Cofair: hh_multi_religion
Cymhwysedd: Cartref
Math: Deillio newidyn

Diffiniad

Yn dosbarthu cartrefi yn ôl a yw aelodau'r cartref yn perthyn i'r un grefydd, dim crefydd, heb ateb y cwestiwn neu gyfuniad o'r opsiynau hyn.

Roedd y cwestiwn hwn yn wirfoddol ac mae'r newidyn yn cynnwys y rhai a atebodd y cwestiwn ochr yn ochr â'r rhai a ddewisodd beidio ateb.

Dosbarthiad

Cyfanswm nifer y categorïau: 7

Cod Enw
1 Cartref un person
2 Cartref â sawl person: Neb wedi ateb y cwestiwn am grefydd
3 Cartref â sawl person: Yr un grefydd (o leiaf un person wedi nodi crefydd ond gall y cartref gynnwys pobl na wnaethant nodi eu crefydd)
4 Cartref â sawl person: Dim crefydd (gall y cartref gynnwys pobl na wnaethant nodi eu crefydd)
5 Cartref â sawl person: Yr un grefydd a dim crefydd (gall y cartref gynnwys pobl na wnaethant nodi eu crefydd)
6 Cartref â sawl person: O leiaf dwy grefydd wahanol wedi'u nodi (gall y cartref gynnwys pobl heb ddim crefydd a'r rhai na wnaethant nodi eu crefydd)
-8 Ddim yn gymwys*

*Cartrefi heb unrhyw breswylwyr arferol.

Gweld pob dosbarthiad sawl crefydd yn y cartref.

Cefndir

Darllenwch am sut y gwnaethom ddatblygu a phrofi'r cwestiynau ar gyfer Cyfrifiad 2021 (yn Saesneg).

Cymharedd â Chyfrifiad 2011

Ddim yn gymaradwy

Mae'r newidyn hwn yn newydd ar gyfer Cyfrifiad 2021 ac felly ni ellir cymharu â Chyfrifiad 2011.

Beth yw ystyr ddim yn gymaradwy?

Mae newidyn sydd ddim yn gymaradwy yn golygu na ellir ei gymharu â newidyn o Gyfrifiad 2011.

Cymariaethau rhwng Cymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a'r Alban

Ddim yn gymaradwy

Nid yw'r newidyn hwn yn gymaradwy am nad yw'r data ar gael ar gyfer pob gwlad.

Beth yw ystyr ddim yn gymaradwy?

Mae newidyn nad yw'n gymaradwy (neu sydd ‘ddim yn gymaradwy’) yn golygu na ellir ei gymharu ar gyfer Cymru, Lloegr, yr Alban na Gogledd Iwerddon.

Dysgwch fwy am newidynnau a luniwyd ar gyfer Cyfrifiad 2021 yng Ngogledd Iwerddon (yn Saesneg) a Chyfrifiad 2022 yn yr Alban (yn Saesneg).

Data Cyfrifiad 2021 sy’n defnyddio’r newidyn hwn

Rydym yn defnyddio newidynnau o ddata Cyfrifiad 2021 i ddangos canfyddiadau mewn gwahanol ffyrdd.

Gallwch chi:

Fel arall, gallwch hefyd greu set ddata wedi’i deilwra (yn Saesneg).

Setiau data eraill sy’n defnyddio’r newidyn hwn