Cofair: hours_per_week_worked
Cymhwysedd: Person
Math: Newidyn safonol

Diffiniad

Mae nifer yr oriau gwaith fesul wythnos cyn y cyfrifiad yn cynnwys oriau ychwanegol am dâl neu heb dâl. Mae hyn yn cwmpasu prif swydd unrhyw un sy'n 16 oed a throsodd.

Dosbarthiad

Cyfanswm nifer y categorïau: 5

Cod Enw
1 Rhan-amser: Yn gweithio 15 awr neu lai
2 Rhan-amser: Yn gweithio 16 i 30 awr
3 Llawn-amser: Yn gweithio 31 i 48 awr
4 Llawn-amser: Yn gweithio 49 awr neu fwy
-8 Ddim yn gymwys*

*Myfyrwyr a phlant ysgol sy’n byw i ffwrdd o'r cartref yn ystod y tymor, plant 15 oed neu'n iau, a phobl nad oeddent mewn gwaith yn ystod yr wythnos cyn 21 Mawrth 2021.

Gweld pob dosbarthiad oriau gwaith.

Ansawdd gwybodaeth

Gan fod Cyfrifiad 2021 yn ystod cyfnod unigryw o newid cyflym, cymerwch ofal wrth ddefnyddio data’r Farchnad Lafur at ddibenion cynllunio.

Darllenwch fwy yn ein methodoleg ar wybodaeth am ansawdd data’r farchnad lafur o Gyfrifiad 2021 (yn Saesneg).

Cwestiwn a ofynnwyd

Yn eich prif swydd, sawl awr yr wythnos ydych chi’n gweithio fel arfer?

  • 0 i 15
  • 16 i 30
  • 31 i 48
  • 49 neu fwy

Yng Nghyfrifiad 2021, cafodd y cwestiwn ei ddiwygio ac nid oedd yn dweud “(gan gynnwys oriau ychwanegol am dâl neu heb dâl)”. Newidiwyd “15 neu lai” i “0 i 15” yn y rhestr o opsiynau y gallai pobl ddewis ohonynt.

Cefndir

Darllenwch am sut y gwnaethom ddatblygu a phrofi'r cwestiynau ar gyfer Cyfrifiad 2021 (yn Saesneg).

Pam rydym ni’n gofyn y cwestiwn hwn

Mae'r ateb yn helpu cymunedau drwy nodi faint mae pobl yn eu hardal leol yn ei dreulio yn gweithio bob wythnos. Bydd awdurdodau lleol hefyd yn defnyddio'r wybodaeth hon i dargedu adnoddau a nodi cyflenwad llafur posibl.

Mae'r wybodaeth hon yn helpu cymunedau lleol drwy roi dealltwriaeth o batrymau ac amseroedd teithio tebygol ar lefel leol. Gall y patrymau ac amseroedd hyn helpu i nodi'r angen am drafnidiaeth gyhoeddus.

Mae'r ateb yn dangos a yw pobl mewn ardaloedd gwahanol wedi'u cyflogi'n llawn amser neu'n rhan-amser. Bydd yn helpu i fesur pa mor effeithiol yw prosiectau a pholisïau o ran gwella'r economi.

Gellir defnyddio'r wybodaeth hon i ddadansoddi'r gweithlu yn ôl galwedigaeth a'r oriau sy'n cael eu gweithio. Gall ddangos a yw pobl â llai o sgiliau yn fwy tebygol o weithio oriau hwy, am gyflogau llai, na phobl â mwy o sgiliau. Bydd hyn yn helpu i nodi ansawdd bywyd ar draws gweithluoedd lleol.

Dechreuodd y cyfrifiad ofyn y cwestiwn hwn yn 1961.

Cymharedd â Chyfrifiad 2011

Cymaradwy iawn

Beth yw ystyr cymaradwy iawn?

Mae newidyn sy’n gymaradwy iawn yn golygu y gellir ei gymharu’n uniongyrchol â’r newidyn o Gyfrifiad 2011. Gall y cwestiynau a’r opsiynau y gallai pobl ddewis fod ychydig yn wahanol, er enghraifft efallai bod trefn yr opsiynau wedi’u newid, ond mae’r data a gesglir yr un peth.

Cymariaethau rhwng Cymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a'r Alban

Cymaradwy iawn

Beth yw ystyr cymaradwy iawn?

Mae newidyn sy'n gymaradwy iawn yn golygu y gellir ei gymharu'n uniongyrchol â'r newidyn o'r Alban a Gogledd Iwerddon. Efallai fod y cwestiynau a'r opsiynau y gallai pobl ddewis ohonynt ychydig yn wahanol, er enghraifft gall yr opsiynau fod mewn trefn wahanol, ond mae'r data a gaiff eu casglu yr un peth.

Dysgwch fwy am newidynnau a luniwyd ar gyfer Cyfrifiad 2021 yng Ngogledd Iwerddon (yn Saesneg) a Chyfrifiad 2022 yn yr Alban (yn Saesneg).

Data Cyfrifiad 2021 sy’n defnyddio’r newidyn hwn

Rydym yn defnyddio newidynnau o ddata Cyfrifiad 2021 i ddangos canfyddiadau mewn gwahanol ffyrdd.

Gallwch chi:

Fel arall, gallwch hefyd greu set ddata wedi’i deilwra (yn Saesneg).

Setiau data eraill sy’n defnyddio’r newidyn hwn