Cofair: country_of_birth
Cymhwysedd: Person
Math: Newidyn safonol

Diffiniad

Y wlad lle cafodd person ei eni.

Ar gyfer pobl na chawsant eu geni yn un o bedair rhan y Deyrnas Unedig neu Weriniaeth Iwerddon, roedd opsiwn i ddewis "rhywle arall".

Gofynnwyd i bobl a ddewisodd "rhywle arall" ysgrifennu enw presennol eu gwlad enedigol.

Dosbarthiad

Cyfanswm nifer y categorïau: 60

Cod Enw
1 Ewrop: Y Deyrnas Unedig: Lloegr
2 Ewrop: Y Deyrnas Unedig: Gogledd Iwerddon
3 Ewrop: Y Deyrnas Unedig: Yr Alban
4 Ewrop: Y Deyrnas Unedig: Cymru
5 Ewrop: Y Deyrnas Unedig: Prydain Fawr heb ei nodi fel arall
6 Ewrop: Y Deyrnas Unedig: Y Deyrnas Unedig heb ei nodi fel arall
7 Ewrop: Ewrop Arall: Gwledydd yr UE: Aelod-wladwriaethau ym mis Mawrth 2001: Iwerddon
8 Ewrop: Ewrop Arall: Gwledydd yr UE: Aelod-wladwriaethau ym mis Mawrth 2001: Ffrainc
9 Ewrop: Ewrop Arall: Gwledydd yr UE: Aelod-wladwriaethau ym mis Mawrth 2001: Yr Almaen
10 Ewrop: Ewrop Arall: Gwledydd yr UE: Aelod-wladwriaethau ym mis Mawrth 2001: Yr Eidal
11 Ewrop: Ewrop Arall: Gwledydd yr UE: Aelod-wladwriaethau ym mis Mawrth 2001: Portiwgal (gan gynnwys Madeira a'r Azores)
12 Ewrop: Ewrop Arall: Gwledydd yr UE: Aelod-wladwriaethau ym mis Mawrth 2001: Sbaen (gan gynnwys yr Ynysoedd Dedwydd)
13 Ewrop: Ewrop Arall: Gwledydd yr UE: Aelod-wladwriaethau ym mis Mawrth 2001: Aelod-wladwriaethau eraill ym mis Mawrth 2001
14 Ewrop: Ewrop Arall: Gwledydd yr UE: Gwledydd a ymunodd â'r UE rhwng mis Ebrill 2001 a mis Mawrth 2011: Lithwania
15 Ewrop: Ewrop Arall: Gwledydd yr UE: Gwledydd a ymunodd â'r UE rhwng mis Ebrill 2001 a mis Mawrth 2011: Gwlad Pwyl
16 Ewrop: Ewrop Arall: Gwledydd yr UE: Gwledydd a ymunodd â'r UE rhwng mis Ebrill 2001 a mis Mawrth 2011: Rwmania
17 Ewrop: Ewrop Arall: Gwledydd yr UE: Gwledydd a ymunodd â'r UE rhwng mis Ebrill 2001 a mis Mawrth 2011: Gwledydd eraill yr UE
18 Ewrop: Ewrop Arall: Gwledydd yr UE: Gwledydd a ymunodd â'r UE rhwng mis Ebrill 2011 a mis Mawrth 2021: Croatia
19 Ewrop: Ewrop Arall: Gweddill Ewrop: Twrci
20 Ewrop: Ewrop Arall: Gweddill Ewrop: Ewrop Arall
21 Affrica: Gogledd Affrica
22 Affrica: Canol a Gorllewin Affrica: Ghana
23 Affrica: Canol a Gorllewin Affrica: Nigeria
24 Affrica: Canol a Gorllewin Affrica: Canol a Gorllewin Affrica Arall
25 Affrica: De a Dwyrain Affrica: Kenya
26 Affrica: De a Dwyrain Affrica: Somalia
27 Affrica: De a Dwyrain Affrica: De Affrica
28 Affrica: De a Dwyrain Affrica: Zimbabwe
29 Affrica: De a Dwyrain Affrica: De a Dwyrain Affrica Arall
30 Affrica: Affrica heb ei nodi fel arall
31 Y Dwyrain Canol ac Asia: Y Dwyrain Canol: Iran
32 Y Dwyrain Canol ac Asia: Y Dwyrain Canol: Irac
33 Y Dwyrain Canol ac Asia: Y Dwyrain Canol: Y Dwyrain Canol Arall
34 Y Dwyrain Canol ac Asia: Dwyrain Asia: Tsieina
35 Y Dwyrain Canol ac Asia: Dwyrain Asia: Hong Kong (Rhanbarth Weinyddol Arbennig Tsieina)
36 Y Dwyrain Canol ac Asia: Dwyrain Asia: Dwyrain Asia Arall
37 Y Dwyrain Canol ac Asia: De Asia: Affganistan
38 Y Dwyrain Canol ac Asia: De Asia: India
39 Y Dwyrain Canol ac Asia: De Asia: Pacistan
40 Y Dwyrain Canol ac Asia: De Asia: Bangladesh
41 Y Dwyrain Canol ac Asia: De Asia: Sri Lanka
42 Y Dwyrain Canol ac Asia: De Asia: De Asia Arall
43 Y Dwyrain Canol ac Asia: De-ddwyrain Asia: Ynysoedd Philippines
44 Y Dwyrain Canol ac Asia: De-ddwyrain Asia: Malaysia
45 Y Dwyrain Canol ac Asia: De-ddwyrain Asia: Singapore
46 Y Dwyrain Canol ac Asia: De-ddwyrain Asia: De-ddwyrain Asia Arall
47 Y Dwyrain Canol ac Asia: Canol Asia
48 Cyfandiroedd America a'r Caribî: Gogledd America: Yr Unol Daleithiau
49 Cyfandiroedd America a'r Caribî: Gogledd America: Canada
50 Cyfandiroedd America a'r Caribî: Gogledd America: Gogledd America Arall
51 Cyfandiroedd America a'r Caribî: Canolbarth America: Pob gwlad yng Nghanolbarth America
52 Cyfandiroedd America a'r Caribî: De America: Pob gwlad yn Ne America
53 Cyfandiroedd America a'r Caribî: Y Caribî: Jamaica
54 Cyfandiroedd America a'r Caribî: Y Caribî: Y Caribî Arall
55 Antarctica ac Oceania: Awstralasia: Awstralia
56 Antarctica ac Oceania: Awstralasia: Seland Newydd
57 Antarctica ac Oceania: Awstralasia: Awstralasia Arall
58 Antarctica ac Oceania: Oceania Arall ac Antarctica
59 Arall
-8 Ddim yn gymwys*

*Myfyrwyr a phlant ysgol sy’n byw i ffwrdd o'r cartref yn ystod y tymor.

Gweld pob dosbarthiad gwlad enedigol.

Cwestiwn a ofynnwyd

Ym mha wlad y cawsoch chi eich geni?

  • Cymru
  • Lloegr
  • Yr Alban
  • Gogledd Iwerddon
  • Gweriniaeth Iwerddon
  • Rhywle arall, nodwch enw presennol y wlad

Roedd y cwestiwn a'r opsiynau y gallai pobl ddewis ohonynt yr un peth yng Nghyfrifiad 2021 ac yng Nghyfrifiad 2011.

Cefndir

Darllenwch am sut y gwnaethom ddatblygu a phrofi'r cwestiynau ar gyfer Cyfrifiad 2021 (yn Saesneg).

Pam rydym ni’n gofyn y cwestiwn hwn

Mae'r ateb yn helpu llywodraeth leol a chanolog i ddeall mwy am anghenion y bobl sy'n byw mewn ardaloedd gwahanol. Bydd y wybodaeth hon yn helpu awdurdodau lleol i gynllunio gwasanaethau, llunio polisïau a neilltuo adnoddau ar gyfer cymunedau. Bydd yn eu galluogi i lunio rhagfynegiadau am anghenion y bobl sy'n byw yn eu hardal yn y dyfodol.

Rydym hefyd yn defnyddio'r wybodaeth hon gydag atebion am grŵp ethnig a chrefydd pobl i ddweud mwy wrthym am gefndiroedd diwylliannol pobl mewn ardaloedd gwahanol.

Mae cwestiwn am ble y cafodd pobl eu geni wedi cael ei ofyn ers 1841.

Cymharedd â Chyfrifiad 2011

Cymaradwy yn fras

Rydym wedi newid rhai categorïau i'w gwneud yn fwy cyson â dosbarthiadau gwlad a ddefnyddir mewn ystadegau gwladol eraill.

Beth yw ystyr cymaradwy yn fras?

Mae newidyn sy’n gymaradwy yn fras yn golygu y gellir ei gymharu’n gyffredinol â’r un newidyn a ddefnyddiwyd yng Nghyfrifiad 2011. Fodd bynnag, efallai bod newidiadau wedi'u gwneud i'r cwestiwn neu'r opsiynau y gallai pobl ddewis ohonynt neu sut mae atebion ysgrifenedig yn cael eu dosbarthu.

Cymariaethau rhwng Cymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a'r Alban

Cymaradwy iawn

Beth yw ystyr cymaradwy iawn?

Mae newidyn sy'n gymaradwy iawn yn golygu y gellir ei gymharu'n uniongyrchol â'r newidyn o'r Alban a Gogledd Iwerddon. Efallai fod y cwestiynau a'r opsiynau y gallai pobl ddewis ohonynt ychydig yn wahanol, er enghraifft gall yr opsiynau fod mewn trefn wahanol, ond mae'r data a gaiff eu casglu yr un peth.

Dysgwch fwy am newidynnau a luniwyd ar gyfer Cyfrifiad 2021 yng Ngogledd Iwerddon (yn Saesneg) a Chyfrifiad 2022 yn yr Alban (yn Saesneg).

Data Cyfrifiad 2021 sy’n defnyddio’r newidyn hwn

Rydym yn defnyddio newidynnau o ddata Cyfrifiad 2021 i ddangos canfyddiadau mewn gwahanol ffyrdd.

Gallwch chi:

Fel arall, gallwch hefyd greu set ddata wedi’i deilwra (yn Saesneg).

Setiau data eraill sy’n defnyddio’r newidyn hwn