Cymhwysedd: Person
Math: Newidyn safonol

Trosolwg

Mae gan newidyn statws gweithgarwch economaidd yr wythnos diwethaf dau o ddosbarthiadau y gellir eu defnyddio wrth ddadansoddi data Cyfrifiad 2021.

Pan gaiff data eu didoli, byddwn yn grwpio categorïau am yr un pwnc gyda'i gilydd. “Dosbarthiad” yw'r enw am grŵp o gategorïau. Mae'n bosibl cael mwy nag un dosbarthiad am yr un pwnc ac mae pob un yn wahanol. Dylech ddewis yr un sydd fwyaf addas ar gyfer eich ymchwil a'ch dadansoddiad.

Dosbarthiad statws gweithgarwch economaidd yr wythnos diwethaf

Cofair: activity_last_week

Cyfanswm nifer y categorïau: 8

Cod Enw
1 Yn gweithio
2 Yn ddi-waith
3 Yn anweithgar yn economaidd: Myfyriwr
4 Yn anweithgar yn economaidd: Wedi ymddeol
5 Yn anweithgar yn economaidd: Anabl neu yn sâl am gyfnod hir
6 Yn anweithgar yn economaidd: Yn gofalu am y cartref/teulu
7 Yn anweithgar yn economaidd: Arall
-8 Ddim yn gymwys*

*Myfyrwyr a phlant ysgol sy’n byw i ffwrdd o'r cartref yn ystod y tymor, a phlant 15 oed neu'n iau.

Dosbarthiad 3a statws gweithgarwch economaidd yr wythnos diwethaf

Cofair: activity_last_week_3a

Cyfanswm nifer y categorïau: 3

Cod Enw
1 Cyflogedig
2 Ddim yn gyflogedig
-8 Ddim yn gymwys*

*Myfyrwyr a phlant ysgol sy’n byw i ffwrdd o'r cartref yn ystod y tymor, a phlant 15 oed neu'n iau.