Cofair: english_proficiency
Cymhwysedd: Cartref
Math: Deillio newidyn

Diffiniad

Pa mor dda y mae pobl nad Saesneg (Cymraeg neu Saesneg yng Nghymru) yw eu prif iaith yn siarad Saesneg.

Dosbarthiad

Cyfanswm nifer y categorïau: 6

Cod Enw
1 Y brif iaith yw Cymraeg neu Saesneg
2 Nid Cymraeg na Saesneg yw'r brif iaith: Yn gallu siarad Saesneg yn dda iawn
3 Nid Cymraeg na Saesneg yw'r brif iaith: Yn gallu siarad Saesneg yn dda
4 Nid Cymraeg na Saesneg yw'r brif iaith: Yn methu â siarad Saesneg yn dda
5 Nid Cymraeg na Saesneg yw'r brif iaith: Yn methu â siarad Saesneg
-8 Ddim yn gymwys*

*Myfyrwyr a phlant ysgol sy’n byw i ffwrdd o'r cartref yn ystod y tymor, a phlant 2 oed neu'n iau.

Gweld pob dosbarthiad hyfedredd yn yr iaith Saesneg.

Cefndir

Darllenwch am sut y gwnaethom ddatblygu a phrofi'r cwestiynau ar gyfer Cyfrifiad 2021 (yn Saesneg).

Cymharedd â Chyfrifiad 2011

Cymaradwy iawn

Beth yw ystyr cymaradwy iawn?

Mae newidyn sy’n gymaradwy iawn yn golygu y gellir ei gymharu’n uniongyrchol â’r newidyn o Gyfrifiad 2011. Gall y cwestiynau a’r opsiynau y gallai pobl ddewis fod ychydig yn wahanol, er enghraifft efallai bod trefn yr opsiynau wedi’u newid, ond mae’r data a gesglir yr un peth.

Cymariaethau rhwng Cymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a'r Alban

Ddim yn gymaradwy

Nid yw'r newidyn hwn yn gymaradwy am nad yw'r data ar gael ar gyfer pob gwlad.

Beth yw ystyr ddim yn gymaradwy?

Mae newidyn nad yw'n gymaradwy (neu sydd ‘ddim yn gymaradwy’) yn golygu na ellir ei gymharu ar gyfer Cymru, Lloegr, yr Alban na Gogledd Iwerddon.

Dysgwch fwy am newidynnau a luniwyd ar gyfer Cyfrifiad 2021 yng Ngogledd Iwerddon (yn Saesneg) a Chyfrifiad 2022 yn yr Alban (yn Saesneg).

Data Cyfrifiad 2021 sy’n defnyddio’r newidyn hwn

Rydym yn defnyddio newidynnau o ddata Cyfrifiad 2021 i ddangos canfyddiadau mewn gwahanol ffyrdd.

Gallwch chi:

Fel arall, gallwch hefyd greu set ddata wedi’i deilwra (yn Saesneg).

Setiau data eraill sy’n defnyddio’r newidyn hwn