Cymhwysedd: Person
Math: Newidyn safonol

Trosolwg

Mae gan newidyn oriau gwaith dau o ddosbarthiadau y gellir eu defnyddio wrth ddadansoddi data Cyfrifiad 2021.

Pan gaiff data eu didoli, byddwn yn grwpio categorïau am yr un pwnc gyda'i gilydd. “Dosbarthiad” yw'r enw am grŵp o gategorïau. Mae'n bosibl cael mwy nag un dosbarthiad am yr un pwnc ac mae pob un yn wahanol. Dylech ddewis yr un sydd fwyaf addas ar gyfer eich ymchwil a'ch dadansoddiad.

Dosbarthiad oriau gwaith

Cofair: hours_per_week_worked

Cyfanswm nifer y categorïau: 5

Cod Enw
1 Rhan-amser: Yn gweithio 15 awr neu lai
2 Rhan-amser: Yn gweithio 16 i 30 awr
3 Llawn-amser: Yn gweithio 31 i 48 awr
4 Llawn-amser: Yn gweithio 49 awr neu fwy
-8 Ddim yn gymwys*

*Myfyrwyr a phlant ysgol sy’n byw i ffwrdd o'r cartref yn ystod y tymor, plant 15 oed neu'n iau, a phobl nad oeddent mewn gwaith yn ystod yr wythnos cyn 21 Mawrth 2021.

Dosbarthiad 3a oriau gwaith

Cofair: hours_per_week_worked_3a

Cyfanswm nifer y categorïau: 3

Cod Enw
1 Rhan-amser: Yn gweithio 30 awr neu lai
2 Llawn-amser: Yn gweithio 31 awr neu fwy
-8 Ddim yn gymwys*

*Myfyrwyr a phlant ysgol sy’n byw i ffwrdd o'r cartref yn ystod y tymor, plant 15 oed neu'n iau, a phobl nad oeddent mewn gwaith yn ystod yr wythnos cyn 21 Mawrth 2021.