesiynol eraill
24 231 Gweithwyr addysgu proffesiynol a gweithwyr addysgol proffesiynol eraill
25 232 Gweithwyr addysgol proffesiynol eraill
26 241 Gweithwyr cyfreithiol proffesiynol
27 242 Gweithwyr cyllid proffesiynol
28 243 Gweithwyr busnes, ymchwil a gweinyddol proffesiynol
29 244 Gweithwyr rheoli prosiect busnes ac ariannol proffesiynol
30 245 Penseiri, technolegwyr pensaernïol siartredig, swyddogion cynllunio, syrfewyr a gweithwyr adeiladu proffesiynol
31 246 Gweithwyr lles proffesiynol
32 247 Llyfrgellwyr a gweithwyr proffesiynol cysylltiedig
33 248 Gweithwyr ansawdd a rheoleiddio proffesiynol
34 249 Gweithwyr proffesiynol yn y cyfryngau
35 311 Technegwyr gwyddoniaeth, peirianneg a chynhyrchu
36 312 Technegwyr CAD, lluniadu a phensaernïol
37 313 Technegwyr technoleg gwybodaeth
38 321 Gweithwyr cyswllt iechyd proffesiynol
39 322 Gweithwyr cyswllt lles a thai proffesiynol
40 323 Gweithwyr cyswllt addysgu a gofal plant proffesiynol
41 324 Nyrsys milfeddygol
42 331 Galwedigaethau gwasanaethau amddiffynnol
43 341 Galwedigaethau artistig, llenyddol a'r cyfryngau
44 342 Galwedigaethau dylunio
45 343 Galwedigaethau chwaraeon a ffitrwydd
46 351 Gweithwyr cyswllt cludiant proffesiynol
47 352 Gweithwyr cyswllt cyfreithiol proffesiynol
48 353 Gweithwyr cyswllt cyllid proffesiynol
49 354 Gweithwyr cyswllt busnes proffesiynol
50 355 Gweithwyr gwerthu a marchnata proffesiynol, a gweithwyr cyswllt proffesiynol cysylltiedig
51 356 Gweithwyr cyswllt gwasanaethau cyhoeddus proffesiynol
52 357 Gweithwyr adnoddau dynol a hyfforddiant proffesiynol, a gweithwyr arweiniad cyswllt galwedigaethol proffesiynol eraill
53 358 Gweithwyr cyswllt rheoleiddio proffesiynol
54 411 Galwedigaethau gweinyddol: Llywodraeth a sefydliadau cysylltiedig
55 412 Galwedigaethau gweinyddol: Cyllid
56 413 Galwedigaethau gweinyddol: Cofnodion
57 414 Galwedigaethau gweinyddol: Rheolwyr a goruchwylwyr swyddfeydd
58 415 Galwedigaethau gweinyddol eraill
59 421 Galwedigaethau ysgrifenyddol a galwedigaethau cysylltiedig
60 511 Masnachau amaethyddol a masnachau cysylltiedig
61 521 Masnachau ffurfio metel a weldio a masnachau cysylltiedig
62 522 Masnachau peiriannau metel, gosod a gwneud offer
63 523 Masnachau cerbydau
64 524 Masnachau trydanol ac electroneg
65 525 Goruchwylwyr masnachau metel, trydanol ac electroneg
66 531 Masnachau adeiladu
67 532 Masnachau gorffen adeiladu
68 533 Goruchwylwyr masnachau adeiladu
69 541 Masnachau tecstiliau a dillad
70 542 Masnachau argraffu
71 543 Masnachau paratoi bwyd a lletygarwch
72 544 Masnachau crefftus eraill
73 611 Galwedigaethau addysgu a chymorth gofal plant
74 612 Gwasanaethau gofal a rheoli anifeiliaid
75 613 Gwasanaethau personol gofalu
76 621 Gwasanaethau hamdden a theithio
77 622 Gwasanaethau trin gwallt a gwasanaethau cysylltiedig
78 623 Gwasanaethau cadw tŷ a gwasanaethau cysylltiedig
79 624 Rheolwyr a goruchwylwyr glanhau a chadw tŷ
80 625 Perchenogion llety gwely a brecwast a gwestai
81 631 Galwedigaethau gorfodi sifil a chymunedol
82 711 Cynorthwywyr gwerthu a gweithwyr tiliau manwerthu
83 712 Galwedigaethau cysylltiedig â gwerthiannau
84 713 Ceidwaid siopau a goruchwylwyr gwerthiannau
85 721 Galwedigaethau gwasanaethau cwsmeriaid
86 722 Goruchwylwyr gwasanaethau cwsmeriaid
87 811 Gweithredwyr prosesau
88 812 Gweithredwyr peiriannau gwaith metel
89 813 Gweithredwyr peiriannau
90 814 Cyfosodwyr a gweithredwyr rheolaidd
91 815 Gweithredwyr adeiladu
92 816 Goruchwylwyr cynhyrchu, ffatri a chyfosod
93 821 Gyrwyr cludiant ffordd
94 822 Gyrwyr a gweithredwyr peiriannau symudol
95 823 Gyrwyr a gweithredwyr cludiant eraill
96 911 Galwedigaethau amaethyddol elfennol
97 912 Galwedigaethau adeiladu elfennol
98 913 Galwedigaethau peiriannau prosesu elfennol
99 921 Galwedigaethau gweinyddol elfennol
100 922 Galwedigaethau glanhau elfennol
101 923 Galwedigaethau diogelwch elfennol
102 924 Galwedigaethau gwerthu elfennol
103 925 Galwedigaethau storio elfennol
104 926 Galwedigaethau gwasanaethau elfennol eraill
-8 Ddim yn gymwys*

*Myfyrwyr a phlant ysgol sy’n byw i ffwrdd o'r cartref yn ystod y tymor, plant 15 oed neu'n iau, a phobl nad oeddent mewn gwaith yn ystod yr wythnos cyn 21 Mawrth 2021.

Gweld pob dosbarthiad galwedigaeth (cyfredol).

Ansawdd gwybodaeth

Gwnaethom hysbysu defnyddwyr bod dau ddosbarthiad galwedigaeth “5221 Masnachau ffurfio metel a weldio a masnachau cysylltiedig” ac “5222 Gwneuthurwyr offer, gosodwyr offer a marcwyr allan” wedi’u codio’n anghywir i “521 Masnachau ffurfio metel a weldio a masnachau cysylltiedig”. Dylai’r rhain fod wedi’u codio i “522 Gwneuthurwyr offer, gosodwyr offer a marcwyr allan”. Gwnaethom hefyd hysbysu bod dau ddosbarthiad galwedigaeth “2211 Ymarferwyr meddygol cyffredinol” ac “2212 Ymarferwyr meddygol arbenigol” wedi’u codio’n anghywir i “21 Gweithwyr gwyddoniaeth, ymchwil, peirianneg a thechnoleg broffesiynol”. Dylai’r rhain fod wedi’u codio i “22 Gweithwyr iechyd proffesiynol”. Cafodd y rhain eu cywiro ar 17 Gorffennaf 2023.

Gan fod Cyfrifiad 2021 yn ystod cyfnod unigryw o newid cyflym, cymerwch ofal wrth ddefnyddio data’r Farchnad Lafur at ddibenion cynllunio.

Darllenwch fwy yn ein methodoleg ar wybodaeth am ansawdd data’r farchnad lafur o Gyfrifiad 2021 (yn Saesneg).

Cefndir

Darllenwch am sut y gwnaethom ddatblygu a phrofi'r cwestiynau ar gyfer Cyfrifiad 2021 (yn Saesneg).

Cymharedd â Chyfrifiad 2011

Ddim yn gymaradwy

Gwnaethom newid y dosbarthiad ar gyfer Cyfrifiad 2021 a chyfuno'r categorïau a oedd ar gael yn flaenorol yn nata Cyfrifiad 2011.

Beth yw ystyr ddim yn gymaradwy?

Mae newidyn sydd ddim yn gymaradwy yn golygu na ellir ei gymharu â newidyn o Gyfrifiad 2011.

Cymariaethau rhwng Cymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a'r Alban

Cymaradwy yn fras

Mae'r newidyn a gynhyrchwyd ar gyfer Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon yn rhoi mwy o fanylion am alwedigaeth bresennol rhywun na'r Alban.

Beth yw ystyr cymaradwy yn fras?

Mae newidyn sy'n gymaradwy yn fras yn golygu y gall allbynnau o Gyfrifiad 2021 yng Nghymru a Lloegr gael eu cymharu'n gyffredinol â'r Alban a Gogledd Iwerddon. Gall gwahaniaethau o ran y ffordd y cafodd y data eu casglu neu eu cyflwyno olygu bod llai o allu i gysoni allbynnau yn llawn, ond byddem yn disgwyl gallu eu cysoni rywfaint o hyd.

Dysgwch fwy am newidynnau a luniwyd ar gyfer Cyfrifiad 2021 yng Ngogledd Iwerddon (yn Saesneg) a Chyfrifiad 2022 yn yr Alban (yn Saesneg).

Data Cyfrifiad 2021 sy’n defnyddio’r newidyn hwn

Rydym yn defnyddio newidynnau o ddata Cyfrifiad 2021 i ddangos canfyddiadau mewn gwahanol ffyrdd.

Gallwch chi:

Fel arall, gallwch hefyd greu set ddata wedi’i deilwra (yn Saesneg).

Setiau data eraill sy’n defnyddio’r newidyn hwn