Cofair: national_identity_all
Cymhwysedd: Person
Math: Deillio newidyn

Diffiniad

Hunaniaeth genedlaethol unigolyn yw'r ffordd y mae'r unigolyn hwnnw yn asesu ei hunaniaeth ei hun, gallai olygu'r wlad neu'r gwledydd lle mae'n teimlo ei fod yn perthyn, neu sy'n teimlo fel cartref iddo. Nid yw'n dibynnu ar grŵp ethnig na dinasyddiaeth.

Gallai ymatebwyr ddewis mwy nag un hunaniaeth genedlaethol.

Dosbarthiad

Cyfanswm nifer y categorïau: 17

Cod Enw
1 Hunaniaeth Brydeinig yn unig
2 Hunaniaeth Seisnig yn unig
3 Hunaniaeth Seisnig a Phrydeinig yn unig
4 Hunaniaeth Gymreig yn unig
5 Hunaniaeth Gymreig a Phrydeinig yn unig
6 Hunaniaeth Albanaidd yn unig
7 Hunaniaeth Albanaidd a Phrydeinig yn unig
8 Hunaniaeth Gwyddelig Gogledd Iwerddon yn unig
9 Hunaniaeth Gwyddelig Gogledd Iwerddon a Phrydeinig yn unig
10 Hunaniaeth Gernywaidd yn unig
11 Hunaniaeth Gernywaidd a Phrydeinig yn unig
12 Unrhyw gyfuniad arall o hunaniaethau Deyrnas Unedig yn unig
13 Hunaniaeth Wyddelig yn unig
14 Gwyddelig ac o leiaf un o hunaniaethau'r Deyrnas Unedig
15 Hunaniaeth arall yn unig
16 Hunaniaeth arall ac o leiaf un o hunaniaethau'r Deyrnas Unedig
-8 Ddim yn gymwys*

*Myfyrwyr a phlant ysgol sy’n byw i ffwrdd o'r cartref yn ystod y tymor.

Gweld pob dosbarthiad hunaniaeth genedlaethol.

Ansawdd gwybodaeth

Mae’n bosibl bod y cynnydd ers Cyfrifiad 2011 yn nifer y bobl sy’n nodi eu bod nhw’n “Brydeiniwr/Brydeinwraig” a’r gostyngiad yn nifer y bobl sy’n nodi eu bod nhw’n “Sais/Saesnes” yn adlewyrchu’n rhannol y gwir newidiadau mewn hunanganfyddiad. Mae hefyd yn debygol o adlewyrchu bod “Prydeiniwr/Prydeinwraig” wedi cymryd lle “Sais/Saesnes” fel yr opsiwn ymateb cyntaf yn y rhestr ar yr holiadur yn Lloegr.

Darllenwch fwy yn ein methodoleg ar wybodaeth am ansawdd data grŵp ethnig, hunaniaeth genedlaethol, iaith a chrefydd o Gyfrifiad 2021 (yn Saesneg).

Cefndir

Darllenwch am sut y gwnaethom ddatblygu a phrofi'r cwestiynau ar gyfer Cyfrifiad 2021 (yn Saesneg).

Cymharedd â Chyfrifiad 2011

Cymaradwy yn fras

Fel arfer, gellir cymharu'r newidyn deilliedig hwn â'r un newidyn a ddefnyddiwyd yng Nghyfrifiad 2011, ond mae rhai problemau o ran ansawdd y data.

Beth yw ystyr cymaradwy yn fras?

Mae newidyn sy’n gymaradwy yn fras yn golygu y gellir ei gymharu’n gyffredinol â’r un newidyn a ddefnyddiwyd yng Nghyfrifiad 2011. Fodd bynnag, efallai bod newidiadau wedi'u gwneud i'r cwestiwn neu'r opsiynau y gallai pobl ddewis ohonynt neu sut mae atebion ysgrifenedig yn cael eu dosbarthu.

Cymariaethau rhwng Cymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a'r Alban

Ddim yn gymaradwy

Mae'r hunaniaethau cenedlaethol sydd wedi'u cynnwys yn y newidyn ar gyfer Cymru a Lloegr yn wahanol i'r rhai sydd wedi'u cynnwys yn y newidynnau a gynhyrchwyd gan yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Beth yw ystyr ddim yn gymaradwy?

Mae newidyn nad yw'n gymaradwy (neu sydd ‘ddim yn gymaradwy’) yn golygu na ellir ei gymharu ar gyfer Cymru, Lloegr, yr Alban na Gogledd Iwerddon.

Dysgwch fwy am newidynnau a luniwyd ar gyfer Cyfrifiad 2021 yng Ngogledd Iwerddon (yn Saesneg) a Chyfrifiad 2022 yn yr Alban (yn Saesneg).

Data Cyfrifiad 2021 sy’n defnyddio’r newidyn hwn

Rydym yn defnyddio newidynnau o ddata Cyfrifiad 2021 i ddangos canfyddiadau mewn gwahanol ffyrdd.

Gallwch chi:

Fel arall, gallwch hefyd greu set ddata wedi’i deilwra (yn Saesneg).

Setiau data eraill sy’n defnyddio’r newidyn hwn