Cofair: is_carer
Cymhwysedd: Person
Math: Newidyn safonol

Diffiniad

Gall gofalwr di-dâl ofalu am unrhyw un, cynnig help neu gefnogaeth i unrhyw un sydd â chyflwr neu salwch corfforol neu feddyliol hirdymor, neu broblemau sy’n gysylltiedig â henaint.

Nid yw hyn yn cynnwys unrhyw weithgareddau fel rhan o waith â thâl.

Gall yr help hwn fod yng nghartref y gofalwr neu'r tu allan iddo.

Dosbarthiad

Cyfanswm nifer y categorïau: 7

Cod Enw
1 Ddim yn darparu unrhyw ofal di-dâl
2 Yn darparu 9 awr neu lai o ofal di-dâl yr wythnos
3 Yn darparu 10 i 19 awr o ofal di-dâl yr wythnos
4 Yn darparu 20 i 34 awr o ofal di-dâl yr wythnos
5 Yn darparu 35 i 49 awr o ofal di-dâl yr wythnos
6 Yn darparu 50 neu fwy o oriau o ofal di-dâl yr wythnos
-8 Ddim yn gymwys*

*Myfyrwyr a phlant ysgol sy’n byw i ffwrdd o'r cartref yn ystod y tymor, a phlant 4 oed neu'n iau.

Gweld pob dosbarthiad darparu gofal di-dâl.

Ansawdd gwybodaeth

Ni wnaethom ofyn i bobl o dan 5 oed a oeddent yn darparu gofal di-dâl, felly mae’r newidyn hwn yn cyfrif preswylwyr arferol 5 oed a throsodd.

Darllenwch fwy yn ein methodoleg ar wybodaeth am ansawdd data am iechyd, anabledd a gofal di-dâl o Gyfrifiad 2021 (yn Saesneg).

Cwestiwn a ofynnwyd

Ydych chi’n gofalu am unrhyw un, neu’n cynnig unrhyw help neu gefnogaeth i unrhyw un, oherwydd cyflwr neu salwch corfforol neu feddyliol hir dymor, neu broblemau sy’n gysylltiedig â henaint?

  • Nac ydw
  • Ydw, 9 awr neu lai yr wythnos
  • Ydw, 10 i 19 awr yr wythnos
  • Ydw, 20 i 34 awr yr wythnos
  • Ydw, 35 i 49 awr yr wythnos
  • Ydw, 50 awr neu fwy yr wythnos

Yng Nghyfrifiad 2021, roedd y rhestr o opsiynau y gallai pobl ddewis ohonynt yn cynnwys dau opsiwn ychwanegol er mwyn rhannu nifer yr oriau yr wythnos y mae rhywun yn darparu gofal.

Cefndir

Darllenwch am sut y gwnaethom ddatblygu a phrofi'r cwestiynau ar gyfer Cyfrifiad 2021 (yn Saesneg).

Pam rydym ni’n gofyn y cwestiwn hwn

Mae'r ateb yn helpu cymunedau drwy roi dealltwriaeth well i awdurdodau lleol o anghenion gofalwyr yn eu hardal. Mae gwybodaeth am bobl sy'n darparu gofal di-dâl yn arwydd pwysig o anghenion gofal a gall effeithio ar y ffordd mae cyrff cyhoeddus yn darparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn eu hardal.

Mae'r ateb hefyd yn helpu'r GIG a gwasanaethau cymdeithasol i gyflawni eu cyfrifoldebau cyfreithiol. Mae'r rhain yn cynnwys nodi gofalwyr a darparu gwasanaethau a chyngor iddynt.

Mae'r wybodaeth hon yn rhoi syniad o'r effaith ar wasanaethau gofal cymdeithasol pe na bai gofalwyr di-dâl ar gael. Mae cyrff cyhoeddus yn defnyddio'r wybodaeth, gyda mesurau iechyd eraill, i nodi anghydraddoldebau ac anghenion lleol.

Mae'r ateb yn helpu i benderfynu pa gyllid mae'r llywodraeth yn ei roi i awdurdodau lleol drwy'r grant gofalwyr.

Dechreuodd y cyfrifiad ofyn y cwestiwn hwn yn 2001.

Cymharedd â Chyfrifiad 2011

Cymaradwy yn fras

Os byddwch yn defnyddio'r newidyn hwn i gymharu â'r un un a ddefnyddiwyd yng Nghyfrifiad 2011, gallwch gyfuno'r categorïau “9 awr neu lai” â “10 i 19 awr” a “20 i 34 awr” â “35 i 49 awr”.

Mae cyfuno'r categorïau “9 awr neu lai” a “10 i 19 awr” yn golygu nad yw hyn yn cyd-fynd yn union â newidyn Cyfrifiad 2011 oedd â chategori “1 - 19 awr”. Gellir ei ddefnyddio wrth gymharu â data o Gyfrifiad 2011 o hyd ond bydd gwahaniaeth o un awr o ofal.

Beth yw ystyr cymaradwy yn fras?

Mae newidyn sy’n gymaradwy yn fras yn golygu y gellir ei gymharu’n gyffredinol â’r un newidyn a ddefnyddiwyd yng Nghyfrifiad 2011. Fodd bynnag, efallai bod newidiadau wedi'u gwneud i'r cwestiwn neu'r opsiynau y gallai pobl ddewis ohonynt neu sut mae atebion ysgrifenedig yn cael eu dosbarthu.

Cymariaethau rhwng Cymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a'r Alban

Cymaradwy iawn

Beth yw ystyr cymaradwy iawn?

Mae newidyn sy'n gymaradwy iawn yn golygu y gellir ei gymharu'n uniongyrchol â'r newidyn o'r Alban a Gogledd Iwerddon. Efallai fod y cwestiynau a'r opsiynau y gallai pobl ddewis ohonynt ychydig yn wahanol, er enghraifft gall yr opsiynau fod mewn trefn wahanol, ond mae'r data a gaiff eu casglu yr un peth.

Dysgwch fwy am newidynnau a luniwyd ar gyfer Cyfrifiad 2021 yng Ngogledd Iwerddon (yn Saesneg) a Chyfrifiad 2022 yn yr Alban (yn Saesneg).

Data Cyfrifiad 2021 sy’n defnyddio’r newidyn hwn

Rydym yn defnyddio newidynnau o ddata Cyfrifiad 2021 i ddangos canfyddiadau mewn gwahanol ffyrdd.

Gallwch chi:

Fel arall, gallwch hefyd greu set ddata wedi’i deilwra (yn Saesneg).

Setiau data eraill sy’n defnyddio’r newidyn hwn