Cymhwysedd: Person
Math: Deillio newidyn

Trosolwg

Mae gan newidyn hunaniaeth genedlaethol tri o ddosbarthiadau y gellir eu defnyddio wrth ddadansoddi data Cyfrifiad 2021.

Pan gaiff data eu didoli, byddwn yn grwpio categorïau am yr un pwnc gyda'i gilydd. “Dosbarthiad” yw'r enw am grŵp o gategorïau. Mae'n bosibl cael mwy nag un dosbarthiad am yr un pwnc ac mae pob un yn wahanol. Dylech ddewis yr un sydd fwyaf addas ar gyfer eich ymchwil a'ch dadansoddiad.

Dosbarthiad hunaniaeth genedlaethol

Cofair: national_identity_all

Cyfanswm nifer y categorïau: 17

Cod Enw
1 Hunaniaeth Brydeinig yn unig
2 Hunaniaeth Seisnig yn unig
3 Hunaniaeth Seisnig a Phrydeinig yn unig
4 Hunaniaeth Gymreig yn unig
5 Hunaniaeth Gymreig a Phrydeinig yn unig
6 Hunaniaeth Albanaidd yn unig
7 Hunaniaeth Albanaidd a Phrydeinig yn unig
8 Hunaniaeth Gwyddelig Gogledd Iwerddon yn unig
9 Hunaniaeth Gwyddelig Gogledd Iwerddon a Phrydeinig yn unig
10 Hunaniaeth Gernywaidd yn unig
11 Hunaniaeth Gernywaidd a Phrydeinig yn unig
12 Unrhyw gyfuniad arall o hunaniaethau Deyrnas Unedig yn unig
13 Hunaniaeth Wyddelig yn unig
14 Gwyddelig ac o leiaf un o hunaniaethau'r Deyrnas Unedig
15 Hunaniaeth arall yn unig
16 Hunaniaeth arall ac o leiaf un o hunaniaethau'r Deyrnas Unedig
-8 Ddim yn gymwys*

*Myfyrwyr a phlant ysgol sy’n byw i ffwrdd o'r cartref yn ystod y tymor.

Dosbarthiad 9a hunaniaeth genedlaethol

Cofair: national_identity_all_9a

Cyfanswm nifer y categorïau: 9

Cod Enw
1 Hunaniaeth Brydeinig yn unig
2 Hunaniaeth Gymreig yn unig
3 Hunaniaeth Gymreig a Phrydeinig yn unig
4 Hunaniaeth Seisnig yn unig
5 Hunaniaeth Seisnig a Phrydeinig yn unig
6 Unrhyw gyfuniad arall o hunaniaethau DU yn unig
7 Hunaniaeth heb fod o'r DU yn unig
8 Hunaniaeth y DU a hunaniaeth heb fod o'r DU
-8 Ddim yn gymwys*

*Myfyrwyr a phlant ysgol sy’n byw i ffwrdd o'r cartref yn ystod y tymor.

Dosbarthiad 4a hunaniaeth genedlaethol

Cofair: national_identity_all_4a

Cyfanswm nifer y categorïau: 4

Cod Enw
1 Un neu fwy o hunaniaethau'r DU yn unig
2 Hunaniaeth y DU a hunaniaeth heb fod o'r DU
3 Hunaniaeth heb fod o'r DU yn unig
-8 Ddim yn gymwys*

*Myfyrwyr a phlant ysgol sy’n byw i ffwrdd o'r cartref yn ystod y tymor.