Cofair: industry_former
Cymhwysedd: Person
Math: Deillio newidyn

Diffiniad

Mae'n dosbarthu pobl 16 oed a throsodd nad oeddent mewn gwaith rhwng 15 Mawrth a 21 Mawrth 2021 ond a oedd wedi bod mewn gwaith o'r blaen, yn ôl cod y Dosbarthiad Diwydiannol Safonol sy'n cynrychioli diwydiant neu fusnes eu cyflogaeth ddiwethaf.

Dosbarthiad

Cyfanswm nifer y categorïau: 17

Cod Enw
1 A, B, D, E Amaethyddiaeth, ynni a dŵr
2 C Gweithgynhyrchu
3 F Adeiladu
4 G Masnach cyfanwerthu a manwerthu; atgyweirio cerbydau modur a beiciau modur
5 H Cludo a storio
6 I Llety a gweithgareddau gwasanaethau bwyd
7 J Gwybodaeth a chyfathrebu
8 K Gweithgareddau ariannol ac yswiriant
9 L Gweithgareddau eiddo tirol
10 M Gweithgareddau proffesiynol, gwyddonol a thechnegol
11 N Gweithgareddau gweinyddol a gwasanaethau cymorth
12 O Gweinyddiaeth gyhoeddus ac amddiffyn; nawdd cymdeithasol gorfodol
13 P Addysg
14 Q Gweithgareddau iechyd pobl a gwaith cymdeithasol
15 R, S, T, U Arall
16 Erioed wedi gweithio
-8 Ddim yn gymwys*

*Myfyrwyr a phlant ysgol sy’n byw i ffwrdd o'r cartref yn ystod y tymor, plant 15 oed neu'n iau, a phobl a oedd mewn gwaith yn ystod yr wythnos cyn 21 Mawrth 2021.

Gweld pob dosbarthiad diwydiant (blaenorol).

Ansawdd gwybodaeth

Gan fod Cyfrifiad 2021 yn ystod cyfnod unigryw o newid cyflym, cymerwch ofal wrth ddefnyddio data’r Farchnad Lafur at ddibenion cynllunio.

Darllenwch fwy yn ein methodoleg ar wybodaeth am ansawdd data’r farchnad lafur o Gyfrifiad 2021 (yn Saesneg).

Cefndir

Darllenwch am sut y gwnaethom ddatblygu a phrofi'r cwestiynau ar gyfer Cyfrifiad 2021 (yn Saesneg).

Cymharedd â Chyfrifiad 2011

Cymaradwy iawn

Beth yw ystyr cymaradwy iawn?

Mae newidyn sy’n gymaradwy iawn yn golygu y gellir ei gymharu’n uniongyrchol â’r newidyn o Gyfrifiad 2011. Gall y cwestiynau a’r opsiynau y gallai pobl ddewis fod ychydig yn wahanol, er enghraifft efallai bod trefn yr opsiynau wedi’u newid, ond mae’r data a gesglir yr un peth.

Cymariaethau rhwng Cymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a'r Alban

Ddim yn gymaradwy

Nid yw'r newidyn hwn yn gymaradwy am nad yw'r data ar gael ar gyfer pob gwlad.

Beth yw ystyr ddim yn gymaradwy?

Mae newidyn nad yw'n gymaradwy (neu sydd ‘ddim yn gymaradwy’) yn golygu na ellir ei gymharu ar gyfer Cymru, Lloegr, yr Alban na Gogledd Iwerddon.

Dysgwch fwy am newidynnau a luniwyd ar gyfer Cyfrifiad 2021 yng Ngogledd Iwerddon (yn Saesneg) a Chyfrifiad 2022 yn yr Alban (yn Saesneg).

Data Cyfrifiad 2021 sy’n defnyddio’r newidyn hwn

Gallwch greu set ddata wedi’i deilwra (yn Saesneg).