Cymhwysedd: Cartref
Math: Newidyn safonol

Trosolwg

Mae gan newidyn math o gartref pump o ddosbarthiadau y gellir eu defnyddio wrth ddadansoddi data Cyfrifiad 2021.

Pan gaiff data eu didoli, byddwn yn grwpio categorïau am yr un pwnc gyda'i gilydd. “Dosbarthiad” yw'r enw am grŵp o gategorïau. Mae'n bosibl cael mwy nag un dosbarthiad am yr un pwnc ac mae pob un yn wahanol. Dylech ddewis yr un sydd fwyaf addas ar gyfer eich ymchwil a'ch dadansoddiad.

Dosbarthiad math o gartref

Cofair: accommodation_type

Cyfanswm nifer y categorïau: 8

Cod Enw
1 Adeilad ar wahân
2 Tŷ neu fyngalo semi
3 Tŷ neu fyngalo mewn teras
4 Mewn bloc o fflatiau neu denement a adeiladwyd yn bwrpasol
5 Yn rhan o dŷ wedi’i addasu neu dŷ sy’n cael ei rannu, gan gynnwys fflatiau un ystafell
6 Yn rhan o adeilad arall wedi’i addasu, er enghraifft, hen ysgol, eglwys neu warws
7 Mewn adeilad masnachol, er enghraifft, mewn adeilad o swyddfeydd, gwesty, neu uwchben siop
8 Carafán neu fath arall o gartref symudol neu dros dro

Dosbarthiad 7a math o gartref

Cofair: accommodation_type_7a

Cyfanswm nifer y categorïau: 7

Cod Enw
1 Tŷ neu fyngalo cyfan: Adeilad ar wahân
2 Tŷ neu fyngalo cyfan: Tŷ neu fyngalo semi
3 Tŷ neu fyngalo cyfan: Tŷ neu fyngalo mewn teras
4 Arall: Fflat neu maisonette: Mewn bloc o fflatiau neu denement a adeiladwyd yn bwrpasol
5 Arall: Fflat neu maisonette: Yn rhan o adeilad wedi’i addasu neu dŷ wedi'i rannu neu adeilad arall, gan gynnwys fflatiau un ystafell, er enghraifft, hen ysgol, eglwys neu warws
6 Arall: Fflat neu maisonette: Mewn adeilad masnachol, er enghraifft, mewn adeilad o swyddfeydd, gwesty, neu uwchben siop
7 Carafán neu fath arall o gartref symudol neu dros dro

Dosbarthiad 5a math o gartref

Cofair: accommodation_type_5a

Cyfanswm nifer y categorïau: 5

Cod Enw
1 Tŷ neu fyngalo cyfan: Adeilad ar wahân
2 Tŷ neu fyngalo cyfan: Tŷ neu fyngalo semi
3 Tŷ neu fyngalo cyfan: Tŷ neu fyngalo mewn teras
4 Fflat neu maisonette
5 Carafán neu fath arall o gartref symudol neu dros dro

Dosbarthiad 3a math o gartref

Cofair: accommodation_type_3a

Cyfanswm nifer y categorïau: 3

Cod Enw
1 Tŷ neu fyngalo cyfan
2 Fflat neu maisonette
3 Carafán neu fath arall o gartref symudol neu dros dro

Dosbarthiad 2a math o gartref

Cofair: accommodation_type_2a

Cyfanswm nifer y categorïau: 2

Cod Enw
1 Tŷ neu fyngalo cyfan
2 Fflat, maisonette, carafán neu fath arall o gartref symudol neu dros dro