Cofair: number_of_cars
Cymhwysedd: Cartref
Math: Newidyn safonol

Diffiniad

Nifer y ceir neu'r faniau sy'n eiddo i aelodau o'r cartref, neu sydd ar gael i'w defnyddio ganddynt.

Cerbydau wedi'u cynnwys:

  • tryciau agored, cerbydau gwersylla a chartrefi modur
  • cerbydau nad ydynt yn gweithio dros dro
  • cerbydau sydd wedi methu eu MOT
  • cerbydau sy'n eiddo i lojer neu'n cael eu defnyddio gan lojer
  • ceir neu faniau cwmni sydd ar gael at ddefnydd preifat

Cerbydau heb eu cynnwys:

  • beiciau modur, treiciau, beiciau cwad neu sgwteri symudedd
  • cerbydau sydd â Hysbysiad Oddi-ar-y-ffordd Statudol (SORN)
  • cerbydau sy'n eiddo i ymwelydd neu'n cael eu defnyddio gan ymwelydd
  • cerbydau a gaiff eu cadw mewn cyfeiriad arall neu na ellir cael gafael arnynt yn hawdd

Mae nifer y ceir neu'r faniau mewn ardal ond yn ymwneud â chartrefi yn unig. Ni chaiff ceir neu faniau a gaiff eu defnyddio gan breswylwyr sefydliadau cymunedol eu cyfrif. Mewn cartrefi sydd â rhwng 10 ac 20 o geir neu faniau, dim ond 10 a gaiff eu cyfrif. Roedd cartrefi â mwy nag 20 o geir neu faniau yn cael eu trin fel ymatebion annilys a chafodd gwerth ei briodoli.

Dosbarthiad

Cyfanswm nifer y categorïau: 5

Cod Enw
0 Dim ceir na faniau yn y cartref
1 1 car neu fan yn y cartref
2 2 gar neu fan yn y cartref
3 3 neu fwy o geir neu faniau yn y cartref
-8 Ddim yn gymwys*

*Cartrefi heb unrhyw breswylwyr arferol.

Gweld pob dosbarthiad nifer y ceir neu'r faniau.

Cwestiwn a ofynnwyd

Sawl car neu fan sy’n eiddo i aelodau o’r cartref hwn, neu sydd ar gael i’w defnyddio ganddynt?

  • Dim un
  • 1
  • 2
  • 3
  • 4
  • 5 neu fwy, nodwch y nifer

Yng Nghyfrifiad 2021, ychwanegwyd "5 neu fwy" fel opsiwn ychwanegol y gallai pobl ei ddewis.

Cefndir

Darllenwch am sut y gwnaethom ddatblygu a phrofi'r cwestiynau ar gyfer Cyfrifiad 2021 (yn Saesneg).

Pam rydym ni’n gofyn y cwestiwn hwn

Mae'r ateb yn helpu cymunedau drwy alluogi llywodraeth leol a chanolog i wneud penderfyniadau am gynllunio trafnidiaeth. Maent yn defnyddio'r wybodaeth hon i ragweld lefelau traffig a chynllunio ble y gall fod angen ffyrdd newydd neu opsiynau trafnidiaeth eraill.

Mae'r wybodaeth hon yn helpu i ddarparu trafnidiaeth a gwasanaethau hygyrch, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig.

Gall awdurdodau baru gwybodaeth am bobl sydd heb gar â gwybodaeth am bobl ag anableddau. Mae hyn yn dangos ym mha ardaloedd y gall fod angen mwy o gyllid ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus.

Dechreuodd y cyfrifiad ofyn y cwestiwn hwn yn 1971.

Cymharedd â Chyfrifiad 2011

Cymaradwy iawn

Beth yw ystyr cymaradwy iawn?

Mae newidyn sy’n gymaradwy iawn yn golygu y gellir ei gymharu’n uniongyrchol â’r newidyn o Gyfrifiad 2011. Gall y cwestiynau a’r opsiynau y gallai pobl ddewis fod ychydig yn wahanol, er enghraifft efallai bod trefn yr opsiynau wedi’u newid, ond mae’r data a gesglir yr un peth.

Cymariaethau rhwng Cymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a'r Alban

Cymaradwy iawn

Beth yw ystyr cymaradwy iawn?

Mae newidyn sy'n gymaradwy iawn yn golygu y gellir ei gymharu'n uniongyrchol â'r newidyn o'r Alban a Gogledd Iwerddon. Efallai fod y cwestiynau a'r opsiynau y gallai pobl ddewis ohonynt ychydig yn wahanol, er enghraifft gall yr opsiynau fod mewn trefn wahanol, ond mae'r data a gaiff eu casglu yr un peth.

Dysgwch fwy am newidynnau a luniwyd ar gyfer Cyfrifiad 2021 yng Ngogledd Iwerddon (yn Saesneg) a Chyfrifiad 2022 yn yr Alban (yn Saesneg).

Data Cyfrifiad 2021 sy’n defnyddio’r newidyn hwn

Rydym yn defnyddio newidynnau o ddata Cyfrifiad 2021 i ddangos canfyddiadau mewn gwahanol ffyrdd.

Gallwch chi:

Fel arall, gallwch hefyd greu set ddata wedi’i deilwra (yn Saesneg).

Setiau data eraill sy’n defnyddio’r newidyn hwn