Cofair: heating_type
Cymhwysedd: Cartref
Math: Deillio newidyn

Diffiniad

System ar gyfer cynhesu sawl ystafell mewn adeilad drwy gylchdroi aer neu ddŵr wedi'i wresogi drwy bibellau i wresogyddion neu awyrellau yw gwres canolog. Gall ffynonellau tanwydd unigol neu luosog gyflenwi'r systemau hyn.

Caiff systemau gwres canolog nad ydynt yn cael eu defnyddio neu nad ydynt yn gweithio eu hystyried o hyd. Nid oes gwybodaeth ar gael ar gyfer lleoedd cartref lle nad oes unrhyw breswylwyr arferol.

Dosbarthiad

Cyfanswm nifer y categorïau: 13

Cod Enw
1 Dim gwres canolog
2 Prif gyflenwad nwy yn unig
3 Nwy tanc neu botel yn unig
4 Trydan yn unig
5 Olew yn unig
6 Pren yn unig
7 Tanwydd solet yn unig
8 Ynni adnewyddadwy yn unig
9 Rhwydweithiau gwres rhanbarthol neu gymunedol yn unig
10 Gwres canolog arall yn unig
11 Dau neu fwy o fathau o wres canolog (heb gynnwys ynni adnewyddadwy)
12 Dau neu fwy o fathau o wres canolog (gan gynnwys ynni adnewyddadwy)
-9 Ddim yn gymwys

Gweld pob dosbarthiad math o wres canolog yn y cartref.

Cefndir

Darllenwch am sut y gwnaethom ddatblygu a phrofi'r cwestiynau ar gyfer Cyfrifiad 2021 (yn Saesneg).

Cymharedd â Chyfrifiad 2011

Cymaradwy yn fras

Rydym wedi ychwanegu'r categorïau “Ynni adnewyddadwy (er enghraifft pympiau gwres neu solar thermol)” a “Rhwydweithiau gwres rhanbarthol neu gymunedol”.

Mae'r categori “Nwy” wedi'i rannu yn “Prif gyflenwad nwy” a “Nwy tanc neu botel”. Mae'r categori “Coed (er enghraifft boncyffion, pren gwastraff neu belenni)”, wedi'i wahanu oddi wrth “Tanwydd solet”.

Beth yw ystyr cymaradwy yn fras?

Mae newidyn sy’n gymaradwy yn fras yn golygu y gellir ei gymharu’n gyffredinol â’r un newidyn a ddefnyddiwyd yng Nghyfrifiad 2011. Fodd bynnag, efallai bod newidiadau wedi'u gwneud i'r cwestiwn neu'r opsiynau y gallai pobl ddewis ohonynt neu sut mae atebion ysgrifenedig yn cael eu dosbarthu.

Cymariaethau rhwng Cymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a'r Alban

Cymaradwy yn fras

Nid yw'r newidyn a gynhyrchwyd ar gyfer Cymru, Lloegr a'r Alban yn rhoi manylion pan fydd dau fath o wres canolog neu fwy, felly gellir ei gymharu'n fras â'r newidyn a gynhyrchwyd gan Ogledd Iwerddon.

Beth yw ystyr cymaradwy yn fras?

Mae newidyn sy'n gymaradwy yn fras yn golygu y gall allbynnau o Gyfrifiad 2021 yng Nghymru a Lloegr gael eu cymharu'n gyffredinol â'r Alban a Gogledd Iwerddon. Gall gwahaniaethau o ran y ffordd y cafodd y data eu casglu neu eu cyflwyno olygu bod llai o allu i gysoni allbynnau yn llawn, ond byddem yn disgwyl gallu eu cysoni rywfaint o hyd.

Dysgwch fwy am newidynnau a luniwyd ar gyfer Cyfrifiad 2021 yng Ngogledd Iwerddon (yn Saesneg) a Chyfrifiad 2022 yn yr Alban (yn Saesneg).

Data Cyfrifiad 2021 sy’n defnyddio’r newidyn hwn

Rydym yn defnyddio newidynnau o ddata Cyfrifiad 2021 i ddangos canfyddiadau mewn gwahanol ffyrdd.

Gallwch chi:

Fel arall, gallwch hefyd greu set ddata wedi’i deilwra (yn Saesneg).

Setiau data eraill sy’n defnyddio’r newidyn hwn