Cofair: disability
Cymhwysedd: Person
Math: Newidyn safonol

Diffiniad

Caiff pobl a asesodd fod cyflwr neu salwch corfforol neu feddyliol hirdymor yn cyfyngu ar eu gweithgareddau pob dydd eu hystyried yn anabl. Mae'r diffiniad hwn o berson anabl yn cyrraedd y safon wedi'i chysoni ar gyfer mesur anabledd ac mae'n unol â'r Ddeddf Cydraddoldeb (2010).

Dosbarthiad

Cyfanswm nifer y categorïau: 5

Cod Enw
1 Yn anabl o dan y Ddeddf Cydraddoldeb: Gweithgareddau o ddydd i ddydd wedi'u cyfyngu llawer
2 Yn anabl o dan y Ddeddf Cydraddoldeb: Gweithgareddau o ddydd i ddydd wedi'u cyfyngu ychydig
3 Ddim yn anabl o dan y Ddeddf Cydraddoldeb: Â chyflwr iechyd meddwl neu iechyd corfforol hirdymor ond ni chyfyngir ar weithgareddau o ddydd i ddydd
4 Ddim yn anabl o dan y Ddeddf Cydraddoldeb: Dim cyflyrau iechyd meddwl nac iechyd corfforol hirdymor
-8 Ddim yn gymwys*

*Myfyrwyr a phlant ysgol sy’n byw i ffwrdd o'r cartref yn ystod y tymor.

Gweld pob dosbarthiad anabledd.

Cwestiwn a ofynnwyd

Oes gennych chi gyflwr neu salwch corfforol neu feddyliol sydd wedi para neu sy’n debygol o bara 12 mis neu fwy?

  • Oes
  • Nac oes

I'r bobl a ddewisodd "Oes" i'r cwestiwn hwn, gofynnwyd y cwestiwn canlynol:

Ydy unrhyw gyflwr neu salwch sydd gennych chi’n lleihau eich gallu i wneud gweithgareddau pob dydd?

  • Ydy, yn fawr
  • Ydy, ychydig
  • Ddim o gwbl

Yng Nghyfrifiad 2021, cafodd y cwestiwn ei rannu'n ddwy ran. Yng Nghyfrifiad 2011, gofynnwyd i bobl a oedd ganddynt broblem iechyd neu anabledd, ond ni ofynnwyd iddynt a oedd ganddynt unrhyw gyflwr neu salwch corfforol neu feddyliol a barodd neu y disgwylir iddynt bara 12 mis neu fwy.

Cefndir

Darllenwch am sut y gwnaethom ddatblygu a phrofi'r cwestiynau ar gyfer Cyfrifiad 2021 (yn Saesneg).

Pam rydym ni’n gofyn y cwestiwn hwn

Mae'r ateb yn helpu cymunedau drwy alluogi awdurdodau lleol i ddeall anghenion iechyd y bobl yn eu hardal nawr ac yn y dyfodol. Er enghraifft, mae'n debygol y bydd angen mwy o gymorth gan y GIG ar bobl sydd â chyflyrau iechyd hirdymor. Drwy fesur cyflyrau hirdymor, gall awdurdodau lleol weld sut y bydd pobl yn defnyddio'r GIG yn y dyfodol. Yna gallant wneud cynlluniau i neilltuo adnoddau a darparu'r gwasanaethau cywir ar gyfer cymunedau.

Mae'r wybodaeth hon hefyd yn helpu i ddatblygu a monitro polisïau i wneud yn siŵr bod pawb yn cael eu trin yn deg. Mae'r polisïau hyn yn effeithio ar y ffordd mae cyrff cyhoeddus yn darparu gofal iechyd ac anelu at leihau anghydraddoldebau. Maent hefyd yn helpu o ran gweithio tuag at wella iechyd cyffredinol y bobl yn eu hardal a gweddill Cymru a Lloegr.

Dechreuodd y cyfrifiad ofyn cwestiwn am anabledd yn 1991.

Cymharedd â Chyfrifiad 2011

Cymaradwy yn fras

Cafodd y cwestiwn sy'n ymwneud â'r newidyn hwn ei rannu'n ddwy ran ar gyfer Cyfrifiad 2021. Yng Nghyfrifiad 2021, gwnaethom ofyn i bobl a oedd yn cwblhau'r holiadur a oedd ganddynt unrhyw gyflwr neu salwch corfforol neu feddyliol. Yng Nghyfrifiad 2011, gofynnwyd i bobl a oedd ganddynt broblem iechyd neu anabledd. Gwnaethom hefyd ddileu'r opsiwn i gynnwys gwybodaeth am broblemau sy’n gysylltiedig â henaint.

Beth yw ystyr cymaradwy yn fras?

Mae newidyn sy’n gymaradwy yn fras yn golygu y gellir ei gymharu’n gyffredinol â’r un newidyn a ddefnyddiwyd yng Nghyfrifiad 2011. Fodd bynnag, efallai bod newidiadau wedi'u gwneud i'r cwestiwn neu'r opsiynau y gallai pobl ddewis ohonynt neu sut mae atebion ysgrifenedig yn cael eu dosbarthu.

Cymariaethau rhwng Cymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a'r Alban

Ddim yn gymaradwy

Mae'r newidyn ar gyfer Cymru a Lloegr yn rhoi gwybodaeth wahanol am statws anabledd person, ac ni ellir ei gymharu â'r newidynnau a gynhyrchwyd gan yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Beth yw ystyr ddim yn gymaradwy?

Mae newidyn nad yw'n gymaradwy (neu sydd ‘ddim yn gymaradwy’) yn golygu na ellir ei gymharu ar gyfer Cymru, Lloegr, yr Alban na Gogledd Iwerddon.

Dysgwch fwy am newidynnau a luniwyd ar gyfer Cyfrifiad 2021 yng Ngogledd Iwerddon (yn Saesneg) a Chyfrifiad 2022 yn yr Alban (yn Saesneg).

Data Cyfrifiad 2021 sy’n defnyddio’r newidyn hwn

Rydym yn defnyddio newidynnau o ddata Cyfrifiad 2021 i ddangos canfyddiadau mewn gwahanol ffyrdd.

Gallwch chi:

Fel arall, gallwch hefyd greu set ddata wedi’i deilwra (yn Saesneg).

Setiau data eraill sy’n defnyddio’r newidyn hwn