Cymhwysedd: Person
Math: Newidyn safonol

Trosolwg

Mae gan newidyn darparu gofal di-dâl tri o ddosbarthiadau y gellir eu defnyddio wrth ddadansoddi data Cyfrifiad 2021.

Pan gaiff data eu didoli, byddwn yn grwpio categorïau am yr un pwnc gyda'i gilydd. “Dosbarthiad” yw'r enw am grŵp o gategorïau. Mae'n bosibl cael mwy nag un dosbarthiad am yr un pwnc ac mae pob un yn wahanol. Dylech ddewis yr un sydd fwyaf addas ar gyfer eich ymchwil a'ch dadansoddiad.

Dosbarthiad darparu gofal di-dâl

Cofair: is_carer

Cyfanswm nifer y categorïau: 7

Cod Enw
1 Ddim yn darparu unrhyw ofal di-dâl
2 Yn darparu 9 awr neu lai o ofal di-dâl yr wythnos
3 Yn darparu 10 i 19 awr o ofal di-dâl yr wythnos
4 Yn darparu 20 i 34 awr o ofal di-dâl yr wythnos
5 Yn darparu 35 i 49 awr o ofal di-dâl yr wythnos
6 Yn darparu 50 neu fwy o oriau o ofal di-dâl yr wythnos
-8 Ddim yn gymwys*

*Myfyrwyr a phlant ysgol sy’n byw i ffwrdd o'r cartref yn ystod y tymor, a phlant 4 oed neu'n iau.

Dosbarthiad 5a darparu gofal di-dâl

Cofair: is_carer_5a

Cyfanswm nifer y categorïau: 5

Cod Enw
1 Ddim yn darparu unrhyw ofal di-dâl
2 Yn darparu 19 neu lai o oriau o ofal di-dâl yr wythnos
3 Yn darparu 20 i 49 awr o ofal di-dâl yr wythnos
4 Yn darparu 50 neu fwy o oriau o ofal di-dâl yr wythnos
-8 Ddim yn gymwys*

*Myfyrwyr a phlant ysgol sy’n byw i ffwrdd o'r cartref yn ystod y tymor, a phlant 4 oed neu'n iau.

Dosbarthiad 3a darparu gofal di-dâl

Cofair: is_carer_3a

Cyfanswm nifer y categorïau: 3

Cod Enw
1 Yn darparu unrhyw ofal di-dâl
2 Ddim yn darparu unrhyw ofal di-dâl
-8 Ddim yn gymwys*

*Myfyrwyr a phlant ysgol sy’n byw i ffwrdd o'r cartref yn ystod y tymor, a phlant 4 oed neu'n iau.