Cofair: hh_tenure
Cymhwysedd: Cartref
Math: Deillio newidyn

Diffiniad

P'un a yw aelodau cartref yn berchen ar y cartref y maent yn byw ynddo neu'n ei rentu.

Gall cartref sy'n eiddo i berchen-feddiannydd gynnwys y canlynol:

  • yn berchen arno’n gyfan gwbl, lle mae'n berchen ar y cartref cyfan
  • yn berchen arno gyda morgais neu fenthyciad
  • yn berchen arno’n rhannol ar gynllun rhanberchnogaeth

Gall cartref sy'n cael ei rentu gynnwys y canlynol:

  • wedi'i rentu'n breifat, er enghraifft, drwy landlord preifat neu asiantaeth gosod
  • wedi'i rentu'n gymdeithasol drwy gyngor lleol neu gymdeithas dai

Nid yw'r wybodaeth hon ar gael ar gyfer lleoedd cartref lle nad oes unrhyw breswylwyr arferol.

Dosbarthiad

Cyfanswm nifer y categorïau: 9

Cod Enw
0 Yn berchen arno: Yn berchen arno’n gyfan gwbl
1 Yn berchen arno: Yn berchen arno gyda morgais neu fenthyciad
2 Cynllun rhanberchnogaeth: Cynllun rhanberchnogaeth
3 Wedi'i rentu'n gymdeithasol: Yn cael ei rentu gan gyngor neu Awdurdod Lleol
4 Wedi'i rentu'n gymdeithasol: Math arall o rentu cymdeithasol
5 Wedi'i rentu'n breifat: Landlord preifat neu asiantaeth gosod tai
6 Wedi'i rentu'n breifat: Math arall o rentu preifat
7 Yn byw yn y cartref heb dalu rhent
-8 Ddim yn gymwys*

*Cartrefi heb unrhyw breswylwyr arferol.

Gweld pob dosbarthiad deiliadaeth y cartref.

Ansawdd gwybodaeth

Mae tystiolaeth bod pobl wedi nodi eu math o landlord fel ”Y cyngor neu'r awdurdod lleol” neu “Gymdeithas dai” yn anghywir. Dylech adio'r ddau gategori hyn gyda'i gilydd wrth ddadansoddi data sy'n defnyddio'r newidyn hwn.

Darllenwch fwy yn ein methodoleg ar wybodaeth am ansawdd data am dai o Gyfrifiad 2021 (yn Saesneg).

Cefndir

Darllenwch am sut y gwnaethom ddatblygu a phrofi'r cwestiynau ar gyfer Cyfrifiad 2021 (yn Saesneg).

Cymharedd â Chyfrifiad 2011

Cymaradwy iawn

Beth yw ystyr cymaradwy iawn?

Mae newidyn sy’n gymaradwy iawn yn golygu y gellir ei gymharu’n uniongyrchol â’r newidyn o Gyfrifiad 2011. Gall y cwestiynau a’r opsiynau y gallai pobl ddewis fod ychydig yn wahanol, er enghraifft efallai bod trefn yr opsiynau wedi’u newid, ond mae’r data a gesglir yr un peth.

Cymariaethau rhwng Cymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a'r Alban

Cymaradwy iawn

Beth yw ystyr cymaradwy iawn?

Mae newidyn sy'n gymaradwy iawn yn golygu y gellir ei gymharu'n uniongyrchol â'r newidyn o'r Alban a Gogledd Iwerddon. Efallai fod y cwestiynau a'r opsiynau y gallai pobl ddewis ohonynt ychydig yn wahanol, er enghraifft gall yr opsiynau fod mewn trefn wahanol, ond mae'r data a gaiff eu casglu yr un peth.

Dysgwch fwy am newidynnau a luniwyd ar gyfer Cyfrifiad 2021 yng Ngogledd Iwerddon (yn Saesneg) a Chyfrifiad 2022 yn yr Alban (yn Saesneg).

Data Cyfrifiad 2021 sy’n defnyddio’r newidyn hwn

Rydym yn defnyddio newidynnau o ddata Cyfrifiad 2021 i ddangos canfyddiadau mewn gwahanol ffyrdd.

Gallwch chi:

Fel arall, gallwch hefyd greu set ddata wedi’i deilwra (yn Saesneg).

Setiau data eraill sy’n defnyddio’r newidyn hwn