Cofair: activity_last_week
Cymhwysedd: Person
Math: Newidyn safonol

Diffiniad

Mae'r newidyn hwn yn cyflwyno'r un wybodaeth â statws gweithgarwch economaidd, ond mewn ffordd ychydig yn wahanol.

Dosbarthwyd bod pobl 16 oed a throsodd yn “gweithio” os oeddent yn weithgar yn economaidd ac mewn gwaith rhwng 15 a 21 Mawrth 2021. Cyfeirir at y categori hwn fel “mewn gwaith” wrth edrych ar y fersiwn lefel uwch (3 chategori) o'r newidyn hwn yn yr Adnodd Creu Tablau Hyblyg.

Mae “di-waith” yn cyfeirio at bobl a ddywedodd nad oeddent mewn gwaith yn ystod yr un cyfnod ond a oedd naill ai'n a oedd yn chwilio am waith ac yn gallu dechrau o fewn pythefnos, neu'n aros i ddechrau swydd a oedd wedi'i chynnig a'i derbyn.

Mae “anweithgar yn economaidd” yn cyfeirio at bobl 16 oed a throsodd nad oedd ganddynt swydd rhwng 15 a 21 Mawrth 2021, ac nad oeddent wedi chwilio am waith rhwng 22 Chwefror a 21 Mawrth 2021, neu na allent ddechrau gweithio o fewn pythefnos.

Mae'r grwpiau “di-waith” ac “anweithgar yn economaidd” wedi cael eu cyfuno i “Ddim mewn gwaith” wrth edrych ar y fersiwn lefel uwch (3 chategori) o'r newidyn hwn yn yr Adnodd Creu Tablau Hyblyg.

Mae diffiniad y cyfrifiad yn amrywio o ddiffiniad y Sefydliad Llafur Rhyngwladol a ddefnyddir yn yr Arolwg o'r Llafurlu, felly ni ellir cymharu'r amcangyfrifon yn uniongyrchol.

Nid yw'r newidyn hwn yn darparu ffigurau ar wahân ar gyfer myfyrwyr a oedd yn weithgar yn economaidd; rydym yn argymell defnyddio statws gweithgarwch economaidd ar gyfer gwaith dadansoddi ynghylch myfyrwyr.

Dosbarthiad

Cyfanswm nifer y categorïau: 8

Cod Enw
1 Yn gweithio
2 Yn ddi-waith
3 Yn anweithgar yn economaidd: Myfyriwr
4 Yn anweithgar yn economaidd: Wedi ymddeol
5 Yn anweithgar yn economaidd: Anabl neu yn sâl am gyfnod hir
6 Yn anweithgar yn economaidd: Yn gofalu am y cartref/teulu
7 Yn anweithgar yn economaidd: Arall
-8 Ddim yn gymwys*

*Myfyrwyr a phlant ysgol sy’n byw i ffwrdd o'r cartref yn ystod y tymor, a phlant 15 oed neu'n iau.

Gweld pob dosbarthiad statws gweithgarwch economaidd yr wythnos diwethaf.

Ansawdd gwybodaeth

Gan fod Cyfrifiad 2021 yn ystod cyfnod unigryw o newid cyflym, cymerwch ofal wrth ddefnyddio data’r Farchnad Lafur at ddibenion cynllunio.

Darllenwch fwy yn ein methodoleg ar wybodaeth am ansawdd data’r farchnad lafur o Gyfrifiad 2021 (yn Saesneg).

Cwestiwn a ofynnwyd

Yn ystod y 7 diwrnod diwethaf, oeddech chi’n gwneud unrhyw un o’r canlynol?

  • Gwaith cyflogedig
  • Gwaith hunangyflogedig neu ar eich liwt eich hun
  • I ffwrdd o’ch gwaith dros dro yn sâl, ar wyliau, neu wedi’ch cadw dros dro o’ch gwaith am na all eich cyflogwr gynnig gwaith ar hyn o bryd
  • Ar gyfnod mamolaeth neu dadolaeth
  • Unrhyw fath arall o waith am dâl NEU ddim un o’r uchod

Yng Nghyfrifiad 2021, cafodd y cwestiwn ei ddiwygio er mwyn dweud “yn ystod y 7 diwrnod diwethaf” a lleihawyd nifer yr opsiynau y gallai pobl ddewis ohonynt o saith i chwech.

Cefndir

Darllenwch am sut y gwnaethom ddatblygu a phrofi'r cwestiynau ar gyfer Cyfrifiad 2021 (yn Saesneg).

Pam rydym ni’n gofyn y cwestiwn hwn

Mae'r atebion yn helpu eich cymuned leol drwy alluogi elusennau, sefydliadau ac awdurdodau lleol i nodi ble mae angen gweithredu er mwyn mynd i'r afael â chyfraddau cyflogaeth isel yn yr ardal.

Mae'r ateb hefyd yn helpu awdurdodau lleol i wneud cynlluniau sy'n cefnogi symiau mawr o wariant cyhoeddus, er enghraifft, creu swyddi, cyfleoedd addysgol a gwasanaethau iechyd.

Dechreuodd y cyfrifiad ofyn cwestiynau am gyflogaeth yn 1851.

Mae'r cwestiwn hwn yn gofyn am eich statws gweithio yn ystod yr wythnos rhwng dydd Llun 15 Mawrth a dydd Sul 21 Mawrth 2021.

Dylech gynnwys unrhyw waith am dâl rydych chi wedi'i wneud. Cofiwch fod gwaith dros dro neu achlysurol yn cyfrif, hyd yn oed os mai dim ond am awr y buoch chi’n gweithio i un o'r canlynol:

  • cyflogwr
  • eich busnes eich hun
  • busnes teuluol
  • unigolyn preifat

Os oes gennych chi swydd ond eich bod wedi bod i ffwrdd o'r gwaith ar ffyrlo, dan gwarantin neu'n hunanynysu, atebwch "I ffwrdd o’ch gwaith dros dro yn sâl, ar wyliau, neu wedi’ch cadw dros dro o’ch gwaith am na all eich cyflogwr gynnig gwaith ar hyn o bryd".

Dylech ond cynnwys gwaith di-dâl os oedd ar gyfer eich busnes eich hun neu fusnes teuluol.

Dewiswch bob opsiwn sy'n berthnasol. Dylech ond cynnwys rhaglenni hyfforddi os ydych chi'n cael eich talu i'w mynychu.

Ystyr y termau Mae "Gwaith cyflogedig" yn golygu eich bod naill ai'n cael cyflog gan gyflogwr, neu eich bod ar raglen hyfforddi am dâl. Mae "Gwaith hunangyflogedig" yn golygu eich bod yn berchen ar eich busnes neu eich practis proffesiynol eich hun. Mae'n bosibl eich bod yn berchen ar y busnes ar eich pen eich hun, gyda phartner busnes neu gyda theulu. Os ydych chi'n hunangyflogedig ond nad ydych chi wedi bod yn gweithio oherwydd pandemig y coronafeirws (COVID-19), dylech ddewis "Gwaith hunangyflogedig" o hyd. Mae gweithio "ar eich liwt eich hun" yn golygu eich bod yn hunangyflogedig ac yn gweithio i wahanol gwmnïau neu bobl ar ddarnau penodol o waith. Gair arall am hyn yw llawrydd. Mae "I ffwrdd o’ch gwaith dros dro yn sâl" neu "ar wyliau" yn cynnwys seibiant gyrfa ac mae'n golygu y byddwch chi'n dychwelyd i'r un cyflogwr, hyd yn oed os nad ydych chi'n cael eich talu yn ystod eich amser i ffwrdd o'r gwaith. Mae "wedi’ch cadw dros dro o’ch gwaith am na all eich cyflogwr gynnig gwaith ar hyn o bryd" yn golygu bod cyflogwr wedi gofyn i gyflogai beidio â dod i'r gwaith am gyfnod penodol, fel arfer am nad oes digon o waith iddo ei wneud ar y pryd. Dewiswch yr opsiwn hwn os yw'n berthnasol i chi, a'ch bod yn disgwyl dychwelyd i weithio i'r un cyflogwr, p'un a ydych chi'n cael eich talu yn ystod y cyfnod hwn ai peidio. Mae "Ar gyfnod mamolaeth neu dadolaeth" yn cwmpasu'r amser i ffwrdd o'r gwaith ar ôl cael babi. Mae hefyd yn cynnwys absenoldeb mabwysiadu ac absenoldeb rhiant a rennir (SPL). Mae "Unrhyw fath arall o waith am dâl" yn cynnwys taliad mewn nwyddau. Er enghraifft, gweithio yn gyfnewid am fwyd a llety fel au pair.

Cymharedd â Chyfrifiad 2011

Cymaradwy yn fras

Gwnaethom newid y geiriad rywfaint yn holiadur Cyfrifiad 2021 a thynnu allan rai o'r opsiynau y gallai pobl ddewis ohonynt.

Beth yw ystyr cymaradwy yn fras?

Mae newidyn sy’n gymaradwy yn fras yn golygu y gellir ei gymharu’n gyffredinol â’r un newidyn a ddefnyddiwyd yng Nghyfrifiad 2011. Fodd bynnag, efallai bod newidiadau wedi'u gwneud i'r cwestiwn neu'r opsiynau y gallai pobl ddewis ohonynt neu sut mae atebion ysgrifenedig yn cael eu dosbarthu.

Cymariaethau rhwng Cymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a'r Alban

Cymaradwy iawn

Beth yw ystyr cymaradwy iawn?

Mae newidyn sy'n gymaradwy iawn yn golygu y gellir ei gymharu'n uniongyrchol â'r newidyn o'r Alban a Gogledd Iwerddon. Efallai fod y cwestiynau a'r opsiynau y gallai pobl ddewis ohonynt ychydig yn wahanol, er enghraifft gall yr opsiynau fod mewn trefn wahanol, ond mae'r data a gaiff eu casglu yr un peth.

Dysgwch fwy am newidynnau a luniwyd ar gyfer Cyfrifiad 2021 yng Ngogledd Iwerddon (yn Saesneg) a Chyfrifiad 2022 yn yr Alban (yn Saesneg).

Data Cyfrifiad 2021 sy’n defnyddio’r newidyn hwn

Gallwch greu set ddata wedi’i deilwra (yn Saesneg).