Cofair: economic_activity
Cymhwysedd: Person
Math: Deillio newidyn

Diffiniad

Mae pobl 16 oed a throsodd yn weithgar yn economaidd os, rhwng 15 Mawrth a 21 Mawrth 2021, roeddent:

  • mewn gwaith (gweithiwr cyflogedig neu'n hunangyflogedig)
  • yn ddi-waith, ond yn chwilio am waith ac yn gallu dechrau o fewn pythefnos
  • yn ddi-waith, ond yn aros i ddechrau swydd a oedd wedi'i chynnig a'i derbyn

Mae'n ffordd o fesur a oedd unigolyn yn rhan weithredol o'r farchnad lafur yn ystod y cyfnod hwn ai peidio. Pobl anweithgar yn economaidd yw'r bobl 16 oed a throsodd rhai nad oedd ganddynt swydd rhwng 15 Mawrth a 21 Mawrth 2021 ac nad oeddent wedi chwilio am waith rhwng 22 Chwefror a 21 Mawrth 2021 neu na allent ddechrau gweithio o fewn pythefnos.

Mae diffiniad y cyfrifiad yn wahanol i ddiffiniad y Sefydliad Llafur Rhyngwladol a ddefnyddir yn yr Arolwg o'r Llafurlu, felly nid oes modd cymharu'r amcangyfrifon yn uniongyrchol.

Mae’r dosbarthiad yma yn rhannu myfyrwyr amser llawn oddi wrth y rhai sydd yn fyfyrwyr rhan-amser pan fyddant yn gyflogedig neu yn ddi-waith. Argymhellir ywchwanegi rhain gydai’n gilydd i edrych ar bob un o’r rheini sydd mewn cyflogaeth neu yn ddi-waith, neu i defnyddio’r dosbarthiad farchnad lafur pedwar categori, os ydych am edrych ar bawb sydd â statws marchnad lafur arbennig.

Dosbarthiad

Cyfanswm nifer y categorïau: 20

Cod Enw
1 Yn weithgar yn economaidd (heb gynnwys myfyrwyr amser llawn): Mewn gwaith: Gweithiwr cyflogedig: Rhan-amser
2 Yn weithgar yn economaidd (heb gynnwys myfyrwyr amser llawn): Mewn gwaith: Gweithiwr cyflogedig: Llawn amser
3 Yn weithgar yn economaidd (heb gynnwys myfyrwyr amser llawn): Mewn gwaith: Hunangyflogedig ac yn cyflogi gweithwyr eraill: Rhan-amser
4 Yn weithgar yn economaidd (heb gynnwys myfyrwyr amser llawn): Mewn gwaith: Hunangyflogedig ac yn cyflogi gweithwyr eraill: Llawn amser
5 Yn weithgar yn economaidd (heb gynnwys myfyrwyr amser llawn): Mewn gwaith: Hunangyflogedig heb gyflogi gweithwyr eraill: Rhan-amser
6 Yn weithgar yn economaidd (heb gynnwys myfyrwyr amser llawn): Mewn gwaith: Hunangyflogedig heb gyflogi gweithwyr eraill: Llawn amser
7 Yn weithgar yn economaidd (heb gynnwys myfyrwyr amser llawn): Di-waith: Yn chwilio am waith neu'n aros i ddechrau swydd a gafwyd eisoes: Ar gael i ddechrau gweithio yn y pythefnos nesaf
8 Yn weithgar yn economaidd ac yn fyfyriwr amser llawn: Mewn gwaith: Gweithiwr cyflogedig: Rhan-amser
9 Yn weithgar yn economaidd ac yn fyfyriwr amser llawn: Mewn gwaith: Gweithiwr cyflogedig: Llawn amser
10 Yn weithgar yn economaidd ac yn fyfyriwr amser llawn: Mewn gwaith: Hunangyflogedig ac yn cyflogi gweithwyr eraill: Rhan-amser
11 Yn weithgar yn economaidd ac yn fyfyriwr amser llawn: Mewn gwaith: Hunangyflogedig ac yn cyflogi gweithwyr eraill: Llawn amser
12 Yn weithgar yn economaidd ac yn fyfyriwr amser llawn: Mewn gwaith: Hunangyflogedig heb gyflogi gweithwyr eraill: Rhan-amser
13 Yn weithgar yn economaidd ac yn fyfyriwr amser llawn: Mewn gwaith: Hunangyflogedig heb gyflogi gweithwyr eraill: Llawn amser
14 Yn weithgar yn economaidd ac yn fyfyriwr amser llawn: Di-waith: Yn chwilio am waith neu'n aros i ddechrau swydd a gafwyd eisoes: Ar gael i ddechrau gweithio yn y pythefnos nesaf
15 Yn anweithgar yn economaidd: Wedi ymddeol
16 Yn anweithgar yn economaidd: Myfyriwr
17 Yn anweithgar yn economaidd: Yn gofalu am y cartref neu am y teulu
18 Yn anweithgar yn economaidd: Yn anabl neu yn sâl am gyfnod hir
19 Yn anweithgar yn economaidd: Arall
-8 Ddim yn gymwys*

*Myfyrwyr a phlant ysgol sy’n byw i ffwrdd o'r cartref yn ystod y tymor, a phlant 15 oed neu'n iau.

Gweld pob dosbarthiad statws gweithgarwch economaidd.

Ansawdd gwybodaeth

Gan fod Cyfrifiad 2021 yn ystod cyfnod unigryw o newid cyflym, cymerwch ofal wrth ddefnyddio data’r Farchnad Lafur at ddibenion cynllunio.

Darllenwch fwy yn ein methodoleg ar wybodaeth am ansawdd data’r farchnad lafur o Gyfrifiad 2021 (yn Saesneg).

Cefndir

Darllenwch am sut y gwnaethom ddatblygu a phrofi'r cwestiynau ar gyfer Cyfrifiad 2021 (yn Saesneg).

Cymharedd â Chyfrifiad 2011

Cymaradwy yn fras

Gwnaethom newid y geiriad rywfaint yn holiadur Cyfrifiad 2021 a thynnu allan rai o'r opsiynau y gallai pobl ddewis ohonynt.

Beth yw ystyr cymaradwy yn fras?

Mae newidyn sy’n gymaradwy yn fras yn golygu y gellir ei gymharu’n gyffredinol â’r un newidyn a ddefnyddiwyd yng Nghyfrifiad 2011. Fodd bynnag, efallai bod newidiadau wedi'u gwneud i'r cwestiwn neu'r opsiynau y gallai pobl ddewis ohonynt neu sut mae atebion ysgrifenedig yn cael eu dosbarthu.

Cymariaethau rhwng Cymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a'r Alban

Cymaradwy iawn

Beth yw ystyr cymaradwy iawn?

Mae newidyn sy'n gymaradwy iawn yn golygu y gellir ei gymharu'n uniongyrchol â'r newidyn o'r Alban a Gogledd Iwerddon. Efallai fod y cwestiynau a'r opsiynau y gallai pobl ddewis ohonynt ychydig yn wahanol, er enghraifft gall yr opsiynau fod mewn trefn wahanol, ond mae'r data a gaiff eu casglu yr un peth.

Dysgwch fwy am newidynnau a luniwyd ar gyfer Cyfrifiad 2021 yng Ngogledd Iwerddon (yn Saesneg) a Chyfrifiad 2022 yn yr Alban (yn Saesneg).

Data Cyfrifiad 2021 sy’n defnyddio’r newidyn hwn

Rydym yn defnyddio newidynnau o ddata Cyfrifiad 2021 i ddangos canfyddiadau mewn gwahanol ffyrdd.

Gallwch chi:

Fel arall, gallwch hefyd greu set ddata wedi’i deilwra (yn Saesneg).

Setiau data eraill sy’n defnyddio’r newidyn hwn