Cofair: health_in_general
Cymhwysedd: Person
Math: Newidyn safonol

Diffiniad

Asesiad person o gyflwr ei iechyd yn gyffredinol, o ‘da iawn’ i ‘gwael iawn’. Nid yw'r asesiad hwn yn seiliedig ar iechyd person dros unrhyw gyfnod o amser penodedig.

Dosbarthiad

Cyfanswm nifer y categorïau: 6

Cod Enw
1 Iechyd da iawn
2 Iechyd da
3 Iechyd gweddol
4 Iechyd gwael
5 Iechyd gwael iawn
-8 Ddim yn gymwys*

*Myfyrwyr a phlant ysgol sy’n byw i ffwrdd o'r cartref yn ystod y tymor.

Gweld pob dosbarthiad iechyd cyffredinol.

Cwestiwn a ofynnwyd

Sut mae eich iechyd yn gyffredinol?

  • Da iawn
  • Da
  • Gweddol
  • Gwael
  • Gwael iawn

Roedd y cwestiwn a'r opsiynau y gallai pobl ddewis ohonynt yr un peth yng Nghyfrifiad 2021 ac yng Nghyfrifiad 2011.

Cefndir

Darllenwch am sut y gwnaethom ddatblygu a phrofi'r cwestiynau ar gyfer Cyfrifiad 2021 (yn Saesneg).

Pam rydym ni’n gofyn y cwestiwn hwn

Mae’r ateb yn helpu cymunedau drwy alluogi awdurdodau lleol i ddeall anghenion iechyd y bobl yn eu hardal. Er enghraifft, os bydd person yn teimlo bod ganddo iechyd gwael, mae'n bosibl y bydd yn fwy tebygol o ddefnyddio gwasanaethau'r GIG yn y dyfodol. Gall awdurdodau lleol ddefnyddio'r wybodaeth hon i helpu i benderfynu pa wasanaethau ac adnoddau sydd eu hangen ar y bobl yn eu cymuned.

Gall y wybodaeth hon helpu i ddatblygu a monitro polisïau sy'n effeithio ar y ffordd mae cyrff cyhoeddus yn darparu gofal iechyd ac anelu at leihau anghydraddoldebau iechyd. Bydd yn helpu cyrff cyhoeddus i fesur cynnydd tuag at eu nod o wella iechyd cyffredinol y bobl yn eu hardal a gweddill y Deyrnas Unedig.

Dechreuodd y cyfrifiad ofyn y cwestiwn hwn yn 2001.

Cymharedd â Chyfrifiad 2011

Cymaradwy iawn

Beth yw ystyr cymaradwy iawn?

Mae newidyn sy’n gymaradwy iawn yn golygu y gellir ei gymharu’n uniongyrchol â’r newidyn o Gyfrifiad 2011. Gall y cwestiynau a’r opsiynau y gallai pobl ddewis fod ychydig yn wahanol, er enghraifft efallai bod trefn yr opsiynau wedi’u newid, ond mae’r data a gesglir yr un peth.

Cymariaethau rhwng Cymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a'r Alban

Cymaradwy iawn

Beth yw ystyr cymaradwy iawn?

Mae newidyn sy'n gymaradwy iawn yn golygu y gellir ei gymharu'n uniongyrchol â'r newidyn o'r Alban a Gogledd Iwerddon. Efallai fod y cwestiynau a'r opsiynau y gallai pobl ddewis ohonynt ychydig yn wahanol, er enghraifft gall yr opsiynau fod mewn trefn wahanol, ond mae'r data a gaiff eu casglu yr un peth.

Dysgwch fwy am newidynnau a luniwyd ar gyfer Cyfrifiad 2021 yng Ngogledd Iwerddon (yn Saesneg) a Chyfrifiad 2022 yn yr Alban (yn Saesneg).

Data Cyfrifiad 2021 sy’n defnyddio’r newidyn hwn

Rydym yn defnyddio newidynnau o ddata Cyfrifiad 2021 i ddangos canfyddiadau mewn gwahanol ffyrdd.

Gallwch chi:

Fel arall, gallwch hefyd greu set ddata wedi’i deilwra (yn Saesneg).

Setiau data eraill sy’n defnyddio’r newidyn hwn