Cymhwysedd: Cartref
Math: Deillio newidyn

Trosolwg

Mae gan newidyn math o wres canolog yn y cartref tri o ddosbarthiadau y gellir eu defnyddio wrth ddadansoddi data Cyfrifiad 2021.

Pan gaiff data eu didoli, byddwn yn grwpio categorïau am yr un pwnc gyda'i gilydd. “Dosbarthiad” yw'r enw am grŵp o gategorïau. Mae'n bosibl cael mwy nag un dosbarthiad am yr un pwnc ac mae pob un yn wahanol. Dylech ddewis yr un sydd fwyaf addas ar gyfer eich ymchwil a'ch dadansoddiad.

Dosbarthiad math o wres canolog yn y cartref

Cofair: heating_type

Cyfanswm nifer y categorïau: 13

Cod Enw
1 Dim gwres canolog
2 Prif gyflenwad nwy yn unig
3 Nwy tanc neu botel yn unig
4 Trydan yn unig
5 Olew yn unig
6 Pren yn unig
7 Tanwydd solet yn unig
8 Ynni adnewyddadwy yn unig
9 Rhwydweithiau gwres rhanbarthol neu gymunedol yn unig
10 Gwres canolog arall yn unig
11 Dau neu fwy o fathau o wres canolog (heb gynnwys ynni adnewyddadwy)
12 Dau neu fwy o fathau o wres canolog (gan gynnwys ynni adnewyddadwy)
-9 Ddim yn gymwys

Dosbarthiad 5a math o wres canolog yn y cartref

Cofair: heating_type_5a

Cyfanswm nifer y categorïau: 5

Cod Enw
1 Heb wres canolog
2 Ag un math o wres canolog
3 Dau neu fwy o fathau o wres canolog (heb gynnwys ynni adnewyddadwy)
4 Dau neu fwy o fathau o wres canolog (gan gynnwys ynni adnewyddadwy)
-9 Ddim yn gymwys

Dosbarthiad 3a math o wres canolog yn y cartref

Cofair: heating_type_3a

Cyfanswm nifer y categorïau: 3

Cod Enw
1 Heb wres canolog
2 Â gwres canolog
-9 Ddim yn gymwys