Cymhwysedd: Person
Math: Newidyn safonol

Trosolwg

Mae gan newidyn anabledd tri o ddosbarthiadau y gellir eu defnyddio wrth ddadansoddi data Cyfrifiad 2021.

Pan gaiff data eu didoli, byddwn yn grwpio categorïau am yr un pwnc gyda'i gilydd. “Dosbarthiad” yw'r enw am grŵp o gategorïau. Mae'n bosibl cael mwy nag un dosbarthiad am yr un pwnc ac mae pob un yn wahanol. Dylech ddewis yr un sydd fwyaf addas ar gyfer eich ymchwil a'ch dadansoddiad.

Dosbarthiad anabledd

Cofair: disability

Cyfanswm nifer y categorïau: 5

Cod Enw
1 Yn anabl o dan y Ddeddf Cydraddoldeb: Gweithgareddau o ddydd i ddydd wedi'u cyfyngu llawer
2 Yn anabl o dan y Ddeddf Cydraddoldeb: Gweithgareddau o ddydd i ddydd wedi'u cyfyngu ychydig
3 Ddim yn anabl o dan y Ddeddf Cydraddoldeb: Â chyflwr iechyd meddwl neu iechyd corfforol hirdymor ond ni chyfyngir ar weithgareddau o ddydd i ddydd
4 Ddim yn anabl o dan y Ddeddf Cydraddoldeb: Dim cyflyrau iechyd meddwl nac iechyd corfforol hirdymor
-8 Ddim yn gymwys*

*Myfyrwyr a phlant ysgol sy’n byw i ffwrdd o'r cartref yn ystod y tymor.

Dosbarthiad 4a anabledd

Cofair: disability_4a

Cyfanswm nifer y categorïau: 4

Cod Enw
1 Yn anabl o dan y Ddeddf Cydraddoldeb: Gweithgareddau o ddydd i ddydd wedi'u cyfyngu llawer
2 Yn anabl o dan y Ddeddf Cydraddoldeb: Gweithgareddau o ddydd i ddydd wedi'u cyfyngu ychydig
3 Ddim yn anabl o dan y Ddeddf Cydraddoldeb
-8 Ddim yn gymwys*

*Myfyrwyr a phlant ysgol sy’n byw i ffwrdd o'r cartref yn ystod y tymor.

Dosbarthiad 3a anabledd

Cofair: disability_3a

Cyfanswm nifer y categorïau: 3

Cod Enw
1 Yn anabl o dan y Ddeddf Cydraddoldeb
2 Ddim yn anabl o dan y Ddeddf Cydraddoldeb
-8 Ddim yn gymwys*

*Myfyrwyr a phlant ysgol sy’n byw i ffwrdd o'r cartref yn ystod y tymor.