Cofair: age_arrival_uk
Cymhwysedd: Person
Math: Deillio newidyn

Diffiniad

Y dyddiad y cyrhaeddodd person i fyw yn y Deyrnas Unedig ddiwethaf a'i oedran. Nid yw dyddiadau cyrraedd yn cynnwys dychwelyd o deithiau byr i ffwrdd o'r Deyrnas Unedig.

Dim ond i breswylwyr arferol na chawsant eu geni yn y Deyrnas Unedig y mae'r oedran cyrraedd yn berthnasol. Nid yw'n cynnwys preswylwyr arferol a gafodd eu geni yn y Deyrnas Unedig sydd wedi allfudo ac wedi dychwelyd ers hynny. Caiff y rhain eu cofnodi yn y categori “ganed yn y Deyrnas Unedig”.

Dosbarthiad

Cyfanswm nifer y categorïau: 18

Cod Enw
1 Ganed yn y Deyrnas Unedig
2 Wedi cyrraedd y Deyrnas Unedig: Yn 0 i 4 oed
3 Wedi cyrraedd y Deyrnas Unedig: Yn 5 i 7 oed
4 Wedi cyrraedd y Deyrnas Unedig: Yn 8 i 9 oed
5 Wedi cyrraedd y Deyrnas Unedig: Yn 10 i 14 oed
6 Wedi cyrraedd y Deyrnas Unedig: Yn 15 oed
7 Wedi cyrraedd y Deyrnas Unedig: Yn 16 i 17 oed
8 Wedi cyrraedd y Deyrnas Unedig: Yn 18 i 19 oed
9 Wedi cyrraedd y Deyrnas Unedig: Yn 20 i 24 oed
10 Wedi cyrraedd y Deyrnas Unedig: Yn 25 i 29 oed
11 Wedi cyrraedd y Deyrnas Unedig: Yn 30 i 44 oed
12 Wedi cyrraedd y Deyrnas Unedig: Yn 45 i 59 oed
13 Wedi cyrraedd y Deyrnas Unedig: Yn 60 i 64 oed
14 Wedi cyrraedd y Deyrnas Unedig: Yn 65 i 74 oed
15 Wedi cyrraedd y Deyrnas Unedig: Yn 75 i 84 oed
16 Wedi cyrraedd y Deyrnas Unedig: Yn 85 i 89 oed
17 Wedi cyrraedd y Deyrnas Unedig: Yn 90 oed a throsodd
-8 Ddim yn gymwys*

*Myfyrwyr a phlant ysgol sy’n byw i ffwrdd o'r cartref yn ystod y tymor.

Gweld pob dosbarthiad oedran cyrraedd y Deyrnas Unedig.

Cefndir

Darllenwch am sut y gwnaethom ddatblygu a phrofi'r cwestiynau ar gyfer Cyfrifiad 2021 (yn Saesneg).

Cymharedd â Chyfrifiad 2011

Cymaradwy iawn

Beth yw ystyr cymaradwy iawn?

Mae newidyn sy’n gymaradwy iawn yn golygu y gellir ei gymharu’n uniongyrchol â’r newidyn o Gyfrifiad 2011. Gall y cwestiynau a’r opsiynau y gallai pobl ddewis fod ychydig yn wahanol, er enghraifft efallai bod trefn yr opsiynau wedi’u newid, ond mae’r data a gesglir yr un peth.

Cymariaethau rhwng Cymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a'r Alban

Ddim yn gymaradwy

Nid yw'r newidyn hwn yn gymaradwy am nad yw'r data ar gael ar gyfer pob gwlad.

Beth yw ystyr ddim yn gymaradwy?

Mae newidyn nad yw'n gymaradwy (neu sydd ‘ddim yn gymaradwy’) yn golygu na ellir ei gymharu ar gyfer Cymru, Lloegr, yr Alban na Gogledd Iwerddon.

Dysgwch fwy am newidynnau a luniwyd ar gyfer Cyfrifiad 2021 yng Ngogledd Iwerddon (yn Saesneg) a Chyfrifiad 2022 yn yr Alban (yn Saesneg).

Data Cyfrifiad 2021 sy’n defnyddio’r newidyn hwn

Rydym yn defnyddio newidynnau o ddata Cyfrifiad 2021 i ddangos canfyddiadau mewn gwahanol ffyrdd.

Gallwch chi:

Fel arall, gallwch hefyd greu set ddata wedi’i deilwra (yn Saesneg).

Setiau data eraill sy’n defnyddio’r newidyn hwn