Cymhwysedd: Cartref
Math: Deillio newidyn

Trosolwg

Mae gan newidyn sawl crefydd yn y cartref dau o ddosbarthiadau y gellir eu defnyddio wrth ddadansoddi data Cyfrifiad 2021.

Pan gaiff data eu didoli, byddwn yn grwpio categorïau am yr un pwnc gyda'i gilydd. “Dosbarthiad” yw'r enw am grŵp o gategorïau. Mae'n bosibl cael mwy nag un dosbarthiad am yr un pwnc ac mae pob un yn wahanol. Dylech ddewis yr un sydd fwyaf addas ar gyfer eich ymchwil a'ch dadansoddiad.

Dosbarthiad sawl crefydd yn y cartref

Cofair: hh_multi_religion

Cyfanswm nifer y categorïau: 10

Cod Enw
1 Cartref un person
2 Cartref â sawl person: Pawb wedi nodi yr un grefydd
3 Cartref â sawl person: Pawb wedi nodi dim crefydd
4 Cartref â sawl person: Neb wedi ateb y cwestiwn am grefydd
5 Cartref â sawl person: Un neu fwy o bobl wedi nodi'r un grefydd a'r lleill heb ddim crefydd
6 Cartref â sawl person: Un neu fwy o bobl wedi nodi'r un grefydd a'r lleill heb ateb y cwestiwn am grefydd
7 Cartref â sawl person: Un neu fwy o bobl heb ddim crefydd a'r lleill heb nodi eu crefydd
8 Cartref â sawl person: Un neu fwy o bobl wedi nodi'r un grefydd, un neu fwy o bobl heb ddim crefydd, a'r lleill heb nodi eu crefydd
9 Cartref â sawl person: O leiaf dwy grefydd wahanol wedi'u nodi (gall y cartref gynnwys pobl heb ddim crefydd a'r rhai na wnaethant nodi eu crefydd)
-8 Ddim yn gymwys*

*Cartrefi heb unrhyw breswylwyr arferol.

Dosbarthiad 7a sawl crefydd yn y cartref

Cofair: hh_multi_religion_7a

Cyfanswm nifer y categorïau: 7

Cod Enw
1 Cartref un person
2 Cartref â sawl person: Neb wedi ateb y cwestiwn am grefydd
3 Cartref â sawl person: Yr un grefydd (o leiaf un person wedi nodi crefydd ond gall y cartref gynnwys pobl na wnaethant nodi eu crefydd)
4 Cartref â sawl person: Dim crefydd (gall y cartref gynnwys pobl na wnaethant nodi eu crefydd)
5 Cartref â sawl person: Yr un grefydd a dim crefydd (gall y cartref gynnwys pobl na wnaethant nodi eu crefydd)
6 Cartref â sawl person: O leiaf dwy grefydd wahanol wedi'u nodi (gall y cartref gynnwys pobl heb ddim crefydd a'r rhai na wnaethant nodi eu crefydd)
-8 Ddim yn gymwys*

*Cartrefi heb unrhyw breswylwyr arferol.