Cofair: accommodation_type
Cymhwysedd: Cartref
Math: Newidyn safonol

Diffiniad

Y math o adeilad neu gartref a gaiff ei ddefnyddio neu sydd ar gael i unigolyn neu gartref.

Gallai hyn gynnwys:

  • tŷ neu fyngalo cyfan
  • Fflatiau a maisonettes
  • cartref symudol neu dros dro, fel carafán

Mwy o wybodaeth am fathau o gartrefi

Tŷ neu fyngalo cyfan: Nid yw'r math hwn o eiddo wedi'i rannu yn fflatiau nac yn fan arall lle mae rhywun yn byw. Mae tri math o dŷ neu fyngalo cyfan.

Adeilad ar wahân: Nid oes unrhyw ran o'r man lle mae rhywun yn byw ynghlwm wrth eiddo arall ond gall fod ynghlwm wrth garej.

Tŷ neu fyngalo semi: Mae'r man lle mae rhywun yn byw ynghlwm wrth dŷ neu fyngalo arall ac yn rhannu wal gyffredin.

Tŷ neu fyngalo mewn teras: Mae tŷ yng nghanol teras rhwng dau dŷ arall ac yn rhannu dwy wal gyffredin. Mae tŷ ar ben teras yn rhan o ddatblygiad teras ond dim ond un wal gyffredin a rennir.

Fflatiau a maisonettes: Fflat â dau lawr yw maisonette.

Dosbarthiad

Cyfanswm nifer y categorïau: 8

Cod Enw
1 Adeilad ar wahân
2 Tŷ neu fyngalo semi
3 Tŷ neu fyngalo mewn teras
4 Mewn bloc o fflatiau neu denement a adeiladwyd yn bwrpasol
5 Yn rhan o dŷ wedi’i addasu neu dŷ sy’n cael ei rannu, gan gynnwys fflatiau un ystafell
6 Yn rhan o adeilad arall wedi’i addasu, er enghraifft, hen ysgol, eglwys neu warws
7 Mewn adeilad masnachol, er enghraifft, mewn adeilad o swyddfeydd, gwesty, neu uwchben siop
8 Carafán neu fath arall o gartref symudol neu dros dro

Gweld pob dosbarthiad math o gartref.

Ansawdd gwybodaeth

Rydym wedi gwneud newidiadau i ddiffiniadau tai ers Cyfrifiad 2021. Cymerwch ofal os byddwch yn cymharu canlyniadau Cyfrifiad 2021 â chanlyniadau Cyfrifiad 2011 ar gyfer y pwnc hwn.

Darllenwch fwy yn ein methodoleg ar wybodaeth am ansawdd data am dai o Gyfrifiad 2021 (yn Saesneg).

Cwestiwn a ofynnwyd

Pa fath o gartref yw hwn?

Tŷ neu fyngalo cyfan sydd:

  • yn adeilad ar wahân
  • yn dŷ neu fyngalo semi
  • mewn teras (gan gynnwys ar y pen)

Fflat neu maisonette sydd:

  • mewn bloc o fflatiau neu denement a adeiladwyd yn bwrpasol
  • yn rhan o dŷ wedi’i addasu neu o dŷ sy’n cael ei rannu (gan gynnwys fflatiau un ystafell)
  • yn rhan o adeilad arall wedi’i addasu (er enghraifft, hen ysgol, eglwys neu warws)
  • mewn adeilad masnachol (er enghraifft, mewn adeilad o swyddfeydd, gwesty, neu uwchben siop)

Cartref symudol neu dros dro:

  • Carafán neu fath arall o gartref symudol neu dros dro

Yng Nghyfrifiad 2021, roedd yr opsiynau y gallai pobl ddewis ohonynt sy'n disgrifio fflat neu maisonette sydd “mewn bloc o fflatiau neu denement a adeiladwyd yn bwrpasol” wedi'u cynnwys mewn bloc o bedwar.

Cefndir

Darllenwch am sut y gwnaethom ddatblygu a phrofi'r cwestiynau ar gyfer Cyfrifiad 2021 (yn Saesneg).

Pam rydym ni’n gofyn y cwestiwn hwn

Mae'r ateb yn helpu cymunedau drwy alluogi awdurdodau lleol, cynllunwyr a darparwyr tai i ddeall pa fathau o dai sydd ar gael yn eu hardal. Gallant ddefnyddio'r wybodaeth hon i benderfynu pa fath o dai fydd ei angen ar bobl yn y dyfodol.

Dechreuodd y cyfrifiad ofyn y cwestiwn hwn yn 1981.

Cymharedd â Chyfrifiad 2011

Cymaradwy yn fras

Rydym wedi ychwanegu categori arall sef “yn rhan o adeilad arall wedi’i addasu (er enghraifft hen ysgol, eglwys neu warws)”. Mae hyn yn golygu bod rhai newidiadau i'r ffordd y gwnaeth pobl a oedd yn byw mewn fflatiau ateb y cwestiwn wrth gymharu'r newidyn hwn â'r un yng Nghyfrifiad 2011.

Beth yw ystyr cymaradwy yn fras?

Mae newidyn sy’n gymaradwy yn fras yn golygu y gellir ei gymharu’n gyffredinol â’r un newidyn a ddefnyddiwyd yng Nghyfrifiad 2011. Fodd bynnag, efallai bod newidiadau wedi'u gwneud i'r cwestiwn neu'r opsiynau y gallai pobl ddewis ohonynt neu sut mae atebion ysgrifenedig yn cael eu dosbarthu.

Cymariaethau rhwng Cymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a'r Alban

Cymaradwy yn fras

Mae'r newidyn a gynhyrchwyd ar gyfer Cymru a Lloegr yn rhoi rhagor o fanylion am y math o gartref o gymharu â'r newidynnau a gynhyrchwyd gan yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Beth yw ystyr cymaradwy yn fras?

Mae newidyn sy'n gymaradwy yn fras yn golygu y gall allbynnau o Gyfrifiad 2021 yng Nghymru a Lloegr gael eu cymharu'n gyffredinol â'r Alban a Gogledd Iwerddon. Gall gwahaniaethau o ran y ffordd y cafodd y data eu casglu neu eu cyflwyno olygu bod llai o allu i gysoni allbynnau yn llawn, ond byddem yn disgwyl gallu eu cysoni rywfaint o hyd.

Dysgwch fwy am newidynnau a luniwyd ar gyfer Cyfrifiad 2021 yng Ngogledd Iwerddon (yn Saesneg) a Chyfrifiad 2022 yn yr Alban (yn Saesneg).

Data Cyfrifiad 2021 sy’n defnyddio’r newidyn hwn

Rydym yn defnyddio newidynnau o ddata Cyfrifiad 2021 i ddangos canfyddiadau mewn gwahanol ffyrdd.

Gallwch chi:

Fel arall, gallwch hefyd greu set ddata wedi’i deilwra (yn Saesneg).

Setiau data eraill sy’n defnyddio’r newidyn hwn